Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cyhoeddi heddiw ei bod am ddarparu benthyciad newydd i helpu ffermwyr fydd ddim yn cael eu taliad BPS ar ddiwrnod un.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Hefyd, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud rhodd o £500,000 i dair elusen ffermio er mwyn helpu i ddarparu cymorth tymor byr i deuluoedd hynny yng Nghymru sydd leiaf abl i gwrdd â chostau byw.

Dywedodd Lesley Griffiths:

“Fel ymateb i'r tywydd twym a sych a gawsom yn gynharach yr haf hwn, cynullais nifer o randdeiliaid yn y Sioe Frenhinol i drafod yr hyn y dylai'r Llywodraeth a'r diwydiant ei wneud gyda'i gilydd i leddfu'r problemau sy'n wynebu ffermwyr o'i herwydd.

Er bod y tywydd a'r sefyllfa o ran porthiant anifeiliaid wedi gwella, rwy'n dal yn bryderus ynghylch y goblygiadau o ran costau a faint o borthiant sydd ar gael i fusnesau fferm yn y tymor canolig a hir. Fel cydnabyddiaeth o'r amgylchiadau eithriadol hyn, rwyf wedi penderfynu creu cynllun benthyca i ffermwyr.

Yn unol â rheoliadau Ewrop, cyfnod talu'r BPS fydd 1 Rhagfyr i 30 Mehefin, ac o ddilyn patrwm ardderchog y gorffennol yma yng Nghymru, rwy'n disgwyl y bydd 90% o fusnesau fferm Cymru yn cael eu taliadau BPS ar ddiwrnod un. Er mwyn sicrhau bod pob hawlydd yn cael yr un tegwch, rwyf am gynnig benthyciad i'r 10% o fusnesau fferm nad yw eu hawliadau BPS wedi cael eu dilysu eto ac felly na fydd modd eu talu o dan reoliadau Ewrop.”

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:

“Rwy'n sylweddoli bod Undebau'r Ffermwyr wedi bod yn galw arnon ni i dalu taliadau BPS 2018 yn gynt. Yn fy marn i, ni fyddai hynny'n arbennig o ddefnyddiol gan na fydd talu rhagdaliadau ym mis Hydref yn lleddfu effeithiau tymor byr na hir y tywydd eithriadol, a byddai'n creu anghydraddoldeb rhwng busnesau gan y byddai rhai'n derbyn taliad BPS ac eraill ddim.

Mae Undebau'r Ffermwyr eu hunain yn cydnabod y byddai'n creu sefyllfa annheg a mwy o broblemau. Felly byddai cynnig benthyciad yn ateb tecach a gwell i'r amgylchiadau anodd sy'n wynebu busnesau fferm eleni.

Yn y tymor byr, rwy'n ymwybodol iawn o'r effeithiau ar deuluoedd fferm. Rwyf felly wedi gofyn i'm swyddogion weithio'n glos ag elusennau amaethyddol i benderfynu sut y gallent eu cefnogi orau. Er mwyn helpu i drechu'r anawsterau ariannol sy'n eu hwynebu nawr, byddwn yn cyfrannu £500,000 i roi help tymor byr i deuluoedd yng Nghymru sy'n ei chael hi'n anodd dygymod â chostau byw.

Trwy wneud y penderfyniadau hyn nawr, rhoddir y sicrwydd a'r wybodaeth sydd eu hangen arnyn nhw i allu rheoli'u llif arian a chynllunio'u cyllid yn y tymor hwy, yn enwedig trwy'r gaeaf nesaf.”