Neidio i'r prif gynnwy

Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru ynghylch y posibilrwydd o gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar hyn o bryd, mae Awdurdodau Lleol yn cael rhoi hysbysiadau cosb benodedig am nifer o droseddau, megis sbwriel a baw cŵn. Ond yr unig ffordd o gosbi'r rheini sy'n tipio'n anghyfreithlon ar raddfa fach yw trwy eu herlyn drwy'r Llys Ynadon. Mae llawer o bobl yn meddwl bod y dull hwn yn ddrud, yn cymryd gormod o amser ac yn anaddas ar gyfer troseddau bach.

Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr i ymgynghoriad blaenorol yn credu y byddai cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig yn ffordd symlach, gyflymach a rhatach o ddelio â throseddwyr. Byddai hefyd yn ysgafnhau’r beichiau arian ac adnodd presennol sydd ar awdurdodau sy'n gorfodi a'r system Llysoedd.

Mae'r ymgynghoriad 12 wythnos a lansiwyd heddiw yn cynnig y dylai Awdurdodau Lleol gael gosod maint y gosb benodedig rhwng £150 a £400, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau lleol. Os na fydd swm yn cael ei nodi, yna'r swm awtomatig fydd £200. Yna, gall awdurdodau lleol ddefnyddio'r arian a godir i helpu i gyfrannu tuag at y costau gorfodi a chlirio'r tipio anghyfreithlon.

Byddai digwyddiadau tipio mwy, megis fan yn tipio llwyth o wastraff adeiladu, yn cael ei erlyn drwy'r llysoedd o hyd.

Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn croesawu lansiad yr ymgynghoriad. Dywedodd Lesley Griffiths:

"Mae tipio anghyfreithlon yn sicr yn un o'r troseddau lefel is hynny sy'n creu llawer o drafodaeth ac anfodlonrwydd ymhlith y cyhoedd.  Mae'n anharddu’r wlad, mae'n wael i'r amgylchedd ac mae'n creu gwaith ychwanegol i'r bobl sy'n gorfod ei glirio.

"Diben yr ymgynghoriad rydym yn ei lansio heddiw yw cael barn yr holl bartïon sydd â diddordeb yn ein cynnig i roi pŵer i'r awdurdodau lleol gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig. Mae'r sgyrsiau rydym wedi'u cael hyd yn hyn yn awgrymu fod hyn yn fesur fydd yn boblogaidd iawn ymysg y cyhoedd. Fodd bynnag, mae angen i ni sicrhau, os ydym yn mynd i ddilyn yr opsiwn hwn, ei fod yn addas ac yn ymarferol.

"Rwy'n gobeithio fod cynifer o bobl â phosibl yn cymryd y cyfle i ymateb i'r ymgynghoriad ac yn gwneud eu rhan i ddatblygu system sy'n helpu i leihau troseddau gwastraff a gwella golwg cymunedau ledled Cymru."