Lee Waters AS Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Cynnwys

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn cefnogi gwaith Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.
Cynnwys
Bywgraffiad
Mae Lee Waters yn Aelod o’r Senedd dros etholaeth Llanelli. Cafodd ei eni a’i fagu yn Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei addysgu ym Mrynaman a Rhydaman a chafodd Radd Gwleidyddiaeth o Brifysgol Cymru, Aberystwyth.
Mae ei ddiddordebau o ran polisi yn eang iawn, gan gynnwys yr economi, y newid yn yr hinsawdd, darparu ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, y polisi digidol a’r cyfryngau.
Lee yw Aelod Llafur a Chydweithredol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer etholaeth Llanelli. Cyn cael ei ethol ym mis Mai 2016, roedd Lee yn Gyfarwyddwr cronfa syniadau annibynnol amlycaf Cymru, sef y Sefydliad Materion Cymreig. Arferai redeg yr elusen trafnidiaeth gynaliadwy, Sustrans Cymru, ble y bu’n arwain yr ymgyrch am y Ddeddf Teithio Llesol. Roedd yn gyn Brif Ohebydd Gwleidyddol ITV Wales.
Ar 13 Rhagfyr 2018 cafodd ei benodi yn Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.
Cyfrifoldebau
Mae'r Dirprwy Weinidog yn cefnogi cyfrifoldebau gweinidog arall.