Neidio i'r prif gynnwy

Gyda phrin flwyddyn i fynd tan Brexit, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Lesley Griffiths yn mynd i Seland Newydd yr wythnos hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod ei hymweliad, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymweld â'r Senedd i wrando ar gyfarfod y Pwyllgor Dethol ar Gynnyrch Cynradd a chwrdd â'r Gweinidogion sy'n cyfateb iddi i drafod materion ar draws ei phortffolio. 

Bydd yn ymweld hefyd ag Auckland a Manawatu i ymweld â ffermydd godro, defaid a bîff ac i siarad â chynrychiolwyr o'r sectorau hyn. 

Bydd yr ymweliad yn gyfle iddi weld beth all Cymru ei ddysgu oddi wrth wlad fach fel Seland Newydd sydd â'i golygon tua'r byd a thrafod hefyd y cyfleoedd i'r ddwy wlad weithio gyda'i gilydd. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cwrdd â chynrychiolwyr y diwydiant gwinllannoedd sydd wedi tyfu mor gyflym yn y deugain mlynedd diwethaf. Bydd yn cwrdd hefyd â phenaethiaid y prif gyrff allforio cig oen ac eidion ac â chwmnïau llaeth fel Fonterra i weld beth all Cymru ei ddysgu am ddiwydiant bwyd a diod Seland Newydd. 

Gan siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:  

"Rwy'n falch fy mod yn mynd i Seland Newydd i dynhau'r cwlwm rhwng y ddwy wlad. Fel Cymru, mae Seland Newydd yn wlad fach allblyg sy'n masnachu â'r byd ac rwy'n credu y gallwn ddysgu llawer oddi wrth ein gilydd. 

"Prin flwyddyn sydd i fynd tan y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ers degawdau, yr UE sydd wedi llywio’r ffordd yr ydym yn rheoli’n tir, gan ddylanwadu’n fawr ar strwythur a pherfformiad ein sector amaethyddol.

"Daw Brexit â newidiadau sylweddol a chyflym. Mae gadael y Polisi Amaethyddol Cyffredin a chael trefniadau masnachu newydd yn golygu na wnaiff y status quo mo’r tro.

"Rwyf newydd gyhoeddi'r pum egwyddor craidd ar gyfer dyfodol ein tir a'r bobl sy'n ei reoli. Yr egwyddorion hyn fydd sylfaen ein polisi yn y dyfodol. Rwyf wedi lansio cyfnod newydd o ymgysylltu dwys i ddatblygu'r cynigion cychwynnol ac imi, mae'r ymweliad hwn â Seland Newydd yn rhan o'r ymgysylltu hwnnw. 

"Yn ystod yr ymweliad, byddwn yn cael dysgu am ei diwydiant bwyd a diod - sector allweddol inni ar ôl Brexit. Mae'n gyfle hefyd i ddysgu am brofiadau Seland Newydd o reoli newid mawr yn ei pholisi amaethyddol, hynny ar adeg pan rydyn ni'n gweithio i sicrhau bod gennym ddiwydiant ffyniannus a chryf yng Nghymru ar ôl gadael yr UE."