Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi gweledigaeth i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050 heddiw (11 Gorffennaf).

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cymraeg 2050 – miliwn o siaradwyr Cymraeg yn gosod trywydd uchelgeisiol ar gyfer yr iaith ac yn cydnabod yr angen am gynllunio gofalus a threfnus os ydym am wireddu’r weledigaeth.

Bydd angen gweithredu ar y cyd nawr er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg. Ein nod wrth wneud hyn yw rhoi’r sgiliau i bobl allu defnyddio'r iaith gyda'u teuluoedd, yn y gymuned ac yn y gwaith. Er mwyn galluogi hynny i ddigwydd, mae angen inni greu amgylchedd lle mae pobl yn gallu, ac eisiau defnyddio'r iaith.

Mae'r Strategaeth yn nodi dau darged trosfwaol, sef:

  • Nifer y siaradwyr Cymraeg i gyrraedd 1 miliwn erbyn 2050; 
  • Canran y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy'n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu o 10 y cant i 20 y cant erbyn 2050.

Er mwyn cyrraedd y targedau hyn, byddwn yn hybu'r newidiadau trawsnewidiol canlynol drwy gyfrwng tair thema:

Thema 1 – Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg

  • Gwneud cynnydd cyflym i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg y blynyddoedd cynnar i 150 yn fwy o grwpiau meithrin dros y degawd nesaf er mwyn hwyluso dilyniant i addysg cyfrwng Cymraeg.
  • Cynyddu’r gyfran o bob grŵp blwyddyn ysgol sy’n cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg o 22 y cant (sy’n seiliedig ar 7,700 o ddysgwyr saith oed yn 2015/16) i 30 y cant (tua 10,500 ym mhob grŵp blwyddyn) erbyn 2031, ac yna i 40 y cant (tua14,000 ym mhob grŵp blwyddyn) erbyn 2050.
  • Gweddnewid sut rydym yn addysgu Cymraeg i bob dysgwr fel bod o leiaf 70 y cant o’r dysgwyr hynny’n gallu dweud erbyn 2050 eu bod yn gallu siarad Cymraeg erbyn iddynt adael yr ysgol.
  • Cynyddu nifer yr athrawon cynradd sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o 2,900 i 3,900 erbyn 2031 ac i 5,200 erbyn 2050; cynyddu nifer yr athrawon uwchradd sy’n gallu addysgu Cymraeg o 500 i 900 erbyn 2031 ac i 1,200 erbyn 2050; a chynyddu nifer yr athrawon uwchradd sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o 1,800 i 3,200 erbyn 2031 ac i 4,200 erbyn 2050.
  • Diwygio’r cynnig addysg a sgiliau ol-16 cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i sicrhau bod gan bobl ifanc gyfle i barhau i ddatblygu sgiliau dwyieithog i gefnogi economi sy’n ffynnu.

Thema 2 – Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg

  • Adolygu’r ddeddfwriaeth sy’n cefnogi’r Gymraeg er mwyn sicrhau ei bod yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer hybu a hwyluso defnyddio’r iaith.
  • Sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn arwain drwy esiampl drwy hybu a hwyluso cynnydd yn y defnydd a wneir o’r Gymraeg gan ein gweithlu ein hunain.

Thema 3 – Creu amodau ffafriol

  • Datblygu pwyslais rhanbarthol newydd ym maes datblygu economaidd i helpu pob rhan o Gymru i ffynnu ac i gefnogi pob ardal i ddatblygu ei hunaniaeth nodweddiadol ei hun.
  • Gweddnewid y tirwedd digidol Cymraeg, gan roi pwyslais arbennig ar dechnolegau iaith. 
  • Datblygu rhaglen genedlaethol i gynyddu dealltwriaeth o ddwyieithrwydd.


Mae'r themâu hyn yn gyd-ddibynnol, ac felly hefyd nifer o'r amcanion a nodir o dan bob thema. Er enghraifft, nid yw cynyddu nifer y plant sy'n mynd i ysgolion Cymraeg yn ddigon ar ei ben ei hun. Bydd hefyd angen rhoi cyfleoedd i'r plant hynny ddysgu a siarad yr iaith y tu hwnt i dir yr ysgol.

Byddwn yn cyhoeddi rhaglenni gwaith yn rheolaidd drwy gydol cyfnod y Strategaeth, a fydd yn manylu ar y camau sydd angen eu cymryd i gyrraedd ein nod. Bydd y rhaglen waith gyntaf ar gyfer y cyfnod 2017-21 hefyd yn cael ei chyhoeddi heddiw. Bydd hon yn nodi manylion ein prif flaenoriaethau ar gyfer cyfnod cychwynnol y Strategaeth newydd.

Rydym yn glir mai ein cyfrifoldeb ni fel Llywodraeth yw gosod y cyfeiriad ac arwain y gwaith. Er hynny, mae gan bawb ran i’w chwarae, ac rydym am i bawb gyfrannu at y gwaith o wireddu'r uchelgais hon.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:

"Mae'r Gymraeg yn un o drysorau’n gwlad ac yn rhan annatod o'r hyn sy'n ein diffinio fel cenedl - p'un a ydym yn gallu siarad yr iaith ai peidio."

"Mae cyrraedd miliwn o siaradwyr yn darged bwriadol uchelgeisiol fel bod y Gymraeg yn ffynnu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae heriau o'n blaenau, ond heb os gallwn eu hwynebu gan wybod bod sail gadarn eisoes i’r gwaith.

"I lwyddo, ry'n ni angen i'r genedl gyfan berchenogi'r iaith. All gwleidyddion ddim gorfodi hynny, ond fe allwn ni fod yn esiampl. Drwy godi ein disgwyliadau a mabwysiadu gweledigaeth uchelgeisiol, mae gyda ni’r potensial i newid y rhagolygon ar gyfer yr iaith”

Dywedodd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:

"Braint oedd derbyn y swydd bwysig o ddatblygu'r weledigaeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg gan y Prif Weinidog. Dwi'n falch o lansio Strategaeth Cymraeg 2050 heddiw. Dw i'n hyderus y bydd yn ein gosod ar y llwybr cywir i gynyddu nifer y siaradwyr, yn ogystal â’r defnydd sy’n cael ei wneud o'r iaith yn y gymuned, y gwaith a'r cartref.

"Ry'n ni'n gwybod bod angen consensws a chryfder democrataidd i sefydlu polisi iaith. Gyda’n gilydd, gydag egni newydd ac wrth addasu i amgylchiadau sy'n newid o hyd, gallwn ei gwneud yn bosib i’r Gymraeg dyfu -iaith fyw i bawb sy’n uno ni fel cenedl.”