Bydd menyw fusnes o’r Canolbarth sy’n rhedeg cwmni rheoli plâu ledled Prydain yng Nghaerdydd heddiw – gyda’i hebog.
Mae Layla Bennett yn cymeryd rhan yn y Diwrnod Mentora Cenedlaethol yn y Senedd pan fydd yn trafod y manteision busnes o fentora a sut y mae wedi helpu ei busnes - Hawksdrift yn Llanfair ym Muallt.
Mae ei chwmni yn arbenigo yn y defnydd o hebogiaid i gadw adar sy’n blâu i ffwrdd o feysydd awyr, ffatrïoedd a safleoedd diwydiannol, adeiladau cyhoeddus a chanol dinasoedd.
Dyma’r Diwrnod Mentora Cenedlaethol cyntaf i’w gynnal yng Nghymru a bydd yn arddangos yr amrywiol fathau o fentora sy’n cael ei gynnig a’i ddarparu ledled Cymru a Phrydian ac mae’n anelu at godi ymwybyddiaeth o’r cyfraniad gwerthfawr a buddiol y mae mentora yn ei wneud a’r effaith enfawr a gaiff ar yr economi yn ogystal â chymdeithas.
Wedi’i noddi gan Lywodraeth Cymru a’i gefnogi gan Ffederasiwn Busnesau Bychain Chwarae Teg, Business Cymru a Phrifysgol Abertawe, mae’n agored i unrhyw un sydd â diddordeb i fod yn fentor, i gael eu mentora neu sy’n awyddus i ddatblygu grŵp mentora yn eu sefydliad.
Dechreuodd Layla fasnachu yn 2006 pan benderfynoddd droi ei diddordeb yn fusnes llwyddiannus. Mae ganddi bellach gwmni sydd wedi ennill gwobrau sy’n cynnig ffyrdd masnachol o reoli adar ledled Cymru a Lloegr.
Er bod gan Layla brofiad helath o redeg ei busnes ei hun mae’n gwerthfawrogi y mewnbwn gan eraill a dywedodd fod y Gwasanaeth Mentora Busnes Cymru (dolen allanol) yn werthfawr iawn o ran datblygu ei chwmni.
Bydd ei mentor Adrian May, Cyfarwyddwr Gwerthiant a Marchnata sydd ag enw da am sicrhau twf busnesau a datblygu’r tim gwerthu, ac yn Brif Weithredwr yr Institute of Spring Technology, cymdeithas fasnach ryngwladol, yn siarad yn y digwyddiad hefyd.
Mae’r digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau gan y panel a thrafodaethau gyda Helen Walbey (Cadeirydd Polisi Amrywiaeth, FSB), Siwan Rees (Cyfarwyddwr Cyfnewid Prifysgol De Cymru), Louise Button (Partner Cyfranogiad Uwch, Chwarae Teg), Lee Sharma (Simply Do), Shazia Awan (Women Create) a Bronwen Raine (Busnes Cymru).
Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
“Mae mentora yn ddull hynod werthfawr o gefnogi unigolion, busnesau a sefydliadau ac yn rhywbeth yr ydym yn ei wneud yn dda iawn yng Nghymru. Mae’r cyngor, y profiad a’r arbenigedd y gall mentor ei roi i fusnes – boed yn fusnes newydd neu yn fusnes presennol – yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr ac rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn dathlu y Diwrnod Mentora Cenedlaethol.”
Meddai Helen Walbey, Cadeirydd Cenedlaethol Amrywiaeth, Ffederasiwn Busnesau Bach:
“Gall mentora fod yn hynod effeithiol i fenywod, wrth fagu hunan-huder a herio canfyddiadau eu sgiliau a’u galluoedd eu hunain, rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi y Diwrnod Mentora Cenedlaethol”.
Meddai y panelwr Siwan Rees, Cyfarwyddwr Cyfnewid Prifysgol De Cymru:
“Mae rhaglen gyfnewid Prifysgol De Cymru yn cynnig y cyngor busnes gorau un i gwmnïau o bob maint.
“Rydym yn cydweithio’n agos â’r Ffederasiwn Busnesau Bach i greu perthynas sy’n para ac i roi’r cyfloedd y mae myfyrwyr eu hangen i greu cysylltiadau gyda mentoriaid busnes, fydd yn eu tro yn helpu i’w llywio tuag at lwyddiant.
“Rydym yn falch iawn o gefnogi y Diwrnod Mentora Cenedlaethol ac yn cefnogi’r ymdrechion i roi’r cymorth gorau sydd ar gael i’r genhedlaeth nesaf o bobl busnes.”