Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cynllun amddiffynfa môr gwerth £3 miliwn, a fydd yn lleihau'r perygl o lifogydd i bron 260 eiddo ar lân y môr, yn cael ei agor gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths heddiw (11 Medi).

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r strwythur newydd yn cynnwys pum rhan goncrit sy'n cydgloi, a gafodd eu castio ymlaen llaw ar ffurf teras. Mae blaen y teras yn cael ei atgyfnerthu gan amddiffynfa feini.  Yn ogystal, mae wal y môr wedi cael ei gwella a'i hatgyweirio ar hyd y rhodfa.

Mae'r amddiffynfeydd yn yr ardal hon yn amddiffyn 260 eiddo, gan gynnwys busnesau a seilwaith gwerth nifer o filiynau o bunnoedd ar hyd y rhodfa. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £2.3 miliwn yn ystod cyfnod dylunio a chyfnod adeiladu'r prosiect. Mae Llywodraeth Cymru wedi talu 75% o gost y cynllun, gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn talu'r gweddill. 

Mae'r cynllun hwn yn rhan o'n buddsoddiad gwerth £350 miliwn mewn gwaith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru yn ystod tymor y Llywodraeth hon. 

Dywedodd Lesley Griffiths:

"Rydym oll yn ymwybodol o'r heriau sydd ynghlwm wrth y newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys effaith drychinebus llifogydd ac erydu arfordirol. 

"Hoffwn ddiolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'u contractwyr, Alun Griffiths a Capita, am gyflawni'r cynllun hwn sy'n lleihau perygl llifogydd ac erydu arfordirol i dros 260 eiddo o fewn y dref. 

"Bydd ein buddsoddiad parhaus mewn gwaith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn helpu i sicrhau bod Cymru'n parhau'n wlad ddiogel, deniadol a hyfyw i fyw, gweithio a buddsoddi ynddi er lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol."

“Mae'n hymgynghoriad 12 wythnos ar Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol ar agor o hyd ond bydd yn dod i ben ar 16 Medi. Hoffwn felly annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y pwnc i gyfrannu nawr."