Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Bydd system graddau arolygu newydd ar gyfer gwasanaethau gofal yng Nghymru yn dod i rym ar 1 Ebrill i helpu i sicrhau bod pobl yn cael y gofal gorau posibl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y graddau yn helpu pobl i ddeall mwy am ansawdd y gofal sy’n cael ei ddarparu. Bydd yn haws, felly, i unigolion a theuluoedd wneud penderfyniadau sydd wedi’u seilio ar yr wybodaeth berthnasol am eu dewisiadau gofal.

Yn dilyn arolygiad, bydd pob cartref gofal a gwasanaeth cymorth cartref ar draws Cymru yn cael graddau. Bydd yn rhaid i’r mwyafrif ohonynt arddangos y graddau hynny ar y safle ac ar-lein.

Bydd y graddau yn rhoi arwydd clir o ansawdd y gofal ar draws pedair thema allweddol: Llesiant; Gofal a Chymorth; Arweinyddiaeth a Rheolaeth; ac Amgylchedd.

Bydd penderfyniad yn cael ei wneud am bob thema i nodi ei bod yn rhagorol, da, angen gwella neu angen gwella’n sylweddol.

Cafodd ymgynghoriad ei gynnal y llynedd gan Lywodraeth Cymru ar y sgoriau arolygu ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref.

Mae’r system newydd wedi’i datblygu drwy gydweithio’n agos â darparwyr a chomisiynwyr gofal ledled Cymru, a bydd yn helpu i gymell safonau o ansawdd uchel ar draws gwasanaethau gofal.

Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn cefnogi gwasanaethau i roi’r system newydd ar waith. Bydd y graddau yn cael eu dangos yn glir mewn adroddiadau arolygu, ar wefan AGC ac ar bosteri i’r darparwyr gwasanaethau eu harddangos.

Dros y misoedd nesaf, bydd mwy a mwy o wasanaethau yn arddangos eu graddau. Fodd bynnag, bydd yn cymryd hyd at ddwy flynedd i’r holl wasanaethau perthnasol gael eu harolygu a chael eu graddau.

Mae’r system newydd yn cynrychioli newid sylweddol a phwysig ar gyfer cefnogi gwelliannau parhaus. 

Dywedodd Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol:

Mae gan wasanaethau gofal ledled Cymru rôl hanfodol i ofalu am bobl. I lawer o bobl, gall gwasanaeth gofal hefyd fod yn gartref iddyn nhw, lle maen nhw’n byw ac yn ffynnu. Rydyn ni am barhau i sicrhau eu bod nhw’n derbyn y gofal gorau posibl.

Bydd y graddau hyn o gymorth i bobl wrth iddyn nhw wneud penderfyniadau pwysig i ddewis beth sy’n iawn iddyn nhw ac i gefnogi eu lles.

Byddan nhw hefyd o gymorth i’r darparwyr gwasanaethau, er mwyn nodi’n union beth yw eu cryfderau yn ogystal â’r meysydd lle mae angen iddyn nhw dyfu a datblygu.

Hoffwn i ddiolch i’r sector am eu gwaith i’n helpu i ddatblygu’r system.

Dywedodd Gillian Baranski, y Prif Arolygydd yn Arolygiaeth Gofal Cymru:

Bydd y system graddau newydd hon yn helpu pobl i wneud dewisiadau sy’n seiliedig ar y dystiolaeth am wasanaethau gofal ac yn cefnogi darparwyr hefyd i wella ansawdd y gofal maen nhw’n ei ddarparu yn barhaus.

Mae’r rhan fwyaf o ofal yng Nghymru yn ofal da. Bydd y graddau yn tynnu sylw at yr hyn sy’n gweithio’n dda ac yn cefnogi gwelliannau lle y bydd eu hangen ledled Cymru.