Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw lansiwyd ymgynghoriad ar sicrhau dyfodol cynaliadwy i foroedd a diwydiant pysgota Cymru gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Leslie Griffiths.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod yr ymgynghoriad 16 wythnos hwn, sy'n atgyfnerthu ymrwymiad Llywodraeth Cymru tuag at yr amgylchedd morol, yw annog trafodaethau i helpu i lywio'r ffordd y caiff pysgodfeydd eu rheoli yn y dyfodol yng Nghymru gan sicrhau manteision wrth reoli stociau pysgod yn gynaliadwy fel rhan o ecosystemau morol cydnerth.

Mae arfordir a moroedd Cymru yn asedau naturiol gwerthfawr sy'n cyfrannu at ein llesiant. Maent hefyd yn cyfrannu miliynau at yr economi, yn cynnal miloedd o swyddi ac yn rhoi inni dreftadaeth a diwylliant cyfoethog. Mae dros 60% o bobl Cymru'n byw ger ein glannau, ac mae'r holl ddinasoedd mawr a llawer o'r prif drefi wedi'u lleoli ar yr arfordir.

Mae ymadael a'r Undeb Ewropeaidd (UE) a'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (PPC) yn gyfle i Gymru lunio ei pholisi ei hunan ar adeg arwyddocaol i'r diwydiant morol a physgota yng Nghymru. Mae hefyd yn cyflwyno heriau o gofio natur gysylltiedig cadwyni cyflenwi a marchnadoedd gyda hyd at 90% o allforion pysgota yn mynd i'r UE.
Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am farn ar amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys:

  • Rheoli cyfleoedd pysgota ar ran pobl Cymru yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Wrth inni ymadael â'r UE, byddai unrhyw gyfleoedd pysgota ychwanegol a gaiff eu negodi ar gyfer Cymru yn cael eu rheoli er mwyn cynnig mwy o fudd i'n cymunedau arfordirol ac arwain at dwf cynaliadwy yn y diwydiant pysgota.
  • Cyflwyno arferion rheoli mwy cynaliadwy ar gyfer rhywogaethau sydd â gwerth masnachol, gan wneud hynny ar sail dystiolaeth wyddonol gadarn. Gallai'r arferion hynny gynnwys dulliau rheoli addasol a fyddai’n cyflwyno system fonitro er mwyn cynnal stociau penodol a chynnig yr hyblygrwydd i agor a chau pysgodfeydd mewn ymateb i effeithiau ac amrywiadau amgylcheddol.  Ein bwriad yw sicrhau y byddai dulliau rheoli addasol, dros amser, yn fodd i wneud ein hecosystemau hyd yn oed yn fwy cydnerth. 

Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 21 Awst 2019.

Dywedodd y Gweinidog: 

"Rwy'n gwybod pa mor bwysig yw'r amgylchedd morol i bobl, ac ar ôl cael llawer o sgyrsiau am Brexit, rwy'n gwybod bod pobl yn poeni am ei effaith. Fel y mae'r ymgynghoriad yn ei bwysleisio, rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddiogelu ein hamgylchedd morol wrth inni ymadael â'r UE. 

"Dyma adeg arwyddocaol i'r sector pysgodfeydd a bydd sut ydym yn ymadael â'r UE yn effeithio'n sylweddol ar y diwydiant.

"Rydym yn croesawu'r penderfyniad diweddar i estyn Erthygl 50 - ni allwn wadu'r effaith drychinebus y byddai Brexit heb gytundeb yn ei chael ar y diwydiant a rhaid osgoi hynny ar bob cyfri. Rwyf am i'r ymgynghoriad hwn hyrwyddo trafodaeth go iawn am sut y gallwn sicrhau bod y sector yn parhau i ffynnu ar ôl Brexit a hynny mewn ffordd gynaliadwy.

“Mae gadael y PPC, yn gyfle inni deilwra'n polisïau fel eu bod yn diwallu anghenion Cymru. Mae ein diwydiant pysgota yn unigryw o gymharu ag ardaloedd eraill yn y DU, ac er bydd llawer o'r heriau yn parhau, bydd rhai yn wahanol. 

"Mae datganoli yn rhoi cyfle inni ddatblygu system sy'n gweithio i Gymru, gan weithio'n agos gyda'r sector i helpu i lywio'i dyfodol. Hoffwn annog pawb yn y sector ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn sicrhau dyfodol cadarn, cynaliadwy a ffyniannus i bysgodfeydd Cymru gymryd rhan a mynegi eu barn."

Yr ymgynghoriad hwn yw'r cam cyntaf o ran llunio polisi a system reoli newydd, sy'n seiliedig ar ddeddfwriaeth briodol.