Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynigion i alluogi ffermwyr tenant i fod yn fwy gwydn, proffesiynol a ffyniannus trwy weddnewid deddfau tenantiaeth amaethyddol yn rhan o ymgynghoriad sy’n cael ei lansio heddiw (9 Ebrill).

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar hyn o bryd, mae tua 30% o’r tir fferm yng Nghymru yn cael ei rentu naill ai drwy’r Ddeddf Daliadau Amaethyddol, y Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol neu gytundebau anffurfiol mewn perthynas â thrwyddedau pori.

Mae’r ymgynghoriad yn edrych am ffyrdd o foderneiddio elfennau o’r deddfau tenantiaeth hyn sy’n hen ffasiwn neu’n cyfyngu ar arferion ffermio modern.

Mae’r ymgynghoriad 12 wythnos, sy’n rhedeg ochr yn ochr ag ymgynghoriad arall gan Defra, yn adeiladu ar argymhellion y Grŵp Diwydiant Diwygio Tenantiaeth, a ddarparodd gyngor ar y blaenoriaethau polisi allweddol ar gyfer y sector tenantiaeth wrth i’r Deyrnas Unedig baratoi i ymadael â’r UE.

Y nod yw galluogi ffermwyr tenant a landlordiaid amaethyddol i ffynnu trwy sicrhau bod tenantiaethau amaethyddol yn addas i’r dyfodol wrth i ni symud i ffwrdd o’r Polisi Amaethyddol Cyffredin a chyflwyno polisi amaethyddol newydd.

Bydd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn pobl ar gynigion a allai ddileu rhwystrau canfyddedig i lefelau cynhyrchiant a’i gwneud hi’n haws i wneud newidiadau strwythurol yn y sector ffermio tenant.

Nod y newidiadau yw dileu rhwystrau i denantiaid godi neu addasu adeiladau, buddsoddi mewn cyfarpar sefydlog newydd, cymryd mwy o dir neu arallgyfeirio i weithgareddau nad ydynt yn rhai amaethyddol, megis rheoli tir er lles yr amgylchedd, heb gael caniatâd y landlord yn gyntaf.

Bydd yr ymgynghoriad, lle bydd ymatebion yn cael eu gwneud o ble mae’r deiliad wedi cofrestru pan fo tir ar y ffin, yn canolbwyntio ar bedwar maes penodol:

  1. Cynigion i hwyluso newid strwythurol – mae’r cynigion wedi’u dylunio i alluogi’r tenant i ildio neu drosglwyddo ei hawliau i eraill cyn oedran ymddeol, gan greu cyfleoedd ar gyfer y genhedlaeth iau.
  2. Cynigion i hwyluso cynhyrchiant, buddsoddiad a gwelliannau i’r amgylchedd – byddai’r cynigion yn cynnwys llacio’r cymalau cyfyngol safonol mewn prydlesi sy’n atal tenantiaid rhag gwneud buddsoddiadau tymor hwy mewn arferion rheoli tir cynaliadwy a gwelliannau i gynhyrchiant.
  3. Opsiynau anneddfwriaethol – gall hyn fod trwy froceru cysylltiadau gwell a mwy cadarn rhwng y tenant a’r landlord a hyrwyddo manteision cytundebau tenantiaeth hwy.
  4. Cais am dystiolaeth – mae’r adran hon yn cynnwys galwad agored am dystiolaeth sy’n cwmpasu cyfyngiadau morgeisi ac adfeddiannu busnesau fferm i helpu i ystyried y materion a chamau posibl yn y dyfodol.

Bydd yr ymgynghoriad yn gofyn hefyd am dystiolaeth a barn ar a yw’r cyfyngiadau presennol ar forgeisi amaethyddol yn rhwystr i dirfeddianwyr sydd eisiau gosod tir, ynghyd ag a oes angen cyflwyno mesurau ychwanegol mewn achosion adfeddiannu i ddarparu diogelwch i fenthycwyr busnes fferm nad ydynt yn gallu talu’r ad-daliadau.

Y gobaith yw y bydd y cynigion newydd yn sicrhau na fydd deddfau tenantiaeth yn effeithio ar allu tenantiaid a landlordiaid i addasu i newid, i gael mynediad at gynlluniau newydd, i wella cynhyrchiant ac i alluogi newid strwythurol. 

Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 2 Gorffennaf.

Meddai Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

“Rydyn ni’n benderfynol o roi’r diwydiant amaeth yn y sefyllfa orau posibl i ffynnu yn y dyfodol a galluogi landlordiaid a thenantiaid i addasu i heriau a goresgyn pa bynnag faterion y byddan nhw’n eu hwynebu.

“Wrth i ni baratoi i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n cefnogi cynigion fel hyn fel y gall ffermwyr tenant fod yn sicr bod eu dyfodol yn gryf a chynaliadwy.

“Rydyn ni’n annog pawb yn y sector i rannu eu safbwyntiau fel y gallwn ni gael syniad o’r materion sy’n eu hwynebu a sicrhau bod y rheoliadau newydd yn addas i’r diben. Gyda’r gwaith diwygio hwn, rydyn ni’n benderfynol o helpu busnesau fferm i ddod yn fwy proffesiynol, gwydn a ffyniannus yn y dyfodol.”

Meddai Cadeirydd y Grŵp Diwydiant Diwygio Tenantiaeth, Julian Sayers:

“Mae TRIG, fel y Grŵp traws-ddiwydiant, wedi gweithio’n agos gyda chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru i nodi sut i fywiogi’r sector tenantiaeth trwy fesurau deddfwriaethol pellach a mesurau eraill.

“Rydyn ni’n wynebu cyfnod o newid sylweddol ar draws y diwydiant ffermio yn ei gyfanrwydd, a rhaid i landlordiaid a thenantiaid fod mewn sefyllfa i addasu dros y blynyddoedd nesaf a thu hwnt.”