Neidio i'r prif gynnwy

Ar Ddydd Gŵyl Dewi bydd Blwyddyn Chwedlau 2017 Cymru yn mynd gam ymhellach wrth i ymgyrch ryngwladol gael ei lansio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

  • Er mwyn adeiladu ar lwyddiant y Flwyddyn Antur yn 2016, mae Croeso Cymru wedi lansio ymgyrch Blwyddyn Chwedlau fyd-eang gwerth £5 miliwn.
  • Mae'r ymgyrch Chwedlau yn cynnwys hysbyseb teledu a sinema newydd sy'n cynnwys Luke Evans - un o sêr rhyngwladol pennaf Cymru.
  • Bydd yr ymgyrch chwedlau - sy'n torri tir newydd yn ôl y diwydiant - yn cael ei rhoi ar waith yng Nghymru, y DU, Iwerddon, yr Almaen ac UDA.
Mae'r ymgyrch uchelgeisiol gwerth £5miliwn yn canolbwyntio ar hysbyseb teledu a sinema creadigol newydd. Mae’r ymgyrch hefyd yn cwmpasu amrywiaeth eang o weithgarwch yng Nghymru, y DU, Iwerddon, yr Almaen ac UDA.  Mae'r hysbyseb, sydd wedi'i ffilmio yn Eryri, yn dangos y gorau o ddoniau creadigol Cymru ac mae'n defnyddio technoleg 21C i ddod â chwedlau ein gwlad yn fyw i gynulleidfaoedd newydd ar draws y byd. Bydd yn gwahodd pobl i rannu eu profiadau yng Nghymru trwy’r hashnod #GwladGwlad.
Mae’r hysbyseb sinematig yn dathlu storïwyr Cymru ddoe a heddiw ac yn llwyfan ar gyfer rhai o dalentau creadigol gorau Cymru, yn  cynnwys Luke Evans o Bont-y-pŵl - seren rhai o ffilmiau mwyaf 2016 a 2017 – a’r Cyfarwyddwr, Marc Evans. 
Luke Evans yw'r Cymro diweddaraf i gefnogi ymgyrch Blwyddyn Chwedlau 2017. Mae Luke yn ymuno ag enwogion eraill gan gynnwys Iwan Rheon o Game of Thrones a'r cerddor a chyflwynydd Cerys Matthews i gefnogi Croeso Cymru a dathlu diwylliant unigryw Cymru mewn ffordd newydd. 
Dywedodd Luke: "Rwy'n gyffrous iawn i fod yn cefnogi Cymru wrth i ni rannu rhai o'n straeon mwyaf diddorol ag ymwelwyr o bob cwr o'r byd. Wrth i mi dyfu fyny, roedd straeon Cymru yn rhan fawr o'm diwylliant, a gallwch weld eu heffaith o hyd, os ydych yn gwybod ble i edrych. Mae cynifer o dalentau newydd yng Nghymru ar hyn o bryd, a chymaint o atyniadau o'r safon uchaf. Mae 2017 yn teimlo fel yr amser gorau i rannu ein treftadaeth ac i ddathlu effaith y diwylliant hwnnw arnom heddiw ac yn y dyfodol."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates: 
"Yn ystod y cyfnod hwn o newid mawr, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo Cymru i'r byd mewn ffordd newydd - gan adrodd stori ein gwlad i gynulleidfaoedd o bob math gyda chreadigrwydd cyfoes. Diben y Flwyddyn Chwedlau yw dod â'r gorffennol yn fyw a chreu chwedlau ar gyfer y dyfodol. Rwy'n falch bod seren ryngwladol fel Luke Evans wedi gweithio gyda ni ar yr hysbyseb yma sydd yn torri tir newydd o ran arddull hysbysebion gwyliau. Mae’r hysbyseb yn unigryw Gymreig a’r nod yw codi proffil ein cyfoeth o ddiwylliant ar hyd a lled y byd – a hynny am y tro cyntaf erioed i’r graddau hyn. Ryn ni yn gobeithio ysbrydoli cenhedlaeth newydd yma yng Nghymru hefyd i ymddiddori yn ein treftadaeth - a sylweddoli bod ein hanes a’n chwedloniaeth yn rhan o stori greadigol Cymru heddiw. "
Wedi ei ffilmio wrth ymyl Llyn Llydaw yn Eryri,  mae’r hysbyseb yn gyflwyniad ysbrydoledig  i gyfoeth Cymru o straeon a chymeriadau – rhai yn fyd-enwog ac eraill yn llai adnabyddus. Mae Arthur; Branwen; Rhiannon; Blodeuwedd; Owain Glyndŵr; Llywelyn; Twm Sion Cati; a Barti Ddu yn cael eu crybwyll gan Luke Evans -  gyda'r defnydd o effeithiau arbennig yn ychwanegu haen hudol o saethau’n hedfan, o ddyfroedd yn codi, ac adar Rhiannon.  Ceir rhagor o wybodaeth am y chwedlau yn yr hysbyseb ar wefan Croeso Cymru.
Bydd yr hysbyseb yn cael ei ddangos ar y teledu, mewn sinemâu, ar blatfformau digidol a'r cyfryngau cymdeithasol, ac mewn digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn. Mae’r ymgyrch amlgyfrwng ehangach hefyd yn cynnwys ymgyrchoedd print ac ar-lein; hysbysebion awyr agored; a phartneriaethau â sefydliadau sy'n amrywio o Warner Brothers i P&O Ferries.  Mae'r uchafbwyntiau sydd i ddod yn cynnwys Derbyniad i’r Cyfryngau a’r thema’r Chwedlau yn Manhattan gyda'r Prif Weinidog ar 2 Mawrth; Arddangosfa Explore GB i brynwyr o 40 gwlad ar 2-3 Mawrth; a phresenoldeb yn ffair fasnach twristiaeth ryngwladol ITB Berlin rhwng 7 a 10 Mawrth.Mae ymchwil yn dangos bod marchnata Croeso Cymru yn cael effaith go iawn ar economi Cymru a'r nod yw annog gwariant ychwanegol o dros £300 miliwn yng Nghymru eto yn 2016.