Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r holl ddata yn y cyhoeddiad hwn wedi’u tynnu o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae’r cwestiynau yn yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth sy’n ymwneud â chymwysterau wedi cael eu diweddaru gan eu bod wedi’u seilio cynt ar hen fframwaith cymwysterau. Oherwydd hyn, ni ellir cymharu’r ystadegau a gyflwynir yma ar gyfer 2022 â blynyddoedd blaenorol. Mae rhagor o fanylion ynghylch hyn i’w gweld yn gwybodaeth am ansawdd.

Prif ganlyniadau

  • Yn 2022, dywedodd 8.3% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru, ar amcangyfrif, nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau.
  • Roedd gan 86.6% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru gymwysterau lefel 2 o leiaf. Roedd gan 66.8% gymwysterau lefel 3 o leiaf a 43.3% gymwysterau ar lefel 4 o leiaf.
  • Roedd cyfran uwch o wrywod heb unrhyw gymwysterau, o gymharu â benywod.
  • Yn gyffredinol, mae cyfran yr oedolion a chanddynt gymwysterau yn gostwng wrth i oedran gynyddu.
  • Mae lefelau cymwysterau yn uwch ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd nag yng Nghymru, o’u cymharu.

Ffigur 1: Lefelau cymwysterau uchaf oedolion o oedran gweithio, 2008 i 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae lefelau cymwysterau wedi codi’n gyson ers 2008, er bod toriad yn y gyfres rhwng 2021 a 2022 oherwydd diffyg cymharedd.

Lefel uchaf o gymhwyster sydd gan oedolion o oedran gweithio yn ôl blwyddyn a chymhwyster (StatsCymru)

[Nodyn 1] Ni ellir cymharu amcangyfrifon ar gyfer 2022 â blynyddoedd blaenorol o ganlyniad i newidiadau i’r cwestiynau am gymwysterau yn yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

[r] Mae amcangyfrifon ar gyfer 2020 a 2021 a gyhoeddwyd o’r blaen wedi cael eu hadolygu yn sgil ail-bwysoli’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

Mae’r datganiad yma yn cynnwys data ar gyfer un o’r dangosyddion lleisiant cenedlaethol (8: Y ganran o’r oedolion â chymwysterau ar y gwahanol lefelau yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol). Gweler Deddf Llesiant Cenedlaethol Dyfodol.

Mae dwy garreg filltir genedlaethol yn gysylltiedig â’r dangosydd cenedlaethol hwn. Un ohonynt yw ‘bydd 75% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru wedi cymhwyso i Lefel 3 neu uwch erbyn 2050’. Roedd amcangyfrif o 66.8% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru wedi cymhwyso i Lefel 3 neu uwch yn 2022. Mae’r ffigur hwn yn debygol o fod yn uwch nag a fyddai fel arall, yn dilyn y newidiadau a wnaed i’r cwestiynau ar yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth i adlewyrchu’r fframwaith cymwysterau presennol.

Darperir rhagor o wybodaeth am y dangosyddion cenedlaethol, y cerrig milltir cenedlaethol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar gael tua diwedd y cyhoeddiad hwn. Mae’r dadansoddiad sy’n ymwneud â’r ail garreg filltir genedlaethol – ‘bydd canran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau yn 5% neu'n llai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050’ – wedi’i gynnwys yn yr adran ar ddaearyddiaeth.

Lefelau cymwysterau uchaf, yn ôl nodwedd bersonol

Rhyw ac oedran

Mae’r isod yn dangos proffil cymwysterau ar gyfer pob oedran ochr yn ochr â phroffiliau cymwysterau pobl 18 i 24 a 60 i 64.

Ffigur 2a: Lefelau cymwysterau uchaf oedolion o oedran gweithio (18 i 64), yn ôl rhyw, 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 2a: Yn gyffredinol, amcangyfrifir nad oedd gan 9.1% o wrywod unrhyw gymwysterau yn 2022 o gymharu â 7.5% o fenywod. Mae benywod yn fwy tebygol o fod â chymwysterau ar lefel 4 neu uwch.

Lefel uchaf o gymhwyster sydd gan oedolion o oedran gweithio yn ôl rhyw, oedran a chymhwyster (StatsCymru)

Mae cyfrannau uwch o wrywod nag o fenywod sydd heb unrhyw gymwysterau yn y grwpiau oedran hyd at, ac yn cynnwys, y rhai 35 i 49 oed. Mae cyfran uwch o fenywod heb unrhyw gymwysterau yn y grwpiau oedran 50 i 59 a 60 i 64. Yn gyffredinol, mae cyfran yr oedolion sydd â chymwysterau yn gostwng wrth i oedran gynyddu.

Ffigur 2b: Lefelau cymwysterau uchaf oedolion 18 i 24 oed, yn ôl rhyw, 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 2b: Lefel 3 oedd fwyaf cyffredin fel lefel uchaf cymwysterau ymhlith y grŵp 18 i 24 oed. Roedd gan gyfran uwch o fenywod gymwysterau ar lefelau 3 i 6 ond roedd gan gyfran uwch o wrywod gymwysterau ar lefelau 7 ac 8, ac islaw lefel 3.

Lefel uchaf o gymhwyster sydd gan oedolion o oedran gweithio yn ôl rhyw, oedran a chymhwyster (StatsCymru)

Roedd y gyfran o oedolion o oedran gweithio a chanddynt gymhwyster lefel 2 o leiaf ar ei huchaf yn y grŵp oedran 18 i 24. Ar draws yr holl grwpiau oedran, gan y grŵp hwn hefyd oedd y gyfran ail uchaf a chanddynt gymhwyster lefel 3 o leiaf, ychydig yn is na’r rhai 25 i 34 oed.

Ffigur 2c: Lefelau cymwysterau uchaf oedolion 60 i 64 oed, yn ôl rhyw, 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 2c: Roedd lefel uchaf cymwysterau’r rhai 60 i 64 oed wedi’i ddosbarthu’r fwy cyfartal nag mewn grwpiau oedran iau. Roedd y cyfrannau uchaf ar gyfer gwrywod (26.2%) a benywod (28.6%) ar lefelau 4 i 6. Mae hefyd patrwm llai clir rhwng y rhywiau. Mae’r cyfrannau o’r gwrywod a’r benywod sydd heb unrhyw gymwysterau, a chanddynt gymwysterau is na lefel 2, a chymwysterau ar lefel 7 ac 8 yn debyg. Roedd cyfran uwch o fenywod â’u cymhwyster uchaf ar lefel 2 a lefelau 4 i 6, ond roedd cyfran uwch o wrywod â’u cymhwyster uchaf ar lefel 3.

Lefel uchaf o gymhwyster sydd gan oedolion o oedran gweithio yn ôl rhyw, oedran a chymhwyster (StatsCymru)

Ar draws y grwpiau oedran gweithio, y grŵp 60 i 64 sy’n cynnwys y gyfran uchaf o rai heb unrhyw gymwysterau. Y grŵp hwn hefyd sydd â’r nifer isaf a chanddynt gymwysterau lefel 3 o leiaf, a’r nifer ail isaf a chanddynt gymwysterau lefel 4 o leiaf (ar ôl y rhai 18 i 24 oed).

Anabledd

Ffigur 3: Lefelau cymwysterau uchaf oedolion o oedran gweithio, yn ôl anabledd, 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Mae pobl gydag anabledd (16.3%) yn fwy tebygol o fod heb gymwysterau na phobl heb anabledd (5.3%) ac yn llai tebygol o fod a chymwysterau uwch na lefel 2.

Ethnigrwydd

Ffigur 4: Lefelau cymwysterau uchaf oedolion o oedran gweithio, yn ôl ethnigrwydd, 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Mae oedolion o oedran gweithio sydd o gefndiroedd ethnig (ac eithrio lleiafrifoedd Gwyn) yn fwy tebygol o fod â chymwysterau ar lefelau 7 ac 8 nag oedolion Gwyn (gan gynnwys lleiafrifoedd Gwyn) o oedran gweithio, ond maent hefyd yn fwy tebygol o beidio bod â chymwysterau o gwbl a bod â chymwysterau is na lefel 2.

Y Gymraeg

Cofnodir lefelau cymwysterau uwch ymhlith siaradwyr Cymraeg nag ymhlith y rheini nad ydynt yn siarad Cymraeg. O’r rheini nad oeddent yn siarad Cymraeg, roedd 9.9% ohonynt heb unrhyw gymwysterau o gymharu â 3.6% o’r rheini oedd yn siarad Cymraeg.

Daearyddiaeth

Mae’r gyfran o oedolion o oedran gweithio a chymwysterau ar lefel addysg uwch neu gyfatebol (Lefel 4+) ar ei huchaf yn Sir Fynwy (61.3%), Ceredigion (55.7%) a Chaerdydd (53.3%).  Mae’r cyfrannau isaf ym Merthyr Tudful (24.3%) a Blaenau Gwent (26.8%).

Mae’r gyfran o oedolion o oedran gweithio heb gymwysterau ar ei huchaf ym Mlaenau Gwent (15.5%), Merthyr Tudful (14.9%) a Thorfaen (12.4%). Roedd y cyfrannau isaf ym Mhowys (3.3%) a Bro Morgannwg (3.8%).

Yr ail garreg filltir genedlaethol sy’n gysylltiedig â’r dangosydd cenedlaethol sydd wedi’i gynnwys yn y datganiad hwn yw ‘bydd canran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau yn 5% neu'n llai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050’. Ar hyn o bryd, mae canran yr oedolion o oedran gweithio sydd heb gymwysterau o gwbl yn is na 5% mewn tri awdurdod lleol - Powys, Bro Morgannwg a Sir Fynwy.

Darperir rhagor o wybodaeth ar y dangosyddion cenedlaethol, y cerrig milltir cenedlaethol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol tuag at ddiwedd y datganiad hwn.                  

Roedd lefelau cymwysterau yng Nghymru yn is nag yn Lloegr, yr Alban a’r DU yn ei chyfanrwydd, ond yn uwch nag yng Ngogledd Iwerddon a rhai o ranbarthau Lloegr.

Ffigur 5: Lefelau cymwysterau uchaf oedolion o oedran gweithio yng Nghymru a’r DU, 2008 i 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Mae lefelau cymwysterau ar draws y DU yn gyffredinol wedi bod uwch nag yng Nghymru yn gyson ers 2008, gyda chyfran ychydig yn llai heb unrhyw gymwysterau o gwbl ar draws y DU yn ei chyfanrwydd. Unwaith eto, mae toriad yn y gyfres rhwng 2021 a 2022 oherwydd problemau cymharedd.

Lefelau uchaf o gymhwyster sydd gan oedolion o oedran gweithio yn ôl gwlad yn y DU, rhanbarth a chymhwyster (StatsCymru)

[Nodyn 1] Ni ellir cymharu amcangyfrifon ar gyfer 2022 â blynyddoedd blaenorol o ganlyniad i newidiadau i’r cwestiynau am gymwysterau yn yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

[r] Mae amcangyfrifon ar gyfer 2020 a 2021 a gyhoeddwyd o’r blaen wedi cael eu hadolygu yn sgil ail-bwysoli’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

Roedd y bwlch rhwng Cymru a’r DU o ran oedolion o oed gweithio heb unrhyw gymwysterau yn 1.9 pwynt canran yn 2022 (Cymru’n uwch na’r DU). Roedd gan y DU gyfran uwch â chymwysterau lefel 2 o leiaf (bwlch o 1.6 pwynt canran), lefel 3 o leiaf (bwlch o 2.9 pwynt canran) a lefel 4 o leiaf (bwlch o 4.1 pwynt canran).

Statws cyflogaeth

Ffigur 6: Lefelau cymwysterau uchaf oedolion o oedran gweithio, yn ôl statws cyflogaeth, 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Yn 2022, dywedodd 22.0% o’r rheini a oedd yn ddi-waith neu’n economaidd anweithgar nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau o gwbl. Mae hyn yn cymharu â 4.8% o’r rheini a oedd mewn gwaith (diystyrwyd y rhai oedd mewn addysg lawn amser). Roedd gan gyfran uwch o lawer o'r rhai mewn cyflogaeth gymwysterau ar lefel 4 neu'n uwch o'i gymharu â'r rhai a oedd naill ai'n ddi-waith neu'n economaidd anweithgar.

Lefel uchaf o gymhwyster sydd gan oedolion o oedran gweithio yn ôl gweithgarwch economaidd a chymhwyster (StatsCymru)

Galwedigaeth

Mae unigolion a gyflogir mewn galwedigaethau proffesiynol yn fwy tebygol o fod â chymwysterau lefel 2 o leiaf na’r rheini mewn swyddi eraill. Yn 2022, roedd gan 98.6% o unigolion mewn galwedigaethau proffesiynol gymwysterau ar y lefel hon.

Lefel uchaf o gymhwyster sydd gan oedolion o oedran gweithio sydd mewn gwaith yn ôl galwedigaeth a chymhwyster (StatsCymru)

Nodiadau

Y cyd-destun polisi/gweithrediadol

Mae’r Datganiad Ystadegol hwn yn dangos y ciplun blynyddol o lefelau cymwysterau’r boblogaeth o oedran gweithio yng Nghymru.

Mae’r ystadegau’n cael eu defnyddio o fewn Llywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau mewn lefelau cymwysterau. Mae’r datganiad yma yn cynnwys data ar gyfer un o’r dangosyddion cenedlaethol (8: Y ganran o’r oedolion â chymwysterau ar y gwahanol lefelau yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol) a dwy garreg filltir genedlaethol gysylltiedig.

Mae’r ystadegau hyn, ynghyd â’r dangosydd cenedlaethol a’r cerrig milltir cenedlaethol wedi’u cynnwys yn benodol yn Cymru gryfach, decach a gwyrddach: cynllun cyflogadwyedd a sgiliau.

Y cefndir i’r Arolwg o’r Llafurlu/Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth

Mae’r ystadegau a ddangosir yn y Datganiad hwn wedi’u seilio ar ganlyniadau’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfer 2022. Cyflwynir rhagor o wybodaeth am y data a ddefnyddir yn yr adran gwybodaeth am ansawdd. Mae data o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, arolwg o aelwydydd a gyflawnir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar gael o 2004 ymlaen, a chyn hynny mae data cymaradwy ar gael o Arolwg blynyddol o Lafurlu Lleol Cymru ar gyfer 2001-2003.

Cyflwynir data yn y datganiad hwn ar gyfer oedolion oed gweithio 18 i 64 oed yn ôl eu hoedran ar ddechrau'r flwyddyn academaidd. Rhwng mis Ebrill 2010 a mis Tachwedd 2018 mae oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod yn raddol o 60 i 65. Yn unol â hyn, diwygiwyd diffiniad y gyfres ar gyfer oedran gweithio dynion a menywod o 18 i 64 oed, yn hytrach na'r diffiniad cynharach o 18 i 64 ar gyfer dynion a 18 i 59 ar gyfer menywod.

Dim ond o 2008 ymlaen y mae amcangyfrifon ar y sail hon ar gael, ac felly ni ellir cymharu'r ffigurau yn y datganiad hwn yn uniongyrchol â'r ffigurau sy'n seiliedig ar y diffiniad blaenorol.

Dyma’r prif ffigurau ar sail y diffiniad blaenorol o oedran gweithio (18 i 59/64) ar gael ar gwefan StatsCymru.

Ers cyhoeddi’r ystadegau hyn ddiwethaf, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ati wedi ailgalibradu pwysoliad setiau data’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth o fis Ionawr 2020 ymlaen.

Mae’r amcangyfrifon a gyhoeddwyd o’r blaen ar gyfer 2020 a 2021 wedi’u diwygio yn sgil y broses ail-bwysoli hon.

Diffiniadau

Ethnigrwydd

Er mwyn dadansoddi cymwysterau yn ôl ethnigrwydd, mae pobl mewn addysg amser llawn wedi cael eu heithrio. Gwnaethpwyd y newid hwn er mwyn cael gwared ar effaith myfyrwyr rhyngwladol sy’n cael addysg uwch yng Nghymru ac felly’n chwyddo’r gyfran sydd â chymwysterau Lefel 3+.

Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, lle cydnabyddir bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu i analluogi pobl sydd â nam neu gyflyrau iechyd neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.

Mae'r Arolwg Poblogaeth Flynyddol, sef ffynhonnell y data ar gyfer y datganiad hwn, yn Casglu data gan ddefnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (“nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu unigolyn i wneud hynny cynnal gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd ”). Nid oes modd cymharu ffigurau yn y datganiad hwn â'r rhai mewn datganiadau cyn 2015, a nododd y rhai a nododd anabledd cyfredol DDA neu anabledd sy'n cyfyngu ar waith.

Y Fframwaith Cymwysterau

O fis Ionawr 2022, cafodd y cwestiynau ynghylch cymwysterau yn yr Arolwg Llafurlu/Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth eu diweddaru fel eu bod yn unol â’r Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (RQF), gan ddisodli'r cwestiynau blaenorol a oedd wedi’u seilio ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (NQF). Mae effaith y newid hwn ar gymhared a chydlyniant yr ystadegau hyn yn cael ei egluro yn yr adran gwybodaeth am ansawdd.

Mae’r ddogfen 'Mapio'r cymhwyster uchaf i lefelau RQF ar gyfer dadansoddi ystadegol' hon yn rhestru’r cymwysterau sy’n cael eu cynnwys yn benodol yn holiaduron yr Arolwg Llafurlu/Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ac yn darparu manylion y lefel RQF y’u dyrannwyd iddi at ddibenion dadansoddiad ystadegol.

Mae gan RQF dair lefel mynediad, ac fe’u dilynir gan lefelau 1 i 8. Yng Nghymru, y fframwaith perthnasol yw Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (CQFW), meta fframwaith a gynlluniwyd i ddarparu gwell eglurder ynghylch y system gymwysterau yng Nghymru. Mae’r CQFW yn cynnal cysylltiadau â fframweithiau cymwysterau cenhedloedd eraill y DU. Mae lefelau CQFW yn cyd-fynd yn uniongyrchol â’r rhai a ddefnyddir yn yr RQF yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae alinio’r CQFW â’r fframweithiau eraill yn sicrhau bod cymwysterau’n gallu cael eu cymharu a’u cydnabod, gan olygu felly eu bod yn gludadwy a throsglwyddadwy i ddysgwyr a gweithwyr.

Gwybodaeth allweddol o ansawdd

Perthnasedd

Mae defnyddwyr allweddol yr ystadegau hyn yn cynnwys:

  • gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru
  • aelodau'r Senedd ac ymchwilwyr yn y Senedd
  • adrannau eraill y llywodraeth
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion

Cywirdeb

Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar samplau ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae data awdurdodau lleol yn destun mwy o amrywioldeb na data rhanbarthol.

Ymateb trwy ddirprwy

Os nad yw’r ymatebydd ar gael ar adeg y cyfweliad, mae’n bosibl y caiff cwestiynau eu hateb trwy ddirprwy gan rywun arall ar yr aelwyd. O ran gwybodaeth am y cymwysterau uchaf, mae oddeutu 62% o’r ymatebion yn dod o atebion yr ymatebydd ei hun. Cafwyd 26% oddi wrth briod neu bartner a chafwyd 12% oddi wrth ddirprwy arall.

Mae Adran 11 o Gyfrol 1 o Ganllaw Defnyddiwr yr Arolwg (SYG) o’r Llafurlu 2011 yn dangos canfyddiadau o astudiaeth ddilynol i roi prawf ar gywirdeb canlyniadau oddi wrth ddirprwyon.

Mae’r canlyniadau ar gyfer y math uchaf o gymhwyster sydd gan bobl yn dangos bod bron dau draean yn cyfateb gyda chyfeiliornad net sylweddol oherwydd i ddirprwyon tanddatgan cymwysterau. Fodd bynnag, roedd amrywiad eang yn safon yr ymatebion oddi wrth ddirprwyon. Mae’r amrywiad hwn yn nhermau perthynas y dirprwy â’r gwrthrych (roedd rhieni’n llawer gwell na gŵyr/gwragedd priod neu blant) a hefyd yn nhermau’r lefel a math o gymhwyster oedd gan bobl. Roedd y cofnodi’n llawer gwell i’r gwrthrychau hynny oedd â gradd (roedd 80% yn cyfateb) nag i’r bobl oedd â chymwysterau is neu alwedigaethol (roedd 30% yn cyfateb).

Diffyg ymateb

Cymerir y wybodaeth am gymwysterau uchaf o nifer o gwestiynau yn yr arolwg. Yn gyffredinol, roedd y cymhwyster uchaf yn anhysbys neu nid oedd modd ei ganfod ar gyfer 4% o’r ymatebwyr. Mae’r ymatebwyr hyn wedi cael eu heithrio o’r dadansoddiad yn y datganiad hwn.

Dyrannu cymwysterau ‘eraill’

Er y defnyddir cwestiynau yn yr arolwg i ddyrannu cymwysterau i lefelau’r RQF i’r graddau y bo hynny’n bosibl, ar gyfer rhai cymwysterau ‘eraill’ (y rhai nad ydynt yn cael eu nodi a’u mapio’n benodol i lefel yn yr arolwg) mae’r ymatebion wedi’u dosrannu i lefelau gan ddefnyddio cyfrannau sydd wedi’u sefydlu ers blynyddoedd lawer. Mae’r cymwysterau hyn wedi’u dosrannu ar draws lefelau RQF Islaw Lefel 2, Lefel 2 a Lefel 3 yn ôl y gymhareb 55:35:10.  Mae hyn yn barhad o agwedd ar y fethodoleg a ddefnyddiwyd cyn 2022, pryd y cafodd nifer o fathau eraill o gymwysterau heb lefel hysbys hefyd eu dosrannu ar draws gwahanol lefelau. Mae’r gyfran yn y categori hwn (3%) yn unol â blynyddoedd blaenorol.

Amseroldeb a phrydlondeb

Caiff y Datganiad Ystadegol hwn ei gyhoeddi'n flynyddol ym mis Ebrill ac mae'n cwmpasu'r flwyddyn flaenorol a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr.

Hygyrchedd ac eglurder

Caiff y Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn ei rag-gyhoeddi ac yna'i gyhoeddi ar wefan Ystadegau ac Ymchwil Llywodraeth Cymru. Mae'r holl ddata gwaelodol ar gyfer y datganiad hwn, ynghyd â datganiadau blynyddoedd blaenorol, ar gael ar wefan StatsCymru.

Cymaroldeb a chydlyniaeth

Does dim modd cymharu'r ystadegau a gyflwynir yma ar gyfer 2022 gyda'r blynyddoedd blaenorol oherwydd y newidiadau i’r cwestiynau am gymwysterau yn yr Arolwg Llafurlu/Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Mae'r cwestiynau wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r fframwaith cymwysterau presennol (RQF) ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon a mathau newydd o gymwysterau na chafodd eu nodi o'r blaen. Gwnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol newidiadau i'r cwestiynau hyn drwy ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig ac adrannau eraill o’r llywodraeth drwy Grŵp Llywio’r Arolwg Llafurlu.

Mae’n bosibl y gall y newidiadau arwain at nodi cymhwyster uchaf gwahanol ar gyfer unigolyn na phe byddai'r hen gwestiynau wedi'u gofyn. Mae newidiadau i'r broses o fapio cymwysterau hefyd wedi effeithio ar yr ystadegau hyn. Er enghraifft, o dan y cwestiynau a oedd wedi’u seilio ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol, byddai un Safon Uwch neu 2-3 Safon UG wedi cael eu categoreiddio fel lefel 2. O dan y cwestiynau presennol, sydd wedi’u seilio ar y RQF mae'r rhain bellach yn cael eu categoreiddio fel lefel 3. Mae'r newidiadau hyn wedi arwain at wahaniaeth amlwg yng nghyfran yr ymatebwyr sydd â chymhwyster uchaf ar lefelau 2 a 3, yn arbennig.

Mae'n bosibl bod ystadegau a gyflwynir yn y datganiad hwn, yn enwedig ar gyfer 2020 a 2021, wedi cael eu heffeithio gan y pandemig coronafeirws (COVID-19). Effeithiodd y pandemig ar drefniadau arholi ac asesu, ac felly dyfarnu rhai cymwysterau, o Haf 2020 ymlaen. Mae’r ystadegau a gyflwynir yma yn ymwneud ag oedolion o oedran gweithio (18 i 64). Mae’n siŵr nad oedd llawer ohonynt yn gweithio tuag at ennill cymwysterau yn ystod y pandemig. Mae unrhyw effaith yn debygol o fod yn fwy ar gyfer grwpiau oedran iau.

Mae’n bosibl y bydd y ffigurau hyn yn wahanol i’r rhai a gyhoeddir o gyhoeddiadau ystadegol gan adrannau llywodraethol eraill oherwydd mân wahaniaeth yn y ffynhonnell a/neu fethodolegau wrth ganfod lefelau cymwysterau. Hefyd mae’n bosibl bod tablau eraill wedi’u seilio ar yr holl bobl o oedran gweithio (16-64) ond bod y datganiad hwn wedi’i gyfyngu i bobl 18-64 oed (oedolion o oedran gweithio).

Mae data ar gael hefyd o’r Cyfrifiad Poblogaeth ar lefelau cymwysterau uchaf. Rydym wedi cyhoeddi crynodeb o’r data ar gyfer Cymru o’r Cyfrifiad diweddar yn Addysg yng Nghymru (Cyfrifiad 2021). Nid oes modd cymharu’r ystadegau a gyhoeddir yn y datganiad hwn yn uniongyrchol â’r rhai o’r Cyfrifiad. Yn ogystal â’r dulliau gwahanol o gasglu data, mae’r ystadegau hyn wedi’u seilio ar oedolion o oedran gweithio (18 i 64 oed) tra bod rhai’r Cyfrifiad  yn seiliedig ar yr holl breswylwyr arferol sy’n 16 oed a throsodd.

Budd mwyaf data’r Cyfrifiad o’u cymharu â’r ystadegau hyn yw nad yw wedi ei seilio ar arolwg samplu. Mae hyn yn ei gwneud yn bosibl i ddadansoddi data o fewn awdurdod lleol, i lefel cymunedau, ac i groesdablu is-grwpiau bach o’r boblogaeth, gwaith nad yw’n bosibl drwy’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

Bydd data a dadansoddiad mwy manwl o addysg ar gael trwy offeryn 'create a custom dataset’ y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Mae cyfres o adroddiadau dadansoddi yn seiliedig, yn rhannol o leiaf, ar ddata addysg Cyfrifiad 2021 hefyd wedi'u cynllunio.  Darllenwch fwy am gynlluniau dadansoddi addysg yr SYG a'i gynlluniau rhyddhau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (y Swyddfa Ystadegau Gwladol) yn fwy cyffredinol.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws ein hystadegau cenedlaethol yn golygu bod ein hystadegau yn cyrraedd y safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus, a'n cyfrifoldeb ni yw sicrhau y cydymffurfir â'r safonau hyn.

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ceir eu dyfarnu fel statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoli Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried os ydy’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o gydymffurfiad â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ychwanegu i benderfyniadau a dadlau cyhoeddus.

Os ydym yn pryderu os yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu ar unrhyw bryd pan mae’r safonau uchaf heb eu cynnal, a’i ddyfarnu unwaith eto pan mae’r safonau yn cael eu hadfer.

Cynhaliwyd asesiad llawn o'r ystadegau hyn ddiwethaf ar sail y Cod Ymarfer yn 2011. Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac rydym wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • addasu'r amserlen gyhoeddi flynyddol i ryddhau'r data llawn ym mis Ebrill
  • darparu mwy o ddata sylfaenol drwy StatsCymru
  • cyhoeddi yn unol â'r diffiniad newydd o boblogaeth oedran gweithio (18 i 64) ond parhau i ddarparu'r data ar sail yr hen ddiffiniad (18 i 59/64) drwy StatsCymru

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016 ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys un o’r dangosyddion cenedlaethol sef:

  • (8) Y ganran o’r oedolion â chymwysterau ar y gwahanol lefelau yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf rhaid cyfeirio atynt yn y dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau lleol pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.

Mae’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid gosod cerrig milltir cenedlaethol a fyddai “...ym marn Gweinidogion Cymru, yn helpu i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyflawni’r nodau llesiant.” Wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bennu sut y gwyddom fod carreg filltir genedlaethol wedi'i chyflawni ac erbyn pryd y mae i'w chyflawni.

Nid yw cerrig milltir cenedlaethol yn dargedau perfformiad ar gyfer unrhyw sefydliad unigol, ond maent yn fesurau llwyddiant ar y cyd i Gymru.

Yn y datganiad hwn, mae dangosydd 8 – y ganran o’r oedolion â chymwysterau ar y gwahanol lefelau yn y Fframwaith Cymwysterau – yn cyfateb i ddwy garreg filltir:

  • bydd gan 75% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru gymwysterau ar lefel 3 neu uwch erbyn 2050.
  • bydd canran yr oedolion o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau yn 5% neu lai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Hoffem gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Anfonwch e-bost at ystadegau.addysgol16@llyw.cymru

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Jonathan Ackland
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 32/2023

Image
Ystadegau Gwladol