Mae argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad Tai Fforddiadwy sy'n cael ei gyhoeddi heddiw yn cynnwys dull newydd o ddarparu cyllid grant, gwelliannau i safonau ansawdd tai, polisi pum mlynedd ynghylch rhentu, a chynnig y dylai tai fforddiadwy newydd fod bron yn gyfan gwbl ddi-garbon.
Mae hefyd yn argymell creu corff hyd braich i weithredu fel canolbwynt ar gyfer gwasanaethau proffesiynol a rheoli tir yn y sector cyhoeddus.
Ymgysylltodd y panel yn helaeth â phobl ledled y sector tai, yn ogystal â thenantiaid a'u cynrychiolwyr. Mae'r adolygiad yn edrych ar lawer o agweddau ar dai fforddiadwy a bwriad ei argymhellion yw cynyddu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy, a gwella'r gwaith o ddadansoddi'r anghenion lleol o ran tai mewn cymunedau ar draws Cymru.
Lynn Pamment yw cadeirydd yr Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad Tai Fforddiadwy. Dywedodd:
Rydym wedi rhoi’r lle canolog i anghenion tenantiaid a fforddiadwyedd wrth lunio ein hargymhellion.
Mae'r adolygiad hwn yn rhoi cyfle unigryw i Gymru wneud gwelliannau arloesol i ansawdd a chyflenwad tai fforddiadwy, gan argymell sicrwydd am gyfnod hirach i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, a chadw'r fantol yn wastad rhwng yr holl elfennau sy’n rhoi pwysau ar y gwariant cyhoeddus sydd ar gael i gefnogi adeiladu tai.
Yn bwysig iawn, mae hefyd yn cynnig hyblygrwydd i sefydliadau uchelgeisiol a rhagor o le iddynt wneud eu penderfyniadau eu hunain.
Rydw i'n ddiolchgar iawn i holl aelodau'r Panel ac i'r sector tai am eu cyfraniadau adeiladol i'r gwaith hwn. Rydw i'n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn chwarae rhan bwysig yn yr ymdrechion i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:
Hoffwn ddiolch i Lynn a'r panel am eu gwaith adeiladol. Byddaf yn ystyried yr adroddiad hwn yn ofalus wrth inni edrych ar ehangu ein dyheadau i gynyddu'n ddramatig y cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru.