Mae ymgynghoriad ar fynd i’r afael â throseddau gwastraff a pherfformiad gwael yng Nghymru wedi cael ei gyhoeddi.
Mae’r ymgynghoriad, a ddatblygwyd ar y cyd â Llywodraeth y DU yn cynnwys cynigion sy’n ymwneud â’r tri maes hwn. Maent yn ceisio mynd i’r afael â throseddau gwastraff er mwyn helpu i amddiffyn iechyd pobl a’r amgylchedd ac atal gweithgarwch troseddol syn tanseilio busnesau cyfrifol:
- Diwygio’r gyfundrefn eithriadau gwastraff
- Cryfhau’r gofynion i bobl sy’n gwneud cais i weithredu canolfan wastraff, er mwyn iddynt ddangos eu bod yn ddigon cymwys
- Cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer trosedd deiliad tai sydd yn rhoi gwastraff i gludydd gwastraff anawdurdodedig neu safle gwastraff anawdurdodedig o dan y darpariaethau Dyletswydd Gofal.
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn:
“Rydym yn o ddifrif ynghylch mynd i’r afael â throseddau gwastraff. Mae’n cael effaith sylweddol ar ein hamgylchedd naturiol a gall arwain at gymunedau yn dioddef oherwydd arogleuon, sbwriel, llwch, fermin a phlâu o bryfed. Mae gwastraff a ollyngwyd yn anghyfreithlon yn peri risg o dân, sy’n debygol o darfu ar ein seilwaith, heb sôn am ysbytai ac ysgolion. Perchnogion y tir neu’r pwrs cyhoeddus sy’n talu am y gwaith clirio gan amlaf.
“Yma, mae effaith economaidd troseddau gwastraff yn sylweddol. Yn 2015, costiodd hyn o leiaf £15 miliwn i ni yng Nghymru. Rwy’n edrych am farn a safbwyntiau yn yr ymgynghoriad hwn, a hynny, er mwyn sicrhau bod y ffordd yr ydym yn mynd i’r afael â throseddau gwastraff yn dod â manteision amgylcheddol, manteision iechyd, manteision cymdeithasol ac economaidd i gymunedau Cymru a chenedlaethau’r dyfodol.”
Mae’r ymgynghoriad yn cynyddu pwerau a gyflwynwyd yn 2015. Mae'n cryfhau gallu Cyfoeth Naturiol Cymru i gymryd camau gweithredu cyflymach a mwy effeithiol er mwyn mynd i’r afael â pherfformiad gwael a chwmnïai gwastraff anghyfreithlon ar draws y diwydiant gwastraff yng Nghymru.
Dywedodd Prif Weithredwr Dros Dro Cyfoeth Naturiol Cymru, Kevin Ingram:
“Fel rheoleiddiwr y diwydiant gwastraff yng Nghymru, rhaid i ni sicrhau bod gwastraff yn cael ei reoli fel nad yw’n llygru’r amgylchedd, niweidio iechyd pobl nac yn amharu ar ein cymunedau lleol. Rydym eisiau cefnogi busnesau cyfreithiol sy’n cydymffurfio â’r rheolaethau cyfreithiol perthnasol a stopio troseddwyr sydd ddim yn bwriadu cydymffurfio â’r rheolau hyn.
“Ry’n ni’n credu y bydd y cynigion hyn yn gwella cymhwysedd ar draws y diwydiant gwastraff ac yn caniatáu i ni dargedu’r cwmnïau gwastraff hynny sy’n torri corneli ac yn gwasgu busnesau cyfreithlon. Byddwn hefyd mewn sefyllfa gryfach i allu adnabod y bobl hyn a chosbi’r rhai sy’n gweithredu’n anghyfreithlon ac i adfer unrhyw gostau a threthi y maent wedi osgoi eu talu.”