Neidio i'r prif gynnwy

Ydych chi’n landlord sydd ag eiddo i’w rentu? Ydych chi wedi ystyried ei lesio drwy eich awdurdod lleol?
Mae Cynllun Lesio Cymru, y cynllun lesio a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig gwarant o incwm rhent am 5 – 20 mlynedd.

Mae’r cynllun hefyd yn cynnig y manteision canlynol:

  • Gwarant o incwm rhent am gyfnod y les  
  • Dychwelyd yr eiddo ichi ar ddiwedd cyfnod y les yn yr un cyflwr ag yr oedd ar ddechrau’r les, ac eithrio’r hyn fyddai’n cael ei ystyried fel traul rhesymol  
  • Yr holl atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw yn cael eu trefnu gan yr awdurdod lleol am hyd cyfnod y les  
  • Rhent yn cyfateb i gyfradd y Lwfans Tai Lleol  
  • Grant o hyd at £5000 ar gyfer unrhyw welliannau sydd angen eu gwneud i’r eiddo er mwyn bodloni safonau Llywodraeth Cymru. Neu grant hyd at £25,000 ar gyfer eiddo gwag    
  • Cymorth rheoli tenantiaeth a chymorth tai parhaus yn cael ei ddarparu gan weithwyr cymorth o fewn yr awdurdod lleol er mwyn helpu’r tenant i gadw’r denantiaeth a gofalu am yr eiddo  

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch awdurdod lleol.