Neidio i'r prif gynnwy

Bu Lesley Griffiths yn dathlu blwyddyn gyntaf lwyddiannus heddiw i’r cynllun Caru Gwenyn, menter genedlaethol wedi’i hanelu at annog mwy o bobl i helpu peillwyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cynllun ‘Caru Gwenyn’, a ystyrir y cyntaf o’i fath yn y byd, wedi ei anelu at gymunedau a grwpiau cymunedol, ysgolion, cyrff cyhoeddus, busnesau, prifysgolion a cholegau a mannau addoli, i geisio lleihau a gwyrdroi y dirywiad yn nifer y rhywogaethau peillwyr megis gwenyn a’r pili pala.   

Aeth Ysgrifennydd y Cabinet ar ymweliad â Gerddi Cymunedol St Peter’s yng Nghaerdydd, i gyflwyno tystysgrif Caru Gwenyn iddynt i gydnabod y gwaith pwysig y maent yn ei wneud i helpu peillwyr.  Mae 22 o Dystysgrifau Caru Gwenyn wedi eu dosbarthu ers lansio’r cynllun y llynedd.  

Cymru oedd y wlad gyntaf ym Mhrydain i greu Cynllun Gweithredu ar gyfer Peillwyr, gan ddatgan ein huchelgais i leihau a gwyrdroi y dirywiad yn nifer y peillwyr.  Mae hyn yn helpu inni gyflawni ein nod o fod y wlad gyntaf yn y byd i fod yn Gyfeillgar i Beillwyr.  

Meddai Lesley Griffiths,

“Rydym am reoli’r amgylchedd naturiol fel ei fod yn parhau i gynnig manteision amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol nawr ac yn y dyfodol. Wrth annog mwy o grwpiau cymunedol fel St Peter’s i ymuno â’r cynllun Caru Gwenyn, gallwn ddiogelu peillwyr a chreu amgylcheddau iddynt ffynnu ynddynt fel y gall gymunedau lleol eu mwynhau. 

“Dwi’n falch bod Prifysgol Caerdydd bellach yn Caru Gwenyn a gwnaeth gwaith y prosiect Gwenyn Pharma argraff fawr arnaf.  Dyma brosiect unigryw iawn sy’n dangos pa mor bwysig yw ein peillwyr i bob rhan o fywyd.   

“Dwi’n gobeithio y bydd eraill yn dilyn esiampl Prifysgol Caerdydd  a Gerddi Cymunedol St Peter’s i helpu i wneud Caerdydd y brifddinas cyfeillgar i wenyn gyntaf yn y byd!”  

Yn 2016 rhoddodd Ysgol Fferyllaeth Prifysgol Caerdydd ei chwch gwenyn cyntaf i St Peters a’r arian i alluogi gwirfoddolwyr cymunedol i gael eu hyfforddi fel ceidwaid gwenyn.  Bydd y cwch gwenyn yn rhoi cyflenwad rhagorol o fêl i’r tîm pharmabees ei brofi o ystod amrywiol o flodau gwyllt, llysiau a choed ffrwythau sydd wedi’u plannu yn y gerddi.