Neidio i'r prif gynnwy

Rydym am glywed barn pobl sy'n talu ardrethi ynghylch sut y gallwn fynd ati i wella'r broses apelio ar gyfer ardrethi annomestig yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rydym yn lansio ymgynghoriad ar wella a moderneiddio proses apelio sydd wedi bod ar waith ers amser maith er mwyn sicrhau ei bod mor deg ac effeithlon â phosibl.

Mae'r holl refeniw a ddaw o ardrethi annomestig yng Nghymru yn cael ei ailddosbarthu i lywodraeth leol a chyrff plismona yng Nghymru. 

Mae hyn yn helpu i dalu am y gwasanaethau yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt – addysg, gofal cymdeithasol, rheoli gwastraff, trafnidiaeth, tai, diogelwch y cyhoedd, cyfleusterau hamdden ac amwynderau amgylcheddol, ymysg eraill.  

Mae'r ymgynghoriad yn egluro sut y gallai'r broses apelio fod yn fwy addas ar gyfer ein hamgylchiadau newydd, gan elwa ar y manteision sydd i'w cael o ddefnyddio technoleg fodern.

Hefyd mae angen edrych ar agweddau penodol megis pryd y dylai gwybodaeth gael ei darparu yn ystod y broses apelio, y posibilrwydd o godi tâl ar apeliadau aflwyddiannus, cosbau sifil newydd am roi gwybodaeth ffug, a gofyniad i wneud apeliadau mewn modd cyfrifol ac atebol. 

Wrth lansio'r ymgynghoriad heddiw, dywedodd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol:

“Mae ardrethi annomestig yn cynhyrchu £1 biliwn ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus, felly mae'n hanfodol bod pawb sy'n gymwys i'w talu yn gwneud hynny.

“Fodd bynnag, o'n hochr ni, mae angen hefyd sicrhau bod y broses apelio mor deg a thryloyw â phosibl.

“Un o brif nodweddion y system ardrethi yng Nghymru yw bod gan bawb sy'n talu ardrethi yr hawl i apelio yn erbyn lefel eu hardrethi os ydyn nhw'n credu ei bod yn anghywir.  

“Mae'n bwysig bod pawb yn talu'r swm cywir, ac os nad yw'r swm yn gywir bod hynny'n cael ei unioni cyn gynted â phosibl. 

“Mae yr un mor bwysig bod pawb sy'n talu ardrethi yn gweithredu mewn modd cyfrifol wrth ddefnyddio'r broses apelio.  

“Dyma ddechrau ar 12 wythnos o ymgynghori er mwyn cael barn y rheini sy'n talu ardrethi, cynrychiolwyr o fyd diwydiant, pobl sy'n talu trethi eraill, ac awdurdodau lleol.  

“Rydyn ni'n awyddus iawn i gael eu sylwadau er mwyn ein helpu i sicrhau bod y broses apelio ar gyfer ardrethi annomestig yn addas ar gyfer y dyfodol ac yn gallu bodloni anghenion busnesau Cymru.”