Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar sut i ddiogelu eich hun a pha reolau sydd yn eu lle i ddiogelu pobl yn lefel rhybudd 4.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyffredinol

Beth ydych chi’n ei olygu wrth “Lefel 4”?

Mae Lefel 4 yn golygu’r canlynol:

  • rhaid i bobl aros gartref, ac eithrio at ddibenion cyfyngedig iawn
  • ni chaiff pobl ymweld ag aelwydydd eraill, na chwrdd â phobl eraill nad ydynt yn byw gyda nhw
  • rhaid i nifer o fathau o fusnesau gau

Ar bob lefel, mae gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn orfodol mewn lleoliadau cyhoeddus o dan do sydd ar agor (yn amodol ar rai eithriadau ac esemptiadau), gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn tacsis, a rhaid i bobl hunanynysu pan fo gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG yn dweud wrthynt am wneud hynny.

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn dilyn y canllawiau hyn?

Mae'r rhan fwyaf o'r hyn a nodir yn y canllawiau hyn yn adlewyrchu gofynion yn y Rheoliadau, sydd yn gyfraith ac felly gall yr heddlu neu swyddogion gorfodi awdurdodau lleol eu gorfodi. Fodd bynnag, hyd yn oed os oes hawl i wneud pethau, rydym yn gofyn ichi feddwl am beth sy’n synhwyrol i’w wneud i ddiogelu eich teulu, eich ffrindiau a’ch cymuned yn hytrach na meddwl am yr hyn a ganiateir yn ôl y gyfraith. Diben symud i Lefel 4 yw gwneud popeth o fewn ein gallu i atal lledaeniad y coronafeirws, ac mae pob cyfraniad unigol yn cyfrif tuag at y nod hwnnw.

Os byddwch yn torri’r gyfraith, efallai y gofynnir ichi fynd adref neu byddwch yn cael eich danfon adref. Gallech orfod talu hysbysiad cosb benodedig o £60. Bydd hwn yn codi i £120 am yr ail drosedd ac yn parhau i godi os bydd rhagor o achosion. Am droseddau mwy difrifol, mae cosbau'n dechrau ar £500. Neu gellir cymryd camau troseddol yn eich erbyn. Ar ôl eich cael yn euog bydd rhaid ichi dalu dirwy.

Am ba hyd y bydd y mesurau hyn ar waith?

Bydd y mesurau cenedlaethol yn cael eu hadolygu o leiaf bob tair wythnos.

Pryd y bydda i’n cael y brechlyn?

Dechreuodd byrddau iechyd Cymru roi’r brechlynnau mewn canolfannau ar draws y wlad ddydd Mawrth 8 Rhagfyr. Bydd GIG Cymru yn rhoi’r brechlyn i bobl yn nhrefn eu risg clinigol. Pan fyddwch chi’n gymwys i gael y brechlyn, byddwch yn cael gwahoddiad i ddod i glinig pwrpasol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen y rhaglen frechu rhag y coronafeirws.

Aros gartref

Pryd gaf i adael fy nghartref?

Dim ond at ddibenion cyfyngedig iawn y dylech adael eich cartref, sy’n cynnwys:

  • i gael cyflenwadau a gwasanaethau i chi neu’ch aelwyd, er enghraifft bwyd, meddyginiaeth, a phethau hanfodol ar gyfer cynnal a chadw yn yr aelwyd.
  • i wneud ymarfer corff, ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o’ch aelwyd neu swigen gefnogaeth. Rydym yn eich annog i wneud hyn yn lleol.
  • i gael gofal plant ac addysg
  • i gael mynediad at wasanaethau meddygol
  • i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus
  • i dalu arian i mewn i fanc neu sefydliad tebyg, neu i godi arian
  • i ddarparu gofal neu gymorth i rywun agored i niwed, gan gynnwys nôl bwyd neu feddyginiaeth iddynt
  • i helpu’r GIG drwy roi gwaed
  • at ddibenion gwaith, neu at ddibenion gwirfoddol neu elusennol, ond dim ond pan nad yw’n ymarferol i wneud hyn o’ch cartref
  • i fynd i fynwent, claddfa neu ardd goffa i dalu teyrnged
  • i fynd i fan addoli
  • i fynd i briodas, partneriaeth sifil neu angladd os ydych yn cael gwahoddiad
  • i fynd i’r llys neu i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol eraill, neu i bleidleisio
  • i ddianc rhag risg o salwch neu anaf, fel ar gyfer dioddefwyr camdriniaeth ddomestig neu bobl sydd mewn perygl o ddioddef camdriniaeth ddomestig
  • i gael gwasanaethau a ddarperir i ddioddefwyr trosedd neu gamdriniaeth ddomestig neu rai sydd mewn perygl uniongyrchol o ddioddef yn sgil y pethau hyn.

Pan fyddwch yn gadael eich cartref, dylech geisio treulio cyn lleied o amser â phosibl y tu allan i’ch cartref, a sicrhau eich bod yn cadw o leiaf 2 fetr oddi wrth unrhyw un nad ydych yn byw gyda nhw, neu nad ydych mewn “swigen gefnogaeth” a ganiateir gyda nhw.

Beth os nad oes gen i gartref, neu os wyf yn byw mewn llety anaddas?

Dylai eich awdurdod lleol eich helpu i ddod o hyd i lety brys addas a’ch cefnogi os nad oes gennych gartref neu os ydych yn byw mewn llety anaddas. Mae ganddynt gyllid i gynorthwyo gyda hyn.

Os oes angen cymorth arnoch, dylech gysylltu â’r tîm opsiynau tai yn eich ardal leol. Bydd eu manylion cyswllt ar wefan eich awdurdod lleol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu Shelter Cymru i ddarparu cyngor a chymorth tai annibynnol. Mae gwybodaeth, cyngor a chymorth pellach ar gael ar wefan Shelter Cymru.

A ddylwn i gymryd camau gwarchod?

Dylai’r rhai sy’n Eithriadol o Agored i Niwed yn Glinigol ddilyn y cyngor a roddwyd iddynt, sydd i’w weld yn ein canllawiau ar warchod.

Y cyngor nawr yw na ddylech fynd i’ch gwaith na’r ysgol y tu allan i’ch cartref os ydych yn dod o fewn y grŵp hwn. Mae’r bobl sydd ar y rhestr o’r cleifion a warchodir wedi cael llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cadarnhau’r cyngor hwn.

  • dod i gysylltiad â chyn lleied o bobl â phosibl. Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o achosion yn rhai sy’n cael eu trosglwyddo o fewn y teulu a rhwng ffrindiau agos
  • cadw pellter o 2 fetr, neu 3 cham rhyngoch chi a phobl nad ydych yn byw gyda nhw o dan do neu yn yr awyr agored (lle caniateir hynny)
  • siopa ar adegau tawelach o’r dydd a mynd unwaith yr wythnos yn hytrach nag unwaith y dydd, os na allwch wneud hyn ar-lein
  • golchi’ch dwylo yn rheolaidd am 20 eiliad gyda sebon a dŵr a defnyddio hylif diheintio dwylo os nad oes cyfleusterau golchi dwylo ar gael
  • osgoi cyffwrdd eich wyneb
  • gwisgo gorchudd wyneb pan fo angen (oni bai eich bod wedi'ch eithrio neu os oes gennych esgus rhesymol i beidio â gwneud hynny, megis oherwydd anabledd penodol)
  • osgoi cyffwrdd arwynebau y mae eraill wedi’u cyffwrdd
  • sicrhau bod eich cartref wedi’i awyru’n dda
  • osgoi cyffwrdd arwynebau y mae eraill wedi’u cyffwrdd

Gweler ein canllawniau ar warchod i gael rhagor o wybodaeth.

Gweld pobl eraill

A gaf i gwrdd ag aelwyd arall?

Ar gyfer y rhan fwyaf o aelwydydd yr ateb fydd na chewch. Ni chewch gwrdd ag unrhyw un nad ydych yn byw gyda nhw, ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn fel rhoi neu dderbyn gofal (gweler yr ateb isod am gyfrifoldebau gofalu).

Os ydych yn oedolyn sy’n byw ar eich pen eich hun neu ar aelwyd ag un oedolyn cyfrifol, cewch ffurfio swigen gefnogaeth gydag un aelwyd arall. Bydd hyn yn eich galluogi i dreulio amser gyda phobl yn yr aelwyd honno fel pe baech yn byw gyda nhw.

Gweler ein canllawiau ar weld pobl mewn cartrefi preifat i gael rhagor o wybodaeth.

A fydd ffrindiau neu deulu o aelwyd arall yn cael dod i’m cartref?

Na, ac eithrio mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig iawn – gweler yr ateb uchod.

A oes rheolau gwahanol ynglŷn â phwy y caf i gwrdd â nhw o dan do ac yn yr awyr agored?

Nac oes. O dan gyfyngiadau Lefel 4, rhaid i bobl leihau pob cysylltiad corfforol rhwng aelwydydd i’r eithaf posibl, er mwyn gwneud popeth y gallwn i arafu lledaeniad coronafeirws.

A allaf gwrdd â rhywun os yw un neu'r ddau ohonom wedi cael y brechlyn Coronafeirws?

Na – mae'r rheolau yr un fath ar gyfer pobl sydd wedi cael y brechlyn ag ar gyfer pawb arall. 

A allaf gwrdd â rhywun os ydw i newydd gael prawf ac nad oedd gen i coronafeirws?

Na – mae'r rheolau yr un fath i chi ag i bawb arall. Hyd yn oed os nad oes gennych coronafeirws ar hyn o bryd, rydych yn parhau i fod mewn perygl o'i ddal oddi wrth bobl eraill ac yna ei drosglwyddo i eraill.

A gaf i ffurfio aelwyd estynedig?

Na chewch, ni chewch ffurfio aelwyd estynedig ar Lefel Rhybudd 4. Yr unig eithriad i hyn yw os ydych chi’n oedolyn sy’n byw ar eich pen eich hun neu ar aelwyd ag un oedolyn cyfrifol. Yn yr achosion hyn cewch ffurfio swigen gefnogaeth gydag un aelwyd arall.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn a olygir wrth ddweud un oedolyn cyfrifol, gweler ein canllawiau ar weld pobl mewn cartrefi preifat.

A yw’r rheolau’n wahanol os wyf i’n byw mewn Tŷ Amlfeddiannaeth (HMO) neu dŷ â chymorth?

Nac ydyn. Os ydych chi’n oedolyn sengl neu’n byw ar aelwyd ag un oedolyn cyfrifol o fewn cartref a rennir (Tŷ Amlfeddiannaeth neu HMO) mae’r un rheolau’n berthnasol; gallwch fod mewn swigen gefnogaeth gydag un aelwyd arall y tu allan i’r cartref a rennir. Mae hyn hefyd yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n byw mewn tai amlfeddiannaeth a phobl mewn tai â chymorth lle mae gan bobl denantiaethau unigol. Gweler y canllawiau ar fyw â chymorth i gael rhagor o wybodaeth.

Os ydych chi’n rhannu cyfleusterau fel ystafelloedd ymolchi neu geginau, dylech fod yn ymwybodol o’r risgiau cynyddol a chymryd camau pellach i leihau’r risg – gweler canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Rwy’n rhannu cyfrifoldeb rhieni am blentyn gyda rhywun nad yw’n byw gyda mi – a gaf i eu gweld nhw?

Os yw cyfrifoldeb rhieni’n cael ei rannu, caiff y trefniadau presennol barhau ac fe ganiateir i’r y plentyn symud rhwng y rhieni, ac felly rhwng aelwydydd y rhieni (ac unrhyw swigen gefnogaeth berthnasol).

Nid yw fy mhlentyn yn byw gyda mi ond mae trefniadau rheolaidd ar waith fel y gallwn barhau i gael cysylltiad â’n gilydd – a gaiff y trefniadau hyn barhau?

Cânt – ar gyfer plant nad ydynt yn byw yn yr un cartref â’u rhieni ac sydd â threfniadau yn barod i ymweld a chael cysylltiad yn ddiogel, caiff y trefniadau hyn barhau. Gallai hyn gynnwys plant mewn gofal maeth, cartrefi plant a lleoliadau mabwysiadu. 

Mae gennyf gyfrifoldebau gofalu ar gyfer rhywun nad yw’n byw gyda mi – a gaf i ymweld â nhw?

Rydych yn cael helpu neu roi gofal i rywun sydd ei angen, fel person hŷn, plentyn neu oedolyn agored i niwed, hyd yn oed os nad ydynt yn rhan o’ch aelwyd neu swigen gefnogaeth. Cewch hefyd ymweld â rhywun ar sail dosturiol os oes angen.

Wrth ystyried a oes angen ymweld â rhywun y tu allan i’ch aelwyd neu swigen gefnogaeth chi, yn enwedig o dan do, dylech gofio fod gan bob un ohonom gyfrifoldeb i adnabod y risgiau i ni ein hunain, ein teuluoedd, ein ffrindiau a’n cymuned yn sgil y feirws.

Mae angen i bobl farnu drostynt eu hunain beth sy’n rhesymol, yn unol â’r egwyddor gyffredinol honno. Dylech gadw mewn cof mai diben y cyfyngiadau yw atal lledaeniad y feirws, gan gynnwys i’r bobl yr ydym yn gofalu amdanynt.

A gaf i adael fy nghartref i ymweld â rhywun mewn cartref gofal?

Caniateir ymweliadau â chartrefi gofal am resymau tosturiol o dan lefel rhybudd 4, ond dylid cyfyngu ar yr ymweliadau hyn i ymweliadau yn yr awyr agored, neu ymweliadau mewn podiau ymweld neu fannau caeedig tebyg. Bydd yr ymweliadau hyn yn cael eu hatal os bydd achosion o COVID-19 yn y cartref.

Caniateir ymweliadau o dan do mewn amgylchiadau eithriadol gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddiwedd oes, fel yn ystod gweddill cyfnod y pandemig.

Y darparwr unigol sy’n cael penderfynu a fydd ymweliadau’n cael eu caniatáu, ac ym mha amgylchiadau. Ym mhob achos, mae angen i’r darparwr roi asesiadau risg priodol ar waith, yn ogystal â mesurau cadw pellter cymdeithasol a diogelwch, cyn caniatáu ymweliadau, a dylech gysylltu â nhw cyn teithio.

Beth ydych chi’n ei olygu wrth ‘sail dosturiol’?

Efallai fod gennych resymau tosturiol dros ymweld â rhywun o dan amgylchiadau eithriadol. Er enghraifft, efallai fod y person hwnnw'n cael trafferth gyda'r cyfyngiadau ar gwrdd ag eraill yn gyffredinol, yn dioddef o salwch corfforol neu feddyliol, wedi cael profedigaeth, neu eich bod yn pryderu am ei les yn gyffredinol.

Caniateir ymweliadau â lleoedd fel llety â chymorth, cartrefi plant neu ysbytai mewn amgylchiadau eithriadol, os yw’r lleoliad perthnasol yn caniatáu hynny. Ym mhob achos, mae’n rhaid i'r darparwr gwasanaeth sicrhau mesurau priodol o ran diogelwch a chadw pellter cymdeithasol cyn caniatáu ymweliadau. Dylech gysylltu â nhw cyn ichi deithio yno.

Sut allaf i ollwng nwyddau hanfodol yn ddiogel? 

Pan fyddwch yn gollwng nwyddau hanfodol, dylech 

  • leihau cysylltiad â phobl eraill cymaint ag y bo modd 
  • golchi eich dwylo cyn trin unrhyw nwyddau neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo os na fydd dŵr a sebon ar gael 
  • trefnu ymlaen llaw ymhle i adael y nwyddau, fel yn y cyntedd neu ar y stepen drws 
  • cadw pellter o ddau fetr o leiaf
  • ystyried gwisgo gorchudd wyneb 

Ni ddylech fynd i mewn i gartref yr unigolyn os nad oes wir angen. Os oes angen gwneud hynny, dylid rhoi camau lliniaru pellach ar waith. Er enghraifft, dylai pob drws gael ei agor i leihau’r angen i gyffwrdd ag arwynebau a dylid gwisgo gorchudd wyneb. 

Ni ddylech ollwng nwyddau hanfodol gyda rhywun arall os ydych yn hunanynysu

Rwy’n dibynnu ar fy nheulu estynedig a’m ffrindiau i ddarparu gofal plant pan fyddaf yn y gwaith. A ydynt yn cael gwneud hyn?

Ydynt, ond dim ond pan nad oes dulliau eraill ar gael y dylid defnyddio'r math hwn o ofal plant. Ni ddylid gofalu am blant y tu allan i’w cartref os ydynt yn sâl, ac ni ddylai unrhyw un sy’n sâl ofalu amdanynt.

Rwy’n rhiant i faban ifanc, ydw i’n cael trefnu swigen gefnogaeth?

Ar lefel rhybudd 4, rydym wedi atal y gallu i greu aelwydydd estynedig, a dim ond rhieni sengl neu aelwydydd sengl sy'n cael ffurfio swigen gefnogaeth gydag aelwyd arall.

Ond, hyd yn oed i'r rhai nad ydynt yn rhan o swigod cefnogaeth, mae ein rheolau'n caniatáu i rieni babanod gael cymorth gan eu teuluoedd (neu ffrindiau agos), os oes ei angen arnynt ac nad oes dewis rhesymol arall.

I helpu rhieni babanod newydd-anedig a phlant bach, mae ein rheolau'n caniatáu i drefniadau gofal plant anffurfiol gyda ffrindiau neu deulu barhau. Mae'r rheolau hefyd yn caniatáu cyfarfodydd gyda ffrindiau neu deulu os oes angen cymorth a chefnogaeth ychwanegol, ond dim ond os nad oes dulliau rhesymol eraill o ddarparu'r cymorth a’r gefnogaeth.

Er bod y cymorth ychwanegol hwn yn cael ei ganiatáu, allwn ni ddim pwysleisio digon mor ddifrifol yw’r sefyllfa o ran lledaeniad y coronafeirws yn sgil yr amrywiolyn newydd. Rydym yn gofyn i bawb feddwl yn ofalus am y peth mwyaf synhwyrol i'w wneud i ddiogelu eu teulu, eu ffrindiau a'u cymuned, yn hytrach na dim ond meddwl am yr hyn y mae'r gyfraith yn caniatáu iddynt ei wneud. Os oes angen help neu gefnogaeth ychwanegol arnoch gan deulu neu ffrindiau, ceisiwch wneud yn siŵr bod hyn yn cael ei gadw i’r nifer lleiaf posibl o bobl a’r nifer lleiaf posibl o gyfarfodydd.

Rydw i’n byw ar fy mhen fy hun neu'n rydw i’n rhiant sengl, felly mae gen i hawl i greu swigen gefnogaeth – a oes rhaid i hyn fod gydag aelwyd yn fy ardal leol?

Nid oes unrhyw reolau sy'n nodi bod rhaid i'ch swigen gefnogaeth fod gyda rhywun yn ardal eich awdurdod lleol, nac o fewn unrhyw bellter penodol i'ch cartref. Nid oes unrhyw reolau chwaith sy’n rhwystro creu swigod cefnogaeth gydag aelwydydd y tu allan i Gymru, ac rydym yn cydnabod efallai mai dyna fyddai’r dewis cywir ar gyfer pobl sy’n byw yn agos at y ffin, yn enwedig. 

Er hynny, rydym yn argymell bod swigod cefnogaeth yn cael eu ffurfio'n lleol lle bo hynny'n bosibl. Yn benodol, rydym yn gofyn i bobl feddwl yn ofalus iawn am ddewisiadau eraill posibl cyn ffurfio swigod cefnogaeth a fyddai'n golygu teithio helaeth neu deithio i ardaloedd y tu allan i Gymru lle mae’r achosion o’r coronafeirws yn uchel iawn.

Chwaraeon, ymarfer corff a gweithgareddau awyr agored

A gaf i adael fy nghartref i wneud ymarfer corff?

Cewch. Mae ymarfer corff yn bwysig ar gyfer iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Cewch adael eich cartref mor aml ag yr hoffech i ymarfer corff cyn belled ag eich bod yn gwneud hynny gan gychwyn o’ch cartref, ac ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o’ch aelwyd neu swigen gefnogaeth (a/neu ofalwr).

Pa fath o ymarfer corff a ganiateir?

Nid oes cyfyngiadau cyfreithiol ar hyn, ond yn ymarferol cyfyngir ar hyn gan gyfyngiadau eraill ar Lefel 4 megis cau canolfannau hamdden, campfeydd a phyllau nofio. Gan mai un o ddibenion y cyfyngiadau yw lleihau’r pwysau ar y GIG yng Nghymru, rydym hefyd yn gofyn i bobl osgoi gweithgareddau sy’n golygu cryn dipyn o risg (er enghraifft nofio neu ymarfer corff arall yn y môr, mewn llynnoedd, afonydd neu ddyfrffyrdd eraill).

A oes unrhyw gyfyngiadau ar ba mor bell y caf redeg neu feicio ar gyfer ymarfer corff?

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar y pellter y cewch ei deithio yn ystod ymarfer corff, er mai gorau oll eich bod yn aros yn agos at eich cartref. Dylech ymarfer ar eich pen eich hun neu gydag aelod o’ch aelwyd neu’ch swigen gefnogaeth. Rhaid i’ch ymarfer corff ddechrau a gorffen yn eich cartref, neu yng nghartref aelodau eich swigen gefnogaeth.

A yw cerdded yn cyfrif fel ymarfer corff?

Ydy. Mae'r holl amser a dreulir yn yr awyr agored yn fuddiol, cyn belled ag y bydd pobl yn osgoi rhyngweithio â phobl nad ydynt yn byw gyda nhw.

Rwy’n defnyddio cadair olwyn neu sgwter symudedd i fynd o un lle i’r llall. Os ydw i am fynd allan, ydy hyn yn cyfrif fel ymarfer corff?

Ydy. Mae’r holl amser a dreulir yn yr awyr agored yn fuddiol, cyn belled ag y bydd pobl yn osgoi rhyngweithio â phobl nad ydynt yn byw gyda nhw.

A gaf i ymarfer corff drwy fynd i bysgota neu farchogaeth ceffylau?

Nid yw hyn wedi’i wahardd yn benodol. Fodd bynnag, ni chewch yrru i rywle i wneud ymarfer corff ac nid yw'r angen i gario offer chwaraeon yn cael ei ystyried yn gyfiawnhad ar ei ben ei hun dros yrru o dan yr amgylchiadau hyn. Bydd hyn yn golygu'n ymarferol na all y rhan fwyaf o bobl wneud y pethau hyn am gyfnod byr yn ystod cyfyngiadau Lefel 4.

Mae'n rhaid i chi ymarfer corff ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o'ch aelwyd neu’ch swigen gefnogaeth.

A gaf i chwarae tennis neu golff?

Rhaid i glybiau tennis a golff gau yn ystod cyfyngiadau Lefel 4, a chyrsiau golff a chyrtiau tennis hefyd.

A gaf i fynd i hela?

Na chewch. Ni ddylai gadael eich cartref i gael ymarfer corff gael ei ddefnyddio fel esgus ar gyfer ymgymryd â gweithgarwch arall nad yw’n cael ei ganiatáu. Yr unig ddiben o adael eich cartref ddylai fod i gael ymarfer corff.

Mae helfeydd traddodiadol, fel helfeydd Dydd Gŵyl San Steffan, fel arfer yn golygu bod nifer mawr o bobl yn ymgynnull – ni chaniateir gwneud hynny ychwaith oherwydd bod risg sylweddol o drosglwyddo’r feirws i bobl eraill.

A yw parciau ar agor?

Caniateir i barciau aros ar agor ar gyfer ymarfer corff yn yr awyr agored. Gallwch fynd i barciau gydag aelodau o'ch aelwyd ond rhaid ichi beidio â threfnu i gyfarfod ag aelwydydd eraill.

Ond bydd rhai rhannau o barciau fel cyrtiau chwaraeon, parciau sglefrio, meysydd bowlio a chyrsiau golff (gan gynnwys gweithgareddau fel pytio a golff byr) ar gau.

A yw meysydd chwarae plant ar agor?

Ydyn. Mae chwarae yn yr awyr agored yn cynnig manteision sylweddol i blant ac mae cadw parciau a meysydd chwarae ar agor yn cefnogi iechyd a lles meddyliol a chorfforol y plant. Mae llai o risg o drosglwyddo coronafeirws yn yr awyr agored.

Fodd bynnag, ni ellir dileu’r risg yn llwyr, ac mae rhieni a gwarcheidwaid yn cael eu hannog i sicrhau nad yw meysydd chwarae'n mynd yn rhy brysur, a chymryd cyfrifoldeb dros gadw pellter cymdeithasol. Yn benodol, rhaid i chi beidio â threfnu i gyfarfod ag aelwydydd eraill mewn meysydd chwarae ac ni ddylech gymdeithasu yno.

Rydym hefyd yn annog golchi dwylo neu ddefnyddio hylif diheintio yn aml, peidio â bwyta nac yfed mewn parciau, glanhau offer gyda’ch cadachau eich hun, a sicrhau bod niferoedd isel o bobl yn y parc ac ar yr offer drwy gymryd eich tro neu ddefnyddio parciau ar adegau llai prysur.

A fydd plant yn cael chwarae y tu allan ar y stryd yn eu cymunedau?  

Byddant, os nad oes ganddynt fan arall lle gallant chwarae yn yr awyr agored, os yw'n ddiogel iddynt wneud hynny ac os cânt eu goruchwylio'n briodol gan oedolion. Mae chwarae yn yr awyr agored yn cynnig manteision sylweddol i blant, ac mae gallu chwarae y tu allan yn cefnogi iechyd a lles meddyliol a chorfforol y plant. Mae llai o risg o drosglwyddo coronafeirws yn yr awyr agored.

Gall plant chwarae y tu allan gydag aelodau o'u haelwyd neu swigen gefnogaeth eu hunain ond ni ddylent drefnu i gyfarfod â phlant o gartrefi eraill. Mae hyn yn berthnasol i rai dan 11 oed yn ogystal â rhai dros 11 oed. Pan fydd plant yn ddigon hen i ddeall y rheolau, dylid eu hannog i'w dilyn ac osgoi cymysgu â phlant eraill y tu allan i'w haelwyd neu swigen gefnogaeth.

Mae hyn hefyd yn berthnasol lle mae plant yn yr un 'swigen neu ddosbarth ysgol’, gan ei bod yn debygol y bydd mwy o reolaeth a threfn wrth iddynt chwarae yn yr ysgol, a llai o debygolrwydd o ddod i gysylltiad anfwriadol â phobl o'r tu allan i'r swigen. 

A gaf i yrru i rywle er mwyn gwneud ymarfer corff?

Dylid gwneud ymarfer corff yn lleol – o’ch cartref neu mor agos â phosibl at y cartref. Yn gyffredinol mae hyn yn golygu na chaiff pobl yrru i leoliad ymhell oddi cartref at y diben hwn. Ni ddylid teithio unrhyw bellter sylweddol, er enghraifft, dim ond er mwyn gwneud ymarfer corff yng nghefn gwlad neu mewn mannau prydferth. Nid canllawiau yn unig yw’r rhain – dyma’r gyfraith. Gall yr heddlu roi dirwy i bobl sy’n teithio y tu hwnt i’w hardal leol i fannau prydferth.

Mae’n bosibl, fodd bynnag, y gallai fod angen i bobl sydd â chyflyrau iechyd neu symudedd penodol deithio o’u cartrefi er mwyn gallu gwneud ymarfer corff. Er enghraifft, efallai na fydd rhai defnyddwyr cadeiriau olwyn yn gallu dechrau gwneud ymarfer corff yn union y tu allan i’w cartrefi am resymau mynediad ymarferol, ac efallai y bydd angen iddynt yrru i leoliad gwastad addas, fel parc, at y diben hwn. O dan yr amgylchiadau hyn dylai’r daith fod i’r lleoliad hygyrch cyfleus agosaf ac ni ddylid gwneud unrhyw siwrneiau hir oni bai bod hynny’n gwbl angenrheidiol.

Nid yw'r angen i gario offer chwaraeon yn cael ei ystyried yn gyfiawnhad ar ei ben ei hun dros yrru o dan yr amgylchiadau hyn.

A gaf i wneud pethau eraill pan fyddaf allan yn ymarfer corff?

Cewch, cyn belled â'u bod hefyd yn cael eu caniatáu, ac nad ydynt yn golygu ymgynnull gyda phobl o aelwydydd eraill y tu allan i’r "swigen" gefnogaeth a ganiateir. Ystyrir bod cyfuno gwneud ymarfer corff gyda mynd â’r ci am dro neu fynd i’r siop i brynu bwyd, er enghraifft, yn rhesymol.

Ni ddylid defnyddio gadael eich cartref i wneud ymarfer corff fel esgus i ymgymryd â gweithgaredd nad yw’n cael ei ganiatáu. Diben gadael y cartref yw i wneud ymarfer corff. Nid yw mynd am dro ac yna cael picnic neu dreulio cyfnod estynedig ar fainc yn y parc, er enghraifft, yn cael ei ystyried yn ymarfer corff ac ni fwriedir iddo fod yn esgus rhesymol.

Hunanynysu

Beth yw dyletswydd i hunanynysu?

Bydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i bobl sydd wedi cael prawf coronafeirws positif, neu sydd wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif, hunanynysu am 10 diwrnod pan fydd gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru yn dweud wrthynt am wneud hynny. Daw’r cyfarwyddyd hwn drwy gyfrwng galwad ffôn, neges destun neu e-bost. Gall peidio â gwneud hynny arwain at hysbysiad cosb benodedig neu erlyniad troseddol.

Rydym yn eich cynghori’n gryf i hunanynysu os cewch gyfarwyddyd gan ap COVID-19 y GIG. Fodd bynnag, nid oes dyletswydd gyfreithiol i wneud hynny oherwydd bod yr amddiffyniadau preifatrwydd ac anhysbysrwydd ar yr ap yn golygu nad yw'n casglu unrhyw fanylion personol.

Rydym yn eich cynghori’n gryf hefyd os oes gennych symptomau COVID-19, waeth pa mor ysgafn, y dylech ddilyn y canllawiau cyffredinol ar hunanynysu a threfnu i gael prawf (er nad yw hyn chwaith yn ddyletswydd gyfreithiol).

Beth yn union y mae hunanynysu yn ei olygu?

Hunanynysu yw pan ydych yn aros adref ac yn cyfyngu ar bob cyswllt diangen ag eraill y tu allan i'ch cartref. Mae hyn yn cynnwys peidio â mynd i weithio y tu allan i’ch cartref. Diben hyn yw sicrhau nad yw pobl sydd wedi cael prawf COVID-19 positif yn ei basio i’w ffrindiau, eu teulu a'u cymuned ehangach, gan gynnwys eu cydweithwyr yn y gwaith.

Rwyf wedi cael prawf coronafeirws positif. Am ba mor hir y bydd angen imi hunanynysu?

Os ydych wedi cael prawf coronafeirws positif ac yn gwybod pa bryd y dechreuodd eich symptomau, mae angen ichi hunanynysu nes y bydd o leiaf 10 o ddiwrnodau wedi pasio ers diwrnod cyntaf eich symptomau.

Ond os ydych wedi cael prawf coronafeirws positif ac na allwch roi gwybod i’r swyddogion olrhain cysylltiadau pa bryd y dechreuodd eich symptomau, neu os nad oes gennych symptomau, rhaid ichi hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl cael y prawf. Darllenwch y canllawiau Hunanynysu llawn.

Nid wyf wedi cael prawf coronafeirws positif ond mae’r swyddogion olrhain cysylltiadau wedi dweud wrthyf am hunanynysu. Am ba mor hir y bydd angen imi wneud hyn?

Bydd angen ichi hunanynysu am 10 diwrnod.

Os nad ydych yn byw gyda’r person sydd wedi cael prawf coronafeirws positif, mae’r 10 diwrnod yn dechrau o’r tro diwethaf y cawsoch gysylltiad agos â’r person hwnnw. Dylai swyddogion olrhain cysylltiadau roi gwybod ichi beth oedd y dyddiad hwn.

Os ydych yn byw gyda’r person sydd wedi cael prawf positif, mae’r 10 diwrnod yn dechrau ar y diwrnod pan wnaethant roi gwybod am eu symptomau. Neu, os nad oes ganddynt symptomau, mae’r 10 diwrnod yn dechrau o’r amser y cawsant y prawf.

Rwyf wedi cael cyfarwyddyd i hunanynysu – a oes unrhyw sefyllfaoedd lle gallaf adael fy nghartref o hyd?

Mae rhai eithriadau prin lle cewch adael eich cartref pan ydych yn hunanynysu:

  • i geisio cyngor meddygol brys, neu ar gais gweithiwr meddygol proffesiynol
  • os oes risg o niwed difrifol ichi, fel i osgoi camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol
  • i ddiwallu rhwymedigaeth gyfreithiol neu i gymryd rhan mewn achos llys, os na ellir gwneud hyn o gartref
  • am resymau tosturiol fel mynd i angladd aelod o’r teulu neu ffrind agos
  • i siopa am hanfodion, ond dim ond os nad oes unrhyw un arall a all wneud hyn ac na allwch gael danfoniad bwyd
  • i symud tŷ, os oes rhaid gwneud hyn gan nad yw bellach yn bosibl ichi aros yn eich cartref presennol
  • i gael gwasanaethau milfeddygol, os na all unrhyw un arall gludo’r anifail i gael y gwasanaethau hynny

Fodd bynnag, er bod gennych hawl i adael eich cartref at y dibenion hyn, dylech feddwl yn ofalus a oes dewis arall ar gael yn lle gwneud hyn.

Os oes rhaid ichi adael eich cartref ac nad oes gennych ddewis arall, yn yr holl achosion uchod, rhaid i chi fod i ffwrdd o’ch cartref am cyn lleied â phosibl o amser a dylech gymryd pob cam posibl i osgoi’r risg o ledaenu’r feirws. Mae hyn yn cynnwys cadw’r pellter mwyaf oddi wrth bobl, osgoi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a gwisgo gorchudd wyneb.

Pa gymorth sydd ar gael i bobl y mae’n rhaid iddynt hunanynysu?

Gall pobl ar incwm isel wneud cais i dderbyn taliad o £500 os ydynt wedi cael prawf coronafeirws positif neu os yw swyddogion Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru wedi gofyn iddynt hunanynysu gan eu bod wedi dod i gysylltiad agos gyda rhywun sydd wedi cael prawf coronafeirws positif neu os yw eu plentyn yn gorfod hunanynysu.

Mae’r taliad ar gael i bobl ar incwm isel nad ydynt yn gallu gweithio gartref ac a fyddai’n colli incwm o ganlyniad i hunanynysu. I fod yn gymwys, mae’n rhaid i bobl fod yn hunanynysu ac yn derbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-dal penodedig arall.

Mae’r cynllun Taliad Hunanynysu bellach yn fyw. Bydd pobl yn gallu gwneud cais am y taliadau ar wefan eu hawdurdod lleol a bydd y taliadau’n cael eu hôl-ddyddio i 23 Hydref. Gweler tudalen y cynllun cymorth hunanynysu i gael gwybod mwy.

Efallai y bydd pobl sy'n hunanynysu hefyd yn gallu cael cymorth gan fudiadau gwirfoddol yn eu hardal os nad oes ganddynt unrhyw ffrindiau neu deulu a all eu helpu i gael bwyd a hanfodion eraill.

Mae fy mhlentyn wedi cael cyfarwyddyd i hunanynysu. A oes dyletswydd arno i hunanynysu?

Bydd plant 16 ac 17 oed fel arfer yn cael cyfarwyddyd uniongyrchol gan wasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru. Yn yr amgylchiadau hynny bydd y plentyn yn cael ei drin fel oedolyn ac mae’n rhaid iddo hunanynysu yn unol â’r un rheolau.

Gyda phlant iau, rhiant, gwarcheidwad neu oedolyn cyfrifol arall a fydd yn cael gwybod bod angen i blentyn hunanynysu. Yn yr achosion hyn y rhiant, gwarcheidwad neu oedolyn cyfrifol sy'n gyfrifol am sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad i hunanynysu. Mewn rhai amgylchiadau, os yw rhiant, gwarcheidwad neu oedolyn cyfrifol yn cael gwybod am blentyn 16 neu 17 oed, bydd angen iddynt gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y plentyn yn hunanynysu.

Os oes rhaid i blentyn hunanynysu oherwydd ei fod wedi dod i gysylltiad â pherson o’r tu allan i’r cartref sydd wedi cael prawf COVID-19 positif, dim ond y plentyn hwnnw sy’n gorfod cwblhau cyfnod o hunanynysu (nid yr aelwyd gyfan).

A fydd rhaid i'm cyflogwr adael imi hunanynysu?

Bydd. Dylai cyflogwyr alluogi i unrhyw weithiwr sy’n gorfod hunanynysu wneud hynny. Mae'r canllawiau hunanynysu yn rhoi gwybodaeth am y dystiolaeth y gellir ei darparu i'ch cyflogwr yn cadarnhau'r gofyniad i chi hunanynysu.

A gaf i weithio gartref pan wyf yn hunanynysu?

Os ydych chi’n gallu gweithio gartref, rydym yn annog pobl i barhau i wneud hyn os yw’n bosibl, ac os ydynt yn teimlo’n ddigon da i wneud hynny. Dylai eich cyflogwr eich cefnogi i weithio gartref cymaint â phosibl pan ydych yn hunanynysu. Os na allwch weithio gartref, efallai y byddwch yn gymwys i gael taliad hunanynysu neu dâl salwch statudol oherwydd COVID-19 (ar GOV.UK).

Rwyf wedi cael y brechlyn coronafeirws – a oes angen i mi hunanynysu o hyd?

Oes – mae'r rheolau yr un fath i bobl sydd wedi cael y brechlyn ag i bawb arall.

Oes dal angen i mi hunanynysu os ydw i wedi cael prawf ac nad oedd gen i coronafeirws?

Oes – os yw gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru wedi dweud wrthych am hunanynysu, mae’n rhaid ichi wneud hynny am y 10 diwrnod llawn. Os ydych yn dal coronafeirws gan rywun, gall gymryd amser i chi ddatblygu'r feirws, a dyna pam mae hunanynysu yn bwysig.

Oes angen i mi hunanynysu os ydw i wedi cael coronafeirws o'r blaen?

Oes – mae'r rheolau yr un fath i bobl sydd wedi cael coronafeirws o'r blaen ag i bawb arall. Mae'n debyg bod gennych rywfaint o imiwnedd i coronafeirws, ond nid yw'n glir am ba mor hir y bydd yr imiwnedd hwnnw'n para. Felly, efallai eich bod yn dal i gario'r feirws ac mewn perygl o'i drosglwyddo i eraill.

Er ei fod yn brin, mae achosion yn bodoli o bobl yn cael eu hail-heintio â COVID-19. Yn gyffredinol, mai ail-heintio yn golygu bod person wedi cael haint, ac yna yn cael ei heintio eto yn ddiweddarach.

Gweithio

Beth yw'r rheolau ynghylch gweithio gartref?

Rhaid ichi weithio gartref os yw’n bosibl.

Fodd bynnag, gall pobl nad ydynt yn gallu gweithio gartref, ond sy'n gallu gweithio'n ddiogel yn eu gweithleoedd, wneud hynny, ar yr amod bod eu gweithle yn parhau ar agor.

Ein canllawiau i gyflogwyr yw na ddylai gweithwyr gael eu rhoi o dan bwysau i ddychwelyd i weithle os nad oes angen busnes clir iddynt wneud hynny. Dylai cyflogwyr sy'n ystyried ei gwneud yn ofynnol i'w staff ddychwelyd i weithleoedd asesu'n gyntaf a allai trefniadau amgen ddiwallu'r rhan fwyaf o anghenion y cyflogwr. Dylid trafod hyn â staff neu gynrychiolwyr staff.

Alla i ddim gwneud fy ngwaith gartref – a gaf i fynd i'r gwaith?

Cewch. Caiff galwedigaethau fel adeiladu a gweithgynhyrchu barhau, ar yr amod bod rheolau eraill yn cael eu dilyn, er enghraifft cyflogwyr yn sicrhau bod pob mesur rhesymol yn cael ei gymryd i atal lledaeniad y coronafeirws. Mae llawer o wasanaethau cyhoeddus hefyd yn dibynnu ar ddarpariaeth wyneb yn wyneb, a gall y rhain barhau lle bo angen.

Ni allaf wneud fy ngwaith gartref ond mae gennyf bryderon am fy iechyd a’m diogelwch yn y gwaith. Beth ddylwn i ei wneud?

Os oes gennych chi bryderon nad yw rheolau iechyd a diogelwch yn cael eu dilyn yn y gwaith, dylech drafod hyn gyda’ch cyflogwr i ddechrau. Os na allwch ddod o hyd i ddatrysiad, cysylltwch â’ch undeb llafur neu gofynnwch am gyngor gan Acas.

Os oeddech chi’n gwarchod eich hun yn flaenorol neu os ydych chi’n pryderu bod mwy o berygl ichi ddioddef symptomau difrifol, gallwch lenwi’r asesiad risg gweithlu COVID-19. Dylech drafod y canlyniadau gyda’ch cyflogwr a fydd efallai yn dymuno cymryd camau priodol. Dylech hefyd siarad gyda’ch cynrychiolydd undeb llafur os ydych yn aelod o undeb.

A gaf i wneud gwaith adeiladu, trwsio neu gynnal a chadw yng nghartref rhywun?

Caiff gwaith yng nghartrefi pobl, er enghraifft gan weithwyr, barhau cyn belled â'i fod yn cael ei reoli mewn ffordd ddiogel a bod y gweithiwr ac aelodau'r cartref yn iach ac nad oes ganddynt unrhyw symptomau coronafeirws. Bydd angen cadw pellter corfforol pryd bynnag y gallwch. Fodd bynnag, rydym yn argymell y dylai pobl ystyried gohirio'r gwaith nes y bydd y cyfyngiadau Lefel 4 wedi’u llacio, os yw’n ddiogel gwneud hynny.

Fel busnesau eraill, rhaid i bobl sy'n gweithio yng nghartref rhywun arall gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws wrth weithio yng nghartrefi pobl eraill. Gweler y canllawiau ar fesurau rhesymol ac ar weithio yng nghartrefi pobl eraill i gael rhagor o wybodaeth

Argymhellir hefyd na ddylai unrhyw waith gael ei wneud mewn cartref lle mae rhywun yn hunanynysu, heblaw i drwsio nam sy'n peri risg uniongyrchol i ddiogelwch pobl – er enghraifft, gwaith plymio brys neu wneud addasiad i alluogi’r preswylwyr i aros yn eu cartref. Os na ellir osgoi cael gweithwyr i’r tŷ (oherwydd sefyllfa frys neu argyfwng), dylid cymryd pob gofal ychwanegol i gadw’r gweithwyr ac aelodau’r cartref ar wahân yn llwyr. Mewn achosion o’r fath, gall Iechyd Cyhoeddus Cymru roi cyngor i weithwyr ac aelwydydd. Ond ni ddylai unrhyw waith gael ei wneud gan weithiwr sydd â symptomau coronafeirws, waeth pa mor ysgafn ydyn nhw.

Rwyf i wedi dechrau gwaith adeiladu, trwsio neu gynnal a chadw yng nghartref rhywun – a gaf i orffen y gwaith?

Caiff gwaith sydd ar y gweill barhau cyn belled â'i fod yn cael ei reoli mewn ffordd ddiogel a bod y gweithiwr ac aelodau'r cartref yn iach ac nad oes ganddynt unrhyw symptomau coronafeirws. Bydd angen cadw pellter cymdeithasol bob amser. Fodd bynnag, rydym yn argymell y dylai pobl ystyried gohirio'r gwaith, os yw’n ddiogel gwneud hynny.

A gaf i ddarparu cymorth mewn llety brys, llety â chymorth neu yng nghartref rhywun?

Gellir darparu gwasanaethau digartrefedd, gwasanaethau tai a chymorth wyneb yn wyneb, ond dylai darparwyr y cymorth sicrhau bod pob cam rhesymol yn cael ei gymryd i liniaru'r risg y bydd y coronafeirws yn lledaenu. Dylai darparwyr gwasanaethau hefyd ystyried a ellir darparu'r gwasanaeth dros y ffôn neu drwy alwad fideo.

A gaf i wneud gwaith gwirfoddol?

Cewch, er bod yn rhaid i chi wneud hynny o'ch cartref os yw hynny’n rhesymol ymarferol. Os ydych yn chwilio am fwy o gyfleoedd lleol i wirfoddoli, gallwch gysylltu â'ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol.

Gallwch hefyd fynd allan i ddarparu gofal neu gymorth i berson sy'n agored i niwed, gan gynnwys cymorth brys. Mae hyn yn cynnwys cael bwyd a meddyginiaethau ar eu cyfer. Ond mae'n bwysig nad ydych yn rhoi eich hun na'r person rydych chi'n gofalu amdano mewn perygl.

A oes rhaid i'm busnes gau o dan y cyfyngiadau newydd?

Rydym wedi cyhoeddi rhestr lawn o fusnesau y mae'n rhaid iddynt gau dros dro o dan gyfyngiadau Lefel 4.

Rydym yn cydnabod yr ymdrechion enfawr y mae busnesau wedi'u gwneud i wneud eu safleoedd yn ddiogel. Nid yw'r gofyniad hwn i gau yn adlewyrchiad o'r ymdrechion hynny, a dim ond risg isel neu gymedrol o drosglwyddo’r feirws sydd mewn llawer o safleoedd busnes. Ond ar Lefel 4, mae lleihau unrhyw gyfraniad at ledaenu’r feirws yn bwysig, a dyna pam mae angen i rai busnesau gau dros dro.

Rwy'n rhedeg busnes sy’n gorfod cau o dan gyfyngiadau Lefel 4. A oes unrhyw gymorth ar gael?

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £340m arall ar gael drwy'r Gronfa Cadernid Economaidd i gefnogi busnesau y mae'r newidiadau newydd i'r rheoliadau yn effeithio arnynt.

Mae'r cymorth hwn wedi'i rannu'n ddwy gronfa: y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau gwerth £160m a chynllun grant o £180m gan y Gronfa Cadernid Economaidd ar gyfer lletygarwch a thwristiaeth.

Bydd y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau yn galluogi busnesau cymwys yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden, sy'n talu ardrethi annomestig, i gael grantiau o hyd at £5,000.

Bydd busnesau nad ydynt ar y system ardrethi annomestig yn gallu parhau i wneud cais i awdurdodau lleol am Grant Dewisol y Cyfyngiadau o hyd at £2,000.

Yn ogystal, bydd busnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden yn gallu manteisio ar gynllun grant Cronfa Cadernid Economaidd sy'n benodol i'r sector.

Gallai busnesau bach a chanolig sy'n bodloni'r meini prawf dderbyn hyd at £100k. Yn dibynnu ar amgylchiadau, gall busnesau mwy yng Nghymru dderbyn hyd at uchafswm o £150k.

Mae rhagor o wybodaeth am y cynlluniau, gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd, ar gael ar wefan Busnes Cymru.

Gweler ein tudalennau ar gymorth ariannol i fusnesau i gael rhagor o wybodaeth

Rwy'n gweithio i fusnes a fydd yn gorfod cau/y mae'r rheoliadau hyn yn effeithio arno. A fydd cymorth ariannol ar gael i gefnogi fy swydd?

Bydd, dylai busnesau cymwys y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt gael mynediad i’r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU drwy'r Cynllun Cadw Swyddi (ar GOV.UK) a fydd nawr yn parhau tan ddiwedd mis Mawrth 2021.

A oes cymorth ar gael i bobl sydd wedi gweld lleihad yn eu hincwm, er enghraifft y bobl ar gontractau dim oriau?

Mae amryw o ddewisiadau cymorth ariannol ar gael os ydych yn cael llai o waith neu ddim gwaith o gwbl oherwydd COVID-19. Gallwch hefyd wneud cais drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol a gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Pa gymorth sydd ar gael i bobl hunangyflogedig a llawrydd?

Gall unigolion fod yn gymwys i hawlio cymorth ariannol drwy’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig (ar GOV.UK).

Gall unigolion llawrydd sy'n gweithio yn y sectorau diwylliannol a chreadigol yng Nghymru wneud cais drwy'r Gronfa Adferiad Diwylliannol.  

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi £25m i awdurdodau lleol ddarparu grant dewisol i fusnesau sydd ar gau neu y mae COVID-19 wedi cael effaith sylweddol arnynt 

Mae cymorth coronafeirws i fusnesau hefyd ar gael ar wefan Busnes Cymru.

Mae fy nghyflogwr wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru ond mae’n dileu swyddi yn awr. Beth ddylwn i ei wneud?

Bydd rhaid i unrhyw gyflogwyr sy’n cael arian gael Lywodraeth Cymru barhau i fodloni’r amodau sy’n berthnasol i’r cyllid hwnnw. Mae'r amodau hyn yn amrywio ac nid ydynt o reidrwydd yn atal cyflogwr rhag diswyddo pobl. Os ydych chi mewn perygl o golli eich swydd, dylech siarad â’ch undeb llafur, neu geisio cyngor pellach gan Acas ynglŷn â’ch hawliau pan fyddwch yn cael eich diswyddo 

Rwy’n byw yn Lloegr ond yn gweithio yng Nghymru, a gaf i deithio o hyd?

Mae unrhyw un sydd yng Nghymru, boed yn byw yma neu'n teithio yma, yn gorfod dilyn y rheolau hyn. Fodd bynnag, mae teithio i weithle yng Nghymru yn esgus rhesymol dros adael eich cartref. Yn yr un modd, caiff pobl sy'n byw yng Nghymru deithio i Loegr at ddibenion gwaith lle bo hynny'n angenrheidiol ac na allant weithio gartref.

Mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw reolau a all fod yn gymwys yn Lloegr. Darllenwch ganllawiau Llywodraeth y DU ar y cyfyngiadau yn Lloegr i gael rhagor o wybodaeth.

A gaiff busnesau ddarparu gwasanaeth dosbarthu nwyddau, hyd yn oed os ydyn nhw’n gorfod bod ar gau?

Cânt. Caiff busnesau ddarparu gwasanaeth dosbarthu ar-lein neu dros y ffôn yn unig, hyd yn oed os ydynt yn gorfod bod ar gau. 

A gaiff busnesau ddarparu gwasanaethau clicio a chasglu nwyddau, hyd yn oed os ydyn nhw’n gorfod bod ar gau?

Yn wahanol i'r cyfyngiadau symud cynharach, ar Lefel 4 gall pob siop a mathau eraill o fusnesau y mae'n ofynnol iddynt gau gynnig gwasanaeth "clicio a chasglu" neu wasanaethau tebyg. Er mwyn lleihau nifer y teithiau y mae pobl yn eu gwneud, dylid archebu'r holl nwyddau a gwasanaethau ymlaen llaw ar-lein, dros y ffôn neu drwy'r post.

Rhaid rhoi pob mesur rhesymol ar waith i sicrhau y cedwir pellter o 2 fetr rhwng pobl ar y safle, yn ogystal â phobl sy'n aros i fynd i mewn i'r safle. Gweler y canllawiau ar fesurau rhesymol i gael rhagor o wybodaeth.

Addysg a gofal plant

A fydd ysgolion yn aros ar agor o dan gyfyngiadau Lefel 4?

Bydd y penderfyniad i agor ysgolion cynradd ac uwchradd, neu beidio, ar gyfer dysgu wyneb o dan gyfyngiadau lefel 4 yn cael ei adolygu yn unol â’r dystiolaeth a’r wybodaeth wyddonol ac iechyd y cyhoedd ddiweddaraf. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ac ysgolion i gynllunio eu camau gweithredu.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am sut mae ysgolion yn gweithredu, gweler ein canllawiau ysgolion.

Rwy'n weithiwr allweddol – beth sy'n digwydd os bydd yn rhaid i ysgol fy mhlentyn gau dros dro?

Mae'n ofynnol i ysgolion sy'n cau am fwy na dau ddiwrnod am resymau'n ymwneud â coronafeirws sicrhau bod darpariaeth addysg ar gael ar y safle ar gyfer plant gweithwyr hanfodol o'r trydydd diwrnod ymlaen.

Fodd bynnag, os oes gan ysgol ddiwrnod HMS yna mae'r ysgol ‘ar gau’ i ddysgwyr. Felly, nid yw'r dyddiau hyn yn cyfrif fel diwrnodau y mae’r ysgol ar agor i ddysgwyr – naill ai o bell neu wyneb yn wyneb.

Mae gan fy mhlentyn anghenion dysgu ychwanegol – a oes cefnogaeth iddo os oes rhaid i'w ysgol gau dros dro?

Mae'n ofynnol i ysgolion sy'n cau am fwy na dau ddiwrnod am resymau'n ymwneud â coronafeirws sicrhau bod darpariaeth addysg ar gael ar y safle ar gyfer plant sy'n agored i niwed o'r trydydd diwrnod ymlaen. 

Fodd bynnag, os oes gan ysgol ddiwrnod HMS yna mae'r ysgol ‘ar gau’ i ddysgwyr. Felly, nid yw'r dyddiau hyn yn cyfrif fel diwrnodau y mae’r ysgol ar agor i ddysgwyr – naill ai o bell neu wyneb yn wyneb.

Rwy'n byw yng Nghymru ond yn teithio'n ddyddiol i Loegr i fynd i’r ysgol, y coleg neu'r brifysgol. A gaf i fynd yno o hyd?

Bydd. Os ydych yn mynd i ysgol, i goleg neu i brifysgol yn Lloegr, mae'n esgus rhesymol i deithio yno os nad oes modd ichi gael addysg ar-lein yn ystod y cyfnod hwn.

Mae hyn yn berthnasol hefyd i staff sy'n teithio i Loegr i ddysgu mewn ysgolion, colegau neu brifysgolion ac nad ydynt yn gallu gweithio gartref.  Ond bydd angen ichi gymryd sylw o unrhyw gyfyngiadau sydd ar waith yn yr ardal yr ydych yn teithio iddi yn Lloegr.

A gaf i deithio yn ôl i brifysgol yng Nghymru?

Mae teithio at ddibenion addysgol yn esgus rhesymol dros adael eich cartref. Mae hyn yn cynnwys symud i gyfeiriad arall yn ystod y tymor ac yn caniatáu i fyfyrwyr a staff deithio o’r cartref i’r brifysgol.

Byddai gennych esgus rhesymol i deithio o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon i Gymru ac fel arall os ydych yn teithio i gael addysg.

Fodd bynnag, ni ddylai myfyrwyr ddychwelyd i brifysgolion yng Nghymru nes y bydd eu prifysgol yn rhoi gwybod y dylent wneud hynny, ac y bydd dysgu wyneb yn wyneb yn ailddechrau.

Byddai’r cyfyngiadau cyfredol hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr rhyngwladol deithio i’r DU at ddibenion addysgol, er y byddai angen ichi ddilyn y rheolau cwarantin perthnasol ar ôl cyrraedd. Cysylltwch â’ch prifysgol cyn ichi gyrraedd.

Beth yw’r rheolau ynglŷn â dysgu mewn prifysgolion?

Gall prifysgolion barhau i ddarparu cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb a dysgu cyfunol o dan gyfyngiadau Lefel 4.

Gweler y canllawiau addysg uwch i gael rhagor o fanylion.

A oes disgwyl i fyfyrwyr prifysgol sy'n byw oddi cartref ddychwelyd adref?

Rydym yn gofyn i bob myfyriwr sy'n byw yng Nghymru, a'n holl fyfyrwyr yng Nghymru sy'n byw y tu allan i Gymru, i’n helpu i ddiogelu Cymru drwy beidio â theithio’n rheolaidd rhwng y brifysgol a'r cartref.

Dim ond os yw'n gwbl angenrheidiol, er enghraifft ar gyfer gwaith, i ddarparu neu dderbyn gofal neu oherwydd pryderon am eich lles y dylech symud rhwng eich cyfeiriad tymor a'ch cyfeiriad cartref. Ni ddylech ddychwelyd adref am 'ymweliad' yn ystod y cyfnod hwn. Ni ddylech deithio adref os gofynnwyd i chi hunanynysu neu os oes gennych symptomau COVID-19.

Beth yw’r rheolau ar gyfer colegau?

Mae'r penderfyniad i agor colegau ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb o dan gyfyngiadau lefel 4 yn cael ei adolygu'n barhaus yn unol â'r dystiolaeth a'r wybodaeth wyddonol ac iechyd y cyhoedd diweddaraf.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am sut mae colegau'n gweithredu, gweler ein canllawiau ar gyfer colegau.

A fyddaf yn dal i allu defnyddio gwasanaethau gofal plant a chwarae o dan gyfyngiadau lefel 4?

Byddwch. Bydd gwasanaethau gofal plant yn dal i gael agor, gan gynnwys gofal dydd, gwarchod plant, sesiynol, crèche, darpariaeth y tu allan i'r ysgol/gwyliau a darpariaeth dechrau'n deg. Caiff nanis hefyd barhau i ddarparu gofal plant. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os oes rhaid i ysgolion gau. Gall gwersylloedd gweithgareddau llawn neu hanner diwrnod a ddefnyddir fel gofal plant aros ar agor hefyd yn ystod gwyliau'r ysgol.

Caiff plant barhau hefyd i fynychu darpariaeth gwaith chwarae wedi'i staffio, er enghraifft sesiynau chwarae mynediad agored.

Caiff pob darparwr gofal plant a gwaith chwarae, gan gynnwys gofal plant Dechrau'n Deg, aros ar agor a chynnig eu gwasanaethau arferol, gan gynnwys darpariaeth drwy wyliau’r ysgol. Mae hyn yn cynnwys darparwyr gofal plant a gwaith chwarae sy'n gweithredu ar safleoedd ysgolion, canolfannau cymunedol, addoldai, canolfannau hamdden a lleoliadau chwaraeon.

Darllenwch y canllawiau ar ofal plant a chwarae i gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r gwasanaethau hyn yn ystod lefel rhybudd 4.

Mae canllawiau ar gael i helpu lleoliadau gofal plant i sicrhau bod eu gwasanaethau'n ddiogel. Ni ddisgwylir i hyn newid ar unwaith, er y byddwn yn parhau i'w adolygu.

A yw teulu neu ffrindiau yn cael darparu gofal plant anffurfiol?

Ydynt, ond dim ond pan nad oes dulliau eraill ar gael y dylid defnyddio'r math hwn o ofal plant. Ni ddylid gofalu am blant y tu allan i'w cartref os ydynt yn sâl, ac ni ddylai unrhyw un sy'n sâl ofalu amdanynt. Ni ddylai oedolion sy'n mynd â’u plant i gael gofal fynd i mewn i dŷ neb arall. 

A oes hawl i gynnal gweithgareddau a chlybiau i blant?

Nac oes (oni bai eu bod yn cael eu darparu ar-lein). Ni chaniateir i aelwydydd gymysgu yn ystod cyfyngiadau Lefel 4 ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig. Ni chaniateir unrhyw gynulliadau dan do nac yn yr awyr agored. Mae hyn yn cynnwys pob math o weithgareddau fel grwpiau Sgowtaid, grwpiau rhiant a phlentyn a dosbarthiadau dawnsio. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith na ddylai neb, gan gynnwys plant, fod yn treulio amser gyda phobl nad ydynt yn byw gyda nhw oni bai bod hynny’n hanfodol.

Gall clybiau a ddefnyddir fel gofal plant, fel gofal plant yn ystod y gwyliau neu ofal plant cofleidiol, barhau.

Darllenwch y canllawiau ar ofal plant a chwarae i gael rhagor o wybodaeth.

A yw llyfrgelloedd yn cael agor o dan gyfyngiadau Lefel 4?

Mae llyfrgelloedd ar gau; fodd bynnag, gallant ddarparu gwasanaethau clicio a chasglu a danfon i gartrefi. Caiff llyfrgelloedd ysbytai a llyfrgelloedd mewn sefydliadau addysg aros ar agor.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

A gaf i ddefnyddio gwasanaethau iechyd o hyd?

Mae GIG Cymru yma o hyd i'ch helpu os oes angen gofal arnoch, ac mae'n bwysig eich bod yn parhau i fynychu apwyntiadau ac yn gofyn am help ar gyfer materion meddygol brys. Cewch adael eich cartref i ddefnyddio gwasanaethau iechyd lleol, gan gynnwys eich meddygfa, eich deintydd, eich optometrydd neu unrhyw wasanaeth iechyd arall (gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl). Os bydd eich apwyntiad yn newid, bydd eich bwrdd iechyd neu'ch gweithiwr iechyd proffesiynol yn cysylltu â chi. Mae cyngor ar wasanaethau sy'n dal i weithredu ar gael ar wefan eich bwrdd iechyd neu'ch ymddiriedolaeth.

Rydym yn eich cynghori i ddilyn unrhyw ganllawiau sydd gan eich meddygfa, eich deintydd, eich optometrydd neu'ch gwasanaeth iechyd lleol i'ch amddiffyn chi a'r staff, gan gynnwys yr angen i gadw 2 fetr oddi wrth gleifion eraill wrth aros i gael eich gweld a gwisgo gorchudd wyneb (os nad ydych wedi eich eithrio).

Os oes gennych symptomau coronafeirws, peidiwch ag ymweld â’ch meddyg teulu, ysbyty, fferyllfa, deintydd nac optometrydd. Dylech hunanynysu ar unwaith a threfnu prawf coronafeirws. I gael rhagor o wybodaeth, defnyddiwch wiriwr symptomau GIG Cymru.

A gaf i ymweld â rhywun yn yr ysbyty?

Fe’ch cynghorir chi i gysylltu â'r bwrdd iechyd neu'r ymddiriedolaeth i gael gwybodaeth leol cyn ymweld â rhywun yn yr ysbyty.

Ein blaenoriaeth gyntaf yw atal a rheoli heintiau yn ein lleoliadau gofal iechyd.  Pwrpas hyn yw sicrhau iechyd, diogelwch a llesiant cleifion, staff ac ymwelwyr.

Mae'r Canllawiau Ymweld ag Ysbytai yn ystod Coronafeirws yn nodi'r llinell sylfaen i Fyrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau a darparwyr gofal hosbis ei dilyn ar gyfer ymweld yng Nghymru yn ystod y pandemig. Mae gan ddarparwyr gofal iechyd hyblygrwydd i wyro oddi wrth y Canllawiau mewn ymateb i'r amodau yn lleol.

A gaf i ymweld â rhywun mewn cartref gofal?

Ni ddylid cynnal ymweliadau arferol (o dan do nac yn yr awyr agored) yn ystod y cyfyngiadau Lefel 4. Fodd bynnag, caniateir ymweliadau â chartrefi gofal mewn amgylchiadau eithriadol yn ystod y cyfnod hwn. Mae hynny’n cynnwys ymweliadau diwedd oes, ymysg amgylchiadau eraill.

Rydym yn gofyn i ddarparwyr cartrefi gofal sicrhau bod trefniadau priodol a sensitif yn cael eu gwneud i gefnogi ymweliadau o’r fath. Dylid trafod yr ymweliad a chytuno arno gyda'r cartref gofal ymlaen llaw cyn teithio.

A gaf i weld fy ngweithiwr cymorth o hyd?

Cewch weld eich gweithiwr cymorth o hyd. Ond, dylai gwasanaethau cymorth ystyried a oes modd darparu cymorth dros y ffôn neu fideo. Os caiff cymorth ei ddarparu wyneb yn wyneb, dylai'r darparwr cymorth sicrhau bod hynny’n cael ei wneud mewn modd diogel, gan gadw pellter cymdeithasol a darparu cyfarpar diogelu personol os oes angen.

Siopa a gwasanaethau personol

Pa siopau sy'n cael agor ar Lefel 4?

Mae’n rhaid i holl leoliadau hamdden a manwerthu nad yw’n hanfodol fod ar gau. Mae hyn yn cynnwys siopau dillad, siopau dodrefn a gwerthwyr ceir ymysg llawer o rai eraill. Mae rhestr lawn o’r mathau o fusnesau sy’n gorfod cau ar gael yn ein canllawiau ar gau busnesau.

Bydd siopau y mae'n ofynnol iddynt gau yn cael darparu gwasanaethau clicio a chasglu neu ddosbarthu i gartrefi.

Mae siopau sy’n cael aros ar agor yn cynnwys archfarchnadoedd a manwerthwyr bwyd eraill, fferyllfeydd, banciau a swyddfeydd post. Fodd bynnag, lle bynnag y bo'n bosibl dylai pobl osgoi ymweliadau diangen â'r rhain, a defnyddio dulliau eraill fel gwasanaethau archebu ar-lein a danfon nwyddau. 

Pam mae rhai siopau ar gau a rhai ar agor?

Mae’n bwysig cofio mai nod y cyfyngiadau Lefel 4 hyn yw diogelu’r GIG ac achub bywydau. Cyflawnir hyn yn bennaf drwy bobl yn aros gartref cymaint ag y bo modd.  

Dylai pobl ystyried a oes angen iddyn nhw adael eu cartref. Mae’n amlwg bod llawer o resymau dilys dros adael eich cartref – prynu bwyd yw’r un mwyaf amlwg. Fodd bynnag, dylech wneud popeth yn eich gallu i adael eich cartref am y rheswm hwn cyn lleied â phosibl, a threulio cyn lleied o amser i ffwrdd o’ch cartref ag y bo modd. Dylech hefyd ystyried a oes opsiynau eraill ar gael fel gwasanaeth cludo i’r tŷ. Yn ogystal, os nad oes angen cynnyrch penodol arnoch, ni ddylech adael eich cartref i’w brynu. Mae gadael eich cartref heb esgus rhesymol yn drosedd.  

Ar gyfer y rhan fwyaf o siopau, ni fydd yr holl eitemau maen nhw’n eu gwerthu, neu y rhan fwyaf ohonyn nhw, yn eitemau sydd eu hangen ar frys, felly, yn anaml iawn y caniateir i bobl deithio i’r siopau hyn, os o gwbl. Yn yr amgylchiadau hyn nid yw caniatáu i’r siopau hyn agor yn gwneud synnwyr, gan y gallai gwneud hynny roi’r argraff anghywir i bobl y caniateir iddyn nhw adael eu cartref a mynd i’r siopau hynny.   

Pam mae rhannau o archfarchnadoedd ar gau?

Yn fras am yr un rheswm ag y mae rhai siopau ar gau. I leihau cysylltiad â phobl eraill cymaint ag y bo modd, dylai pobl wneud popeth yn eu gallu i adael eu cartref am y rheswm hwn cyn lleied â phosibl, a threulio cyn lleied o amser i ffwrdd o’u cartref ag y bo modd. Os nad yw’r cynhyrchion rydych am eu prynu yn hanfodol, ac nad oes eu hangen ar frys, ni ddylech wneud taith arbennig i’w prynu nhw. Dylech naill ai aros nes bydd y cyfyngiadau Lefel 4 wedi’u llacio neu ystyried defnyddio opsiynau eraill fel gwasanaeth cludo nwyddau i’r tŷ.

Hefyd nid fyddai’n deg caniatáu i archfarchnadoedd werthu cynhyrchion sy’n cael eu gwerthu gan fanwerthwyr eraill yr oedd yn ofynnol iddyn nhw gau. Am ei bod yn ofynnol i siopau sy’n gwerthu nwyddau trydan gau, ni ddylid caniatáu i archfarchnadoedd werthu’r nwyddau hyn.

Rwyf angen prynu rhywbeth sydd yn y siop – ond nid yw ar gael i’w brynu – beth allaf ei wneud?

Mewn amgylchiadau eithriadol, caiff siopau sy’n gwerthu llawer o fathau o gynhyrchion (fel archfarchnadoedd) werthu cynhyrchion eraill nad ydyn nhw’n cael eu gwerthu’n gyffredinol o dan gyfyngiadau Lefel 4. Rhaid i'r cynhyrchion hynny fod yn ofynnol mewn argyfwng neu ar sail dosturiol.

Bydd gan siopau unigol eu prosesau eu hunain ar gyfer rheoli hyn, a dylech ofyn yn y siop sut rydych yn cael mynediad at y cynhyrchion hyn. Dylech wybod hefyd nad oes rhaid i siopau hyn werthu’r cynhyrchion hyn ichi.

Pan fyddwch yn siarad â staff mewn siop, cadwch bellter cymdeithasol a’u trin â pharch. Mae’n bosibl y bydd staff am wirio a ydych yn ymwybodol o’r rheolau sy’n berthnasol yng Nghymru. Mae siopa yn yr amgylchiadau presennol yn brofiad anodd, ond cofiwch nad staff y siop sydd ar fai – dim ond gwneud yr hyn mae’r gyfraith a’u cyflogwyr yn ei ddisgwyl ganddyn nhw y byddan nhw. 

Mae hefyd yn bwysig cofio os nad yw eitem ar gael i’w phrynu yn gyffredinol, ni ddylech ofyn i’w phrynu mewn siop ond mewn amgylchiadau eithriadol, fel argyfwng, a dim ond yn yr amgylchiadau hynny y mae gennych esgus rhesymol dros adael eich cartref. Os ydych yn gallu trefnu i’r eitem gael ei chludo i’ch cartref, neu i gartref unigolyn arall mewn angen rydych yn ei phrynu ar ei gyfer, byddai hyn yn fwy diogel a dylech wneud hynny. Rydyn ni wedi gofyn i archfarchnadoedd flaenoriaethu cludo nwyddau ar gyfer pobl agored iawn i niwed (pobl a oedd yn eu gwarchod eu hunain yn flaenorol) fel nad ydyn nhw’n profi unrhyw oedi sylweddol wrth archebu nwyddau o archfarchnadoedd i’r cartref).

A fydd rhaid imi roi esboniad manwl o fy amgylchiadau personol er mwyn perswadio staff y siop i werth rhywbeth imi y mae ei angen arnaf ar frys?

Na fydd. Ni ddylai siopau ofyn am dystiolaeth i ddangos beth yw’r amgylchiadau eithriadau sydd wedi arwain at yr angen ichi brynu cynnyrch nad yw’n cael ei werthu’n gyffredinol. Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddan nhw’n gofyn ichi gadarnhau eich bod yn deall bod cyfyngiadau ac yn cydymffurfio â’r gyfraith. Fel cwsmer, ni ddylech brynu cynhyrchion mewn siopau nad ydyn nhw’n cael eu gwerthu’n gyffredinol os nad oes amgylchiadau eithriadol fel argyfwng. Chi sy’n gyfrifol yn hyn o beth.  

A fydd staff neu’r heddlu yn edrych ar y pethau yn fy nhroli i wirio a yw’r eitemau rwyf wedi eu prynu’n hanfodol?

Na fyddan. Ni ddylai hyn ddigwydd ac nid ydyn ni’n disgwyl iddyn nhw wneud hyn. Beth gan siopau unigol eu prosesau eu hunain ar gyfer trefnu i werthu pethau nad ydyn nhw’n cael eu gwerthu ond mewn amgylchiadau eithriadol, gan gynnwys cau rhannau o’r siop i’r cyhoedd. Mae hyn yn golygu na ddylai fod eitemau yn eich troli nad oes gennych ganiatâd i’w prynu. Fodd bynnag, mae gennych chi fel cwsmer gyfrifoldeb i beidio â cheisio prynu cynhyrchion nad ydyn nhw’n cael eu gwerthu ond mewn amgylchiadau eithriadol, fel argyfwng. Dylai siopau sy'n gwerthu nifer o eitemau, lle bo hynny'n rhesymol ymarferol, wahanu neu ddynodi ardaloedd sy'n gwerthu eitemau nad ydynt yn hanfodol.

Wrth ryngweithio ag aelodau staff cadwch bellter cymdeithasol a’u trin â pharch. Mae’n bosibl y bydd staff am wirio a ydych yn ymwybodol o’r rheolau sy’n berthnasol yng Nghymru. Mae siopa o dan gyfyngiadau Lefel 4 yn brofiad anodd, ond cofiwch nad staff y siop sydd ar fai – dim ond gwneud yr hyn mae’r gyfraith a’u cyflogwyr yn ei ddisgwyl ganddyn nhw y byddan nhw. 

Pa mor bell gaf i deithio i siopa am nwyddau o dan gyfyngiadau Lefel 4?

Arhoswch yn lleol i'ch cartref lle bynnag y bo modd. Nid oes rheolau penodol ar hyn, ond cynghorir pobl i osgoi teithio diangen ac osgoi mannau gorlawn lle bynnag y bo modd, yn enwedig o dan do. Dylid defnyddio dulliau eraill fel gwasanaethau archebu ar-lein a danfon nwyddau lle bynnag y bo modd.

Pa gyfyngiadau sydd ar waith ar werthu alcohol?

gorau i werthu alcohol am 10pm ac ni chânt ddechrau gwerthu alcohol eto tan 6am drannoeth. Ni ddylai archebion ar-lein sy’n cael eu dosbarthu gan archfarchnadoedd a darparwyr eraill gynnwys alcohol ar ôl 10pm. Bwriad y cyfyngiadau yw sicrhau nad yw archfarchnadoedd (ble bynnag mae eu gweithrediadau wedi'u lleoli) yn cyflenwi alcohol i gwsmeriaid yng Nghymru, yn y man derbyn, ar ôl 10pm. Dylai unrhyw fanwerthwyr sydd wedi'u lleoli yng Nghymru ond sy'n dosbarthu nwyddau i gwsmeriaid yn Lloegr ddilyn rheoliadau Lloegr.

Ydw i'n cael defnyddio gwasanaethau "clicio a chasglu"?

Ydych - os yw siop yn cael agor neu beidio, mae ganddi hawl i ddarparu gwasanaeth clicio a chasglu. Fodd bynnag, dylech gofio mai dim ond i wneud pryniannau angenrheidiol y cewch adael eich cartref a dylech gyfyngu eich teithiau gymaint â phosibl. Ni ddylech deithio'n bell ar gyfer gwasanaethau clicio a chasglu.

A gaf i fynd i siopa gyda fy ffrindiau?

Na chewch. Ni chaniateir cyfarfod â phobl o'r tu allan i'ch cartref neu swigen gefnogaeth i siopa.

A yw siopau trin gwallt a salonau harddwch yn cael aros ar agor?

Nac ydynt – mae’r gwasanaethau hyn wedi’u gwahardd o dan y cyfyngiadau Lefel 4.

A yw safleoedd gwastraff ac ailgylchu ar agor?

Ydynt. Mae’r rhain yn cael aros ar agor.

A yw siopau ffonau symudol yn cael agor?

Caniateir i siopau gweithredwyr ffonau symudol aros ar agor ar gyfer ymateb i ymholiadau ynglŷn â gwasanaeth ac i ddarparu cymorth i gwsmeriaid, er enghraifft gwaith i atgyweirio ffonau. Ni ddylent fod ar agor ar gyfer gwerthu nwyddau yn gyffredinol.

Fodd bynnag, ceir gwerthu nwyddau os yw’n golygu bod cwsmeriaid yn gallu cadw eu cysylltiad â’r rhwydwaith a chadw’n ddiogel. Gallai hyn gynnwys: gwasanaeth i ddarparu SIM newydd yn y fan a’r lle er mwyn i gwsmeriaid gadw eu cysylltiad â’r rhwydwaith, os na fydd eu cerdyn SIM yn gweithio mwyach; gwasanaeth cynnal ‘profion diagnostig a datrysiadau’ yn y fan a’r lle, os na fydd y feddalwedd yn gweithio mwyach; neu hyd yn oed rhoi credyd yn y fan a’r lle am gyfnewid hen ddyfais i gwsmeriaid sydd mewn sefyllfa fregus yn ariannol sydd angen dyfais newydd.

Rhaid rhoi trefniadau penodol ar waith i werthu cynnyrch o dan yr amgylchiadau hyn. O dan y trefniadau hynny, dylai fod yn ofynnol i gwsmeriaid wneud cais i gael prynu cynnyrch penodol, ac ni ddylent gael mynediad fel y dymunant at y cynnyrch yn y siop na chael pori drwy ystod o gynnyrch.  

Dylai fod gan siopau arwyddion priodol wrth y fynedfa i ddangos nad ydynt ar agor ar gyfer gwerthu cynnyrch yn gyffredinol ond ar gyfer cynnal gwaith atgyweirio a gwasanaethau hanfodol eraill.

Fodd bynnag, nid yw’n ofynnol i siopau ofyn am dystiolaeth gan gwsmeriaid sy’n dangos bod yr amgylchiadau hyn yn berthnasol. Mae’r cyfrifoldeb yn y sefyllfa hon ar y cwsmer i gydymffurfio â’r gyfraith drwy gael sail resymol dros adael eu cartref i brynu’r cynnyrch, ac nid ar y siop i brofi a oes angen y cynnyrch ar y cwsmer.  

A gaiff gwasanaethau cysylltiad agos aros ar agor?

Rhaid i'r rhan fwyaf o wasanaethau cysylltiad agos gau yn ystod Lefel 4. Mae hyn yn cynnwys tylino ac aciwbigo yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, tatŵs a gwasanaethau gwallt a harddwch.

Yr unig eithriadau i hyn yw pan fo atgyfeiriad i therapydd â chymwysterau clinigol ddarparu triniaethau meddygol ar gyfer salwch neu anaf.

Gweler y canllawiau ar gau busnesau i gael rhagor o fanylion.

Bwytai, caffis a thafarndai

A gaiff caffis, bwytai, tafarndai a bariau agor?

Caniateir i'r safleoedd hyn agor ar gyfer gwasanaethau cludfwyd yn unig. Ni cheir bwyta bwyd a diod yn y safle. Nid oes hawl i werthu diodydd alcohol rhwng 10:00pm a 6.00am. 

Bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith a bydd gofyn i staff wisgo gorchudd wyneb.

Y celfyddydau ac adloniant

Pa leoliadau adloniant sydd ar gau?

Rhaid i bob lleoliad celfyddydol ac adloniant gau. Maent yn cynnwys:

  • sinemâu (gan gynnwys sinemâu gyrru i mewn)
  • alïau bowlio
  • canolfannau chwarae meddal
  • parciau a chanolfannau trampolîn
  • canolfannau sglefrio
  • parciau a chanolfannau sglefrio dan do
  • amgueddfeydd
  • orielau
  • neuaddau bingo
  • casinos
  • arcedau diddanu
  • ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema
  • theatrau a neuaddau cyngerdd
  • clybiau nos
  • lleoliadau adloniant rhywiol

Gweler y canllawiau ar gau busnesau i gael rhagor o fanylion.

Pa atyniadau all agor a beth sy'n gorfod cau?

Rhaid i bob atyniad i ymwelwyr gau, boed dan do neu yn yr awyr agored. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft sinemâu, ffeiriau, parciau difyrrwch, parciau thema, amgueddfeydd, orielau, atyniadau addysgol ac atyniadau i ymwelwyr.

A ganiateir digwyddiadau gyrru i mewn?

Ni chaniateir digwyddiadau gyrru i mewn tra bod y cyfyngiadau Lefel 4 ar waith.

A ganiateir chwaraeon proffesiynol a chwaraeon elît?

Bydd chwaraeon proffesiynol a chwaraeon elît yn cael parhau. Byddai angen i unrhyw ddigwyddiadau chwaraeon nad ydynt yn broffesiynol gael eu hawdurdodi'n benodol gan weinidogion. Bydd gwylwyr yn cael eu gwahardd rhag mynychu digwyddiadau chwaraeon.

Teithio a thrafnidiaeth

A oes cyfyngiadau teithio ar waith yng Nghymru?

Oes. Mae teithio wedi'i gyfyngu i deithiau hanfodol yn unig, er enghraifft ar gyfer cyfrifoldebau gofalu neu at ddibenion gwaith lle na all pobl weithio gartref.

Rwy’n byw yng Nghymru - a gaf i fynd ar wyliau yng Nghymru neu i rywle arall?

Na chewch. Nid yw mynd ar wyliau yn un o’r esgusodion rhesymol dros deithio o dan y Rheoliadau Lefel 4, yng Nghymru nac i rywle arall.

Gwyddom y bydd hyn yn siomedig ond mae'r Rheoliadau ar waith i'ch amddiffyn chi a'ch anwyliaid rhag coronafeirws.

Os ydych wedi trefnu gwyliau ymlaen llaw – ac eisoes wedi talu – byddem yn eich cynghori i gysylltu â'r asiant neu’r cwmni teithio i drafod y sefyllfa bresennol yng Nghymru a'r cyfyngiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i gyfyngu ar deithio nad yw'n hanfodol. Dylech hefyd gysylltu â'ch yswiriwr teithio i drafod y sefyllfa – er bod sawl yswiriwr wedi llunio polisïau gyda chymalau eithrio o ran y coronafeirws, mae'n bosibl y bydd rhai polisïau blynyddol yn cynnwys y sefyllfa hon.

A gaf i deithio i weld fy swigen gefnogaeth?

Caniateir teithio yn ystod cyfyngiadau Lefel 4 at ddibenion cyfarfod â rhywun yn eich swigen gefnogaeth, gan gynnwys teithio dramor.

Dydw i ddim yn byw yng Nghymru, a gaf i deithio yno ar wyliau neu i ymweld â theulu a ffrindiau?

Mae teithio wedi'i gyfyngu i deithio hanfodol yn unig yn ystod y cyfyngiadau Lefel 4, er enghraifft teithio at ddibenion gwaith neu i ddychwelyd adref.

A gaf i fynd i faes awyr i ddanfon neu gasglu rhywun os ydynt yn teithio i Gymru am reswm sy’n cael ei ganiatáu?

Cewch, os mai'r unig ddewis arall fyddai iddynt ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu dacsi. Dilynwch y canllawiau ar deithio'n ddiogel.

A yw busnesau llety yng Nghymru yn cael agor?

Nac ydynt, mae’n rhaid i bob busnes llety fod ar gau.

Fodd bynnag, gall llety sydd ar gau barhau i ddarparu llety i unrhyw un sy'n byw yno fel ei brif breswylfa pan gyflwynir cyfyngiadau Lefel 4, neu unrhyw un sy'n aros yno bryd hynny ac nad yw'n gallu dychwelyd i'w brif breswylfa. Dylai busnesau llety sicrhau nad ydynt yn gwneud unrhyw un yn ddigartref yn anfwriadol o ganlyniad i gau. Os oes angen cyngor  arnynt dylent gysylltu â thîm opsiynau tai'r awdurdod lleol.

Gall Awdurdodau Lleol neu Weinidogion Cymru hefyd awdurdodi neu wneud cais i fusnesau llety ddarparu rhai gwasanaethau eraill tra byddant ar gau. Gallai hyn olygu, er enghraifft, lletya gweithwyr allweddol, pobl sydd wedi cael eu dadleoli neu sy'n ddigartref, neu gleifion meddygol.

Dydw i ddim yn byw yng Nghymru ond rydw i yma ar fy ngwyliau ar hyn o bryd. A oes angen i mi ddychwelyd adref os yw'r lle rwy'n aros ynddo o dan gyfyngiadau Lefel 4?

Oes, gofynnwn i chi ddychwelyd adref neu o leiaf adael yr ardal Lefel 4 cyn gynted â phosibl, yn ddelfrydol cyn i’r cyfyngiadau Lefel 4 ddechrau.

Rydym yn cydnabod na fydd rhai pobl yn gallu mynd adref cyn i'r cyfyngiadau Lefel 4 ddod i rym, er enghraifft am eu bod wedi archebu taith awyren ar ddyddiad na ellir ei newid. 

O dan yr amgylchiadau hyn, bydd angen ichi gydymffurfio â'r cyfyngiadau yn eich lleoliad presennol hyd nes y gallwch deithio adref neu i rywle arall y tu allan i’r ardal o dan gyfyngiadau Lefel 4, a dylech wneud hynny cyn gynted ag y bo modd. 

Yn yr achosion hyn, caniateir i'ch darparwr llety barhau i ddarparu ei wasanaethau ichi nes y gallwch ddychwelyd adref. Nid oes angen i’r darparwr gael caniatâd arbennig i adael ichi ddal i aros yno.

Rydw i’n byw mewn ardal lle nad oes unrhyw gyfyngiadau teithio – a gaf i fynd drwy ardaloedd Lefel 4, er enghraifft i ddefnyddio'r maes awyr neu i deithio rhwng Lloegr ac Iwerddon?

Cewch. Caniateir hyn, ond dylech stopio cyn lleied â phosibl yn yr ardaloedd Lefel 4 a lleihau’r cysylltiad â phobl gymaint â phosibl.

Rydw i’n byw mewn ardal Lefel 4 ond rydw i ar wyliau y tu allan i Gymru ar hyn o bryd. Pryd fydd angen imi ddod adref?

Dylech ddychwelyd adref cyn gynted ag y gallwch. Rydym yn cydnabod na fydd rhai pobl yn gallu dychwelyd adref cyn i'r cyfyngiadau Lefel 4 ddod i rym, er enghraifft am eu bod wedi archebu taith awyren ar ddyddiad na ellir ei newid. O dan yr amgylchiadau hyn dylech ddychwelyd adref cyn gynted ag y bo modd.

A gaf i deithio i'm hail gartref ac oddi yno yn ystod y cyfyngiadau Lefel 4?

Mae teithio yng Nghymru heb esgus rhesymol yn drosedd tra bod cyfyngiadau Lefel 4 ar waith. Nid yw teithio i Gymru, teithio allan o Gymru na theithio o fewn y wlad i ymweld ag ail gartref neu gartref gwyliau, i’w archwilio nac i aros ynddo yn esgus rhesymol.

Mae’r un rheolau’n berthnasol i garafannau, cychod a mathau eraill o leoedd aros dros dro.

Bydd angen i berchnogion carafannau drefnu gyda pherchnogion y safle i gadw eu carafannau dros y gaeaf ar ôl i’r cyfyngiadau Lefel 4 ddod i ben oni bai bod ystyriaethau pwysig o ran iechyd a diogelwch neu yswiriant. At ddibenion ymdrin â’r mater penodol yn unig y dylid teithio ar y seiliau eithriadol hyn, naill ai i garafán neu i ail gartref, ac am gyfnod sydd mor fyr â phosibl. Ni ddylai fod angen aros dros nos, felly, ar gyfer gwneud hyn.

A yw trafnidiaeth gyhoeddus yn dal i weithredu?

Mae gwasanaethau'n parhau, yn enwedig yn ystod oriau brig. Fodd bynnag, mae amserlenni bysiau a rheilffyrdd wedi’u lleihau ac mae’n bosibl y byddant yn cael eu canslo heb lawer o rybudd. Rhaid gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus. Edrychwch ar yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaeth cyn ichi deithio.

A gaiff tacsis barhau i weithredu?

Caiff tacsis barhau i weithredu os oes mesurau ar waith i liniaru'r risgiau sy'n gysylltiedig â rhannu cerbyd. Fodd bynnag, rhaid i bob siwrnai fod at un o'r dibenion cyfyngedig iawn a ganiateir o dan y cyfyngiadau Lefel 4. Rhaid gwisgo gorchudd wyneb mewn tacsis.

A gaf i drefnu i gael gwneud gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ar fy ngherbyd?

Cewch, os oes angen gwneud hyn ac na ellir ei ohirio'n rhesymol.

Disgwylir i'm MOT gael ei wneud – a oes rhaid i mi ei gael o hyd?

Oes, bydd angen tystysgrif MOT ddilys arnoch o hyd os bydd angen i chi ddefnyddio eich cerbyd ar gyfer teithio hanfodol.  

A gaf i rannu car gyda rhywun neu roi lifft iddynt?

Dylech osgoi rhannu car gyda pherson arall y tu allan i'ch aelwyd. Gallwch ddilyn y canllawiau hyn ar deithio'n ddiogel.

Alla i gael gwersi gyrru?

Na chewch - ni ddylid cynnal gwersi gyrru.

Mae gennyf brawf gyrru wedi'i drefnu ar gyfer car neu feic modur yn ystod y cyfnod hwn – a gaiff hyn ddigwydd?

Na – dylech aildrefnu eich prawf. Ar hyn o bryd, ni chodir tâl am aildrefnu eich prawf gyda’r DVSA.

Mae gennyf brawf theori wedi’i drefnu yn ystod y cyfnod hwn – a gaiff hyn ddigwydd?

Na – dylech aildrefnu eich prawf. Ar hyn o bryd, ni chodir tâl am aildrefnu eich prawf gyda’r DVSA.

Gorchuddion wyneb

Ble mae angen gwisgo gorchudd wyneb?

Rhaid gwisgo gorchudd wyneb ym mhob man cyhoeddus o dan do. Mae hyn yn cynnwys trafnidiaeth gyhoeddus a thacsis, a mannau sy’n gwerthu bwyd a diod tecawê. Mae hyn yn berthnasol i bawb sy’n 11 oed a throsodd, oni bai bod eithriad yn berthnasol. Nid oes rhaid i blant o dan 11 oed wisgo gorchudd wyneb.

Gweler ein canllawiau ar orchuddion wyneb i weld y rheolau ynghylch pryd y mae angen gorchudd wyneb a manylion am eithriadau. 

A oes modd i mi gael fy eithrio rhag gwisgo gorchudd wyneb? 

Nid oes rhaid i rai pobl wisgo gorchudd wyneb, ac mae nifer o sefyllfaoedd lle gall pobl dynnu eu gorchudd dros dro. Edrychwch ar ein canllawiau i weld a allech fod wedi’ch eithrio. 

A oes angen gorchudd wyneb mewn lleoliadau addysg a gofal plant?

Dylai dysgwyr a staff ysgolion uwchradd wisgo gorchuddion wyneb ym mhobman y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Dylai disgyblion ysgolion uwchradd hefyd wisgo gorchuddion wyneb ar gludiant i'r ysgol a dylai ymwelwyr a rhieni sy'n mynd i mewn i ystâd yr ysgol wisgo gorchudd wyneb hefyd.

A oes rhaid i mi wisgo gorchudd wyneb yn fy ngweithle?

Os ydych yn gweithio mewn ardal sy'n agored i'r cyhoedd, oes. Os nad ydych chi, dylai eich cyflogwr eich cynghori.

Disgwylir i gyflogwyr orfodi'r defnydd o orchuddion wyneb mewn gweithleoedd eraill o dan do lle nad oes modd cadw pellter cymdeithasol, oni bai bod rhesymau cryf dros beidio. Felly, efallai y bydd yn rhaid ichi wisgo gorchudd wyneb yn y gwaith, hyd yn oed mewn mannau nad ydynt yn agored i'r cyhoedd.

Gweler y canllawiau ar orchuddion wyneb i gael rhagor o wybodaeth.

Symud tŷ

A gaf i symud tŷ?

Cewch, os na allwch ohirio'r dyddiad symud tan ar ôl i gyfyngiadau Lefel 4 gael eu codi.

Gall gweithgareddau cysylltiedig, er enghraifft, prosesau symud eiddo, paratoi eiddo, trosglwyddo allweddi, arolygon a phrisiadau ddigwydd hefyd yn unol â’r canllawiau ar weithio yng nghartrefi pobl eraill.

Am ragor o wybodaeth, gwelwch y canllawiau ar symud tŷ.

A ganiateir ymweld ag eiddo?

Byddem yn annog ceisio sicrhau bod pob eiddo yn cael ei weld drwy ddulliau rhithwir yn y lle cyntaf. Fe ganiateir ymweld ag eiddo yn ystod cyfnod lefel rhybudd 4, ond dylid osgoi cymysgu aelwydydd yn ystod yr ymweliad. Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar symud tŷ yn ystod y coronafeirws. Rhaid i asiantau tai ar y stryd fawr fod ar gau i’r cyhoedd.

A gaf i drefnu i gynnal prisiad neu arolwg morgais yn fy eiddo nawr?

Nid yw pobl sy’n gyfrifol am brisio a chynnal arolygon, fel gwerthwyr tai , wedi’u gwahardd rhag mynd i gartrefi pobl, os yw’r broses yn cael ei rheoli’n ddiogel a bod y gweithiwr ac aelodau'r aelwyd yn iach ac nad oes ganddynt unrhyw symptomau coronafeirws. Ond rydym yn argymell yn gryf, lle bynnag y bo modd, y dylai’r gwaith hwn gael ei ohirio tan ar ôl i’r cyfyngiadau Lefel 4 gael eu codi. Gweler y canllawiau ar weithio yng nghartrefi pobl eraill i gael rhagor o wybodaeth.

Am ragor o wybodaeth, gwelwch y canllawiau ar symud tŷ.

A allwn i gael fy nhroi allan o'm cartref?

Na, ar wahân i ychydig iawn o eithriadau (ee sy’n gysylltiedig ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol), ni chaniateir troi pobl allan ar hyn o bryd g. Bydd unrhyw achosion o droi allan sydd wedi'u trefnu ar hyn o bryd yn cael eu gohirio.

A yw llochesi yn dal i fod yn agored?

Mae llety brys i bobl sy'n ffoi rhag cam-drin domestig a thrais rhywiol yn dal ar agor ac yn parhau i dderbyn atgyfeiriadau. Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn yn wasanaeth 24 awr am ddim i unrhyw un sy'n profi trais neu gamdriniaeth, neu i unrhyw un sy'n pryderu am ddiogelwch rhywun arall.  Gellir cysylltu â Byw Heb Ofn drwy

Ffonio: 0808 8010 800 neu Neges destun: 078600 77333

Sgwrsio byw

Mae canllawiau i ddarparwyr lloches ar sut wneud y llety’n ddiogel ar gael yma .

Addoldai a digwyddiadau mawr bywyd, priodasau a phartneriaethau sifil, ac angladdau, a digwyddiadau eraill bywyd a mynwentydd

Beth yw’r rheolau ar gyfer gwasanaethau crefyddol?

Caniateir i fannau addoli fod ar agor i’r cyhoedd. Fodd bynnag, lle bynnag y bo modd, rydym yn dal i ddweud y dylai pobl osgoi ymgasglu â phobl nad ydynt yn byw gyda nhw. Er enghraifft, gallai arweinwyr ffydd ddewis darlledu (heb gynulleidfa) weithred o addoliad, dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu. Gellir hefyd ddarlledu priodasau ac angladdau o addoldai.

Caniateir seremonïau ar gyfer priodasau, angladdau a digwyddiadau bywyd eraill fel bar mitzvah neu fedydd mewn addoldai. Gall pobl fod yn bresennol ar wahoddiad y trefnydd. Gweler y canllawiau ar angladdau, canllawiau ar briodasau a mannau addoli i gael rhagor o wybodaeth.

A yw lleoliadau posibl ar gyfer seremoni priodas neu bartneriaeth sifil yn cael bod ar agor?

Caiff mannau addoli a Swyddfeydd Cofrestru aros ar agor ar gyfer seremonïau priodas a phartneriaeth sifil. Mae hyn yn amodol ar yr angen i gymryd pob mesur rhesymol  i leihau'r risg o ledaenu'r feirws ar y safle.

Mae'n ofynnol i 'safleoedd cymeradwy' eraill, fel gwestai, gau yn yr un modd â busnesau eraill yn y sector lletygarwch.

Ni chaniateir cynnal derbyniadau priodas neu bartneriaeth sifil, ac yn ymarferol mae’n ofynnol i lawer o leoliadau gau tra bo cyfyngiadau Lefel 4 yn eu lle.

A oes cyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n cael mynychu seremonïau priodasau, angladdau a digwyddiadau bywyd eraill?

Bydd y nifer sy’n cael mynychu priodas, partneriaeth sifil, angladd neu ddigwyddiadau bywyd o dan do yn cael ei gyfyngu gan gapasiti'r lleoliad lle mae'n cael ei gynnal, unwaith y bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol wedi'u hystyried.

Er mwyn sicrhau bod y rheol ynghylch y nifer uchaf sy’n cael mynychu yn cael ei chadw, rhaid i’r presenoldeb fod drwy wahoddiad yn unig. Gweler y canllawiau perthnasol ar briodasau a seremonïau partneriaeth sifil.

Beth yw'r rheolau ar gynnal derbyniadau a dathliadau eraill?

Ni chaniateir cynnal derbyniadau priodas na phartneriaeth sifil. Ni chaniateir dathliadau neu gynulliadau cymdeithasol sy'n gysylltiedig â digwyddiadau bywyd eraill, megis ar gyfer bar mitzvah neu fedydd.

Mae aelod agos o'r teulu wedi marw ac mae angen i mi drefnu'r angladd – beth ddylwn i ei wneud?

Gall angladdau fod yn brofiad gofidus, ac mae effaith y coronafeirws yn ei gwneud yn anoddach fyth i wneud trefniadau ymarferol. Mae canllawiau ar angladdau wedi’u cyhoeddi.

A gaf i fynd i angladd?

Cewch, ond mae'n rhaid ichi gael gwahoddiad. Mae'r niferoedd wedi'u cyfyngu oherwydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol. 

Rwy’n teithio am sawl awr i fynd i angladd. A gaf i aros mewn gwesty dros nos?

Mae gan awdurdodau lleol y disgresiwn i ganiatáu i bobl aros mewn gwestai os ydynt yn teithio pellter mawr i fynd i angladd.

A gaf i gynnal gwylnos neu fath arall o gynulliad ar ôl angladd?

Na – ni chaniateir i bobl ymgynnull fel hyn tra bod cyfyngiadau Lefel 4 mewn grym.

A gaf i fynd i fynwent i ymweld â bedd aelod o'r teulu?

Cewch. Ond dylech sicrhau eich bod yn dilyn yr arferion cadw pellter cymdeithasol wrth wneud hynny.

Iechyd a lles anifeiliaid

A yw milfeddygon yn dal i gael gweithio?

Caiff gwasanaethau milfeddygol barhau i weithredu ond rhaid i werthiannau nad ydynt yn hanfodol o gynhyrchion gofal anifeiliaid ddod i ben, yn unol ag atal manwerthu nad yw'n hanfodol. Dylid gohirio gwasanaethau nad ydynt yn angenrheidiol ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid neu ar gyfer cynhyrchu bwyd.

A gaf i deithio i ofalu am fy anifeiliaid am resymau lles?

Os oes modd, dylech wneud trefniadau eraill nad ydynt yn golygu teithio.

Gorfodi a dirwyon

Pwy sy'n gorfodi'r cyfyngiadau?

Caiff y cyfyngiadau eu gorfodi gan swyddogion gorfodi awdurdodau lleol a'r heddlu.

Beth gaiff yr heddlu a swyddogion gorfodi awdurdodau lleol ei wneud?

Cânt gyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig neu argymell erlyn mewn llys ynadon. Yn ogystal, mae ganddynt bwerau eang i gymryd camau ymarferol i wasgaru cynulliadau, ei gwneud yn ofynnol i bobl fynd adref a chael mynediad i eiddo.

Beth os na chymerir camau rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws mewn safle neu weithle?

Mae swyddogion gorfodi yr awdurdodau lleol yn gallu cyflwyno hysbysiad gwella mangre. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r person sy'n gyfrifol am y safle (a elwir yn ‘fangre’ yn y ddeddfwriaeth) gymryd camau penodedig ac, os na chymerir y camau hynny, gall swyddog gyflwyno ‘hysbysiad cau mangre’ a fydd yn golygu y bydd yn rhaid cau'r safle. Gall swyddogion hefyd gyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig, gan ddechrau o £1,000 am drosedd gyntaf a chodi gydag unrhyw droseddau pellach.

Pan fo’n angenrheidiol, caiff swyddog hefyd ddyroddi hysbysiad cau mangre heb fod wedi dyroddi hysbysiad gwella mangre cyn hynny.

Felly, os na fydd pobl yn cydymffurfio, gellir cau'r fangre.

Beth fydd yr heddlu yn ei wneud?

Bydd yr heddlu yng Nghymru yn trafod â phobl, yn esbonio beth sydd angen iddynt ei wneud ac yn eu hannog i gydymffurfio. Ond rhoddwyd pwerau i'n heddluoedd a byddant yn eu defnyddio – caiff y cyfyngiadau eu gorfodi os na fydd pobl yn ymateb.

Beth yw'r cosbau ariannol?

Mae rheoliadau'r coronafeirws yn cynnwys darpariaethau ar gyfer cyflwyno hysbysiad cosb benodedig ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o dorri'r rheoliadau, gan gynnwys dirwy o £60; bydd hyn yn codi i £120 am ail drosedd ac fe fydd yn parhau i ddyblu ar gyfer troseddau yn dilyn hynny, hyd at uchafswm o £1,920. Fodd bynnag, os caiff yr unigolyn ei erlyn, caiff llys orfodi unrhyw ddirwy (nid oes uchafswm).

Mae trefnu digwyddiad cerddoriaeth didrwydded ar gyfer mwy na 30 o bobl yn drosedd ar wahân. Digwyddiadau yw'r rhain nad ydynt wedi'u trwyddedu neu eu hawdurdodi fel arall o dan Ddeddf Trwyddedu 2003. Bydd torri'r gwaharddiad hwn yn drosedd y gellir ei chosbi drwy gollfarn a dirwy ddiderfyn neu, yn lle collfarn, drwy gosb benodedig a bennir ar £10,000.  

Mae'r ddirwy ddiderfyn neu gosb benodedig sylweddol i drefnwyr y digwyddiadau anghyfreithlon hyn yn adlewyrchu'r canlyniadau difrifol posibl i iechyd y cyhoedd ar hyn o bryd.

Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn deall difrifoldeb y sefyllfa rydym yn ei hwynebu ac y byddant yn cydymffurfio â'r rheoliadau, heb orfod eu cosbi.