Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar sut i ddiogelu eich hun a pha reolau sydd yn eu lle i ddiogelu pobl yn lefel rhybudd 0.

Rhan o:
Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Yn ogystal â’r Cwestiynau Cyffredin hyn, mae canllawiau manylach ar gael yn y meysydd canlynol:

Mae angen i bob un ohonom barhau i weithio gyda'n gilydd i ddiogelu Cymru a chadw lefelau’r coronafeirws dan reolaeth.

Rydym wedi ceisio sicrhau bod cyn lleied â phosibl o wahaniaethau rhyngom â rhannau eraill o'r DU, ac rydym yn cydweithio'n agos iawn â’r gwledydd eraill. Mae'n bwysig deall bod y rheolau yma yng Nghymru yn wahanol.

Mae'r canllawiau a'r Cwestiynau Cyffredin hyn yn berthnasol i Gymru. I weld y rheolau neu'r canllawiau ar gyfer rhannau eraill o’r DU, ewch i'r safleoedd ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

A yw’r coronafeirws yn dal i ledaenu?

Nid yw'r pandemig ar ben ac mae'r feirws yn dal i ledaenu. Mae’n bosibl y gwelwn achosion yn cynyddu wrth inni gymysgu ag eraill.

Brechu yw un o'r ffyrdd gorau o’n hamddiffyn yn erbyn lledaeniad y coronafeirws. Ond nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, a gallai rhai pobl sydd wedi'u brechu'n llawn gael eu heintio o hyd, neu drosglwyddo'r feirws i eraill heb wybod. Po fwyaf o bobl sy'n cael eu brechu, y lleiaf yw'r risg i bawb arall.

Mae'n bwysig iawn i bawb dderbyn y cynnig o frechlyn os gallant. Dylem hefyd barhau i feddwl am yr hyn y gallwn ni barhau i'w wneud i gadw ein hunain a'n hanwyliaid yn ddiogel. Ond rydym yn sylweddoli bod rhai pobl nad ydynt yn gallu manteisio ar y cynnig o frechlyn, neu nad yw'r brechlyn yn gweithio cystal iddynt.

Mae brechlynnau wedi gwanhau'r cysylltiad rhwng heintiau, salwch difrifol a gorfod mynd i’r ysbyty, ond nid yw'r cysylltiad hwnnw wedi'i dorri. Po uchaf yw cyfraddau lledaenu’r coronafeirws, y mwyaf o bobl fydd yn cael COVID-19, a bydd rhai hefyd yn dioddef o COVID hir.

Sut y gallaf i amddiffyn fy hun ac eraill ac atal y coronafeirws rhag lledaenu?

Mae’n rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan o hyd i atal lledaeniad y feirws, hyd yn oed wrth i’r cyfyngiadau gael eu codi i raddau helaeth o dan Lefel Rhybudd 0. Mae trosglwyddo’r coronafeirws yn cael ei gysylltu fwyaf â bod mewn cysylltiad agos ac estynedig â phobl dan do. Mae'r risgiau uchaf mewn mannau gorlawn ac mewn mannau sydd wedi'u hawyru'n wael dros gyfnodau estynedig.

Y ffordd fwyaf effeithiol o leihau risgiau, yn enwedig salwch difrifol, yw manteisio ar y cynnig i gael ein brechu, os gallwn.  Mae angen y ddau ddos o’r brechlyn i gael amddiffyniad. Mae'n cymryd o leiaf bythefnos (14 diwrnod) ar ôl yr ail ddos cyn y bydd y brechlyn yn amddiffyn y person yn llawn.

Mae ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwn a chael ein brechu yn golygu ein bod yn ystyriol o eraill ac y gallwn ddychwelyd at wneud y pethau rydym wedi gweld eu heisiau fwyaf. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael y brechlyn ac mae canolfannau galw heibio ar agor. Dylai busnesau a chyflogwyr annog eu gweithlu i fanteisio ar y brechlyn.  

Hyd yn oed os ydych wedi cael dau ddos o’r brechlyn cofiwch mai’r ffyrdd gorau o leihau risgiau yw:

  • gweithio gartref pryd bynnag y gallwch
  • cael prawf a hunanynysu, hyd yn oed os symptomau ysgafn sydd gennych
  • cwrdd yn yr awyr agored – mae’n fwy diogel na chwrdd dan do
  • cyfyngu ar nifer y bobl rydych yn cymysgu â nhw a’r amser rydych yn ei dreulio gyda nhw
  • cadw pellter oddi wrth eraill pan fo modd
  • golchi eich dwylo a gwisgo gorchudd wyneb, yn enwedig mewn mannau gorlawn

Wrth inni symud i'r hydref, byddwn yn cynnig pigiad atgyfnerthu i'r unigolion mwyaf agored i niwed a gafodd eu brechu yn gyntaf. Bydd hyn yn ychwanegu at eu hamddiffyniad cyn misoedd y gaeaf.

Sut i gael brechlyn COVID-19

Mae pob oedolyn dros 18 oed eisoes wedi cael cynnig brechlyn ac mae dros 2.1 miliwn o bobl Cymru bellach wedi’u brechu'n llawn rhag COVID-19.  Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, mae amser o hyd ichi fanteisio ar y cynnig o'ch dos cyntaf, neu eich ail ddos os ydych wedi bod yn aros mwy nag wyth wythnos, cyn inni symud ymlaen i gam nesaf y rhaglen frechu.

I wneud apwyntiad ar gyfer eich dos cyntaf neu'ch ail ddos, cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol neu edrychwch ar eu gwefan i gael gwybod sut i drefnu slot neu i gael gwybod am eu lleoliadau brechu galw heibio.

Bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed hefyd yn cael cynnig brechiad yn ogystal â’r rhai dros 12 oed sydd â chyflyrau iechyd penodol yn barod, sy’n golygu bod mwy o risg iddynt gael salwch difrifol os byddant yn dal COVID-19.  Gall plant a phobl ifanc dros 12 oed sy'n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan hefyd ofyn am frechiad. Ond byddant yn gwneud hynny ar y ddealltwriaeth mai prif fanteision y brechiad fydd y posibilrwydd y bydd hynny’n rhoi amddifyniad anuniongyrchol i’r unigolyn yn eu cartref sydd â system imiwnedd wan. 

Mae pob brechlyn COVID sydd wedi’u hawdurdodi yn y DU yn ddiogel ac yn rhoi lefel uchel o amddiffyniad rhag haint a salwch difrifol.  Ar hyn o bryd rydym yn darparu brechlynnau Pfizer BioNTech a Moderna drwy ein holl ganolfannau brechu; mae'r brechlynnau hyn yn cael eu cynnig ar gyfer pob dos cyntaf waeth beth fo oedran yr unigolyn.    

Fel arfer, byddwch yn cael cynnig yr un brechlyn ar gyfer eich dos cyntaf a'ch ail ddos, ond os nad yw'r un brechlyn ar gael yn y ganolfan frechu, cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yw ei bod yn ddiogel rhoi brechlyn gwahanol ar gyfer yr ail ddos.   

Rwy'n cael fy ystyried yn agored iawn i niwed yn glinigol - pa gamau y dylwn eu cymryd i fod yn ofalus?

Os ydych yn agored iawn i niwed yn glinigol, gallwch ddilyn yr un rheolau a chanllawiau â phawb arall yng Nghymru. Ond fe'ch cynghorir hefyd i gymryd gofal ychwanegol wrth ystyried sut y gallwch leihau'r risg er mwyn cadw eich hun yn ddiogel. Yn ogystal â chael cyn lleied o gysylltiadau â phosibl, efallai yr hoffech feddwl yn arbennig am fod yn ofalus wrth gwrdd â phobl eraill nad ydych fel arfer yn cwrdd â nhw, er mwyn lleihau'r risg o ddal neu ledaenu COVID-19. Er enghraifft:

  • cwrdd yn yr awyr agored os oes modd. Mae'r gronynnau sy'n cynnwys y feirws sy'n achosi COVID-19 yn cael eu chwythu i ffwrdd yn gyflym, sy'n ei gwneud yn llai tebygol y cânt eu hanadlu gan berson arall.
  • gwneud yn siŵr bod y lle wedi'i awyru'n dda os ydych yn cwrdd dan do, trwy agor ffenestri a drysau os gallwch, i sicrhau bod digon o awyr iach yn dod i mewn.
  • golchi’ch dwylo yn rheolaidd ac osgoi cyffwrdd eich wyneb.

Mae canllawiau yma ar gyfer pobl sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol:

A ddylwn i gymryd unrhyw gamau ychwanegol i fod yn ofalus os ydw i'n feichiog?

Os ydych yn feichiog, dylech o leiaf ddilyn y canllawiau swyddogol a ddarperir i bawb. Os ydych fwy na 27 wythnos yn feichiog, neu os ydych yn feichiog a bod gennych gyflwr iechyd sy’n bodoli eisoes sy'n golygu bod mwy o risg ichi gael salwch difrifol os byddwch yn dal COVID-19 yn ystod eich beichiogrwydd, efallai y byddwch am ystyried osgoi cysylltiad agos â phobl nad ydych yn cwrdd a hwy’n aml, er mwyn lleihau’r risg o ddal COVID-19. Byddai'n rhoi mwy o amddiffyniad i chi a'ch babi pe bai'r holl bobl rydych yn cwrdd â nhw wedi cael eu brechu’n llawn. Mae cyngor pellach ar gael yma ar feichiogrwydd a’r coronafeirws (COVID-19).

Os ydych yn feichiog neu'n ystyried beichiogi ac nad ydych wedi cael eich brechu eto, fe'ch cynghorir i gael eich brechu cyn gynted â phosibl, ac i drefnu cael eich ail ddos cyn gynted ag y byddwch yn gymwys. Mae cyngor pellach ar gael yn Beichiogrwydd, bwydo ar y fron, ffrwythlondeb a'r brechlyn coronafeirws (COVID-19 (ar www.nhs.uk)

Faint o bobl sy’n cael dod i’m cartref?

Nid oes cyfyngiadau cyfreithiol mwyach ar nifer y bobl sy'n gallu cwrdd yng nghartrefi ei gilydd. Ond dylech barhau i feddwl am y risgiau o gael pobl yn eich cartref ac ystyried sut y gallwch leihau'r risgiau hynny.

Rhaid inni barhau i wneud y pethau hynny yr ydym yn gwybod eu bod yn ein diogelu ni ac eraill. Er enghraifft:

  • os oes modd, cwrdd â phobl yn eich gardd neu yn yr awyr agored
  • golchi dwylo'n rheolaidd a thisian i hancesi papur y byddwch yn eu taflu
  • sicrhau bod awyr iach mewn mannau dan do, drwy agor ffenestri a drysau
  • cyfyngu ar nifer y bobl rydych chi'n cwrdd â nhw ar unrhyw un achlysur, cyfyngu ar faint o amser rydych yn ei dreulio gyda phobl a chadw pellter corfforol lle gallwch

A oes unrhyw reolau ynghylch pwy y gallaf gyfarfod â nhw, ble a phryd?

Nid oes unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ar nifer y bobl sy'n gallu cwrdd mewn mannau cyhoeddus nac mewn digwyddiadau. Rydyn ni i gyd eisiau cwrdd â ffrindiau eto ond meddyliwch am yr hyn sydd fwyaf synhwyrol i chi ei wneud i amddiffyn eich teulu.

Mae’n well gweld un neu ddau unigolyn yn rheolaidd na gweld llawer o wahanol bobl yn achlysurol. Po leiaf o bobl rydyn ni'n cwrdd â nhw a'r lleiaf o amser rydyn ni’n ei dreulio mewn torfeydd, y lleiaf o siawns sydd inni gael ein heintio â’r coronafeirws, neu ei ledaenu.  Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd cyfraddau’r coronafeirws yn uchel.

A yw’r rheolau ar ymweld ag ysbyty wedi newid?

Nid yw’r canllawiau presennol ar ymweld ag ysbyty wedi newid. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar daro cydbwysedd gofalus rhwng diogelu’r nifer mawr o unigolion agored i niwed sy’n cael triniaeth yn ein hysbytai a chaniatáu ymweliadau sy’n bwysig ar gyfer lles cleifion a ffrindiau a theuluoedd. Mae’r canllawiau’n caniatáu i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd bennu polisïau ymweld ar sail asesiad risg lleol sy’n ystyried nifer yr achosion o COVID-19 yn yr ardal leol ac unrhyw achosion o drosglwyddo’r feirws o fewn yr ysbyty. Ni ddylech ymweld ag unrhyw un yn yr ysbyty am 10 niwrnod os ydych wedi cael eich adnabod fel rhywun sydd wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif am COVID-19 neu ar ôl ymgymryd â gweithgareddau risg uwch.

Darllenwch rhagor o wybodaeth am y canllawiau ar ymweld ag ysbyty.

A yw’r rheolau ar ymweld â chartref gofal wedi newid?

Mae’r cyfyngiad o ddau ymwelydd ar y tro ar gyfer un preswylydd wedi’i ddileu a dylai darparwyr reoli nifer yr ymwelwyr yn unol â’u hasesiad risg. Mae’r canllawiau hefyd yn ei gwneud yn glir y caiff ymweliadau gael eu cynnal yn ystafelloedd preswylwyr, os yw’n well ganddynt, yn ogystal ag mewn man ymweld dynodedig.

Bydd y canllawiau diwygiedig yn galluogi pob preswylydd cartref gofal i enwebu “ymwelydd hanfodol” a fydd yn cael parhau i ymweld â’i berthynas neu ei ffrind o dan do yn ystod brigiad o achosion yn y cartref gofal, cyhyd â’u bod yn cael canlyniad prawf negatif. Bydd hyn yn sicrhau y gall pobl barhau i gael budd o ymweliadau rheolaidd hyd yn oed pan fo cyfyngiadau ehangach mewn grym ar ymweliadau arferol. Bydd angen i ddarparwyr roi’r trefniadau angenrheidiol ar waith i gefnogi’r newid hwn. Ni ddylech ymweld ag unrhyw un mewn cartref gofal am 10 niwrnod os ydych wedi cael eich adnabod fel rhywun sydd wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif am COVID-19 neu ar ôl ymgymryd â gweithgareddau risg uwch.

Darllenwch rhagor o wybodaeth am y canllawiau ar ymweld â chartref gofal.

Pryd y bydd angen imi wisgo gorchudd wyneb?

Mae gwisgo gorchudd wyneb yn dal i fod yn ofyniad cyfreithiol yn y rhan fwyaf o fannau cyhoeddus dan do, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, siopau, a lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd penderfyniadau lleol yn cael eu gwneud am ddefnyddio gorchuddion wyneb yn y maes addysg.   

Ni fydd gorchuddion wyneb yn ofyniad cyfreithiol ar gyfer gweinyddu priodasau, ffurfio partneriaethau sifil na seremonïau priodas amgen nac mewn lleoliadau lletygarwch, fel bwytai, tafarndai a chaffis, lle mae bwyd a diod yn cael eu gweini.  Ond efallai y bydd y busnesau hynny'n dal i ofyn i chi wisgo gorchudd wyneb mewn rhannau penodol o’r safle, gan fod ganddynt ddyletswydd gyfreithiol i roi mesurau ar waith i leihau risgiau.

Os yw’r busnes yn un aml-bwrpas a’i fod yn gweini bwyd a diod (e.e. gwesty â bwyty, atyniad dan do â chaffi, canolfan ddigwyddiadau neu gynadledda â bwyty, sinema neu theatr â bar), rhaid i staff a chwsmeriaid wisgo gorchuddion wyneb ym mhob rhan o’r busnes heblaw am y rhannau penodol hynny lle bydd pobl yn cael bwyta ac yfed.

A oes angen i mi gadw pellter o 2 fetr oddi wrth bobl eraill o hyd?

Mae cadw pellter corfforol yn ffordd allweddol o atal y coronafeirws rhag lledaenu. Rydym cynghori pobl i fod yn ofalus a meddwl am gadw pellter corfforol oddi wrth bobl nad ydynt yn byw gyda nhw. Mae’r coronafeirws yn dal i ledaenu yn y gymuned a byddem yn annog pawb i feddwl sut y gallant amddiffyn eu hunain a'u hanwyliaid.

Beth bynnag, gall busnesau ac adeiladau ei gwneud yn ofynnol i bobl gadw pellter corfforol fel rhan o'r mesurau y mae'n ofynnol iddynt eu cymryd i amddiffyn pobl rhag y coronafeirws.

Mae aros o leiaf 2 fetr i ffwrdd oddi wrth bobl nad ydych yn byw gyda nhw yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran lleihau'r siawns y bydd y feirws yn lledaenu. Po agosaf yr awn at eraill a pho fwyaf o amser y byddwn yn ei dreulio wyneb yn wyneb ag eraill, y mwyaf yw'r risg o ddal y feirws.  

Os byddwch yn cael eich heintio, cadwch eich pellter oddi wrth aelodau eraill o'ch cartref gymaint â phosibl, yn enwedig os ydynt yn agored iawn i niwed yn glinigol.

Mae'n debygol y bydd y rhan fwyaf o fusnesau, gweithleoedd a lleoedd eraill yn dal i wneud rhywfaint o gadw pellter corfforol yn ofynnol. Mae dyletswydd gyfreithiol ar fannau o’r fath i gymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Sut ydw i'n gwybod os oes gen i COVID-19 a sut ydw i'n cael prawf os ydw i'n meddwl bod gen i COVID-19?

Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd â’r coronafeirws yn cael o leiaf un o’r tri phrif symptom hyn, sef:

  • tymheredd uchel: mae hyn yn golygu bod eich brest neu eich cefn yn teimlo’n boeth wrth eu cyffwrdd (nid oes angen i chi fesur eich tymheredd)
  • peswch cyson, newydd: mae hyn yn golygu pesychu llawer am fwy nag awr, neu 3 neu fwy o byliau o besychu mewn 24 awr (os oes gennych beswch fel arfer, gallai fod yn waeth nag arfer)
  • colli eich synnwyr arogli neu flasu, neu newid yn un o’r synhwyrau hynny: mae hyn yn golygu eich bod wedi sylwi nad ydych yn gallu arogli neu flasu unrhyw beth, neu fod pethau’n arogli neu’n blasu’n wahanol i’r arfer

Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw un o'r tri symptom hyn o COVID-19 aros gartref a hunanynysu wrth wneud trefniadau i gael prawf. Os yw canlyniad y prawf yn negatif, gall y person ddychwelyd i'w drefn arferol pan fydd yn ddigon da i wneud hynny.

Gofynnwyd imi gymryd prawf gwrthgyrff. Allwch chi egluro pam?

Ers 24 Awst 2021, cafodd pawb dros 18 oed gynnig i optio i mewn i gael profion gwrthgyrff wrth iddynt gofrestru i gael prawf adwaith cadwyn polymeras (PCR) ar borthol ar-lein y llywodraeth. Mae unigolion sydd wedi cael eu dewis ar hap, o blith y rheini sy’n optio i mewn ac sy’n profi’n bositif wedi hynny am COVID-19 yn dilyn prawf PCR, yn cael dau brawf gwrthgyrff pigiad bys drwy’r post i’w defnyddio gartref a’u dychwelyd i gael eu dadansoddi. Mae hyn yn rhan o raglen gwrthgyrff ar gyfer y DU gyfan i gefnogi ein dealltwriaeth o effeithiolrwydd y brechlyn ac ymateb imiwnyddol i COVID-19 sy’n cael ei alw yn Fenter Profion Gwrthgyrff PCR ôl-gadarnhaol (PPPATI).

I gael rhagor o wybodaeth am PPPATI ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Pwy sy’n gorfod hunanynysu?

Unigolion sydd â symptomau

Os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19 – peswch cyson, newydd a thymheredd uchel, neu os ydych wedi colli eich synnwyr o arogl neu flas, neu mae’r synnwyr hwnnw wedi newid – nid oes gwahaniaeth pa mor ysgafn ydynt, dylech aros gartref a hunanynysu a gwneud trefniadau i gael prawf PCR. Os yw canlyniad y prawf yn negatif, gallwch barhau â’ch trefniadau arferol pan fyddwch yn teimlo’n ddigon da i wneud hynny.

Unigolion sy’n cael canlyniad prawf positif

Os byddwch yn cael canlyniad prawf positif, rhaid ichi hunanynysu am 10 diwrnod a dilyn y canllawiau. Byddwch yn torri’r gyfraith, a gallech gael diryw, os na fyddwch yn aros gartref a hunanynysu. Os byddwch yn cael canlyniad prawf llif unffordd (LFT) positif, dylech ynysu a chael prawf PCR dilynol.

Oedolion sydd heb eu brechu sy’n cael eu hadnabod fel cyswllt agos i rywun sydd wedi profi’n bositif ar gyfer COVID-19

Os ydych wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd â’r coronafeirws, bydd angen ichi hunanynysu am 10 diwrnod. Dylech hefyd gael prawf PCR ar ddiwrnod 2 o ddyddiad eich cysylltiad agos diwethaf ag achos positif (neu cyn gynted â phosibl) ac ar ddiwrnod 8. Os yw’r profion yn negatif, bydd dal angen ichi hunanynysu am y cyfnod o 10 diwrnod llawn. Rhaid ichi wneud hynny oherwydd os byddwch wedi cael eich heintio, gall gymryd rhywfaint o amser cyn i’r symptomau ddatblygu neu cyn ichi fod yn heintus i eraill.

Mae’n bwysig ichi gymryd y profion hyn hyd yn oed os ydych yn teimlo’n iawn oherwydd, hyd yn oed nad oes gennych symptomau, gallech fod wedi dal COVID-19.

Oedolion sydd wedi’u brechu neu blant 5 i 17 oed sy’n cael eu hadnabod fel unigolion sy’n byw gyda rhywun sydd â symptomau neu sydd wedi profi’n bositif

Mae pawb sy’n byw yn y cartref sydd wedi cael eu brechu’n llawn neu sy’n 5 i 17 oed yn cael eu cynghori i hunanynysu a chael prawf PCR cyn gynted ag sy’n bosibl. Os yw canlyniad y prawf yn negatif, nid oes angen iddynt hunanynysu mwyach.

Pwy nad oes angen iddynt hunanynysu?

Oedolion sydd wedi’u brechu sy’n cael eu hadnabod fel cyswllt agos i achos positif o COVID-19 ond nad ydynt yn byw gyda nhw

Os ydych wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd â’r coronafeirws, ni fydd angen ichi hunanynysu os nad oes gennych unrhyw symptomau. Dylech gael prawf PCR ar ddiwrnod 2 o ddyddiad eich cysylltiad agos diwethaf ag achos positif (neu cyn gynted ag sy’n bosibl) ac ar ddiwrnod 8. Mae’n bwysig ichi gymryd y profion hyn hyd yn oed os ydych yn teimlo’n iawn oherwydd, hyd yn oed nad oes gennych symptomau, gallech fod wedi dal COVID-19.

Bydd y rheini nad oes angen iddynt hunanynysu mwyach hefyd yn cael cyngor a chanllawiau gan swyddogion olrhain cysylltiadau Profi Olrhain Diogelu ar sut i ddiogelu eu hunain fel a ganlyn:

  • Ceisiwch leihau’r cysylltiad rhyngoch chi ac eraill ac osgoi lleoliadau gorlawn, yn arbennig lleoliadau o dan do
  • Ystyriwch ddefnyddio profion llif unffordd yn ddyddiol/ yn fwy rheolaidd yn ystod y cyfnod pan fyddech wedi bod yn hunanynysu fel arall
  • Peidiwch ag ymweld â phobl sy’n agored i niwed, fel y rheini sydd mewn cartrefi gofal neu ysbytai
  • Gweithiwch gartref os nad ydych chi’n gwneud hynny’n barod
  • Rhowch wybod i’ch cyflogwr eich bod wedi dod i gysylltiad ag achos positif o COVID-19
  • Byddwch yn fwy gofalus eto wrth olchi dwylo yn drwyadl ac yn rheolaidd a gwisgo gorchudd wyneb
  • Os ydych yn gweithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol efallai y bydd eich cyflogwr yn gofyn ichi gymryd profion ychwanegol fel mesur rhagofalus neu efallai y bydd yn gofyn ichi ymgymryd â rôl arall dros dro, fel y nodir yn cysylltiadau COVID-19: canllawiau i staff iechyd a gofal cymdeithasol
  • Os ydych yn gweithio mewn darpariaeth addysg arbennig efallai y bydd eich cyflogwr yn gofyn ichi gymryd profion ychwanegol fel mesur rhagofalus, neu efallai y byddwch yn cael eich rhoi mewn rôl arall lle na fyddwch yn dod i gysylltiad wyneb yn wyneb ag unigolion y mae’r risg glinigol iddynt yn uwch neu’n cael gwybod na ddylech chi fynd i’r gwaith.

Os byddwch yn datblygu symptomau COVID-19 ar unrhyw bwynt ac rydych dros 5 oed, nid oes gwahaniaeth pa mor ysgafn y bydd eich symptomau na beth yw eich statws brechu, dylech hunanynysu ar unwaith a threfnu prawf PCR COVID-19. Os yw’r prawf yn bositif, dylech hunanynysu am 10 diwrnod.

Pa gymorth sydd ar gael i wella o COVID-19?

Mae’r term COVID hir yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio arwyddion a symptomau sy'n parhau neu'n datblygu ar ôl COVID-19. Gallai hyn gynnwys blinder, diffyg anadl, effaith ar y galon, neu effeithiau corfforol neu seicolegol.

Mae'n debygol y bydd angen llwybr adsefydlu ar y rhan fwyaf o bobl sydd â COVID hir. Mae gwasanaethau iechyd a gofal yn y gymuned mewn sefyllfa ddelfrydol i ddarparu hyn. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen ichi fynd i'r ysbyty i gael ymchwiliad pellach. Os felly, byddwch yn cael eich cyfeirio gan eich meddyg teulu.

Mae rhagor o wybodaeth yma am y cymorth sydd ar gael, ynghyd â dolenni i gael gwybod mwy am gymorth gan eich bwrdd iechyd lleol a ffynonellau gwybodaeth eraill, gan gynnwys Ap Adfer COVID.

Beth mae’n rhaid i fusnesau a chyflogwyr ei wneud i'm diogelu?

Mae gan fusnesau a chyflogwyr a sefydliadau eraill ddyletswydd i ddiogelu eu gweithwyr a'u cwsmeriaid.

Mae gofyniad cyfreithiol o hyd i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill gynnal asesiad risg a chymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Mae amrywiaeth eang o bethau y gallai fod angen ichi eu gwneud i leihau risgiau. Mae’r rhain yn cael eu hesbonio’n fanylach mewn canllawiau ar wahân.

Dylech fod yn ymwybodol bod y gofynion hyn yn ddyletswydd gyfreithiol ac y dylech ddilyn unrhyw reolau sy’n cael eu rhoi ar waith gan eich cyflogwr neu unrhyw fusnesau neu sefydliadau eraill yr ydych yn ymweld â nhw. Gallai'r rhain gynnwys:

  • cadw pellter corfforol yn y safle
  • cyfyngu ar niferoedd neu ar faint grŵp
  • darparu manylion cyswllt i gefnogi gwaith olrhain cysylltiadau
  • darparu gwasanaeth gweini wrth y bwrdd
  • cyfyngu ar nifer y bobl mewn mannau cyfyng, fel toiledau
  • defnyddio gorchudd wyneb mewn safleoedd dan do nad ydynt ar agor i’r cyhoedd fel arfer.  

Bydd mesurau eraill y bydd busnesau ac eraill yn eu cymryd nad ydynt efallai mor weladwy, er enghraifft os bydd lleoliad yn gwella’r awyru neu’n profi’r staff yn rheolaidd. 

Pa gymorth sydd ar gael i fusnesau?

Mae pecynnau cymorth busnes brys Llywodraeth Cymru bellach wedi cau ar gyfer ceisiadau. Mae cylch diweddaraf y Gronfa Cadernid Economaidd yn rhoi arian at gostau gweithredu (ac eithrio cyflogau staff) hyd at 31 Awst 2021 ac mae’r Gronfa Adferiad Diwylliannol ar gael tan 30 Medi 2021.

Edrychwch ar wefan Busnes Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cyllid sydd ar gael, yn ogystal â chyngor a chymorth amrywiol arall ynghylch dechrau neu dyfu busnes, gan gynnwys Cronfa Dyfodol yr Economi.

Mae Banc Datblygu Cymru yn parhau i ddarparu cyllid busnes hyblyg ar gyfer cwmnïau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, yn amrywio o £1,000 i £10 miliwn.

Bydd pob busnes manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o £500,000 neu lai yn cael rhyddhad ardrethi annomestig o 100% yn 2021-22.   Darllenwch y canllawiau ar y cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch.

Mae manylion cymorth Llywodraeth y DU, gan gynnwys y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (sydd i fod i ddod i ben ar 31 Medi) i'w gweld yn: Coronafeirws (COVID-19): Cymorth Busnes (ar GOV.UK)

Pa gymorth sydd ar gael os na allaf fynd i weithio?

Gall pobl wneud cais i dderbyn taliad o £750 os ydynt wedi cael prawf coronafeirws positif neu os yw gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru neu Ap COVID-19 y GIG wedi dweud wrthynt am hunanynysu.

Mae’r taliad ar gael i bobl ar incwm isel nad ydynt yn gallu gweithio gartref ac a fyddai’n colli incwm o ganlyniad i hunanynysu. I fod yn gymwys, mae’n rhaid i bobl fod yn hunanynysu ac yn derbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-dal penodedig arall.

Gall pobl hefyd wneud cais i'w hawdurdod lleol am daliad disgresiwn os nad ydynt yn gallu gweithio gartref a'u bod yn colli incwm ac yn wynebu caledi ariannol. Mae rhieni a gofalwyr plant y gofynnwyd iddynt hunanynysu drwy eu lleoliad addysg hefyd yn gallu gwneud cais.

Mae’r cynllun Taliad Hunanynysu ar waith ers 16 Tachwedd 2020. Mae pobl yn gallu gwneud cais am y taliadau drwy wefan eu hawdurdod lleol, a rhaid gwneud hawliad o fewn 21 diwrnod i’r cyfnod hunanynysu ddod i ben. Gweler tudalen y cynllun cymorth hunanynysu i gael rhagor o wybodaeth.

Efallai y bydd pobl sy'n hunanynysu hefyd yn gallu cael cymorth gan fudiadau gwirfoddol yn eu hardal os nad oes ganddynt unrhyw ffrindiau neu deulu a all eu helpu i gael bwyd a hanfodion eraill.

Oes rhaid i mi weithio gartref?

Rydym yn gofyn i'r rhai sy'n gallu gweithio gartref i wneud hynny fel rhan o ymdrechion cyffredinol Cymru i reoli lledaeniad y feirws. Dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o leihau’r posibilrwydd o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y gweithle.

Mae'n bwysig iawn os oes gan bobl symptomau’r coronafeirws, nad ydynt yn dod i'r gwaith a’u bod yn cael prawf PCR.

Disgwylir i gyflogwyr fod mor hyblyg â phosibl a gwneud addasiadau i sicrhau bod staff yn gallu gweithio gartref lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Gallai hyn gynnwys rhoi gliniaduron neu ffonau symudol i staff, a hwyluso cyfathrebu â phawb.

Beth yw’r rheolau ynglŷn â rhannu car

Os na allwch weithio gartref a bod angen ichi deithio i’ch gwaith, dylech ystyried sut i wneud hynny yn y ffordd fwyaf diogel posibl. Gweler Lefel rhybudd 0: canllawiau i'r cyhoedd ac adroddiad Grŵp Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru ar sgriniau plastig mewn tacsis a cherbydau hurio preifat i gael rhagor o wybodaeth.

Pan na ellir ei osgoi, dylech gymryd camau i leihau risg y coronafeirws, er enghraifft drwy gynyddu pellter corfforol cymaint â phosibl, agor ffenestri ar gyfer y daith gyfan neu am 10 eiliad ar y tro a gwisgo gorchudd wyneb.

Beth yw’r sefyllfa mewn lleoliadau gofal plant, gwaith chwarae ac addysg?

Er y byddem yn disgwyl i leoliadau gofal plant a gwaith chwarae fod yn gweithredu mewn ffordd mor agos i'r arferol â phosibl, bydd angen iddynt barhau i asesu eu darpariaeth a sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r canllawiau ar gyfer eu sectorau.

Darllenwch ganllawiau pellach:

Canllawiau COVID-19 ar gyfer Gofal Plant a Gwaith Chwarae

Canllawiau Gweithredol i Ysgolion a Lleoliadau

Canllawiau ar gyfer Gweithredu Dysgu Ôl-16 yn Ddiogel

Byddwn yn cyhoeddi ‘Fframwaith Penderfyniadau Rheoli Heintiau COVID-19 Lleol’ ar ddechrau tymor yr hydref ar gyfer pob lleoliad addysg. Bydd y fframwaith yn galluogi lleoliadau addysg i deilwra rhai o'r ymyriadau, megis gwisgo gorchudd wyneb, a threfniadau profi i adlewyrchu lefel y risg a nodwyd yn lleol. Bydd pob lleoliad yn parhau i gael ei gefnogi gan swyddogion iechyd y cyhoedd a'u hawdurdodau lleol i sicrhau bod mesurau'n briodol i'w hamgylchiadau eu hunain. Mae gan bob awdurdod lleol dimau rheoli digwyddiadau, neu debyg, sydd ar waith i ddod ag arbenigwyr allweddol at ei gilydd i lywio penderfyniadau.

Ble bydd hi’n ofynnol imi ddangos tystiolaeth fy mod wedi fy mrechu’n llawn neu wedi cael prawf llif unffordd negatif yn y 48 awr diwethaf er mwyn cael mynediad?

O ddydd Llun 11 Hydref, mae’n ofynnol i bobl ddangos Pàs COVID y GIG i brofi eu bod naill ai wedi'u brechu'n llawn neu wedi cael prawf llif unffordd negatif yn ddiweddar, er mwyn mynd i mewn i'r lleoliadau a'r digwyddiadau canlynol:

  • Clybiau nos
  • Digwyddiadau dan do heb seddi sy’n cynnwys mwy na 500 o bobl, lle mae pobl yn cymysgu'n agos am gyfnodau hir
  • Digwyddiadau awyr agored heb seddi sy’n cynnwys dros 4,000 o bobl, lle bydd pobl yn cymysgu'n agos am gyfnodau hir
  • Unrhyw ddigwyddiad, o unrhyw natur, sydd â mwy na 10,000 o bobl yn bresennol

O 15 Tachwedd 2021, bydd y gofynion uchod yn berthnasol hefyd i bobl dros 18 oed sy'n dymuno mynd i mewn i'r lleoliadau canlynol:

  • Theatrau
  • Sinemâu
  • Neuaddau cyngerdd

Mae pàs COVID y GIG yn caniatáu i bobl naill ai brofi eu bod wedi’u brechu'n llawn neu ddarparu tystiolaeth o Brawf Llif Unffordd negatif.

Gallwch gael eich pàs drwy ddefnyddio system ddigidol y GIG. Bydd y system yn eich galluogi chi i greu pàs covid gan ddefnyddio ffôn clyfar, cyfrifiadur neu liniadur.

Darllenwch y gwybodaeth am sut i gael eich pàs COVID y GIG.

Bydd rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar gael gan Lywodraeth Cymru yn fuan. Darllenwch yr canllawiau presennol ynghylch cael eich pàs COVID.

Gellir archebu profion llif unffordd drwy wefan Llywodraeth Cymru: Cael profion llif unffordd COVID-19 cyflym os nad oes gennych symptomau.

Er y gofyniad hwnnw, rhaid i bob trefnydd digwyddiadau a busnesau barhau i gynnal Asesiad Risg coronafeirws llawn a rhoi mesurau rhesymol ar waith i leihau'r risg o ran y coronafeirws, fel y maent yn ei wneud ar hyn o bryd.

Ar gyfer digwyddiadau sy’n cynnwys llai o bobl na’r lefelau uchod ac y gwerthir tocynnau iddynt ymlaen llaw, dylid ystyried gofyn i’r rhai sy’n mynd iddynt gwblhau holiadur gwirio iechyd cyn y digwyddiad. Neu, p’un a yw’r tocynnau’n cael eu gwerthu ymlaen llaw ai peidio, dylid ystyried gofyn i’r rhai sy’n mynd i’r digwyddiadau ddarparu tystiolaeth o brawf COVID-19 negatif neu dystiolaeth eu bod wedi’u brechu’n llawn.

Mae defnyddio pàs Covid a phrofion llif unffordd yn un ffordd y gellid lleihau’r peryglon sy’n ymwneud â phobl wedi’u heintio yn mynd i leoliadau ac yn lledaenu’r coronafeirws. Efallai y bydd y trefnwyr hefyd am ystyried gofyn i bawb sy'n mynd i safle'r digwyddiad gynnal prawf COVID-19 cyflym gwirfoddol gartref (prawf llif unffordd) er mwyn helpu i ddiogelu eu hunain ac eraill a chaniatáu i’r digwyddiad gael ei gynnal yn ddiogel.

Fel y rhai sy’n mynd i ddigwyddiadau, mae cael y ddau frechiad os gallwch chi yn gallu bod yn eithriadol o bwysig. Mae'r brechlyn yn cynnig amddiffyniadau sylweddol nid yn unig i chi ond hefyd i eraill, gan gynnwys y bobl yr ydych yn poeni amdanynt (hyd yn oed os oeddech yn ansicr a heb fanteisio ar y cynnig eto, nid yw'n rhy hwyr). Dylech hefyd ystyried cymryd prawf COVID-19 cyflym gwirfoddol gartref (prawf llif unffordd) cyn ac ar ôl y digwyddiad (p'un a ydych wedi'ch brechu ai peidio) er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo’r feirws ymhellach. Gallech ystyried a ddylech beidio â chwrdd ag unrhyw un sy'n agored i niwed yn glinigol am 10 diwrnod ar ôl y digwyddiad.

Cofiwch, os oes gennych unrhyw symptomau, ni ddylech fynd i'r digwyddiad yn y lle cyntaf, dylech hunanynysu a threfnu prawf PCR cyn gynted â phosibl.

Beth yw’r rheolau ar gyfer corau?

Mae’n rhaid i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill, gan gynnwys trefnwyr gweithgareddau a digwyddiadau, gynnal asesiad risg coronafeirws pwrpasol o’u safle a’u digwyddiadau a chymryd mesurau rhesymol i leihau’r tebygolrwydd o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a’i ledaenu, yn seiliedig ar yr asesiad risg pwrpasol hwnnw.

Mae canu neu lafarganu yn cynyddu’r aerosolau sy’n cael eu gollwng i’r awyr o gegau pobl. Drwy ganu llai neu roi’r gorau i ganu, gellir helpu i leihau’r perygl o drosglwyddo’r haint.

Os bydd canu neu lafarganu yn digwydd, gan gynnwys fel rhan o gôr, dylid rhoi mesurau lliniaru eraill ar waith fel rhan o’r asesiad risg penodol ar gyfer covid. Gall mesurau ymarferol gynnwys gwella’r awyru, symud y gweithgarwch allan i’r awyr agored, cynyddu'r gofod rhwng pobl, neu ganiatáu i lai o bobl fod yn bresennol.

Fe allai’r angen i wisgo gorchudd wyneb fod yn un o’r mesurau rhesymol a nodir fel rhan o’ch asesiad risg penodol ar gyfer Covid. Fodd bynnag fe fydd hyn yn ddibynnol ar eich asesiad chi o’r holl risgiau a’r camau lliniaru y gallwch eu rhoi ar waith yn ymarferol.

Beth yw'r rheolau ar gyfer teithwyr domestig sy’n teithio i mewn neu allan o Gymru neu i rannau eraill o’r DU?

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar deithio i mewn neu allan o Gymru cyn belled â'ch bod yn teithio i wlad, neu o wlad, sydd o fewn y DU neu'r Ardal Deithio Gyffredin ehangach (Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel).

Mae'n bwysig deall bod y rheolau yma yng Nghymru ychydig yn wahanol. 

Mae'n ddyletswydd gyfreithiol yng Nghymru i wisgo gorchudd wyneb ym mhob man cyhoeddus dan do. Mae'r gofyniad hwn yn berthnasol i bob math o drafnidiaeth gyhoeddus (heblaw trafnidiaeth awyr agored), tacsis a cherbydau hurio preifat ac mae'n cynnwys ardaloedd dan do mewn canolfannau trafnidiaeth megis gorsafoedd bysiau, gorsafoedd trenau, meysydd awyr a phorthladdoedd fferi. 

Os ydych yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus byddem yn eich annog i gynllunio eich taith. Os ydych yn dymuno osgoi cyfnodau prysur gallwch ddefnyddio apiau, fel gwiriwr capasiti Trafnidiaeth Cymru, i osgoi teithio yn ystod cyfnodau prysur.  Mae’n synhwyrol osgoi teithio i mewn neu allan o ardaloedd sydd â chyfraddau uwch o achosion, os gallwch.

Nid ydym yn cyflwyno unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ar deithio o fewn y DU ar hyn o bryd, ond ein cyngor clir yw na ddylai pobl deithio i ardaloedd lle mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yn uchel os oes modd osgoi hynny. Hyd yn oed os ydych wedi cael eich brechu, mae’r risg o ddal COVID-19 yn uwch yn yr ardaloedd hynny, felly dylech osgoi teithio iddynt os oes modd.

Mae rheolau gwahanol yn berthnasol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae’n bosibl fod cyfyngiadau ar deithio i mewn ac allan o wahanol leoedd yno. Dylech edrych beth yw’r rheolau cyn teithio i'r gwledydd hynny, ac i Iwerddon ac Ynysoedd y Sianel, oherwydd y gallai cyfyngiadau fod ar waith.

Peidiwch â theithio os oes gennych symptomau COVID-19 neu os ydych yn hunanynysu. Trefnwch brawf a dilynwch y canllawiau.

Byddem yn annog unrhyw un sy’n bwriadu dod i Gymru o ardal sydd â chyfraddau uwch o’r coronafeirws i brofi eu hunain ddwywaith yr wythnos, gan ddefnyddio’r profion llif unffordd COVID-19 am ddim, cyn iddynt deithio. Dim ond y rhai sy’n cael canlyniad prawf negatif ac sydd heb symptomau’r coronafeirws ddylai deithio. Dylai pawb sy’n dod i Gymru o ardaloedd sydd â chyfraddau uwch o’r coronafeirws ddod â phecynnau profion llif unffordd gyda nhw i barhau i brofi eu hunain yn rheolaidd tra byddant ar wyliau.

Mae pecynnau profion llif unffordd ar gael o bwyntiau casglu lleol ledled y DU. Gellir cael rhagor o wybodaeth yn: Profion llif unffordd cyflym a rheolaidd ar gyfer y coronafeirws (COVID-19) (ar www.nhs.uk)

Beth yw’r rheolau ar deithio rhyngwladol?

Mae mesurau i atal heintiau coronafeirws newydd rhag cael eu mewnforio – yn enwedig amrywiolion newydd – o ganlyniad i deithio rhyngwladol yn bwysig a byddant yn parhau i fod yn rhan o'r mesurau sydd eu hangen dros yr haf ar lefel rhybudd sero.

Mae amrywiolion newydd yn un o'r risgiau mwyaf i lwyddiant ein rhaglen frechu ac i’n hymateb cyffredinol er mwyn lleihau nifer yr achosion o’r coronafeirws a’i gadw dan reolaeth. Os bydd amrywiolyn nad yw ein brechlynnau'n effeithiol yn ei erbyn yn ymsefydlu yn y DU, gallem unwaith eto weld lefelau uchel o salwch difrifol, pobl yn gorfod mynd i’r ysbyty, a marwolaethau.

Ein cyngor cryf o hyd yw y dylai pobl osgoi teithio rhyngwladol nad yw'n hanfodol. Dyma’r flwyddyn i dreulio’ch gwyliau gartref. Byddwn yn parhau i weithio ledled y DU i gytuno ar fesurau diogelu cyffredin i leihau'r risgiau o deithio rhyngwladol.

Os oes angen i chi deithio dramor, darllenwch yr wybodaeth i gael gwybod beth mae angen ichi ei ystyried cyn mynd, ac edrychwch ar y canllawiau ar gyfer teithwyr sy’n cyrraedd Cymru - Rheolau ar gyfer teithio dramor ac i mewn ac allan o Gymru.