Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru'n cefnogi prosiect ymchwil newydd ynghylch sbwriel y môr.
Cadwch Gymru'n Daclus fydd yn arwain y prosiect, ar y cyd â'r Gymdeithas Cadwraeth Forol a'r ymgynghorwyr ym maes yr amgylchedd Eunomia.
Bydd y prosiect yn rhoi ar waith y camau a nodir yng Nghynllun Gweithredu'r Bartneriaeth Moroedd Glân ar Sbwriel y Môr. Nod y cynllun gweithredu yw mynd i'r afael â sbwriel y môr, gan gynnal neu gyflawni Statws Amgylcheddol Da yn ein dyfroedd morol erbyn 2020 o dan Gyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol yr UE.
Bydd y prosiect yn anelu at gydgysylltu'r ffordd o fynd i'r afael â sbwriel y môr, drwy gydweithio â grwpiau gweithredu sbwriel y môr, awdurdodau lleol a sefydliadau addysg uwch. Bydd hefyd yn annog rhagor o waith ymchwil ym maes sbwriel y môr.
Mae'r prosiect wedi derbyn £50,000 drwy Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop, a gyllidir gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn:
“Mae'r angen i fynd i'r afael â sbwriel y môr, ac yn enwedig plastig, wedi dod yn rhan o'n cydwybod drwy raglenni dogfen fel Blue Planet ar y BBC.
"Mae'n bleser gen i gefnogi'r prosiect hwn gan y bydd yn helpu i gydlynu ein hymdrechion yng Nghymru a bydd yn cyfrannu at ganfod atebion i'r bygythiad cynyddol i fywyd y môr yn sgil sbwriel."
Ychwanegodd Jemma Bere, Rheolwr Polisi ac Ymchwil Cadwch Gymru'n Daclus:
"Rydym yn hapus iawn i weithio mewn partneriaeth â'r Gymdeithas Cadwraeth Forol a Chwmni Ymgynghori Eunomia ar y prosiect ymchwil pwysig hwn. Yn sgil y cymorth gan Lywodraeth Cymru a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop rydym yn gobeithio sicrhau gwell dealltwriaeth o ffynonellau'r sbwriel yn ein hamgylchedd a'r mathau ohonynt, a hefyd yr heriau allweddol sydd ynghlwm wrth fynd i'r afael â'r argyfwng byd eang hwn ar lefel leol.
"Rydym yn edrych ymlaen at gysylltu â gwahanol sefydliadau a grwpiau gweithredu sbwriel y môr ar draws y DU a thu hwnt er mwyn pennu'r atebion mwyaf effeithiol."