Mae rhaglen sy'n werth mwy na £110m i fuddsoddi mewn seilwaith a helpu i adfywio canol trefi wedi'i lansio ym Mhontypridd.
Bydd Adeiladu ar gyfer y Dyfodol yn adfywio canol trefi a'r ardaloedd cyfagos drwy ailwampio neu ailddatblygu tir ac adeiladau segur neu nad ydynt yn cael eu defnyddio ryw lawer a rhoi bywyd newydd iddynt. Bydd y rhaglen sy'n werth miliynau o bunnoedd, ac a gefnogir gan £38m o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, ac £16m o gronfa arian cyfatebol a dargedir Llywodraeth Cymru, yn cefnogi twf busnes, yn creu cyflogaeth ac yn cynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol trefi. Mae'r cyhoeddiad hwn yn adeiladu ar waith Tasglu'r Cymoedd Llywodraeth Cymru, a'r blaenoriaethau a amlygwyd yn ein cynllun cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol, gan gynnwys ymrwymiad i gau'r bwlch cyflogaeth rhwng Cymoedd y De a gweddill Cymru.
Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn cynnwys £7m o gyllid yr UE a bydd yn gweddnewid safle hen Ganolfan Siopa Bro Taf yng nghanol tref Pontypridd i greu tri adeilad trawiadol. Caiff y rhain eu defnyddio ar gyfer swyddfeydd yn ogystal â chyfleusterau cymunedol, gan gynnwys llyfrgell a champfa. Mae'r safle wedi bod yn segur ers blynyddoedd lawer, a bydd y datblygiad yn creu ardal fywiog newydd yng nghanol y dref.
Ymwelodd Rebecca Evans, sydd wedi ymuno a Thasglu’r Cymoedd yn ddiweddar, â'r safle i gael gweld sut mae'r gwaith datblygu yn dod yn ei flaen. Dywedodd:
"Mae prosiect Bro Taf yn dangos sut rydyn ni'n cyflawni ein huchelgais ar gyfer Tasglu'r Cymoedd i greu swyddi, hybu'r diwydiant adeiladu ac adfywio canol trefi. Bydd Trafnidiaeth Cymru, y fasnachfraint rheilffyrdd nesaf, a Metro'r De yn rhan o'r datblygiad. Bydd yn gweddnewid canol Pontypridd ac, ar hyn o bryd, hwn yw prosiect datblygu mwyaf y dref. Mae'n gyffrous gweld yr adeiladau gwych hyn yn dechrau cael eu codi.
"Drwy Adeiladu ar gyfer y Dyfodol, rydyn ni'n cefnogi awdurdodau lleol a phartneriaid preifat a phartneriaid y trydydd sector i gaffael, ailwampio neu ailddatblygu adeiladau a thir nad ydynt yn cael eu defnyddio sy'n agos at ganol trefi a dinasoedd. Fe fyddan nhw'n nodi sut y gallai'r adeiladau hyn gael eu defnyddio, gan gynnwys dibenion masnachol a phreswyl a dibenion y sector cyhoeddus. Fe fyddwn ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol a defnyddwyr yr adeiladau i dargedu a chynnig cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i bobl sy'n chwilio am waith.
"Bydd Adeiladu ar gyfer y Dyfodol yn adfywio canol ein trefi ac yn creu cyfleoedd disglair i bobl a busnesau ledled y wlad. Mae'n wych gweld y gwaith hwn eisoes ar y gweill ym Mhontypridd."
Yn ogystal â chyllid Llywodraeth Cymru a'r UE, caiff cynlluniau a gefnogir drwy raglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol arian cyfatebol o ystod o ffynonellau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector.