Cafodd Parth Diogelwch Ar-lein newydd ei lansio gan yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams heddiw i athrawon a dysgwyr yng Nghymru ar Hwb, ein platfform dysgu digidol.
Diwrnod meithrin ymwybyddiaeth ynghylch arferion da o ran diogelwch ar-lein ar lefel fyd-eang yw Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel a’i ddiben yw rhoi cyngor a chyfarwyddyd ar y risgiau sydd ynghlwm wrth dechnolegau newydd megis y cyfryngau cymdeithasol a sut mae cadw’n ddiogel wrth eu defnyddio.
Dywedodd Kirsty Williams a ymunodd heddiw ag ysgolion o bob rhan o Gymru yn y Senedd i ddathlu Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, fod gwledydd o bob cwr o’r byd bellach yn edrych ar Gymru yn genfigennus o’n gwaith ar ddysgu digidol a diogelwch ar-lein.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet:
“Mae technolegau modern, megis cyfryngau cymdeithasol, bellach yn rhan amlycach o’n bywydau nag erioed o’r blaen ac mae ganddyn nhw rôl bwysig i’w chwarae yn rhoi gwybodaeth i’n pobl ifanc a’u haddysgu. Mae’n holl bwysig ein bod yn parhau i hyrwyddo ymhlith ein plant yr ymwybyddiaeth fod yn rhaid i’r technolegau hyn gael eu defnyddio’n ddiogel ac mewn modd positif ac mae Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn gyfle gwych i wneud hynny.
“Rwyf wedi fy nghalonogi’n fawr o weld bod niferoedd mawr o athrawon a dysgwyr yng Nghymru yn lawrlwytho’r adnoddau diogelwch ar-lein sydd ar gael ar Hwb, ein platfform dysgu cenedlaethol.
“Yno, fe allant gael hyd i amrywiaeth eang o adnoddau yn yr ystafell ddosbarth, creu a rhannu cynlluniau gwersi, dechrau fforymau trafod a gweld rhith blatfform dysgu eu hysgol eu hunain.
“Heddiw, rydyn ni’n lansio menter gyffrous newydd arall ar Hwb: y Parth Diogelwch Ar-lein. Bydd y safle hwn sydd wedi’i ddatblygu ar gyfer y sector a gan y sector ei hun, yn cynnwys newyddion, erthyglau a nifer o adnoddau ar amryw faterion yn ymwneud â diogelwch er mwyn cadw dysgwyr yn ddiogel ar-lein. Bydd hefyd yn helpu i gyfeirio’r rhai hynny sy’n delio ag effeithiau bwlian ar-lein neu unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â diogelwch ar-lein, at y gwasanaethau cymorth priodol.
“Mae llwyddiant Hwb wedi denu sylw gan nifer o gyrff ledled y byd. Mewn sioe technoleg addysg BETT yn Llundain yn ddiweddar, daeth dros 400 o bobl i’n stondin i glywed am y datblygiadau unigryw sy’n digwydd yma yn genedlaethol ym maes dysgu digidol.”
Fe wnaethon ni gynnal cystadleuaeth yn ddiweddar ar gynllunio logo ar gyfer y Parth Diogelwch Ar-lein a chawson dros 125 o gynigion o bob rhan o Gymru. Cafodd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol eu gwahodd i ddod i’r digwyddiad ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn Cadw Dysgwyr yn Ddiogel Ar-lein yn y Senedd heddiw lle bydd yr holl gynigion yn cael eu harddangos.
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet mai’r enillydd oedd Isabel Bate, disgybl blwyddyn 7 o Ysgol Gyfun Bryn Celynnog, Rhondda Cynon Taf.