Mae llai o bobl yn marw'n gynnar o glefyd coronaidd y galon yng Nghymru, gyda gostyngiad o 68% yn y gyfradd farwolaethau dros yr ugain mlynedd diwethaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae clefyd cardiofasgwlaidd (clefyd y galon neu glefyd cylchrediad y gwaed) yn achosi mwy na chwarter (27%) o'r holl farwolaethau yng Nghymru, neu dros 9,000 o farwolaethau bob blwyddyn - sef 25 o bobl bob dydd ar gyfartaledd. 

Amcangyfrifir bod 375,000 o bobl yn byw gyda chlefyd cardiofasgwlaidd yng Nghymru - sef 4% o'r boblogaeth.

Mae Datganiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gynnydd o ran Clefyd y Galon yn nodi bod cyfradd y marwolaethau ar gyfer pob cyflwr sy'n ymwneud â'r galon wedi disgyn dros y pum mlynedd diwethaf. Mae'n dangos:

  • Dros yr ugain mlynedd diwethaf yng Nghymru, bu gostyngiad o 68% yng nghyfraddau marwolaethau cynamserol, sef cyn 75 mlwydd oed, oherwydd clefyd coronaidd y galon; Ers 2009, rydym wedi gweld gostyngiad o 20%, yn rhannol oherwydd bod meddygon teulu yn llwyddo i ganfod mwy o achosion o glefyd y galon, y gwaharddiad ar smygu mewn mannau cyhoeddus, ymyriadau eraill ym maes iechyd y cyhoedd, a thriniaethau gwell o fewn y GIG
  • Mae nifer y bobl sy'n marw o drawiad ar y galon wedi lleihau 134 dros y pum mlynedd diwethaf, i 1,478
  • Mae nifer y bobl sy'n marw o fethiant y galon wedi lleihau bron 40% yn y pum mlynedd diwethaf (o 192 o farwolaethau, i 332 o farwolaethau yn 2015)
  • Bu gostyngiad cyson yn nifer y bobl sy'n marw o bob math o glefyd cardiofasgwlaidd - gyda 1,000 o bobl yn llai yn marw o gymharu â 5 mlynedd yn ôl. Yn 2010 bu farw ychydig dros 10,000 o bobl o glefyd cardiofasgwlaidd, ac erbyn 2015 roedd y ffigur hwnnw wedi gostwng i ychydig dros 9,000.
Mae'r adroddiad hefyd yn dangos:

  • Gwasanaeth Iechyd Cymru yn trin cleifion yn gyflymach ac yn agosach i gartref: Drwy fuddsoddi mewn cardioleg gymunedol, mae pob bwrdd iechyd wedi datblygu dulliau gweithredu arloesol sy'n golygu bod cleifion yn cael diagnosis, asesiad a lle bo'n briodol driniaeth yn eu cymuned leol
  • Lleihad yn nifer y bobl sy'n cael eu trin am glefyd coronaidd y galon:  Bu lleihad graddol yn nifer y bobl sy’n cael eu trin gan eu meddyg teulu am glefyd coronaidd y galon dros y blynyddoedd diwethaf. Ers 2008-09 mae 10,105 yn llai o gleifion wedi cael eu trin gan eu meddyg teulu am glefyd coronaidd y galon
  • Mwy o gleifion yn cael triniaeth adsefydlu cardiaidd nag erioed o'r blaen: Mae triniaeth adsefydlu cardiaidd yn cynnig cyngor a chymorth ffordd o fyw, gan gynnwys canllawiau ar ddeiet ac ymarfer corff. Mae'n helpu pobl sydd â chlefyd y galon i reoli eu cyflwr a lleihau'r risg y byddant yn cael trawiadau eraill ac yn gorfod cael eu haildderbyn i'r ysbyty. Yn 2015-16 ceisiodd 59% o gleifion cymwys gymorth ar ôl iddynt gael eu trin. Mae hyn yn gynnydd o 17% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, pan gymerodd 42% o gleifion cymwys yng Nghymru ran.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

"Mae clefyd y galon yn lladd nifer sylweddol o bobl yng Nghymru, gan effeithio'n arbennig ar ein cymunedau tlotach, gydag un o bob saith dyn, a bron un o bob deg menyw yn marw o'r clefyd.

"Mae'r adroddiad yn dangos bod Gwasanaeth Iechyd Cymru wedi gwneud cynnydd parhaus wrth wella gofal cleifion sydd â chlefyd y galon. Rydyn ni wedi gweld gostyngiad graddol yng nghyfradd y bobl sy'n marw o glefyd cardiofasgwlaidd, oherwydd datblygiadau ym maes meddygaeth a gwelliannau mewn ymddygiadau ffordd o fyw sy'n lleihau'r risg o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd, neu farw ohono. Ond rydym wedi gweld y gostyngiad mwyaf yng nghyfradd y bobl dan 75 oed sy'n marw'n gynnar o glefyd coronaidd y galon, gyda gostyngiad o 68% dros yr ugain mlynedd diwethaf.

"Ond rydyn ni'n benderfynol o wella ar hyn eto. Mae unrhyw farwolaeth y gellid fod wedi'i hosgoi yn un farwolaeth yn ormod, a gwyddom fod mwy y gallwn ei wneud i drin ac atal clefyd y galon."