Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi 'rhanddirymiadau', llacio rhwymedigaethau dros dro, er mwyn cynorthwyo ffermwyr a thirfeddianwyr Glastir yn ystod yr cyfnod hir yma o dywydd sych.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cynllun Glastir yn cynnig cymorth ariannol i ffermwyr a thirfeddianwyr er mwyn gwella'r rheolaeth amgylcheddol o'u tir.

Mae ffermwyr wedi tynnu sylw at y ffaith bod y tywydd sych diweddar wedi effeithio'n ddrwg ar eu cnydau gwair a'u silwair, a bod yr ansawdd a'u cyflenwadau'n dirywio.

O safbwynt deiliaid contract Glastir sydd ag opsiynau gweirglodd, bydd y rhanddirymiad yn caniatáu iddynt ddechrau torri gweirgloddiau ar unwaith. Er nad oes angen i ddeiliaid contract gysylltu â Taliadau Gwledig Cymru bydd gofyn iddynt ddiweddaru eu cofnodion fferm a'u dyddiaduron gwaith.

Os yw deiliaid contract yn wynebu unrhyw anawsterau eraill o safbwynt cyflawni eu hymrwymiadau Glastir fe'u cynghorir i gysylltu â Taliadau Gwledig Cymru ar unwaith, yn ysgrifenedig neu gan ddefnyddio RPW Ar-lein. Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau.

Gall unrhyw hawlwyr cynlluniau sy'n seiliedig ar arwynebedd, gan gynnwys Cynllun y Taliad Sylfaenol, sydd â thir y mae tân wedi effeithio arno gysylltu â Taliadau Gwledig Cymru er mwyn gofyn am 'Force Majeure', a all fod yn bosibl o dan amgylchiadau eithriadol. Bydd angen i hawlwyr allu darparu tystiolaeth o unrhyw dân sydd wedi digwydd ar y tir.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

Gall newidiadau yn y tywydd fod yn gryn her i ffermwyr wrth iddynt ofalu am eu da byw a chynnal eu tir.

Mae'n bwysig ein bod yn cymryd camau ar unwaith i gefnogi ffermwyr sy'n aelodau o'r Cynllun Glastir fel y gallant liniaru effaith y cyfnod hir o dywydd sych, gan barhau i gyflawni eu hymrwymiadau Glastir yn y tymor hwy.

Mae rhagor o fanylion am y rhanddirymiadau a chyngor ar gael isod: Trawsgydymffurfio: eithriadau oherwydd cyfnod hir o dywydd poeth a sych.