Neidio i'r prif gynnwy

Diffiniad o blentyn

O dan Erthygl 1 o CCUHP, mae plentyn yn golygu unigolyn dan 18 oed, oni bai bod y plentyn yn dod yn oedolyn yn gynharach o dan y gyfraith sy'n gymwys iddo.

Felly, wrth ystyried effeithiau unrhyw newidiadau i lefelau rhybudd a chyfyngiadau yng Nghymru a ategir gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 ar blant, rhaid inni ystyried y ffordd y mae'r effeithiau hynny yn amrywio yn ôl oedran, yn ogystal ag yn ôl rhyw, ethnigrwydd, statws economaidd-gymdeithasol a daearyddiaeth.

Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn datgan bod yn rhaid i Weinidogion roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP). Mae Erthygl 12 o CCUHP yn nodi bod gan blant yr hawl i fynegi eu barn ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, ac i’w barn gael ei hystyried. Cyfarfu Prif Weinidog Cymru â phobl ifanc ar 28 Hydref a chyfarfu ef a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol â phobl ifanc ar 19 Tachwedd.

Daeth Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 i rym ar 26 Mawrth. Cafodd y rhain eu disodli gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Rhif 3) a (Rhif 4) (Cymru) 2020.

O ran cyfyngiadau rheoliadol yng Nghymru, unwaith y cytunir ar y cyfyngiadau i'w cyflwyno o ddydd Gwener 4 Rhagfyr, bydd cyfres eang o reoliadau ar waith sydd wedi bod yn sail i lefelau gwahanol o gyfyngiadau ers mis Medi, sy'n cyfateb i'r rhai yn yr Haenau / Lefelau yn Lloegr a'r Alban.

Y nod yw darparu cyfres sefydlog o reoliadau ar gyfer lefelau risg gwahanol sy'n ceisio sicrhau cyn lleied o gadwyni trosglwyddo â phosibl, er mwyn achub bywydau a helpu'r GIG. 

Er ei bod yn anochel y bydd hyn yn effeithio ar hawliau plant, bydd rhywfaint o le i liniaru'r rhan fwyaf o'r effeithiau mwyaf sylweddol wrth ddethol mesurau a'r pecyn cymorth a gynigir ar bob lefel, ond ni fydd modd mynd i'r afael â phob effaith anghymesur a negyddol. Mae'r effeithiau negyddol hyn yn parhau i gael eu goddef ar sail y risg i iechyd y cyhoedd.

Bydd y lefelau a'r mesurau rheoliadol arfaethedig yn caniatáu ar gyfer asesu a gweithredu ar unrhyw lefel. Bydd rhagor o gyfyngiadau llymach a chyfnodau atal byr, ar ben y cyfnod estynedig o gyfyngiadau symud lleol a chenedlaethol, yn dwysáu'r effeithiau negyddol. Wrth bennu'r math o gymorth a gynigir ar bob lefel, dylid rhoi blaenoriaeth i fesurau a chymorth sy'n lliniaru'r effeithiau negyddol ar hawliau plant.

Er bod sawl opsiwn o ran yr hyn a fydd yn aros ar agor, yr hyn a fydd yn cau, p'un a ddylem aros gartref, aros yn lleol, gweithio gartref, pa aelwydydd all gyfarfod ar bob lefel, rhaid i hawliau plant fod yn ystyriaeth yn y broses o wneud penderfyniadau. 

Dylem gofio mai dyma blentyndod pob plentyn yng Nghymru, a'r unig blentyndod y byddant yn ei gael.

Drwy gydol y pandemig, mae adborth gan ein rhanddeiliaid, rhieni a phlant a phobl ifanc eu hunain wedi nodi amrywiaeth o faterion o ran hawliau plant yn sgil y cyfyngiadau symud, y byddem yn awyddus i ddysgu ohonynt a'u hatal, cyn belled ag y bo'n ymarferol bosibl, rhag digwydd eto.

Dylai'r egwyddorion cyffredinol canlynol barhau i helpu i lywio penderfyniadau ynghylch ein camau gweithredu drwy gydol y pandemig, ni waeth pa gyfyngiadau sydd ar waith yng Nghymru ar y pryd.

Egwyddorion cyffredinol

  1. Dylai plant a phobl ifanc fod yn ddiogel, a chael eu gweld, eu clywed, eu meithrin a'u datblygu
  2. Dylai plant allu mynd i'r ysgol a lleoliad gofal plant (gan gynnwys Dechrau'n Deg)
  3. Dylai plant allu mynd allan i chwarae a gwneud ymarfer corff
  4. Dylid caniatáu i blant iau, dan 12 oed, gymysgu'n rhydd
  5. Dylai gwasanaethau sy'n cefnogi teuluoedd barhau i weithredu a gallu cynnig gwasanaethau wyneb yn wyneb lle mae angen y plentyn/teulu yn cyfiawnhau hynny. Efallai y bydd angen cymorth ar deuluoedd dan anfantais i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein – gan gynnwys cyfarpar TG a/neu ‘data’. 
  6. Dylai plant ag anghenion ychwanegol gael yr asesiadau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt – gall hyn gynnwys swigen gefnogaeth ehangach ar gyfer teuluoedd/gwasanaethau er mwyn sicrhau na chaiff yr un teulu ei adael i ymdopi ar ei ben ei hun – gall olygu grŵp mwy yn mynd allan i wneud ymarfer corff i gefnogi'r plentyn
  7. Ni ddylai'r un plentyn fynd heb fwyd
  8. Dylai fod cymorth i rieni ar gael drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys mamau/rhieni newydd
  9. Dylid cynnal asesiadau o ddatblygiad yn y blynyddoedd cynnar fel mater o drefn (wyneb yn wyneb lle bo angen yn unol â mesurau diogelu rhag COVID-19) a rhoi ymyriadau ar waith (e.e. iaith a lleferydd, golwg a chlyw)
  10. Dylid cyfathrebu ynghylch pob un o'r uchod yn glir, gan gynnwys â phlant a phobl ifanc
  11. Os rhoddir cyfyngiadau lefel 4 ar waith yn y dyfodol:
  • Dylid rhoi blaenoriaeth i blant agored i niwed drwy ddull gweithredu amlasiantaethol
  • Dylai fod cynllun cymorth ar waith ar gyfer plant ag anghenion dysgu penodol/ychwanegol
  • Dylid sicrhau bod gan blant gyfarpar TG a digon o ddata i'w galluogi i gymryd rhan mewn gwersi a chael gafael ar adnoddau addysgol ar-lein, yn ogystal â chysylltu â'u ffrindiau
  • Dylid cynyddu nifer y gwasanaethau trydydd sector, gwasanaethau mewn ysgolion a gwasanaethau iechyd meddwl ar-lein. Dylid gweithredu ar sail risg i sicrhau bod y bobl ifanc fwyaf agored i niwed yn parhau i gael eu cefnogi gan wasanaethau iechyd meddwl y GIG.
  • Dylid cynnig cymorth ychwanegol i blant o deuluoedd nad Cymraeg/ Saesneg yw eu hiaith gyntaf, ochr yn ochr â'u rhieni
  • Dylid atgoffa pawb i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ddiogel ac yn gwybod i ble y gallant droi am help neu i drafod pryderon.
  • Dylid cyfathrebu â phlant a phobl ifanc mewn iaith gysurlon, hawdd ei deall, ac egluro'r hyn sy'n digwydd a pham

Beth yw'r cyfyngiadau a'r lefelau rhybudd arfaethedig yng Nghymru?

Dyma'r lefelau, y cyfyngiadau a'r rheoliadau arfaethedig sy'n cael eu hystyried:

  • Lefel 1 / Risg isel: Y rheoliadau a fu ar waith yn ystod yr haf (mwyaf llac), ond gan ganiatáu i rai aelwydydd gymysgu (e.e. y rheol 6 fel y'i disgrifir yn Lloegr).
  • Lefel 2 / Risg ganolig: Y rheoliadau cyn y cyfnod atal byr (h.y. y rhai sydd ar waith ar hyn o bryd).
  • Lefel 3 / Risg uchel: Y rheoliadau y cytunir arnynt ar gyfer dydd Gwener 4 Rhagfyr.
  • Lefel 4 / Risg uchel iawn: Rheoliadau'r cyfnod atal byr.

Rhoddir rhagor o fanylion o dan bob pennawd allweddol isod.

Beth y mae hyn yn ei olygu i blant a phobl ifanc?

Mae pobl wedi dweud eu bod am gael un rheol i Gymru gyfan am fod hyn yn gwneud pethau'n haws iddynt eu deall.

Cyfyngiadau ar Ymgynnull

 

Lefel 1 (Risg Isel)

Lefel 2 (Risg Ganolig)

Lefel 3 (Risg Uchel)

Lefel 4 (Risg Uchel Iawn)

Gofyniad i aros gartref

DD/G

DD/G

DD/G

Oes

Cyfarfod mewn anheddau preifat

Y rheol chwech o bobl, ac eithrio plant o dan 11 oed

Aelwydydd estynedig yn unig

Aelwydydd estynedig yn unig

Aelwyd neu swigen gefnogaeth yn unig

Cyfarfod yn yr awyr agored

Y rheol chwech o bobl, ac eithrio plant o dan 11 oed

Y rheol pedwar o bobl, ac eithrio plant o dan 11 oed

Y rheol pedwar o bobl, ac eithrio plant o dan 11 oed

Aelwyd neu swigen gefnogaeth yn unig

Aelwydydd estynedig

Hyd at dair aelwyd

Hyd at ddwy aelwyd

Hyd at ddwy aelwyd

Swigen gefnogaeth (oedolion sengl neu rieni sengl yn ymuno ag unrhyw aelwyd arall)

Cyfarfod yn yr awyr agored

Dim mwy na 30 o bobl, ac eithrio plant o dan 11 oed a gofalwyr

 

 

Y rheol pedwar o bobl, ac eithrio plant o dan 11 oed

Aelwyd estynedig (os oes mwy na 6) mewn mannau awyr agored cyhoeddus ond nid lleoliad rheoleiddiedig

Y rheol pedwar o bobl, ac eithrio plant o dan 11 oed

Aelwyd estynedig (os oes mwy na 4) mewn mannau awyr agored cyhoeddus ond nid lleoliad rheoleiddiedig

Aelwyd neu swigen gefnogaeth yn unig

Gerddi preifat

Y rheol chwech o bobl, ac eithrio plant o dan 11 oed

Y rheol pedwar o bobl, ac eithrio plant o dan 11 oed

Aelwydydd estynedig yn unig

Aelwyd neu swigen gefnogaeth yn unig

Gweithgareddau wedi'u trefnu a Chwaraeon
  Lefel 1 (Risg Isel) Lefel 2 (Risg Ganolig) Lefel 3 (Risg Uchel) Lefel 4 (Risg Uchel Iawn)
Gweithgareddau dan do wedi’u trefnu Hyd at 50 o bobl Hyd at 15 o bobl Hyd at 15 o bobl (wedi’u cyfyngu gan safleoedd yn cau) Cyfyngedig i wasanaethau cyhoeddus a gwirfoddol
Gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu Hyd at 100 o bobl Hyd at 30 o bobl Hyd at 30 o bobl Ddim yn bosibl
Stadia a digwyddiadau

Digwyddiadau awyr agored (niferoedd cyfyngedig)

Stadia ar agor i wylwyr (niferoedd cyfyngedig)

Digwyddiadau eistedd neu symudol dan do (niferoedd cyfyngedig

Digwyddiadau awyr agored – cynlluniau peilot

Stadia ar gau i wylwyr

Digwyddiadau dan do – cynlluniau peilot

Dim digwyddiadau

Stadia ar gau i wylwyr

Dim digwyddiadau

Stadia ar gau i wylwyr

Chwaraeon ac ymarfer corff

Pob un yn cael ei ganiatáu yn unol â chanllawiau a mesurau lliniaru (e.e. chwaraeon cyswllt cyfyngedig dan do)

Caniateir chwaraeon a hyfforddiant proffesiynol, elît a dynodedig

Cyfyngedig i reolau gweithgareddau cyffredinol (15 dan do, 30 yn yr awyr agored), eithriadau ar gyfer gweithgareddau plant

Caniateir chwaraeon a hyfforddiant proffesiynol, elît a dynodedig

Cyfyngedig i reolau gweithgareddau cyffredinol (15 dan do, 30 yn yr awyr agored), eithriadau ar gyfer gweithgareddau plant

Caniateir chwaraeon a hyfforddiant proffesiynol, elît a dynodedig

Ymarfer unigol yn yr awyr agored

Caniateir chwaraeon a hyfforddiant proffesiynol, elît a dynodedig

Gweithgareddau plant o dan oruchwyliaeth Caniateir Caniateir Caniateir Ddim yn bosibl (mae eithriadau addysg a gofal plant yn parhau)

 

Y tri phrif beth yr oedd y rheolau aros gartref wedi effeithio arnynt ym marn pobl ifanc (12-18 oed) oedd 'methu gwario amser gyda fy ffrindiau' (72%), ‘ddim yn gallu gweld aelodau o fy nheulu’ (59%) ac ‘ysgolion a cholegau ar gau’ (42%) (Arolwg Coronafeirws a fi[1]).

Dywedodd pobl ifanc wrth Brif Weinidog Cymru nad oeddent yn deall pam na allent weld ffrindiau ysgol y tu allan i oriau ysgol. Roeddent yn agored i gael cyfyngiadau ar nifer y ffrindiau y gallent gymysgu â nhw.

Y brif broblem i blant a phobl ifanc 11 oed a throsodd fydd y gallu i gyfarfod â ffrindiau y tu allan i'w haelwyd. Mae hyn yn bosibl ar bob lefel heblaw lefel 4, lle mae cymysgu yn gyfyngedig i aelwyd neu swigen gefnogaeth yn unig. Tra bod y mesurau yn fwy llym mewn perthynas â chymysgu dan do, bydd cynnal y rheol chwech o bobl (lefel 1) a'r rheol pedwar o bobl (lefel 2 a lefel 3) mewn perthynas â chyfarfod yn yr awyr agored yn helpu i ddangos bod eu barn wedi'i hystyried ac yn eu galluogi i gymdeithasu â ffrindiau yn hytrach na dim ond rhieni/neiniau a theidiau.

Mae'r rheolau o ran nifer y bobl a all gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu a gweithgareddau dan do wedi'u trefnu yn lleihau wrth i lefel y risg gynyddu. Mae'r opsiynau sy'n cael eu hystyried ond yn atal gweithgareddau dan do wedi'u trefnu ar lefel 4, gyda rhai cyfyngiadau o ran y math o safle a ddefnyddir fel arfer yn lefel 3. Byddai eithriadau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, gweithgareddau addysg, gweithgareddau plant o dan oruchwyliaeth, gan gynnwys gofal cofleidiol (gofal plant cyn ac ar ôl yr ysgol), grwpiau a gweithgareddau i bobl ifanc dan 18 oed, a grwpiau chwarae plant yn parhau heblaw ar lefel 4.

Mae Erthygl 6: Mae gan bob plentyn hawl i fyw. Dylai llywodraethau ofalu bod plant yn goroesi ac yn datblygu’n iach, yn bwysig yma. 

  • Mae'r hawl i fyw yn fwy na chadw'n ddiogel rhag y feirws. Mae'n ymwneud â datblygu'n gymdeithasol, yn emosiynol, yn gorfforol, yn feddyliol ac yn ysbrydol.
  • Mae'r gallu i chwarae a gwneud ymarfer corff yn hanfodol i ddatblygiad corfforol plentyn a'i iechyd meddwl a'i les.
  • Dylai plant iau allu cymdeithasu – mae hyn yn bwysig i fabanod a phlant bach, yn ogystal â phlant oedran ysgol gynradd.
  • Nododd arolwg 'Babies-in-Lockdown' fod ychydig dros chwarter (28%) y rhai a oedd yn bwydo ar y fron yn teimlo nad oeddent wedi cael y cymorth yr oedd ei angen arnynt. Roedd dros hanner yr ymatebwyr yn bwydo ar y fron (55%), ond nid oedd hanner y rhai a oedd yn defnyddio llaeth fformiwla wedi bwriadu gwneud hynny (53%).

Dylid ystyried Erthygl 31: Mae gan blant yr hawl i ymlacio a chwarae, ac i ymuno mewn ystod eang o weithgareddau, hefyd.

  • Roedd ymatebwyr BAME yn llawer llai tebygol o ddweud eu bod wedi bod yn gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored, ar draws y grwpiau oedran.
  • Roedd plant BAME 7-11 oed yn llawer llai tebygol o ddweud eu bod yn chwarae'n fwy aml nag o'r blaen.
  • Dywedodd pobl ifanc wrth Brif Weinidog Cymru eu bod am gael mwy o gyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon wedi'u trefnu.
  • Hefyd, gwnaethant ddweud eu bod am gymryd rhan mewn prosiectau ieuenctid wedi'u trefnu

Ar lefel 4, byddai'n rhaid i wasanaethau newid i ddarparu cymorth ar-lein a chymorth rhithwir yn unig, gyda chymorth wyneb yn wyneb yn cael ei gyfyngu i gymorth brys neu lle roedd plentyn mewn perygl. Byddai gwasanaethau mamolaeth ac amenedigol yn parhau, gyda gwasanaethau ymwelwyr iechyd a chymorth ehangach ar waith yn rhithwir.

Ar bob lefel arall, gallai gwasanaethau ailddechrau, gan gynnwys cynnal dosbarthiadau bwydo ar y fron a dosbarthiadau rhiant a phlentyn, er mwyn cefnogi iechyd meddwl amenedigol mamau a sicrhau bod plant ifanc yn cael eu gweld a bod eu datblygiad yn cael ei asesu fel y gellid ymyrryd yn gynnar pe bai angen. Byddai gwasanaethau cymorth ehangach drwy Dechrau'n Deg yn ailddechrau hefyd, gan gynnwys cymorth wyneb yn wyneb, a chymorth i leihau effaith oedi mewn datblygiad na sylwyd arno o bosibl yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud; onid eir i'r afael â'r oedi hwn, bydd yn arwain at oblygiadau hirdymor i'r plentyn, y teulu, gwasanaethau cymorth a chymdeithas yn gyffredinol, gan arwain at ymyriadau mwy costus i rai a niwed na ellir ei wrthdroi i eraill. Ym mhob achos, byddai angen i gymorth wyneb yn wyneb gael ei ddarparu yn unol â'r canllawiau a'r arferion diogel cyfredol ar gyfer COVID-19.

Ar lefel 1 a lefel 2, bydd cyfleusterau chwarae yn parhau ar agor ac yn hygyrch, yn unol â hawliau plant i chwarae, gydag ardaloedd chwarae dan do ar gau ar lefel 3 a phob cyfleuster ar gau ar lefel 4. Dylai meysydd chwarae awyr agored aros ar agor ar bob lefel er mwyn lliniaru effaith gwasanaethau dan do cyfyngedig, a sicrhau bod plant yn parhau i gael y cyfle i chwarae. Mae hyn yn arbennig o bwysig i blant o aelwydydd heb ardal awyr agored a/neu brinder lle dan do. O ran plant hŷn, dylai Gwasanaethau Ieuenctid barhau'n weithredol, gan ddarparu mannau diogel i blant a phobl ifanc gwrdd, cymdeithasu a chael cymorth yn ôl yr angen yn achos pob lefel ond yr uchaf.

Mae gweithgareddau dan do wedi'u trefnu, megis grwpiau rhiant a phlentyn, yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad cymdeithasol, emosiynol, corfforol a gwybyddol plentyn. Gwyddom o adroddiad diweddar gan Ofsted fod plant yn cymryd cam yn ôl o ran eu datblygiad, gan ddechrau yn yr ysgol â llai o sgiliau iaith a lleferydd, yn dal i wisgo cewynnau, ac ati. Er bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhywfaint o fesurau lliniaru ar waith ym mlwyddyn ariannol 2020/21 drwy'r Gronfa Datblygiad Plant, dim ond os gall y grwpiau hyn gyfarfod yn achos pob lefel heblaw lefel 4 y caiff y mesurau hyn yr effaith fwyaf.

Lefel 4 sy’n peri’r risgiau mwyaf o ran methu â gweld plant a phobl ifanc, a’r pryderon o ran diogelu a fyddai'n deillio o hynny. Gallai ailgyflwyno’r cyfyngiadau hyn gael cryn effaith andwyol ar iechyd meddwl rhieni a datblygiad plant, gan arwain at lu o faterion y gall fod angen ymyriadau sylweddol a chostus i fynd i’r afael â nhw ac, mewn nifer bach o achosion, na ellir eu gwrthdroi. At hynny, bydd angen lliniaru’r effaith ar iechyd meddwl a chorfforol plant a phobl ifanc a nodwyd yn yr ymatebion i arolwg Coronafeirws a fi. Efallai na fydd modd i rai gwasanaethau iechyd weithredu i'r eithaf os caiff cyfyngiadau lefel 4 eu cyflwyno, a gallai hyn gael effaith andwyol ar blant a phobl ifanc sy’n dibynnu ar y gwasanaethau hyn, e.e. cymorth iechyd meddwl.

Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau
  Lefel 1 (Risg Isel) Lefel 2 (Risg Ganolig) Lefel 3 (Risg Uchel) Lefel 4 (Risg Uchel Iawn)

Safleoedd trwyddedig

Caniateir i safleoedd trwyddedig weini alcohol rhwng 6am a 10pm. Rhaid i safleoedd (gan gynnwys y rhai lle gellir dod â’ch alcohol eich hun) gau erbyn 10:20pm. Eithriadau cyfyngedig.

Caniateir i safleoedd trwyddedig weini alcohol rhwng 6am a 10pm. Rhaid i safleoedd (gan gynnwys y rhai lle gellir dod â’ch alcohol eich hun) gau erbyn 10:20pm. Eithriadau cyfyngedig.

Gwerthu alcohol i'w yfed oddi ar y safle yn unig (ni cheir yfed alcohol ar y safle) Rhaid i fusnesau lletygarwch gau am 6pm, ac ni chaiff siopau diodydd trwyddedig werthu alcohol ar ôl 10pm.

Ar gau. Gwasanaeth tecawê a danfon yn unig rhwng 6am a 10pm.

Manwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol

Ar agor

Ar agor

Ar agor

Ar gau (gwasanaeth clicio a chasglu yn unig)

Gwasanaethau cyswllt agos (siopau trin gwallt, salonau ewinedd a harddwch, parlyrau tatŵs a thylino etc.)

Ar agor

Ar agor

Ar agor

Ar gau (ac eithrio gwasanaethau meddygol a gwasanaethau cysylltiedig)

Lletygarwch (tafarndai, bwytai, caffis, bariau, clybiau i aelodau)

[Gwasanaeth wrth y bwrdd, mesurau lliniaru eraill a gwasanaeth tecawê ar bob lefel. Cyfyngiadau arferol]

Caniateir i safleoedd trwyddedig weini alcohol rhwng 6am a 10pm. Rhaid i safleoedd (gan gynnwys y rhai lle gellir dod â’ch alcohol eich hun) gau erbyn 10:20pm. Eithriadau cyfyngedig

Caniateir i safleoedd trwyddedig weini alcohol rhwng 6am a 10pm. Rhaid i safleoedd (gan gynnwys y rhai lle gellir dod â’ch alcohol eich hun) gau erbyn 10:20pm. Eithriadau cyfyngedig

 

Dim alcohol i’w yfed ar y safle. Cânt agor rhwng 6am a 6pm, ac ar gyfer tecawê ar ôl 6pm

Ar gau (heblaw am tecawê a danfon)

Llety gwyliau

Ar agor

Ar agor

Ar agor (cyfyngiadau teithio i bobl o ardaloedd lle mae nifer uchel o achosion)

Hanfodol yn unig (ar gyfer gwaith neu resymau eraill)

Lleoliadau adloniant (sinemâu, alïau bowlio, canolfannau ac ardaloedd chwarae dan do, arcedau diddanwch, theatrau a neuaddau cyngerdd)

Ar agor

Ar agor

Ar gau

Ar gau

Atyniadau dan do i ymwelwyr (gan gynnwys amgueddfeydd, orielau, atyniadau addysgol a threftadaeth, a safleoedd treftadaeth fel plastai)

Ar agor

Ar agor

Ar gau

Ar gau

Canolfannau sglefrio (at ddefnydd hamdden y cyhoedd)

Ar agor

Ar gau

Ar gau

Ar gau

Atyniadau awyr agored i ymwelwyr (gan gynnwys gerddi, amgueddfeydd, parciau antur, ffeiriau, safleoedd treftadaeth, atyniadau fferm, sŵau)

Ar agor

Ar agor

Ar agor, ond elfennau dan do ar gau

Ar gau

Cyfleusterau hamdden a ffitrwydd (campfeydd, pyllau nofio, sbas, stiwdios ffitrwydd)

Ar agor

Ar agor

Ar agor

Ar gau

Lleoliadau ar gyfer digwyddiadau a chynadleddau

Ar agor

Ar agor ar gyfer gweithgareddau cyfyngedig (e.e. digwyddiadau peilot o dan do)

Ar gau

Ar gau

Gall y rhan fwyaf o fusnesau aros ar agor ar lefel 1, gyda'r rhestr o fusnesau a ddylai gau neu fod yn destun cyfyngiadau o ran yr hyn y gellir ac na ellir ei werthu a/neu amseroedd busnes yn cynyddu gyda lefel y risg.

Mae'n bwysig i bobl ifanc eu bod yn gallu cyfarfod â ffrindiau y tu allan i amgylchedd yr ysgol. Mae'n debyg bod lleoliad rheoleiddiedig yn fan cyfarfod mwy diogel i'r rhai a all fforddio prynu diodydd mewn caffi, er enghraifft. Efallai na fydd y bobl ifanc fwyaf difreintiedig yn gallu achub ar y cyfle hwn.

Bydd cau busnesau a/neu leihau oriau busnes yn cael effaith economaidd. Gallai hyn arwain at fwy o galedi ymhlith teuluoedd incwm isel a gallai arwain at fwy o deuluoedd yn wynebu caledi ariannol. Gallai pwysau ychwanegol gael effaith negyddol ar fywyd teuluol a chydberthnasau rhwng rhieni.

Mae'n debygol bod Erthygl 26: Dylai’r Llywodraeth roi mwy o arian ar gyfer plant teuluoedd mewn angen wedi'i hystyried.

  • Dywedodd y plant BAME a ymatebodd i'r arolwg eu bod yn fwy tebygol o ddweud bod angen help arnynt i sicrhau bod gan eu teulu ddigon o fwyd. Maent yn fwy tebygol o nodi arwyddion o ansicrwydd bwyd. Mae hyn hefyd wedi'i nodi gan randdeiliaid syn gweithio'n uniongyrchol gyda'r gymuned BAME.

Mewn ymateb i hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu

  • teuluoedd sydd mewn tlodi drwy'r Gronfa Cymorth Dewisol, Prydau Ysgol Am Ddim, banciau bwyd, ac ati – mae angen i hyn barhau er mwyn sicrhau na fydd yr un plentyn yn llwgu
  • rhoi cyllid i awdurdodau lleol er mwyn cefnogi cydberthnasau rhwng rhieni.

Mae'n debygol y caiff Erthygl 27: Mae gan blant yr hawl i safon bywyd sy’n ddigon da i ddiwallu eu hanghenion corfforol a meddyliol. Dylai’r Llywodraeth helpu teuluoedd na allant fforddio darparu hyn, ei hystyried hefyd.

  • Mae plant a phobl ifanc BAME yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tai gorlawn ac o ansawdd is, sy'n ei gwneud hi'n anos aros gartref a dysgu gartref.
  • Nododd plant a phobl ifanc BAME fod y cyfyngiadau wedi effeithio ar eu gallu i gadw'n iach yn gorfforol ac yn feddyliol, a bod prinder lle neu fyw mewn tai gorlawn wedi gwneud hyn yn anos.
  • Roedd plant a phobl ifanc anabl yn fwy tebygol o nodi effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl a bod cau gwasanaethau yn cael effaith fawr ar y ffordd roeddent yn teimlo.
  • Nododd adroddiad 'Babies-in-Lockdown’ fod bron hanner (47%) y rhieni wedi dweud bod eu baban wedi mynd yn fwy dibynnol arnynt. Dywedodd chwarter (26%) fod eu baban yn crio mwy na'r arfer. Roedd nifer y rhai a ddywedodd fod eu babanod yn crio mwy, yn strancio mwy ac yn fwy dibynnol arnynt na'r arfer ddwywaith yn fwy ymhlith y rhai ar yr incymau isaf na'r rhai ar yr incymau uchaf. 
  • Nododd yr adroddiad hwn hefyd fod gan 6 o bob 10 o rieni bryderon am eu hiechyd meddwl.

Mewn ymateb i hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu

  • teuluoedd sydd mewn tlodi drwy'r Gronfa Cymorth Dewisol, Prydau Ysgol Am Ddim, banciau bwyd, ac ati – mae angen i hyn barhau er mwyn sicrhau na fydd yr un plentyn yn llwgu
  • plant y gallai fod oedi yn eu datblygiad drwy'r Gronfa Datblygiad Plant.
Cyfleusterau cymunedol
  Lefel 1 (Risg Isel) Lefel 2 (Risg Ganolig) Lefel 3 (Risg Uchel) Lefel 4 (Risg Uchel Iawn)

Mannau addoli

Ar agor

Ar agor

Ar agor

Ar agor

Cyfleusterau cymunedol

Ar agor

Ar agor

Ar agor

Ar agor am resymau cyfyngedig (e.e. ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol)

Amlosgfeydd

Ar agor

Ar agor

Ar agor

Ar agor

Cyfleusterau cyhoeddus (llyfrgelloedd, canolfannau ailgylchu, ac ati)

Ar agor

Ar agor

Ar agor

Ar gau i’r cyhoedd (clicio a chasglu yn unig)

Cyrtiau chwaraeon, parciau sglefrio, cyrsiau golff, caeau chwarae caeedig

Ar agor

Ar agor

Ar agor

Ar gau

Meysydd chwarae, parciau cyhoeddus

Ar agor

Ar agor

Ar agor

Ar agor

Mae hyn yn cynnwys mannau addoli a fyddai'n aros ar agor ar lefelau 1-3 ond a fyddai ar gau ar gyfer gwasanaethau cymunedol ar lefel 4. Dylent aros ar agor ar gyfer darparu gwasanaethau gofal plant ar bob lefel

Mae Erthygl 14: Mae gan blant yr hawl i feddwl a chredu’r hyn a fynnant ac i arfer eu crefydd, cyhyd ag nad ydynt yn cadw pobl eraill rhag mwynhau eu hawliau, yn bwysig yma. Mae'n galonogol y bydd mannau addoli yn aros ar agor ar bob lefel o gyfyngiadau ond yr un fwyaf difrifol. Mae angen ystyried hawliau pobl ifanc i fynychu seremonïau gwahanol, yn enwedig os ydynt yn 12 neu drosodd.

Bydd canolfannau cymunedol, cyfleusterau cyhoeddus, megis llyfrgelloedd, cyrtiau chwaraeon a pharciau sglefrio, yn aros ar agor ym mhob un o'r categorïau cyfyngiadau ond yr uchaf. Bydd hyn yn cefnogi pob plentyn a pherson ifanc ond yn enwedig plant 7-11 BAME oed a oedd yn fwy tebygol o lawer o ddweud bod cau canolfannau cymunedol a methu â mynd allan i’r awyr agored wedi effeithio ar eu dysgu (arolwg Coronafeirws a fi) Roedd plant a phobl ifanc BAME ar draws holl ystodau oedran yr arolwg hefyd yn fwy tebygol o ddweud bod cau llyfrgelloedd wedi effeithio ar eu dysgu. Bydd angen cyfathrebu'n glir y bydd parciau a mannau gwyrdd yn aros ar agor. Mae hyn yn bwysig am nad oes gan bawb ardd breifat nac ardal awyr agored – mae angen i blant chwarae.

Ysgolion a gofal plant
  Lefel 1 (Risg Isel) Lefel 2 (Risg Ganolig) Lefel 3 (Risg Uchel) Lefel 4 (Risg Uchel Iawn)

Darparwyr gofal plant

Ar agor

Ar agor

Ar agor

Ar agor

Gofal plant anffurfiol

Caniateir

Caniateir

Caniateir

Caniateir (ond dylai fod yn hanfodol yn unig)

Ysgolion cynradd

Ar agor

Ar agor

Ar agor

Ar agor

Ysgolion uwchradd

Ar agor

Ar agor

Ar agor

Ar agor

Colegau, sefydliadau addysg bellach

Ar agor

Ar agor

Ar agor

Ar agor

Sefydliadau addysg uwch

Ar agor

Ar agor – cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb ac o bell

Ar agor – cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb ac o bell

Ar agor – cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb ac o bell

Unedau cyfeirio disgyblion, ysgolion arbennig, ac addysg heblaw yn yr ysgol

Ar agor

Ar agor

Ar agor

Ar agor

Bydd gwasanaethau gofal plant, ysgolion, sefydliadau addysg uwch a sefydliadau addysg bellach yn aros ar agor ar bob lefel ond mae'n bosibl y bydd opsiynau ar gyfer dysgu cyfunol pan fydd y cyfyngiadau ar eu mwyaf.

At ei gilydd, caiff Erthygl 28 ei chefnogi drwy'r dull gweithredu hwn, ond mae'n debygol y bydd cyfyngiadau lefel 4 yn cael effaith andwyol sylweddol iawn ar blant anabl a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol, plant sydd eisoes yn wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol a rhai plant Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Yn gyffredinol, mae plant a phobl ifanc o blaid gallu parhau â'u haddysg a mynychu'r ysgol a'r coleg. Yn ystod trafodaeth ddiweddar â Phrif Weinidog Cymru a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gofynnwyd i bobl ifanc am eu barn am addysg yn ystod y cyfnod atal byr, a nodwyd y canlynol:

  • Dim ond fel dewis olaf y dylid ystyried sesiynau ar-lein am fod rhai pobl ifanc yn teimlo'n llai hyderus i e-bostio i ofyn am help; mae'n llawer haws gwneud hynny wyneb yn wyneb yn yr ystafell ddosbarth.
  • Gall sesiynau ar-lein weithio’n dda iawn os cânt eu defnyddio’n briodol gyda’r cymorth cywir, ond mae achosion o athrawon yn anfon dogfennau PowerPoint neu swmp o waith at bobl ifanc heb gysylltu â nhw wedi hynny. 
  • Roeddent yn teimlo eu bod wedi cael llawer llai o amser i ddod i adnabod eu hathrawon felly nid oeddent bob amser yn teimlo’n gyfforddus i ofyn am help – mae’n bosibl mai dim ond am ran o hanner cyntaf y tymor y bu rhai ohonynt yn yr ysgol yn sgil gofynion hunanynysu, felly nid oeddent wedi meithrin cydberthynas ag athrawon newydd.
  • Mae rhai wedi bod yn wynebu problemau tlodi digidol – nid yn unig o ran dyfeisiau ond o ran cysylltiadau Wi-Fi da hefyd
  • Nid oedd cymaint o archwiliadau llesiant wedi’u cwblhau y tro hwn – roedd dogfen PowerPoint ar ymwybyddiaeth ofalgar wedi’i hanfon.
  • Teimlwyd ei bod wedi’i hanfon dim ond er mwyn gwneud hynny. Mynegwyd pryderon am y rhai mewn aelwydydd nad ydynt yn iach a theimlwyd efallai y dylid galw ar y rhain hefyd
  • Ysgol arbennig ar agor drwy gydol y cyfyngiadau symud, gan addasu eithaf tipyn a bod yn hyblyg er mwyn gwneud ein gorau glas.

Yn y tymor hwy, mae’r canlyniadau sy’n gysylltiedig ag addysg fylchog neu gyfyngedig yn barhaus ac yn creithio:

  • Llai o allu neu awydd i gael gafael ar addysg bellach neu uwch;
  • Llai o bosibiliadau o ran cyflogaeth;
  • Lefelau tlodi uwch, a chynnydd yn y bwlch cyrhaeddiad;
  • Mwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod;
  • Mwy o anghydraddoldeb rhwng y rhywiau;
  • Iechyd gwael.

Gall oedi mewn datblygiad, hyd yn oed mewn un maes, gael effaith sylweddol ar gwrs bywyd unigolyn.

  • Gallai dros 50% o blant mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol fod yn cychwyn yn yr ysgol gyda sgiliau iaith, lleferydd a chyfathrebu gwannach[2].
  • Ni chyrhaeddodd un o bob pedwar o blant a oedd yn cael trafferth yn ieithyddol yn bump oed y safon ddisgwyliedig yn Saesneg ar ddiwedd eu cyfnod yn yr ysgol gynradd, o’i gymharu ag un o bob 25 o blant a’u sgiliau iaith yn dda yn bump oed[3].
  • Ar ôl ystyried ystod o ffactorau eraill a allai fod wedi dylanwadu ar blant (lefel addysgol y fam, gorboblogi’r tŷ, pwysau geni isel, rhiant sy'n ddarllenydd gwael, etc.), roedd plant oedd â sgiliau normal nad ydynt yn eiriol ond eu geirfa yn gyfyngedig yn 5 oed, erbyn iddynt gyrraedd 34 oed, un waith a hanner yn fwy tebygol o fod yn ddarllenwyr gwael neu gael problemau iechyd meddwl a mwy na dwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith â phlant a oedd a sgiliau ieithyddol normal yn 5 oed[4].
  • Canfuwyd mai geirfa yn 5 oed yw'r rhagfynegydd gorau (o ystod o fesurau yn 5 a 10 oed) ynghylch a oedd plant a oedd yn profi amddifadedd cymdeithasol yn ystod plentyndod yn gallu mynd yn groes i'r duedd a dianc rhag tlodi yn ddiweddarach fel oedolyn[5].

Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) yn ddigwyddiadau sy'n peri straen yn ystod plentyndod. Rhai o’r rhain yw dioddef camdriniaeth, esgeulustod, neu fagwraeth ar aelwyd lle mae camddefnyddio alcohol neu sylweddau, salwch meddwl, trais neu ymddygiad troseddol sy'n arwain at garcharu[6]. Gall profiadau eraill hefyd gael effaith andwyol ar fywyd plentyn fel tlodi a phrofiadau fel pandemig byd-eang.

  • Mae ACE yn gyffredin, gyda thua hanner y boblogaeth oedolion (18-69 oed) yng Nghymru yn dweud eu bod wedi profi o leiaf un ACE, a 14% yn adrodd am bedwar neu fwy[7].
  • Gall ACE gael effaith andwyol ar iechyd person drwy ei oes, gan gyfrannu at ystod eang o ganlyniadau gwael, gan gynnwys canlyniadau addysgol gwaeth, mwy o anghydraddoldeb iechyd ac afiachusrwydd. Yng Nghymru, mae'r rhai sy'n dioddef pedwar achos o ACE neu ragor, chwe gwaith yn fwy tebygol o fod yn ysmygwr, bedair gwaith yn fwy tebygol o yfed alcohol ar lefelau niweidiol[8], ddwywaith yn fwy tebygol o gael clefyd cronig (e.e. asthma, canser, gordewdra, clefyd y galon a chlefyd anadlol); [9], a chwe gwaith yn fwy tebygol o fod wedi cael triniaeth ar gyfer salwch meddwl (e.e. iselder neu orbryder) [10].

Mae hanes o gael profiad ACE hefyd wedi bod yn gysylltiedig â'r galw cynyddol am wasanaethau iechyd[11]. Gall ACE a'u heffeithiau negyddol ymestyn y tu hwnt i un genhedlaeth, a chael eu dyblygu a’u hysgogi gan ryngweithio cymhleth rhwng ffactorau amgylcheddol personol a chymdeithasol, gan arwain at eu trosglwyddo rhwng cenedlaethau[12].

Er nad yw’r gallu i gael addysg yn lliniaru pob effaith economaidd-gymdeithasol, mae’n amlwg bod addysg o ansawdd uchel yn helpu i unioni amrywiaeth o ffactorau tymor hwy. Caiff hyn ei gydnabod yn Symud Cymru Ymlaen. At hynny, byddai cynnal amser mewn ysgolion yn helpu i fynd i’r afael â rhai o’r pryderon ynghylch cymdeithasoli, unigedd ac iechyd meddwl. Byddai'n galluogi plant a phobl ifanc i ddod i gysylltiad ag oedolion dibynadwy y tu allan i amgylchedd y cartref, sy'n un o'r ffactorau cydnerthu allweddol o ran profiadau ACE.

Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo cyllid o £29m dros 2 flynedd i gefnogi plant a phobl ifanc i 'ddal i fyny' ond nid yw'n hysbys eto pa mor llwyddiannus fydd hyn, yn arbennig i'r rhai sydd wedi ymddieithrio fwyaf a'r rhai nad ydynt yn mynd i’r ysgol.

Sefydlwyd y gronfa datblygiad plant, oedd tua £3.5m yn 2020/21, i ganolbwyntio'n benodol ar blant dan 5 oed. Bydd yn galluogi darparu cymorth ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru lle mae oedi neu oedi posibl, yn enwedig o ran lleferydd, iaith a datblygiad; sgiliau echddygol manwl a sgiliau echddygol bras a datblygiad cymdeithasol ac emosiynol. Yn ogystal, mae rhaglenni fel Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf, ochr yn ochr â'r cynnig gofal plant, yn parhau i gefnogi plant a phobl ifanc a'u teuluoedd.

[1] Cynhaliwyd arolwg Coronafeirws a fi am gyfnod o bythefnos ym mis Mai (deufis ar ôl cyflwyno'r cyfyngiadau symud cyntaf) – cafwyd mwy na 23,700 o ymatebion gan blant a phobl ifanc 3-18 oed. Arolwg ar-lein ydoedd yn bennaf, gyda rhai galwadau ffôn er mwyn sicrhau y gallai grwpiau anos eu cyrraedd gymryd rhan – dylid nodi nad oedd yn arolwg cynrychioliadol, ond mae'n darparu sylfaen o ymatebion y gallwn gyfeirio ati. Yn ôl UNICEF, nid oes yr un llywodraeth arall wedi cynnal unrhyw beth tebyg.

[2] Locke et al, 2002

[3] Achub y Plant 2016

[4] Law, 2010 

[5] Blanden, 2006 

[6] (Felitti et al., 1998).

[7] (Hughes et al., 2018)

[8] (Bellis et al., 2015a

[9] Ashton et al., 2016

[10] Hughes et al., 2018

[11] Bellis et al., 2017a; Chartier et al., 2010.

[12] Larkin et al., 2012; Leitch, 2017; Lomanowska et al., 2017

Pa rai o hawliau CCUHP sy’n llywio ein penderfyniadau?

Erthygl 1: Mae gan bob un dan ddeunaw oed yr hawliau sydd yn y Confensiwn hwn.

Erthygl 2: Mae’r Confensiwn yn gymwys i bob plentyn yn ddiwahân beth bynnag fo’i ethnigrwydd, ei ryw, ei grefydd, ei iaith, ei alluoedd neu unrhyw statws arall, beth bynnag y mae’n ei feddwl neu’n ei ddweud a pha fath bynnag o deulu y daw ohono.

Erthygl 3: Dylai pob sefydliad sy’n ymwneud â phlant weithio at yr hyn sydd orau i bob plentyn.

Erthygl 6: Mae gan bob plentyn hawl i fyw. Dylai llywodraethau ofalu bod plant yn goroesi ac yn datblygu’n iach.

  • Mae'r hawl i fyw yn fwy na chadw'n ddiogel rhag y feirws. Mae'n ymwneud â datblygu'n gymdeithasol, yn emosiynol, yn gorfforol, yn feddyliol ac yn ysbrydol.
  • Mae'r gallu i chwarae a gwneud ymarfer corff yn hanfodol i ddatblygiad corfforol plentyn a'i iechyd meddwl a'i les.
  • Dylai plant iau allu cymdeithasu – mae hyn yn bwysig i fabanod a phlant bach, yn ogystal â phlant oedran ysgol gynradd.
  • Nododd arolwg 'Babies-in-Lockdown' fod ychydig dros chwarter (28%) y rhai a oedd yn bwydo ar y fron yn teimlo nad oeddent wedi cael y cymorth yr oedd ei angen arnynt. Roedd dros hanner yr ymatebwyr yn bwydo ar y fron (55%), ond nid oedd hanner y rhai a oedd yn defnyddio llaeth fformiwla wedi bwriadu gwneud hynny (53%)

Erthygl 12: Mae gan blant yr hawl i ddweud eu barn ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, ac i’w barn gael ei hystyried.

  • Mae arolwg ‘Coronafeirws a Fi’ wedi rhoi cipolwg ar farn 23,700 o blant a phobl ifanc 3-18 oed a ddewisodd ymateb i’r arolwg ym mis Mai/Mehefin 2020. Nodir rhai o’r canfyddiadau isod. Dywedodd y plant y canlynol:
    • Roedd ganddynt bryderon ynglŷn â pha mor hir y byddai’r sefyllfa’n para ac ofnau y bydden nhw neu eu hanwyliaid yn dal y feirws. Roedd rhai yn teimlo eu bod yn cael eu cadw’n ddiogel ar adeg pan oedd niferoedd dyddiol y marwolaethau yn lleihau ac nad oedd y feirws yn effeithio cymaint ar blant. Mae’n bosibl eu bod yn teimlo’n wahanol nawr bod y cyfraddau heintio’n cynyddu ac y terfir ar eu bywydau eto. 
    • Roedd plant anabl yn fwy tebygol o boeni am y feirws ac roeddent yn poeni am ei ddal.
    • Y tri phrif beth yr oedd y rheolau aros gartref wedi effeithio arnynt ym marn pobl ifanc (12-18 oed) oedd 'methu gwario amser gyda fy ffrindiau' (72%), ‘ddim yn gallu gweld aelodau o fy nheulu’ (59%) ac ‘ysgolion a cholegau ar gau’ (42%)
    • Nododd pobl ifanc 12-18 oed bryderon am eu haddysg: dim ond 11% o’r ymatebwyr yn y grŵp oedran hwn a ddywedodd nad oeddent yn poeni am eu haddysg. Y prif bryder a fynegwyd ganddynt oedd y byddent yn mynd ar ei hôl hi (54%). Roedd ymatebwyr BAME yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn poeni am fynd ar ei hôl hi gyda’u haddysg.
    • Y prif rwystrau i ddysgu gartref oedd mynediad at ddyfeisiau electronig a phwysau yn amgylchedd y cartref. Nodwyd hefyd heriau penodol i blant ag anghenion dysgu ychwanegol.
    • Dim ond 17% o bobl ifanc oedd yn teimlo’n hapus bod arholiadau wedi cael eu canslo. Roedd pobl ifanc yn fwy tebygol o deimlo’n ansicr (51%) neu’n bryderus (18%). Hefyd, dywedodd pobl ifanc eu bod yn teimlo’n ddig (6%) ac yn drist (5%).
    • Dywedodd y mwyafrif o’r plant eu bod yn chwarae mwy na’r arfer (53%) gan ddisgrifio ystod eang o fathau o chwarae ar-lein ac all-lein, gan gynnwys chwarae yn yr awyr agored, chwarae dychmygol, chwarae â theganau neu gemau, chwaraeon, a chwarae creadigol. Roedd hyn yn ystod y cyfnod pan newidiwyd y rheoliadau i ganiatáu i blant fynd allan i chwarae a gwneud ymarfer corff yn fwy aml. Roedd plant BAME yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn chwarae llai.
  • Mae’n bwysig ein bod yn parhau i wrando ar blant a phobl ifanc a defnyddio eu hymatebion i lywio penderfyniadau allweddol sy’n effeithio arnynt. Roedd pobl ifanc yn gwerthfawrogi’r gallu i siarad yn uniongyrchol â Phrif Weinidog Cymru ym mis Hydref 2020 er mwyn iddo allu clywed eu barn. Gwnaethant ddweud:
    • Eu bod yn poeni'n fawr am gael eu hasesu a’u profi’n gyson yn yr ysgol
    • Eu bod yn ei chael hi’n anodd sicrhau cydbwysedd rhwng amser ar gyfer addysg ac amser ar gyfer y teulu yn y cartref
    • Eu bod yn ei chael hi’n anodd derbyn na allant gyfarfod â ffrindiau ysgol y tu allan i’r ysgol
    • Eu bod am weld yr un rheolau ledled Cymru gyfan
    • Eu bod am i wybodaeth fod yn hygyrch ac ar gael drwy’r sianeli cyfryngau a ddefnyddir ganddynt
    • Eu bod am gael mwy o gyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon wedi’u trefnu a mynychu clybiau ieuenctid wedi’u trefnu.

Erthygl 13: Mae gan blant yr hawl i leisio eu meddyliau a'u barn a chael a rhannu gwybodaeth ar yr amod nad yw’r wybodaeth yn niweidiol iddyn nhw nac i eraill.

  • Mae pobl ifanc wedi dweud eu bod am gael rhagor o wybodaeth sy’n berthnasol iddyn nhw, beth bynnag fo’u cefndir.
  • Mae angen inni sicrhau bod negeseuon yn briodol i ystodau oedran a lefelau dealltwriaeth gwahanol.
  • Dylai Gweinidogion siarad yn uniongyrchol â phlant a phobl ifanc er mwyn clywed eu barn a’u pryderon. Dywedodd pobl ifanc wrth Brif Weinidog Cymru nad oeddent prin yn gwylio’r teledu. Gwnaethant ofyn a oedd Llywodraeth Cymru yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Gwnaethant ddweud bod digwyddiadau’r wasg yn dueddol o gael eu cynnal amser cinio pan oeddent yn yr ysgol.

Erthygl 14: Mae gan blant yr hawl i feddwl a chredu’r hyn a fynnant ac i arfer eu crefydd, cyhyd ag nad ydynt yn cadw pobl eraill rhag mwynhau eu hawliau.

Erthygl 15: Mae gan blant yr hawl i gydgyfarfod ac i ymuno â grwpiau a sefydliadau, onid yw hyn yn cadw pobl eraill rhag mwynhau eu hawliau.

Erthygl 17: Mae gan blant yr hawl i wybodaeth ddibynadwy gan y cyfryngau torfol. Dylai teledu, radio a phapurau newydd roi gwybodaeth y gall plant ei deall ac ni ddylent hybu deunyddiau a allai niweidio plant.

  • Mae pobl ifanc wedi dweud eu bod am gael rhagor o wybodaeth sy’n berthnasol iddyn nhw, beth bynnag fo’u cefndir.
  • Mae angen inni sicrhau bod ein negeseuon yn briodol i ystodau oedran a lefelau dealltwriaeth gwahanol.
  • Dylem geisio cyrraedd plant a phobl ifanc drwy amrywiaeth o sianeli cyfryngau a gofyn iddynt am eu hadborth.

Erthygl 18: Rhaid i Lywodraethau roi cefnogaeth i rieni drwy greu gwasanaethau cymorth ar gyfer plant a rhoi’r help sydd ei angen ar rieni i’w magu eu plant.

  • Mae teuluoedd na fyddent fel arfer yn cysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol am gymorth wedi cysylltu am eu bod wedi cael trafferth gydag effaith y cyfnod clo a threfniadau ehangach oherwydd y pandemig ar fywyd teuluol. Mae ffynonellau cymorth yn cynnwys -
    • Magu plant. Rhowch amser iddo, lle gall rhieni ddod o hyd i wybodaeth, cyngor a chymorth
    • Teuluoedd yn gyntaf
    • VAWDASV – gwasanaethau cymorth, llochesi. Rydym wedi cynllunio ymgyrch gyfathrebu aml-gyfrwng wedi'i thargedu i redeg dros gyfnod y Nadolig a thu hwnt, sydd wedi'i haddasu ar gyfer lefelau'r cyfyngiadau yng Nghymru. Bydd negeseuon yn cael eu cyhoeddi o dan yr ymgyrch 'Ddylai neb deimlo’n ofnus gartre' i dynnu sylw at y ffaith bod gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr a theuluoedd ar gael ac y gall unrhyw un sy'n pryderu am eu lles/diogelwch eu hunain neu eu plant gael cymorth drwy linell gymorth 24 awr Byw Heb Ofn. Bydd yr ymgyrch hefyd yn tynnu sylw at y ffaith y gall eraill sy’n pryderu am les/diogelwch plant gael mynediad at y llinell gymorth.
    • Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant yn parhau i weithredu i ddarparu gofal a chymorth i blant a rhieni sydd â'r angen mwyaf.

Erthygl 19: Rhaid i Lywodraethau wneud popeth o fewn eu gallu i amddiffyn plant rhag bob ffurf ar drais, camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth wael gan eu rhieni neu unrhyw un arall sy’n gofalu amdanynt.

  • Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant yn dibynnu ar wasanaethau cyffredinol ac ataliol i nodi arwyddion risg o niwed neu gamdriniaeth a rhoi gwybod amdanynt. Roedd lleihad yn nifer yr atgyfeiriadau diogelu plant yn ystod y cyfnod clo cychwynnol.
    • Mae lefelau atgyfeiriadau diogelu wedi gwella ond pan ddychwelodd ysgolion i weithrediad llawn roedd yr achosion a atgyfeiriwyd yn fwy cymhleth. Nododd tuedd ddiweddar fod mwy o atgyfeiriadau dienw gan gymdogion/aelodau o'r gymuned yn poeni am blant.
    • Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant yn parhau i weithredu ac wedi cadw mewn cysylltiad â phlant sydd mewn perygl a'u teuluoedd. Mae natur ac amlder y cyswllt hwnnw wedi'i lywio gan asesiad risg sy’n cael ei adolygu’n rheolaidd.
    • Mae angen cefnogaeth asiantaethau partner ar y Gwasanaethau Cymdeithasol i gadw golwg ar blant ac ymateb i bwysau ar wasanaethau sy'n parhau’n weithredol drwy gydol y cyfnod ers mis Mawrth er mwyn cadw plant yn ddiogel.
    • Mae gwybodaeth i gefnogi'r broses o nodi a datgelu cam-drin plant wedi'i datblygu a chodi ymwybyddiaeth ohono ymhlit y cyhoedd, ymarferwyr a’r plant a'r bobl ifanc eu hunain.
    • Mae gwaith i gyflawni camau gweithredu o dan y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol wedi ailgychwyn ac mae’n mynd rhagddo’n dda.

Erthygl 21: dylai’r broses o fabwysiadu fod yn ddiogel, yn gyfreithlon a rhoi blaenoriaeth i fudd pennaf y plentyn.

  • Diogelu plant a sicrhau bod plant mewn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal yn cael eu cefnogi yw ein prif flaenoriaeth felly, nid ydym yn ystyried diwygio rheoliadau ar hyn o bryd fel y mae rhai gwledydd eraill wedi'i wneud. Mae adborth gan bartneriaid awdurdodau lleol yn cefnogi'r safbwynt hwn.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllawiau i helpu awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau plant. Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd ar sicrhau bod plant mewn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal yn parhau i gael y cymorth sydd ei angen arnynt a threfniadau iddynt gael cyswllt parhaus â theuluoedd lle bynnag y gellir cynnal hyn yn ddiogel.
  • Mae un eithriad. Yn dilyn trafodaethau â Phenaethiaid Gwasanaethau Plant, Comisiynydd Plant Cymru a rhanddeiliaid y Trydydd Sector, rhoddwyd hyblygrwydd dros dro i ofynion gweithdrefnol penodol ac amserlenni sy'n gysylltiedig â'r Cyfnodau yn y Rheoliadau, er mwyn sicrhau y darperir gwasanaethau'n gyson o fewn y sector mabwysiadu. 
  • Er mwyn cefnogi awdurdodau lleol i gynllunio ar gyfer adfer gwasanaethau arferol ar gyfer plant yn raddol. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Phenaethiaid Gwasanaethau Plant a rhanddeiliaid i ddatblygu Fframwaith Adfer. Mae'r Fframwaith yn nodi map ffordd realistig a chyson ar gyfer adfer gwasanaethau cymdeithasol plant; addasu i ffyrdd newydd o weithio a dysgu o'r profiadau cadarnhaol y mae'r cyfnod clo wedi'u cyflwyno. Mae'n nodi egwyddorion gweithio i helpu awdurdodau lleol i gynllunio mewn ffordd gyson ac ar gyflymder a bennir gan awdurdodau lleol unigol. Mae'r egwyddorion hyn yn canolbwyntio ar gefnogi blaenoriaethu gwaith a gwasanaethau, cynnal lles y gweithlu, darparu lleoliadau, cyswllt â phlant a theuluoedd ac thrafodaethau â'r Farnwriaeth.

Erthygl 23: Dylai plant sydd ag anabledd o unrhyw fath gael gofal arbennig a chefnogaeth fel y gallant fyw bywyd llawn ac annibynnol.

  • Mae rhieni plant ag anghenion ychwanegol wedi dweud eu bod yn teimlo eu bod wedi'u diystyru, a'u bod yn ansicr ynghylch ble i droi am help a chymorth.
  • Roedd plant a phobl ifanc anabl yn fwy tebygol o gyfeirio at yr effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl wrth ymateb i'r arolwg.
  • Mynegwyd pryderon am y gwaharddiad cyffredinol cychwynnol ar fynd allan i'r awyr agored mwy nag unwaith y dydd – penderfynodd rhai rhieni dorri'r gyfraith er mwyn sicrhau y gallent roi'r 'gofal gorau' i'w plentyn.
  • Byddai negeseuon clir a syml am oddefebau posibl yn helpu teuluoedd â phlant a phobl ifanc ag ADY. 

Erthygl 24: mae gan bob plentyn yr hawl i’r iechyd gorau posibl.

Iechyd meddwl a gwaith lliniarol

  • Mae iechyd meddwl wedi bod yn bryder gwirioneddol i blant a phobl ifanc yn ystod y pandemig fel sy’n cael ei nodi gan amrywiol arolygon ac ymchwil gan gynnwys yr arolwg Coronafeirws a Fi, a'r trafodaethau a gynhaliwyd gyda phobl ifanc. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro arolygon cenedlaethol a rhyngwladol ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio'r wybodaeth fwyaf dilys a diweddaraf wrth wneud penderfyniadau.
  • Mae nifer o ffyrdd yr ydym, fel cenedl, yn ceisio rheoli'r risg o drosglwyddo'r coronafeirws gan gynnwys drwy ganllawiau penodol i'r boblogaeth gyffredinol am y mesurau pwysig y gall pob person eu cymryd; canllawiau ar gyfer gofal plant, ysgolion a cholegau; gofynion hunanynysu a'r cynllun lefelau rhybudd diweddaraf. Er bod yr holl bethau hyn yn bwysig er mwyn lleihau trosglwyddo, mae angen ystyried y niwed arall y gallai effeithiau'r camau hyn eu cael ar blant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys effeithiau anghymesur ar rai cymunedau gan gynnwys y teuluoedd mwyaf difreintiedig, Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a'r rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol.

Imiwneddio

  • Mae brechu plant yn rheolaidd yn hanfodol er mwyn sicrhau nad yw clefydau eraill yn ystod plentyndod yn ymledu ym mhob rhan o'r boblogaeth. Mae'r rhaglenni imiwneiddio hyn wedi parhau.
  • Mae cynnal rhaglenni imiwneiddio yn flaenoriaeth allweddol i ddiogelu iechyd y cyhoedd rhag heintiau y gellir eu hatal. Mae rhaglenni imiwneiddio plant wedi parhau fel gwasanaethau hanfodol yn ystod pandemig y coronafeirws, gyda sicrwydd priodol i rieni a mesurau rheoli heintiau ar waith.
  • Ysgrifennodd y Prif Swyddog Meddygol at bob meddyg teulu a bwrdd iechyd ym mis Mawrth i bwysleisio’r pwysigrwydd o barhau â rhaglenni imiwneiddio plant yn ystod yr ymateb i COVID-19 i ddiogelu iechyd y cyhoedd nid yn unig yn ystod y cyfnod hwn ond yn y dyfodol.
  • Ym mis Medi, anfonwyd llythyr ar y cyd at bob ysgol (drwy CLlLC) gan y Prif Swyddog Meddygol, y Prif Swyddog Nyrsio a'r Cyfarwyddwr Addysg, Llywodraeth Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd cynnal yr holl raglenni imiwneiddio, gan gynnwys y ffliw, ar hyn o bryd ac annog penaethiaid i gefnogi'r sesiynau hyn drwy ganiatáu mynediad i ysgolion yn unol â phrotocolau diogelwch.
  •  Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu adroddiadau misol ar imiwneiddio gwell i fonitro effaith COVID-19 ar y nifer sy'n manteisio ar imiwneiddiadau plentyndod arferol ledled Cymru. Mae data cyfredol yn dangos bod y nifer o blant ifanc a babanod sy'n cael eu himiwneiddio ar amser dros y saith mis diwethaf yn parhau i fod yn debyg i'r hyn yr oedd cyn y pandemig. Mae'r nifer sy'n manteisio ar frechu plant un oed wedi aros yn uwch na 95% ar gyfer pob brechiad (ac eithrio rotafeirws ar 94.0%, na ellir ond ei roi hyd at 24 wythnos oed).
  • Ataliwyd sesiynau imiwneiddio ysgolion ar gyfer plant hŷn ar ôl cau ysgolion ar 20 Mawrth 2020. Dechreuodd y dychweliad graddol i ysgolion ar 29 Mehefin 2020, gyda’r ysgolion yn ailagor yn llawn ar 1 Medi 2020. Mae'r nifer bresennol sy'n manteisio ar frechiadau a fydd yn cael eu rhoi yn 2019-20 yn is o’i gymharu â 2018-19. 14 ar yr un adeg y llynedd oherwydd ymyriadau pellach i amserlen yr ysgol. Mae sesiynau 'dal i fyny' yn cael eu trefnu i gynnig brechiadau cyn gynted â phosibl.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn monitro'r defnydd o'r holl raglenni imiwneiddio cenedlaethol yn ofalus gyda rhanddeiliaid allweddol y GIG i annog pobl i fanteisio arnynt a galluogi pobl i barhau i gael brechiadau'n ddiogel.

Erthygl 25: Os yw plentyn wedi'i leoli oddi cartref at ddibenion gofal neu resymau amddiffyn (er enghraifft, gyda theulu maeth neu yn yr ysbyty), mae ganddo'r hawl i adolygiad rheolaidd o'i driniaeth, y ffordd y mae'n derbyn gofal a'i amgylchiadau ehangach.

  • Cafodd y cyfnod clo effaith amlwg ar y trefniadau i blant mewn gofal gael cyswllt â'u teuluoedd. Fodd bynnag, cyhoeddwyd canllawiau gweithredol gennym ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Plant i nodi ein disgwyliadau o ran y ffyrdd y dylai cymorth i blant mewn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal barhau i ddigwydd mewn ffordd ddiogel. Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant wedi parhau i weithredu drwy gydol 2020.
  • Mae'r Canllawiau Gweithredol wedi'u diweddaru sawl gwaith i adlewyrchu trefniadau newidiol mewn ymateb i Covid-19. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar amser teulu (trefniadau cyswllt ar gyfer plant a'u teuluoedd).

Erthygl 26: Dylai’r Llywodraeth roi mwy o arian ar gyfer plant teuluoedd mewn angen.

  • Mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu teuluoedd sydd mewn tlodi drwy'r Gronfa Cymorth Dewisol, Prydau Ysgol Am Ddim, banciau bwyd, ac ati – mae angen i hyn barhau er mwyn sicrhau na fydd yr un plentyn yn llwgu.
  • Dywedodd y plant BAME a ymatebodd i'r arolwg eu bod yn fwy tebygol o ddweud bod angen help arnynt i sicrhau bod gan eu teulu ddigon o fwyd. Maent yn fwy tebygol o nodi arwyddion o ansicrwydd bwyd. Mae hyn hefyd wedi'i nodi gan randdeiliaid syn gweithio'n uniongyrchol gyda'r gymuned BAME.

Erthygl 27: Mae gan blant yr hawl i safon bywyd sy’n ddigon da i ddiwallu eu hanghenion corfforol a meddyliol. Dylai'r Llywodraeth helpu rhieni na allant fforddio darparu hyn.

  • Mae plant a phobl ifanc BAME yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tai gorlawn ac o ansawdd is, sy'n ei gwneud hi'n anos aros gartref a dysgu gartref.
  • Nododd plant a phobl ifanc BAME fod y cyfyngiadau wedi effeithio ar eu gallu i gadw'n iach yn gorfforol ac yn feddyliol, a bod prinder lle neu fyw mewn tai gorlawn wedi gwneud hyn yn anos.
  • Roedd plant a phobl ifanc anabl yn fwy tebygol o nodi effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl a bod cau gwasanaethau yn cael effaith fawr ar y ffordd roeddent yn teimlo.
  • Nododd adroddiad 'Babies-in-Lockdown’ fod bron hanner (47%) y rhieni wedi dweud bod eu baban wedi mynd yn fwy dibynnol arnynt. Dywedodd chwarter (26%) fod eu baban yn crio mwy na'r arfer. Roedd nifer y rhai a ddywedodd fod eu babanod yn crio mwy, yn strancio mwy ac yn fwy dibynnol arnynt na'r arfer ddwywaith yn fwy ymhlith y rhai ar yr incymau isaf na'r rhai ar yr incymau uchaf.
  • Nododd yr adroddiad hwn hefyd fod gan 6 o bob 10 o rieni bryderon am eu hiechyd meddwl.

Erthygl 28: Mae gan blant yr hawl i addysg. Dylai disgyblaeth mewn ysgolion barchu urddas dynol plant. Dylai addysg gynradd fod am ddim. Dylai gwledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn.

  • Roedd pobl ifanc yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn mwynhau peidio â mynd i'r ysgol neu fod yn well ganddynt ddysgu gartref os oeddent yn anabl.
  • Roedd ymatebwyr Du Cymreig neu Brydeinig 7-11 oed yn fwy tebygol o lawer o ddweud eu bod yn teimlo'n hyderus neu'n hyderus iawn am eu haddysg nag ymatebwyr Gwyn Cymreig neu Brydeinig.
  • Roedd ymatebwyr BAME yn fwy tebygol o lawer o ddweud eu bod yn poeni am fynd ar ei hôl hi gyda’u haddysg, ac yn poeni am ddechrau blwyddyn ysgol newydd neu ysgol newydd ym mis Medi.
  • Roedd plant a phobl ifanc BAME yn fwy tebygol o lawer o ddweud bod cau llyfrgelloedd wedi effeithio ar eu dysgu, a hynny ar draws yr ystodau oedran. Roedd plant 7-11 oed yn fwy tebygol o lawer o ddweud bod cau canolfannau cymunedol a methu â mynd allan i’r awyr agored wedi effeithio ar eu dysgu.
  • Mae anghenion digidol wedi ei gwneud hi'n anodd i rai plant gael gafael ar help a chymorth – gallai hyn fod am nad oes ganddynt gyfarpar TG neu am nad oes ganddynt ddigon o 'ddata' i fanteisio ar gyfleoedd dysgu ar-lein neu wasanaethau cymorth perthnasol. Roedd hyn yn wir i rai teuluoedd yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt yn ardaloedd Dechrau'n Deg. Mae angen inni sicrhau nad yw teuluoedd yn wynebu anfantais oherwydd tlodi a/neu ddiffyg TG a data. Dywedodd pobl ifanc wrth Brif Weinidog Cymru eu bod yn cael eu profi a'u hasesu'n gyson yn yr ysgol a bod y pwysau yn ormod. Hefyd, gwnaethant ddweud bod y rhai hynny a oedd yn cael eu haddysgu gartref yn teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl.

Erthygl 29: Dylai addysg ddatblygu personoliaeth a doniau pob plentyn yn gyflawn. Dylai annog plant i barchu eu rhieni, a’u diwylliant nhw ac eraill.

  • Mae pobl ifanc wedi mynegi pryderon am eu dyfodol eu hunain o ran cyfleoedd addysg a chyflogaeth.
  • Roedd ymatebwyr BAME yn llai tebygol o lawer o ddweud eu bod wedi bod yn dysgu sgiliau newydd nag ymatebwyr Gwyn Cymreig neu Brydeinig (ymhlith y grŵp oedran 7-11 oed), ond roeddent yn fwy tebygol o lawer o ddweud hyn nag ymatebwyr Gwyn Cymreig neu Brydeinig yn y grŵp oedran 12-18 oed.
  • Roedd ymatebwyr BAME yn fwy tebygol o lawer o ddweud eu bod wed bod yn darllen ac yn ysgrifennu (ymhlith y grŵp oedran 12-18 oed), ac yn coginio (ymhlith y grŵp oedran 7-11 oed) yn ystod y cyfyngiadau symud.

Erthygl 31: Mae gan blant yr hawl i ymlacio a chwarae, ac i ymuno mewn ystod eang o weithgareddau.

  • Roedd ymatebwyr BAME yn llawer llai tebygol o ddweud eu bod wedi bod yn gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored, ar draws y grwpiau oedran.
  • Roedd plant 7-11 oed BAME yn llawer llai tebygol o ddweud eu bod yn chwarae'n fwy aml nag o'r blaen. Dywedodd pobl ifanc wrth Brif Weinidog Cymru eu bod am gael mwy o gyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon wedi'u trefnu.
  • Hefyd, gwnaethant ddweud eu bod am gymryd rhan mewn prosiectau ieuenctid wedi'u trefnu

Erthygl 35: dylid amddiffyn plant rhag cael eu herwgydio, eu gwerthu neu eu symud yn anghyfreithlon i le gwahanol yn eu gwlad neu y tu allan iddo er mwyn ecsbloetio

  • Mae rhwydweithiau troseddu cyfundrefnol wedi addasu eu gweithrediadau drwy gydol y pandemig fel y gallant barhau i sicrhau enillion ariannol drwy ecbloetio plant.
  • Mae'r trydydd sector wedi adrodd bod plant a phobl ifanc wedi bod mewn mwy o berygl o fagu perthynas amhriodol ar-lein a chael eu hecsbloetio.
  • Mae gwybodaeth i gefnogi'r broses o nodi a datgelu cam-drin plant wedi'i ddatblygu a chodi ymwybyddiaeth ohono ymhlith y cyhoedd, ymarferwyr a’r plant a'r bobl ifanc eu hunain.
  • Rydym yn parhau i gysylltu â phartneriaid diogelu gan gynnwys yr heddlu ar y mater hwn a sefydlu cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Swyddfa Gartref.
  • Mae Gwasanaeth Gwarcheidwad Masnachu Plant Annibynnol yn parhau i weithredu ledled Cymru.
  • Rydym wedi parhau i ariannu MEIC, llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru ac wedi darparu cyllid pellach o £27,500.00 (ac eithrio TAW) i Pro-Mo Cymru i gefnogi'r gwaith o roi darpariaeth MEIC mewn ymateb i Covid-19, er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth MEIC yn gallu diwallu anghenion pobl ifanc yng Nghymru yn llawn ar gyfer yr ymateb uniongyrchol i Covid-19.

Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i roi tawelwch meddwl i blant?

Mae plant wedi bod yn teimlo'n bryderus, ac maent yn parhau i deimlo felly, ac mae ganddynt gwestiynau am sut y bydd y cyfyngiadau yn effeithio arnyn nhw, eu teuluoedd a'u dyfodol. Mae cyfathrebu uniongyrchol â phlant a phobl ifanc wedi'i groesawu. Mae hynny'n helpu plant i ddeall pam y gallant/na allant fynd i'r ysgol, gweld eu ffrindiau ac aelodau o'r teulu, neu gymryd rhan yn eu gweithgareddau arferol. Roedd pobl ifanc yn gwerthfawrogi'r amser yr oedd Prif Weinidog Cymru wedi ei roi i egluro'r rhesymau dros wneud y penderfyniadau hyn. Er mwyn cydymffurfio â'r CCUHP, rhaid inni barhau i ofyn am eu barn drwy'r cyfnod nesaf hwn.

Gallwn ddefnyddio'r ymgyrchoedd cyfathrebu presennol, a rhwydweithiau, i rannu gwybodaeth a chyngor â rhieni, er enghraifft ymgyrch Magu plant. Rhowch amser iddo, y gellir ei defnyddio i rannu negeseuon â rhieni; tudalen Facebook Dechrau'n Deg; ein Grŵp Gweithredu Arbenigol ar Rianta a'n Rhwydweithiau Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau'n Deg a Gofal Plant.

Gallai gwybodaeth a chyngor a rennir yn y ffordd hon gynnwys:

  • Sut y gall rhieni roi tawelwch meddwl i'w plant ac egluro'r hyn sy'n digwydd
  • Sut y gall rhieni gefnogi eu plant i barhau i fwynhau rhai o'u hawliau hanfodol, e.e. yr hawl i ymlacio a chwarae. O ran addysg, sianeli cyfathrebu addysg fyddai'n arwain, ond gallai rhwydweithiau rhieni ac ymgyrchoedd cyfathrebu gyfeirio, ac ati, a sut y gall plant gefnogi eu hiechyd meddwl eu hunain drwy ddulliau ar-lein.
  • Nodi gwasanaethau sy'n parhau ar agor – gwasanaethau plant, gwasanaethau iechyd, ac ati, a sut i gysylltu â nhw.
  • Darparu cwestiynau cyffredin hawdd eu darllen i blant a rhieni drwy ysgolion a cholegau
  • Ond mae bwlch amlwg yn y wybodaeth sydd ar gael i bobl ifanc, y sianeli a ddefnyddir, amseru'r wybodaeth a roddir iddynt a'u dealltwriaeth ohoni. Rhaid inni hefyd sicrhau y caiff ein gwybodaeth a'n negeseuon eu hysgrifennu mewn ffordd y gall plant a phobl ifanc ei deall.