Bydd ymgyrch yn cael ei lansio heddiw ar y teledu sy’n annog pobl i gymryd camau os ydyn nhw’n amau bod camdriniaeth ddomestig yn digwydd i ffrind neu aelod o’r teulu.
Mae’r ymgyrch a fydd i’w gweld hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol yn defnyddio’r straplein “Mae angen mwy na dymuno i bethau wella”. Mae hefyd yn tynnu sylw at y ffaith y gall y Nadolig arwain yn aml at weld y cam-drin domestig yn gwaethygu mewn teuluoedd sydd eisoes wedi’i dal mewn cylch o gam-drin.
Mae’n anfon neges at ffrindiau a theuluoedd sy’n gweld arwyddion cam-drin domestig na ddylent ryw obeithio y bydd y cam-drin yn diflannu ar ei ben ei hun. Yn hytrach, dylent gymryd yr arwyddion o ddifrif, cymryd camau a holi am help neu gall y canlyniadau olygu newid byd llwyr.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau Carl Sargeant:
“Dyw cam-drin domestig ddim yn hawdd ei weld yn aml iawn a gall rhywun peidio â sylw arno am fisoedd, neu flynyddoedd hyd yn oed. Weithiau, fodd bynnag, bydd cydweithwyr, ffrindiau, cymdogion a hyd yn oed aelodau o’r teulu yn sylwi ar yr arwyddion heb weithredu ymhellach ar eu hamheuon rhag ofn eu bod wedi camgymryd y sefyllfa, yn ymyrryd neu hyd yn oed yn gwaethygu’r sefyllfa i’r sawl sy’n cael ei gam-drin.
“Gyda’r ymgyrch yma, ein nod yw annog pawb sy’n amau bod ffrind neu aelod o’r teulu’n cael ei gam-drin i gymryd camau a gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw’r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i gael help.
Bydd yr hysbyseb deledu i’w gweld ar ITV Cymru ac S4C o ddydd Gwener, 16 Rhagfyr tan ddydd Sadwrn, 31 Rhagfyr. Bydd rhai o’r hysbysebion yn cael eu darlledu adeg yr oriau brig pan fydd rhaglenni fel Coronation Street, Emmerdale a Pobl y Cwm, ITV News a rhaglenni gemau rygbi cyfeillgar yng Nghymru ar S4C yn cael eu dangos.