Neidio i'r prif gynnwy

Mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi cyhoeddi Ein Siarter heddiw, gan nodi sut bydd yn ceisio rhannu gwerthoedd ac ymddygiadau gyda threthdalwyr, cyrff cynrychioliadol, sefydliadau partner a'r cyhoedd yng Nghymru i helpu i gyflwyno system dreth deg i Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gweler Ein Siarter

Cafodd Awdurdod Cyllid Cymru fwy na 120 o ymatebion i'w siarter drafft, gan gynnwys gan sefydliadau fel Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, sy'n cynrychioli 10,000 o fusnesau bach yng Nghymru.

Dywedodd Ben Cottam, pennaeth materion allanol Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru:

“Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn croesawu cyhoeddi Ein Siarter cyn i Awdurdod Cyllid Cymru ddechrau casglu trethi ar 1 Ebrill. Bydd yr ymagwedd gefnogol, yn ogystal â rhannu gwerthoedd a safonau, yn cael ei groesawu gan gwmnïau llai sy'n trosglwyddo i drethi datganoledig Cymru. Bydd hyn yn allweddol o ran y ffordd mae Awdurdod Cyllid Cymru yn bwriadu gweithredu mewn ffordd hygyrch a helpu cwmnïau i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau treth.”

Dywedodd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid:

“Mae cyflwyno'r ddwy dreth newydd hyn yn garreg filltir arwyddocaol i Gymru. Bydd trethdalwyr Cymru eisiau arweiniad a sicrwydd ynghylch sut caiff eu trethi eu casglu.

“Mae siarter Awdurdod Cyllid Cymru yn datgan cyfrifoldebau ar y cyd rhwng yr Awdurdod, cwsmeriaid a’r cyhoedd yng Nghymru ar gyfer creu system dreth deg yng Nghymru.”

Dywedodd Dyfed Alsop, prif weithredwr Awdurdod Cyllid Cymru:

“Rydym yn ymwybodol o'r cyfrifoldebau a'r cyfleoedd pwysig sydd gennym fel awdurdod treth newydd i Gymru. Roeddem eisiau i ddogfen Ein Siarter ddechrau adlewyrchu sut rydym eisiau rhannu cyfrifoldebau, gwerthoedd ac ymddygiadau, wrth i ni weithio gyda phawb i helpu i gyflwyno system dreth deg i Gymru.

“Rydym wedi gweithio gyda threthdalwyr, cyrff cynrychioliadol a sefydliadau partner i'w helpu drwy'r broses o drosglwyddo i'r system dreth newydd. Mae'n hanfodol bod y gwaith hwn yn parhau a bod pawb yn cael eu hannog i ddweud eu dweud am y siarter newydd hon, a fydd yn cefnogi pawb.”

Bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn parhau i ymgysylltu wrth iddynt ymgorffori Ein Siarter; cofrestrwch os ydych eisiau rhoi eich barn.