Skip to main content

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi nodi ei bwriad i Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) barhau yn 2021, yn amodol ar Lywodraeth Cymru'n parhau i dderbyn lefelau cyllid digonol ar gyfer cymorth amaethyddol oddi wrth Lywodraeth nesaf y DU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Roedd y Gweinidog yn siarad cyn ei hymweliad â Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, lle y cyhoeddodd y llynedd y byddai Cynllun y Taliad Sylfaenol yn parhau heb ei newid yn 2020 i roi sicrwydd ac i bontio'n ddidrafferth i Raglen Rheoli Tir newydd. Ers hynny, mae dyddiad ymadael y DU â'r UE wedi'i ohirio ac mae cynlluniau i bontio o gynlluniau Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE i Raglen Rheoli Tir newydd wedi cael eu gohirio.

Er nad oes modd darparu ymrwymiadau ynghylch lefel y cyllid, er mwyn rhoi sicrwydd i ffermwyr a'u cynorthwyo i gynllunio ymlaen llaw, mae'r Gweinidog wedi dweud ei bod yn bwriadu ffurfio math o Gynllun y Taliad Sylfaenol am flwyddyn arall. Mae hyn yn golygu mai 2022 yw'r cynharaf y gellir dechrau ar y cyfnod pontio amlflwyddyn, wedi'i reoli, i’r system gymorth ffermio newydd wedi’i dargedu i ffermydd.

Dywedodd Lesley Griffiths:

“Yn sgil yr ansicrwydd sy'n parhau, rwy'n cyhoeddi fy mwriad i ymestyn Cynllun y Taliad Sylfaenol i 2021, ar yr amod y bydd Llywodraeth nesaf y DU yn darparu cyllid digonol ar gyfer cymorth amaethyddol.

“Gan edrych ymhellach tua'r dyfodol, rwy'n bwriadu parhau i gefnogi ffermwyr ar ôl Brexit ond mewn ffordd ddoethach. Bydd y rhain yn newidiadau arwyddocaol i'r sector ac maent yn dibynnu'n llwyr ar bryd y bydd y DU yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ac ar Lywodraeth y DU yn darparu'r un lefelau cyllido i Gymru – nid yw'r naill beth na'r llall wedi'i gadarnhau eto."

Gwnaeth Lesley Griffiths hefyd atgoffa ffermwyr i wneud cais am Gynllun Cymorth Cynllun y Taliad Sylfaenol, sydd ar waith ar gyfer 2019, i sicrhau bod y rhan fwyaf o fusnesau ffermydd Cymru yn derbyn y rhan fwyaf o’u gwerth hawlio llawn ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol pan fydd y cyfnod talu yn dechrau. Gwnaeth y Gweinidog gadarnhau y bydd bron i 12,000 o ffermwyr (yn fwy na 75%) yn derbyn eu taliad llawn ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol 2019 ar y diwrnod cyntaf, tra bo busnesau nad ydynt yn derbyn eu taliad llawn, ac sydd wedi gwneud cais am Gynllun Cymorth Cynllun y Taliad Sylfaenol, yn derbyn hyd at 90% o'u gwerth hawlio Cynllun y Taliad Sylfaenol 2019.

Ychwanegodd y Gweinidog:

"Yn ystod 2019, mae paratoi ffermwyr Cymru ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb wedi bod yn brif flaenoriaeth i mi.  Mae hyn wedi golygu, eleni, na fyddwn yn gallu sicrhau'r un lefel o daliadau diwrnod cyntaf llawn ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol ag a wnaed mewn blynyddoedd blaenorol. Felly, rwyf wedi cyflwyno Cynllun Cymorth Cynllun y Taliad Sylfaenol ar gyfer hawlwyr 2019. Cyhyd ag y bo ffermwyr wedi gwneud cais am y Cynllun Cymorth, byddant yn derbyn y rhan fwyaf o’u gwerth hawlio taliad Cynllun y Taliad Sylfaenol o 9 Rhagfyr.

"Gobeithiaf fod hyn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i ffermwyr a byddwn yn annog y rhai nad ydynt wedi cyflwyno cais i wneud hynny cyn y dyddiad cau, sef 29 Tachwedd".

Rhannu’r dudalen hon