Neidio i'r prif gynnwy

Manylion am y lefelau treth gyngor band D cyfartalog fesul awdurdod lleol ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Pwyntiau allweddol

Treth cyngor band D i Gymru ar gyfer 2021-22 yw £1,731 ar gyfartaledd.  Mae hyn yn cynnwys £1,403 ar gyfer cynghorau sir, £290 ar gyfer awdurdodau’r heddlu a £39 ar gyfer cynghorau cymuned. Mae ffigurau Band D ar gyfer awdurdodau bilio, gan gynnwys yr heddlu a chynghorau cymunedol, yn amrywio o £1,504 Sir Benfro i £2,078 ym Mlaenau Gwent.

Codiadau cynghorau sir ym mand D y dreth gyngor ar gyfer 2021-22 yw £49 ar gyfartaledd, neu 3.5% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol. Codiadau’r heddlu yw £15 ar gyfartaledd, neu 5.5%. Mae’r codiadau hyn yn cyfuno i greu codiad band D o £64 ar gyfartaledd, neu 3.8%.

Wrecsam sydd â’r codiad canrannol band D uchaf o 6.4%. Rhondda Cynon Taf sydd â’r codiad canrannol band D isaf o 3.0%.

Heddlu Dyfed Powys sydd â’r cynnydd mwyaf ym mand D o 5.8%. Heddlu Gogledd Cymru sydd â’r  cynnydd lleiaf ym mand D o 5.1%.

Yn Lloegr, amcangyfrifir mai codiad cyfartalog Band D yw 4.2%.

Ar gyfartaledd, mae’r dreth gyngor band D yng Nghymru tua 91% o’r ffigur diweddaraf o £1,895 a amcangyfrifir ar gyfer Lloegr.

Adroddiadau

Lefelau’r Dreth Gyngor, Ebrill 2021 i Fawrth 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 670 KB

PDF
Saesneg yn unig
670 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.