Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw fe wnaeth Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, groesawu’r penderfyniad i atal y cyfreithiau cystadlu dros dro er mwyn cefnogi'r sector llaeth yn ystod y pandemig COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cau'r sector gwasanaethau bwyd ynghyd ag adlunio'r gadwyn gyflenwi a phrisiau'r farchnad wedi cael effaith uniongyrchol ar y sector llaeth.

Bydd llacio'r cyfreithiau cystadlu dros dro, sy'n berthnasol i bob rhan o'r DU, yn galluogi mwy o gydweithio fel bod y sector llaeth, gan gynnwys ffermwyr godro a phroseswyr, yn gallu gweithio'n agosach i ddatrys y materion a wynebir ganddynt.

Roedd atal dros dro’r cyfreithiau cystadlu ar gyfer y sector llaeth yn un o'r opsiynau y gwnaeth y Gweinidog Materion Gwledig eu trafod â'r Grŵp Cydnerthedd Amaethyddol a chynrychiolwyr allweddol o'r diwydiant yr wythnos hon.

Meddai'r Gweinidog: 

Mae COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar y sector bwyd a'r cadwyni cyflenwi cysylltiedig, ac un o'r sectorau cyntaf i brofi'r effaith hon oedd ein sector llaeth. 

Dyna pam yr ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar unwaith, gan bwysleisio bod angen i ni gydweithio fel llywodraethau i ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael i ddiogelu cadwyn gyflenwi sector bwyd-amaeth y DU a lliniaru'r effaith ddifrifol y mae'r argyfwng hwn yn ei chael ar ein cynhyrchwyr a'n proseswyr. 

Mae llacio'r gyfraith gystadlu ar gyfer y sector hwn yn newyddion da iawn a bydd yn galluogi'r diwydiant i gydweithio i fynd i'r afael â'r heriau a wynebir ar hyn o bryd o ganlyniad i bandemig COVID-19, gan helpu busnesau fferm a phrosesu yng Nghymru'n uniongyrchol.   

Byddwn yn parhau i weithio'n agos â'r holl sectorau amaethyddol i'w helpu i ddelio â'r materion y maent yn eu hwynebu yn y cyfnod anodd hwn.