Neidio i'r prif gynnwy

Mae ymgynghoriad ar wahardd gwerthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti wedi ei lansio heddiw gan Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar hyn o bryd, gall cŵn a chathod bach naill ai gael eu prynu drwy werthwr trydydd parti, yn uniongyrchol o fridiwr neu o ganolfan achub/ail-gartrefu. 

Gwerthwyr masnachol trydydd parti yw'r rhai hynny sy'n werthwyr anifeiliaid anwes wedi'u trwyddedu; yng Nghymru byddai ganddynt drwydded o dan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951

Yn ôl yr amcangyfrifon hyn, mae rhwng 40,000 ac 80,000 o gŵn bach a chathod yn cael eu gwerthu drwy drydydd partïon ym Mhrydain Fawr bob blwyddyn.

Mae pryderon y gallai gwerthiant masnachol gan drydydd parti fod yn gysylltiedig ag amodau lles gwaeth i'r anifeiliaid o gymharu â phrynu gan y bridwyr yn uniongyrchol.  Er enghraifft,  gallai hyn gynnwys cyflwyno'r anifail i amgylcheddau newydd a dieithr, a'i fod yn fwy tebygol y byddai'n rhaid i'r cŵn a'r cathod bach wneud sawl taith.

Bydd yr ymgynghoriad yn ceisio casglu gwybodaeth am y gadwyn gyflenwi o gŵn a chathod bach i helpu i weld ble y gallai ymyrraeth gan y Llywodraeth yng Nghymru gael yr effaith fwyaf. 

Dywedodd Lesley Griffiths: 

“Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

"Mae tystiolaeth glir ei bod yn bosibl y byddai mwy o berygl o glefydau a llai o gyfle i anifeiliaid fod yn gymdeithasol a chreu arferion o werthu cŵn a chathod bach drwy drydydd partïon o gymharu â phrynu yn uniongyrchol o'r bridiwr. 

"Mae mwyafrif llethol y rhai hynny sy'n prynu cŵn a chathod bach yn gwneud hynny gan geisio gwneud y peth iawn. Fodd bynnag, nid yw bob amser yn amlwg i'r prynwr o ble y daeth eu hanifail anwes newydd, neu o dan ba amodau y cafodd ei fagu. 

“Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i gasglu cymaint o wybodaeth â phosibl i'n galluogi i wneud gwelliannau parhaus i les cŵn a chathod bach sy'n cael eu magu yng Nghymru. Gallai gwahardd gwerthu cŵn a chathod bach yn fasnachol gan drydydd parti fod ond yn un agwedd ar hyn. 

 "Rwy'n annog i unrhyw un sydd â diddordeb mewn lles anifeiliaid fod yn rhan o hyn a rhannu eu barn gyda ni ar sut y gallwn wella amodau gwerthu a sicrhau arferion lles da."

Bydd ymgynghoriad ar effaith gwahardd gwerthu cŵn a chathod bach gan drydydd partïon yng Nghymru yn cael ei lansio rhwng 19 Chwefror ac 17 Mai 2019.