Ysgrifennydd y Cabinet yn ymweld â Marina Caergybi i weld drosti hi ei hunan y difrod a achoswyd gan dywydd mawr diweddar a Storm Emma.
Yn ystod yr ymweliad, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfarfod â chynrychiolwyr o’r Marina, Awdurdod yr Harbwr a Chyfoeth Naturiol Cymru i glywed sut y mae’r gwaith adfer yn mynd rhagddo.
Cafodd dros 80 o longau a chychod eu difrodi ac mae trawstiau wedi’u gosod i sicrhau nad yw diesel a gweddillion yn gallu cael eu golchi i’r môr o’r harbwr.
Gan siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Roedd gweld y difrod ym Marina Caergybi’n dorcalonnus a dw i’n cydymdeimlo’n ddiffuant â’r holl unigolion a busnesau a ddioddefodd. Dyna pam yr oeddwn am ymweld â’r Marina heddiw, i weld drosof fi fy hunan y difrod a achoswyd a’r effaith ar y gymuned a’r amgylchedd lleol.
“Mae’r Marina, â chefnogaeth Awdurdod yr Harbwr a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn gweithio’n galed i asesu’r difrod a achoswyd gan y stormydd a bwrw ati i adfer yr harbwr a dw i’n cael gwybod am y sefyllfa yn rheolaidd.
“Yn sicr, mae’r difrod wedi achosi trallod, ac mae hefyd oblygiadau ariannol. Dw i’n annog unrhyw un yr effeithiwyd arno i gysylltu â’i yswiriwr os nad yw eisoes wedi gwneud hynny.”