Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae model cyntaf Aston Martin sy’n dwyn y label “Gwnaed yng Nghymru” yn cael ei ddatgelu’n swyddogol i wasg modurol y byd mewn lansiad byd-eang yn Beijing.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

DBX Aston Martin yw model SUV moethus cyntaf y cwmni gweithgynhyrchu ceir eiconig a bydd yn costio tua £160,000 (US$189,900) i’w brynu.

Dyma’r cerbyd cyntaf i’w weithgynhyrchu yng Nghymru ers rhyw 50 mlynedd.

Yn 2016, cyhoeddodd Aston Martin ei fod wedi dewis Sain Tathan fel ei ail gyfleuster gweithgynhyrchu fel rhan o fuddsoddiad gwerth £200miliwn mewn cynhyrchion a chyfleusterau newydd. Llwyddwyd i gael gafael ar y ganolfan weithgynhyrchu newydd drwy gymorth gan Lywodraeth Cymru a hynny yn erbyn cystadleuaeth ffyrnig gan fwy na 20 o leoliadau posibl eraill ledled y byd.

Cyn datgelu’r model DVX newydd i’r byd heddiw, cynhaliwyd datguddiad preifat ar safle’r cwmni yn Sain Tathan, Bro Morgannwg, neithiwr yng nghwmni Ken Skates, Gweinidog yr Economi.

Gan siarad yn y digwyddiad anrhydeddus, dywedodd y Gweinidog:

Mae gweld y cwmni yn cyflwyno ei gerbyd cyntaf o Gymru yn destun balchder mawr i Aston Martin ac i Gymru.

Mae penderfyniad Aston Martin i leoli ei gyfleuster gweithgynhyrchu newydd yn Sain Tathan yn dangos hyder yn agwedd rhagweithiol Llywodraeth Cymru ac mae wir yn destament i enw, ymroddiad a sgiliau ein gweithlu yng Nghymru.

Rwyf wrth fy modd bod Aston Martin wedi dewis lleoli ei ganolfan cerbydau trydan yng Nghymru ac y bydd y DBX cyntaf yn dod o Sain Tathan y flwyddyn nesaf.

Mae’n llwyddiant mawr i Gymru ac yn enghraifft ardderchog a gweladwy iawn o sut y gall cymorth Llywodraeth Cymru weithredu fel catalydd i sicrhau mwy o dwf economaidd a swyddi.

Mae’r brand ceir moethus eisoes wedi cyhoeddi mai’r cyfleuster gweithgynhyrchu newydd yn Sain Tathan fydd canolfan drydaneiddio’r brand a chartref y brand Lagonda, gwneuthuriad moethus di-garbon cyntaf y byd.

Bydd y safle yn Sain Tathan, a fydd yn cyflogi hyd at 1000 o weithwyr, yn cael ei agor yn swyddogol fis nesaf.