Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio proses ymgynghori i holi am safbwyntiau yn dilyn adolygiad o anableddau a byw'n annibynnol yng Nghymru.
Gan ddisodli'r 'Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw'n Annibynnol' a gyhoeddwyd yn 2013, mae’r dull newydd o weithredu yn canolbwyntio ar faterion allweddol a nodwyd gan bobl anabl, gan gynnwys trafnidiaeth, cyflogaeth, tai a mynediad i fannau ac adeiladau.
Ymgynghorwyd â phobl anabl drwy'r adolygiad o'r fframwaith o dan oruchwyliaeth Grŵp Llywio a oedd o dan arweiniad Anabledd Cymru.
Cafwyd cyfraniadau i'r ymgynghoriad drwy weithdai a gynhaliwyd ledled y wlad, gan gynnwys pobl gydag arbenigedd a phrofiad o ystod eang o anableddau; drwy gannoedd o negeseuon e-bost, llythyron a galwadau ffôn a thrwy gynnal sgyrsiau mewn cartrefi, mannau gwaith, ysgolion a chymunedau.
Y brif neges a ddaeth i’r amlwg yn ystod y broses ymgysylltu oedd er bod deddfwriaeth, polisïau a rhaglenni Llywodraeth Cymru yn eu lle i gefnogi cydraddoldeb ar gyfer pobl anabl, gwelwyd problemau'n codi'n aml o ran eu gweithredu'n lleol.
Mae'r fframwaith newydd a'r cynllun gweithredu sy'n dod gydag ef yn nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei rhwymedigaethau o ran Confensiwn y CU ar Hawliau Pobl ag Anableddau ac yn tynnu sylw at rôl deddfwriaeth allweddol, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru: Ffyniant i bawb.
Yn sail i'r fframwaith cyfan y mae'r 'Model Cymdeithasol o Anabledd' sy'n cydnabod yr angen am newid yn y gymdeithas - chwalu'r rhwystrau fel bod pobl anabl y gallu cymryd rhan lawn.
Mae 75,000 o bobl anabl yng Nghymru sydd naill ai wrthi'n chwilio am waith neu’n dymuno dod o hyd i waith. Yn aml, maent yn cael eu rhwystro gan rwystrau sydd y tu hwnt i'w rheolaeth, megis gweithdrefnau ac agweddau pobl eraill ynghyd â rhwystrau corfforol ac amgylcheddol.
Dim ond 45% o bobl anabl oedran gweithio yng Nghymru sy'n gweithio ar hyn o bryd, o'u cymharu ag 80% o'r rhai nad ydynt yn anabl. Mae hyn yn fwlch o 35% o ran cyflogi pobl anabl, sy'n syfrdanol.
Dywedodd Julie James, Arweinydd y Tŷ, a y Prif Chwip:
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu pobl anabl i wireddu eu potensial a chyflawni eu huchelgeisiau a’u breuddwydion. Mae pobl anabl yn dweud wrthym dro ar ôl tro mai’r rhain yw’r rhwystrau sy’n eu llethu fwyaf – mae'n hanfodol bwysig ein bod yn chwalu'r rhwystrau hyn.
"Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn sydd naill ai'n heriau corfforol megis adeiladau y mae’n anodd cael mynediad iddynt, neu’n heriau o ganlyniad i agweddau pobl sydd bellach wedi'u gwreiddio’n ddwfn, bydd angen gweithio mewn partneriaeth i sicrhau newid gwirioneddol. Drwy weithio gyda phobl anabl i ddeall y materion yn iawn a dod o hyd i’r atebion cywir, gallwn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl.
Rwy’n llongyfarch y fframwaith hwn am ysgogi pobl i weithio gyda phobl anabl, ac ar gyfer pobl anabl, ledled Cymru. Rwy’n erfyn ar bawb i ymateb i’r ymgynghoriad hwn."
Dywedodd Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru:
"Mae'r Hawl i Weithio'n Annibynnol a chael eu cynnwys yn y gymuned yn hanfodol i’r Fframwaith Gweithredu Drafft ar gyfer Byw'n Annibynnol. Nid yw hynny'n golygu eich bod yn gwneud pob dim eich hunan ond eich bod yn cael y gefnogaeth briodol a mynediad at yr adnoddau angenrheidiol lle bo angen, ynghyd â gweithredu gan y llywodraeth a'r gymdeithas ehangach i fynd i'r afael â'r rhwystrau hirdymor o ran addysg, cyflogaeth, tai a thrafnidiaeth.
“Y dyhead sydd wrth wraidd y Fframwaith drafft yw creu cenedl gynhwysol lle y mae pob person anabl yn gallu mwynhau eu hawliau yn yr un ffordd â phawb arall.”
Bydd y broses ymgynghori yn agor ddydd Llun 22 Hydref ac yn dod i ben ddydd Gwener, 18 Ionawr 2019.