Mae rownd nesaf cronfa dwristiaeth sy'n gwella profiadau ymwelwyr ledled Cymru wedi cael ei lansio gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans.
Bydd y gronfa Y Pethau Pwysig ar gyfer 2025 i 2027 yn gweld £5 miliwn arall yn cael ei fuddsoddi i gefnogi awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol i ddarparu gwelliannau i gyrchfannau twristiaid a fydd o fudd i ymwelwyr a chymunedau lleol.
Bydd y ffocws ar welliannau mewn seilwaith sylfaenol ond hanfodol i ymwelwyr sy'n gwella hygyrchedd mewn safleoedd ac sy'n gwneud mannau twristiaeth yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol.
Mae prosiectau blaenorol a ariannwyd gan Y Pethau Pwysig wedi cynnwys paneli solar a mannau gwefru cerbydau trydan mewn safleoedd ymwelwyr allweddol yng Nghasnewydd, gwell cyfleusterau parcio ym Mharc Porthceri yn y Barri, toiledau 'Changing Places' cwbl hygyrch yn Rhosili, y Mwmbwls, a Greenmeadow Community Farm yn Nhorfaen, a Biniau Clyfar ym Mhorthcawl a Threfynwy.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
Bydd 2025 yn nodi Blwyddyn Croeso i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru ac rydym am sicrhau fod pob ymwelydd â Chymru yn cael croeso cadarnhaol a chofiadwy.
Mae'r gronfa Y Pethau Pwysig yn ychwanegu gwerth at gyrchfannau gwych i dwristiaid ledled Cymru mewn ffordd sy'n gynhwysol, yn gynaliadwy ac yn fuddiol i ymwelwyr a phreswylwyr fel ei gilydd.
Rwy'n annog awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol ledled Cymru i wneud cais am y rownd ariannu nesaf.
Mae Pont Trefynwy, yn Nhrefynwy, wedi elwa o fynedfa groesawgar a thirlunio newydd, meinciau picnic hygyrch, a chanolfannau ailgylchu 'wrth fynd' diolch i'r gronfa Y Pethau Pwysig.
Yr unig bont afon gaerog sydd ar ôl ym Mhrydain Fawr, mae'r safle eleni yn nodi 50 mlynedd ers iddi gael statws rhestredig Gradd I.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gynllunio a Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Paul Griffiths:
Mae prosiect Pont Trefynwy wedi dangos effaith cydweithio. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Rwy'n sicr y bydd hon yn ardal boblogaidd ac yn cael llawer o ddefnydd dros y blynyddoedd nesaf gan drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.