Rhannu sgiliau digidol a gwybodaeth a geir o ddata er mwyn gwella cynhyrchiant.
AMRC Cymru i basio sgiliau digidol ymlaen at weithgynhyrchwyr Cymru
Mae AMRC Cymru wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru a’i nod yw helpu busnesau gweithgynhyrchu Cymru i fabwysiadu technoleg newydd i wella cynhyrchedd, perfformiad ac ansawdd.
Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru mewn canolfan £20 miliwn gyda’r cyfleusterau diweddaraf ym mhentref Brychdyn, mae’n cael ei redeg gan Ganolfan Ymchwil Uwch-weithgynhyrchu Prifysgol Sheffield (AMRC) ac yn aelod o’r 'High Value Manufacturing Catapult' consortiwm o ganolfannau ymchwil prosesau a gweithgynhyrchu blaenllaw gyda chymorth gan Innovate UK.
Cyfarwyddwr Ymchwil AMRC Cymru yw Andy Silcox. Meddai:
"Ein rôl yw ymateb i ddiwydiant a’r heriau a phroblemau gweithgynhyrchu sydd angen eu datrys. Gweithiwn gyda chwmnïau tuag at eu nod penodol drwy ddefnyddio technolegau digidol."
Mae AMRC Cymru’n gosod technoleg ddigidol ar lawr y ffatri er mwyn casglu a dadansoddi data i’w ddefnyddio wedyn i awgrymu gwelliannau.
Gan amlaf mae’r ffocws wedi bod ar wneud nwyddau’n fwy effeithlon ac felly’n fwy cost-effeithiol. Ond erbyn hyn mae AMRC Cymru’n paratoi i weithio gyda chwmnïau i’w helpu i fod yn fwy cynaliadwy. Drwy ei raglen Ffatrïoedd Cynaliadwy SMART, bydd y tîm o ymchwilwyr a pheirianwyr yn helpu busnesau gweithgynhyrchu i leihau allyriadau drwy’r un egwyddor ag ôl-osod technolegau digidol ar gyfarpar llawr-siop.
"Yn syml, mater o ddata yw hyn, a’i ddadansoddi er mwyn helpu busnesau Cymru i ddeall sut i arbed gymaint o ynni â phosib.
"Un o’n cryfderau yw ein bod yn gwybod sut i ddefnyddio technolegau gweithgynhyrchu digidol ac yn ffodus i fod â rhai o’r bobl fwyaf gwybodus yn y maes, felly mater o gymhwyso’r pethau hyn i gynaliadwyedd ydyw.
"Rydym yn ‘uwch-offeru’ peiriannau a chyfarpar y busnes drwy osod technoleg monitro ynni i ddeall sut y gall y busnes ddefnyddio, a gwastraffu, llai o ynni."
Ac wrth gwrs, mae lleihau allyriadau ynni hefyd yn arbed costau. Meddai Andy:
"Mae’n amser da iawn i fusnesau leihau allyriadau, nid yn unig o safbwynt amgylcheddol ond hefyd er mwyn lleihau eu costau gweithredol, yn enwedig o gofio bod ynni’n costio gymaint ar hyn o bryd."
Y cam nesaf yw defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) i edrych ar dueddiadau a phatrymau er mwyn argymell gwelliannau. Er enghraifft, gallai’r data awgrymu y dylai busnes newid ei batrwm shifftiau er mwyn gallu gweithredu ar dariff ynni rhatach. Neu gallai fod proses a allai, drwy ei harafu ychydig, hefyd arbed ynni i’r busnes.
Mewn cydweithrediad ag Airbus, y prif denant ar y safle ym Mrychdyn, defnyddiwyd AI a ‘dysgu peirianyddol’ i gasglu cyfoeth o ddata er mwyn cynnig dealltwriaeth ac argymell gweithredu. Er enghraifft, mae’r cwmni wedi gallu parhau i leihau eu hallyriadau carbon. Dim ond mewn deufis, mae’r cwmni’n defnyddio 4000kWh yn llai o drydan sy’n cyfateb i leihad blynyddol o 49,901kg mewn allyriadau CO2.
Wrth galon y gwaith a wneir gan AMRC Cymru yw rhannu’r dysgu a’r sgiliau a enillir â busnesau gweithgynhyrchu Cymru. Mae’n gobeithio gadael gwaddol parhaol, yn gyntaf drwy agor drysau’r cyfleusterau ym Mrychdyn led y pen i arddangos yr ystod eang o dechnolegau ffatri SMART a allai helpu i leihau allyriadau carbon.
Y gobaith yw dilyn hyn gyda chynllun peilot fydd yn gweld peirianwyr o AMRC Cymru’n gweithio gyda chwmnïau i osod technoleg monitro ynni cost-isel gan basio sgiliau digidol a data ymlaen.
"Ein nod yw hyfforddi diwydiant yng Nghymru i ddefnyddio offer digidol sydd, yn ein barn ni, yn hynod bwerus ac yn cynnig llawer o fanteision i fusnes ar wahân o leihau allyriadau carbon.
"Yn y gorffennol gyda phrosiectau eraill, rydym wedi gwthio’n galed iawn gyda sector bwyd a diod Cymru oherwydd ei fod yn un o’r prif gyfranwyr i economi’r wlad. Ond rydym yn barod i weithio gydag unrhyw fusnes, o unrhyw faint, yn y sector gweithgynhyrchu."
Mae ffocws AMRC Cymru yn fwriadol wedi bod ar helpu busnesau bach a chanolig ond mae ei waith o fudd i fusnesau amlwladol mawr fel Airbus a rhai bach newydd sefydlu sydd ond â 1-2 o bobl mewn garej.
"Pa bynnag fusnes ac o ba bynnag faint, mae ein nod yr un fath. Rydym eisiau arfogi cwmni â sgiliau digidol, gwybodaeth am sut i ddefnyddio data, a sut i wneud gwelliannau.
"Yn fy marn i, peirianwyr fydd yn helpu i achub y blaned. Rydym newydd gyrraedd carreg filltir o tua wyth biliwn o bobl ar y Ddaear ac mae’r galw am ynni ac adnoddau’n fwy nag erioed. Yr unig ffordd i ateb y galw yw naill ai mynd yn ôl i fyw fel yr oeddem cyn 1937, neu ‘beiriannu’ ein ffordd allan o’r broblem.
"Ond mae angen denu mwy o bobl ifanc i ddod yn beirianwyr. Rydym yn chwilio am bobl gyda sgiliau dadansoddi data neu ddatblygu meddalwedd. Ond os ydych eisiau helpu i achub y blaned, dylech fynd yn beiriannydd."