Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi lansio Gwarant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc – sy’n cynnig gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y rhaglen uchelgeisiol yn helpu i sicrhau na fydd yna genhedlaeth goll yng Nghymru yn dilyn pandemig COVID-19.

Mae’r Gwarant i Bobl Ifanc yn un o ymrwymiadau allweddol Rhaglen Lywodraethu bum mlynedd Llywodraeth Cymru.

Mae’r pecyn cynhwysfawr yn tynnu ynghyd raglenni sydd wedi’u cynllunio i ddarparu’r gefnogaeth iawn ar yr amser iawn yn ôl anghenion amrywiol pobl ifanc ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau hwylus newydd i helpu pobl ifanc i ddod o hyd i gyfleoedd yn haws.

Mae cam un y Gwarant yn cynnig y canlynol i bobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru:

  • un cyfrwng syml i fanteisio ar y gwarant, sef drwy Cymru’n Gweithio – darperir cefnogaeth a chyngor mewn sawl ffordd, gan gynnwys yn rhithiol, ar y stryd fawr, a thrwy well cyfleusterau ymgysylltu ledled Cymru;
  • cyngor a chefnogaeth o ran hunangyflogaeth drwy Syniadau Mawr Cymru;
  • rhaglenni hyfforddi sy’n darparu profiad gwaith;
  • hyfforddiant a chymhellion cyflog drwy raglen ReAct;
  • lle ar un o raglenni Cyflogadwyedd Cymunedol Llywodraeth Cymru;
  • help i ddod o hyd i brentisiaeth;
  • platfform newydd i chwilio am gyrsiau, i’r rheini sydd am ddechrau ar addysg bellach neu uwch, i’w gwneud yn haws dewis llwybr;
  • cael eu hatgyfeirio i un o’r rhaglenni a ariennir gan bartneriaid eraill, megis yr Adran Gwaith a Phensiynau ac awdurdodau lleol.

O heddiw ymlaen, bydd pob person ifanc 16 i 24 oed sydd am fanteisio ar y Gwarant yn mynd drwy borthol Cymru’n Gweithio. Bydd yn adeiladu ar ei fodel cryf a llwyddiannus o ddarparu arweiniad ar yrfa a chyfeirio pobl ifanc at gymorth.

Mae Cymru’n Gweithio hefyd yn treialu gwasanaeth newydd i baru unigolion â swyddi, gan helpu pobl ifanc i ddod o hyd i gyflogaeth, a chyflogwyr i lenwi swyddi.

Dywedodd Vaughan Gething:

“Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o sicrhau na fydd yna genhedlaeth goll yng Nghymru yn dilyn y pandemig.

“Mae llwyddiant Cymru yn nwylo ein pobl ifanc – a dyna pam fy mod i wrth fy modd yn cael lansio ein Gwarant i Bobl Ifanc yn swyddogol heddiw. Rydyn ni’n sefydlu rhaglen uchelgeisiol â’r nod o gynnig gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed yng Nghymru.

“Dyma’r cam mentrus y mae’n rhaid inni ei gymryd er mwyn helpu pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl. Rydyn ni eisiau rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl ifanc i sicrhau dyfodol gwell wrth adael yr ysgol, y coleg neu’r brifysgol, os ydyn nhw’n ddi-waith neu’n wynebu cael eu diswyddo hyd yn oed.

“Beth bynnag yw’r ansicrwydd rydyn ni’n ei wynebu, fe allwn ni fod yn siwr o un peth – bydd peidio â mynd ati i gefnogi pobl ifanc heddiw yn arwain at fethiant economaidd yfory.”

Yn ategu’r gwarant mae darpariaeth eang, gan sicrhau cefnogaeth effeithiol sy’n gweithio i bobl ifanc. Dim ond eleni mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi:

  • £390m yn y chweched dosbarth ac addysg bellach, gan ddarparu ystod o gyrsiau academaidd a galwedigaethol i filoedd o bobl ifanc, £16.4m mewn Lwfansau Cynhaliaeth Addysg, £5m ar gyfer lleoedd ychwanegol a £33m i gefnogi pobl ifanc mewn addysg i ddod dros effaith y pandemig;
  • £152m mewn prentisiaethau, gan gynnwys £18.7m mewn cymhellion i gyflogwyr recriwtio a chefnogi pobl ifanc. Er bod hon yn rhaglen i bob oed, roedd tua 39% o’r prentisiaid a ddechreuodd yn 2019/20 o dan 25 oed;
  • tua £1.22bn mewn cymorth i fyfyrwyr ar gyfer 2021-22. Yn 2019/20, roedd tua 60% o fyfyrwyr addysg uwch Cymru rhwng 16 a 24 oed, sy’n golygu bod ein pecyn arloesol o grantiau a benthyciadau cynhaliaeth yn galluogi myfyrwyr, beth bynnag eu hoedran, neu incwm eu haelwyd neu eu teulu, i fanteisio ar addysg uwch. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Gweinidogion hefyd wedi darparu £122m o gyllid ychwanegol i feithrin capasiti a galluogi ein prifysgolion i gynyddu eu cyllid i helpu unigolion mewn caledi, ac ar gyfer gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr y mae’r pandemig wedi effeithio arnynt;
  • £70m y flwyddyn i helpu pobl i gael gwaith drwy ystod o raglenni cyflogadwyedd, gan gynnwys ReAct, rhaglenni hyfforddi a rhaglenni Cyflogadwyedd Cymunedol.

Fel rhan o’n camau nesaf wrth ddatblygu’r gwarant:

  • bydd Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn cychwyn digwyddiadau ymgysylltu er mwyn llywio darpariaeth y Gwarant o fewn eu hardal
  • byddwn yn parhau i wrando ar ein pobl ifanc drwy gyfres o grwpiau ffocws rhwng nawr a Rhagfyr, er mwyn deall sut maen nhw’n ymateb i’r gefnogaeth a’r arlwy sydd ar gael; beth y maen nhw am ei weld; a beth yw’r rhwystrau y maen nhw’n eu hwynebu.