Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio menter newydd yn cynnig y cyfle i bobl ddysgu’r sgiliau ac ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnyn nhw i ailysgrifennu eu gyrfaoedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Cyfrif Dysgu Personol yn cynnig cyrsiau hyblyg ac am ddim yn y sectorau peirianneg, adeiladu a TGCh i gyflogeion, fel y gallant ddysgu’r sgiliau ac ennill y cymwysterau perthnasol sydd eu hangen i’w sbarduno i yrfa newydd.

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae’r hawl i ddysgu gydol oes yn bwysicach nag erioed ac mae’r fenter hon wedi’i llunio i helpu pobl yng Nghymru i uwchsgilio a goresgyn rhwystrau a allai fod yn eu dal yn ôl rhag gwireddu eu llawn botensial.

Bydd ein Cyfrifon Dysgu Personol newydd yn rhoi’r cyfle i unigolion gael y sgiliau, y wybodaeth a’r cymwysterau sydd eu hangen arnyn nhw i ddechrau gyrfa newydd, a gwneud hynny mewn ffordd sy’n addas ar gyfer eu ffordd nhw o fyw.

Bydd Cyfrifon Dysgu Personol hefyd o fudd i’n heconomi, gan helpu i sicrhau y gall cyflogwyr recriwtio pobl â’r sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnyn nhw i alluogi eu busnesau i ffynnu a thyfu.

Meddai Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

Mae cyflogwyr yn y sectorau peirianneg, adeiladu a TGCh yn wynebu prinder sgiliau cynyddol ac eisiau recriwtio unigolion â’r sgiliau galwedigaethol a’r cymwysterau perthnasol sydd eu hangen arnyn nhw i lenwi bylchau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Bydd y prosiect newydd hwn yn eu helpu i wneud hynny.

Mae’r holl gyrsiau yn cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru a bydd cynghorwyr gyrfaoedd penodedig yn Cymru’n Gweithio yn helpu pob unigolyn i sefydlu cynllun ymarferol y gallant ei roi ar waith o gwmpas eu hymrwymiadau presennol i’w helpu i gyflawni eu nodau gyrfa yn y dyfodol.

Cynhelir rhaglen beilot am ddwy flynedd ac ar ôl ei chwblhau bydd y rhaglen yn cael ei hadolygu gyda’r nod o gynnig mwy o gyrsiau ar draws sectorau ehangach, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl newid gyrfa drwy wneud hynny.

Mae’r fenter yn cael ei threialu gan Goleg Gwent yn y De-ddwyrain a Grŵp Llandrillo Menai yn y Gogledd.

Mae ar gael i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru sydd dros 19 oed ac sy’n cael eu cyflogi ar lai na £26,000 y flwyddyn.

Am ragor o wybodaeth ewch i Cymru'n Gweithio neu ffoniwch 0800 028 4844.