Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths, wedi ysgrifennu llythyr at ffermwyr sy'n derbyn taliadau o dan Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr UE er mwyn egluro pam na fydd Cynllun y Taliad Sylfaenol yn addas ar ôl Brexit.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar ddechrau mis Gorffennaf, lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet ymgynghoriad o’r enw Brexit a’n Tir, sy’n cynnig Rhaglen Rheoli Tir newydd i gymryd lle’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yng Nghymru unwaith y bydd y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd.  Daw'r ymgynghoriad i ben ar 30 Hydref.

Yn sgil colli mynediad heb dariffau i farchnad yr UE a chystadleuaeth bosibl gan rannau eraill o'r byd unwaith y bydd y DU yn dechrau llofnodi Cytundebau Masnach Rydd bydd yn rhaid i ffermwyr Cymru gystadlu o fewn y farchnadle agored.  

Nid yw Cynllun y Taliad Sylfaenol ar ei ffurf bresennol yn ddigon penodol ar gyfer ymateb i'r heriau hyn gan mai cynllun sy'n cefnogi incwm ydyw. Y ffordd gynaliadwy o gystadlu yw drwy wella cynhyrchiant, lleihau costau drwy sicrhau gwell effeithlonrwydd a llai o wastraff ac arallgyfeirio er mwyn diwallu anghenion y farchnad. Dyma'r meysydd y mae Llywodraeth Cymru'n awyddus i roi sylw penodol iddynt drwy'r cynlluniau newydd a gaiff eu cynnig yn yr ymgynghoriad. 

Bydd y rhaglen Rheoli Tir arfaethedig yn cynnwys dau gynllun mawr hyblyg - y Cynllun Cadernid Economaidd a’r Cynllun Nwyddau Cyhoeddus.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ysgrifennu llythyr agored at holl ffermwyr Cymru er mwyn egluro'r angen am newid yn dilyn ymgyrch diweddar gan yr FUW i wrthod y cynigion yn yr ymgynghoriad a chadw Cynllun y Taliad Sylfaenol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:  

"Mae Cynllun y Taliad Sylfaenol wedi rhoi cymorth gwerthfawr iawn i ffermwyr Cymru. Yn anffodus, fodd bynnag, ni fydd yn gwarchod ffermwyr na chymunedau yn y dyfodol. 

"Mae Brexit yn golygu bod yn rhaid i ni wneud pethau mewn ffordd wahanol. Ni all cynnal y taliadau presennol wneud iawn am yr effeithiau negyddol a fydd yn deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd. Byddai cynnal yr un drefn yn golygu bod ffermwyr Cymru yn waeth eu byd. 

"Nid ydym yn cwestiynu'r angen i gefnogi ffermwyr: byddwn yn parhau i'w cefnogi a hefyd yn gwarchod y cyllid ar eu cyfer. Mae angen i ni, fodd bynnag, cynnig cymorth mewn ffordd wahanol er mwyn cadw ffermwyr ar y tir. 

"Rwy'n barod i wrando ar syniadau newydd a dyma ddiben yr ymgynghoriad. Hoffwn bwysleisio, fodd bynnag, nad yw cynnal y sefyllfa bresennol yn opsiwn. 

“Bydd ein rhaglen Rheoli Tir newydd yn cynnwys dau gynllun mawr hyblyg a fyddai'n cefnogi ffermwyr Cymru ar ôl Brexit - y Cynllun Cadernid Economaidd a’r Cynllun Nwyddau Cyhoeddus.  

“Rwyf wedi manteisio ar bob cyfle dros yr haf i gyfarfod â ffermwyr mewn sioeau amaeth ac yn ystod ymweliadau eraill er mwyn trafod yr ymgynghoriad. Mae angen i ffermwyr gydweithio â ni er mwyn sicrhau bod hyn yn gweithio ac nid yw ymgyrch diweddar a chamarweiniol yr FUW yn helpu'r sefyllfa. Dyma pam rwy'n ysgrifennu at holl ffermwyr Cymru heddiw er mwyn pwysleisio'r angen am newid. Rwyf hefyd wedi dosbarthu taflen wybodaeth sy'n nodi'r holl ffeithiau cywir. Hoffwn annog pob ffermwr i gymryd rhan a mynegi barn."