Neidio i'r prif gynnwy

Mae lesddaliad ar eiddo yn para am gyfnod penodol. Bydd gennych gytundeb cyfreithiol gyda'r landlord (a elwir hefyd yn rhydd-ddeiliad) yn nodi am ba mor hir y byddwch yn berchen ar yr eiddo.

Trefniant lesddaliad sydd ar fflatiau gan amlaf. Gall tai fod ar lesddaliad, ond fel rheol cânt eu prynu drwy ranberchnogaeth.

Problemau gyda lesddaliad

Y Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau

I gael cyngor am lesddaliadau, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau. (Saesneg yn unig)

Os na allwch ddatrys y broblem a'ch bod yn dal yn anhapus, gallwch gysylltu â’r Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau.

Tribiwnlysoedd prisio lesddaliadau

Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadaua yn ymchwilio i anghydfodau ac yn gwneud penderfyniadau yn eu cylch.

Mae'n delio ag:

  • anghydfodau am lesddaliadau
  • anghydfodau am daliadau gwasanaeth lesddaliadau
  • anghydfodau pan fydd rhywun sy'n berchen ar y lesddaliad (a elwir yn denant) am brynu neu ymestyn lesddaliad ar dŷ neu fflat
  • ceisiadau gan grwpiau o denantiaid sydd am sefydlu grŵp, a elwir yn 'gymdeithasau tenantiaid'
  • anghydfodau am 'gymdeithasau tenantiaid'