Mae'r newyddion fod allforion Cymru wedi cynyddu 18% yn ystod y flwyddyn hyd fis Mehefin 2017 wedi'i groesawu gan Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.
Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod allforion o Gymru i wledydd yr UE wedi cynyddu bron £1.3bn neu 15.4 y cant yn ystod y flwyddyn, a bod allforion i wledydd y tu allan i'r UE wedi cynyddu dros £1.1bn neu 21.2 y cant.
Roedd allforion i'r UE yn cyfrif am 59.8 y cant o gyfanswm Cymru dros y flwyddyn.
Lefel cynnydd Cymru o ran allforion oedd yr ail lefel uchaf o blith deuddeg o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, ac nid oedd ond ychydig yn llai na chynnydd yr Alban o 21.1 y cant. Yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr y gwelwyd y cynnydd lleiaf, sef 6.3 y cant.
Yr Almaen oedd brif gyrchfan Cymru o hyd o safbwynt allfori gan fod 19.4 y cant o'r holl allforion yn mynd yno. Yn ogystal, y sector Peiriannau a Chyfarpar Trafnidiaeth oedd y prif sector o hyd, gan gyfrif am 53.4 y cant o holl allforion Cymru.
Dywedodd Ken Skates:
"Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos perfformiad rhagorol gan ein cwmnïau sy'n allforio, o fewn yr UE a'r tu allan iddo, ac mae lefel y cynnydd yn ail ymysg y DU gyfan.
"Mae cwmnïau o Gymru yn amlwg yn gweithio'n galed i gynyddu eu cyfran o'r marchnadoedd tramor a hoffwn eu llongyfarch ar eu gwaith a'u llwyddiannau.
"Yn sicr gall allforio drawsnewid busnes a'i symud ymlaen i'r lefel nesaf. Dyma pam y mae cynyddu gwerth allforion ynghyd â nifer yr allforwyr yn parhau'n flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn bwysicach nag erioed wrth i ni baratoi i adael yr UE.
"Mae Llywodraeth Cymru'n cynnig pecyn cynhwysfawr o gymorth sydd wedi'i deilwra ar gyfer cwmnïau sy'n dymuno cynyddu eu gwaith allforio, gan gynnig y gefnogaeth gywir iddynt lle bynnag y maent arni."
"Byddwn yn annog cwmnïau sy'n awyddus i ystyried allforio gysylltu â Llywodraeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael."