Neidio i'r prif gynnwy

Manylion am y lefelau treth gyngor band D cyfartalog fesul awdurdod lleol ar gyfer Ebrill 2019 i Mawrth 2020.

Pwyntiau allweddol

  • Treth cyngor band D i Gymru ar gyfer 2019-20 yw £1,591 ar gyfartaledd.  Mae hyn yn cynnwys £1,294 ar gyfer cynghorau sir, £260 ar gyfer awdurdodau’r heddlu a £36 ar gyfer cynghorau cymuned. Mae ffigurau band D ar gyfer awdurdodau bilio, gan gynnwys yr heddlu a chynghorau cymunedol, yn amrywio o £1,377 Sir Benfro i £1,928 ym Mlaenau Gwent.
  • Codiadau cynghorau sir ym mand D y dreth gyngor ar gyfer 2019-20 yw £77 ar gyfartaledd, neu 6.2% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol. Codiadau’r heddlu yw £22 ar gyfartaledd, neu 9.1%. Mae’r codiadau hyn yn cyfuno i greu codiad band D o £99 ar gyfartaledd, neu 6.6%
  • Sir Benfro sydd â’r codiad canrannol band D uchaf o 10.0%. Rhondda Cynon Taf sydd â’r codiad canrannol band D isaf o 4.5%.
  • Heddlu Dyfed Powys sydd â’r cynnydd mwyaf ym mand D o 10.7%. Heddlu Gwent sydd â’r  cynnydd lleiaf ym mand D o 7.0%.
  • Yn Lloegr, amcangyfrifir mai codiad cyfartalog band D yw 4.5%.
  • Ar gyfartaledd, mae’r dreth gyngor band D yng Nghymru tua 91% o’r ffigur diweddaraf o £1,747 a amcangyfrifir ar gyfer Lloegr.

Adroddiadau

Lefelau’r Dreth Gyngor, Ebrill 2019 i Mawrth 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 708 KB

PDF
Saesneg yn unig
708 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.