Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, gynllun Benthyciad Arbed Tenantiaeth newydd gwerth £8 miliwn i helpu tenantiaid sy’n ei chael hi’n anodd i dalu ôl-ddyledion rhent o ganlyniad i’r coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cynllun Benthyciad Arbed Tenantiaeth, sef y cyntaf o’i fath yn y DU, ar gael i denantiaid y sector rhentu preifat sydd ag ôl-ddyledion rhent, a’r rhai a allai ei chael hi’n anodd talu rhent y misoedd i ddod o ganlyniad i’r coronafeirws hefyd. Bydd y cyfnod y gellir gwneud cais am y cynllun ar agor tan 31 Mawrth 2021.

Bydd y cynllun yn cynnig benthyciadau ar gyfradd ganrannol flynyddol (APR) o 1%, a gaiff eu talu’n uniongyrchol i landlordiaid neu asiantiaid i’w had-dalu dros gyfnod o hyd at bum mlynedd. Yn sgil hynny fe fydd yn darparu dull fforddiadwy o dalu ôl-ddyledion rhent neu rent misoedd i ddod, gan leihau’r risg o droi tenantiaid allan a’u gwneud yn ddigartref. Unwaith y bydd tenant wedi gwneud cais am y benthyciad bydd yn gallu cael cymorth a chyngor gwasanaethau i’w helpu i reoli ei sefyllfa ariannol.

Caiff y benthyciadau eu rheoli gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, a’u darparu gan saith Undeb Credyd ledled Cymru.

Yn y lle cyntaf, bydd yr Undebau Credyd yn gweithio gyda thenantiaid i ganfod a ydynt yn gymwys i gael y cynllun benthyciadau a faint y gallent fforddio ei ad-dalu. Os yw’r cynllun yn addas i’r tenant, yna bydd yr Undebau Credyd yn rhoi cymorth iddynt drwy gydol tymor ad-dalu’r benthyciad.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

Rydyn ni’n cydnabod y pwysau cyson y mae’r coronafeirws yn ei roi ar denantiaid a landlordiaid. Er ein bod eisoes wedi cymryd camau i leddfu rhywaint o’r pwysau hyn, er enghraifft drwy ymestyn y cyfnod hysbysu o chwe mis dros dro ar gyfer troi pobl allan a rhoi cymorth ariannol i Gyngor ar Bopeth gyflwyno’r Cynllun Rhybudd Cynnar ar gyfer ôl-ddyledion rhent a dyledion eraill aelwydydd i denantiaid, rydyn ni am fynd gam ymhellach. Dyna pam rydyn ni’n cefnogi cynllun benthyciadau llog isel sy’n rhoi cymorth ariannol i denantiaid a’u landlordiaid.

Bydd y cynllun Benthyciad Arbed Tenantiaeth yn cefnogi tenantiaid sy'n ei chael hi’n anodd i dalu eu rhent oherwydd y coronafeirws, fel eu bod yn gallu aros yn eu cartrefi, mynd i'r afael â'u dyled ac osgoi cael eu troi allan – gan sicrhau bod landlordiaid yn cael y rhent sy'n ddyledus iddynt.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau nad oes neb yn cael ei wneud yn ddigartref o ganlyniad i'r pandemig, ac mae'r cynllun hwn yn rhan o'n strategaeth hirdymor i helpu pobl i reoli eu dyled, atal digartrefedd, a lle na ellir ei atal, sicrhau ei fod yn brin, am gyfnod byr ac nad yw’n digwydd eto.

Dywedodd Claire Savage, swyddog polisi Undebau Credyd Cymru:

Bydd saith undeb credyd yn darparu Benthyciadau Arbed Tenantiaeth ledled Cymru, gan weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i helpu’r rhai sydd wedi syrthio i ôl-ddyledion rhent oherwydd pandemig Covid-19 ac nad ydynt yn gallu cael mathau eraill o gymorth.

Cynigir y benthyciadau ar gyfradd llog isel iawn o 1% APR yn unig, a byddant yn ddarostyngedig i’r gwiriadau arferol ar fforddiadwyedd i sicrhau ein bod yn helpu tenantiaid yn y sector preifat i gadw eu cartrefi heb iddynt ddatblygu dyled na ellir ei chynnal.

Daw lansiad y cynllun newydd wrth i Lywodraeth Cymru ddechrau cam nesaf ei hymgyrch ddigidol Cyngor Ar Dai – gan ganolbwyntio ar rentwyr sy'n ei chael hi’n anodd talu eu rhent, sydd mewn perygl o gael eu troi allan neu mewn perygl o gael eu diswyddo.

Dywedodd Ann Francis, Rheolwr Undeb Credyd Cambrian, sy'n cynnwys y rhan fwyaf o siroedd yng Nghymru:

Mae undebau credyd yn gweithio'n agos gyda'n cymunedau, ac y mae tenantiaid y sector preifat a'u landlordiaid eisoes wedi cysylltu â nhw yn dilyn y cyhoeddiad cychwynnol am y cynllun hwn gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

Byddem yn pwysleisio mai cynllun benthyca pan fetho popeth arall yw hwn ac nid grant, felly efallai na fydd pob ymgeisydd yn cael benthyciad, ond bydd undebau credyd yn gwneud atgyfeiriadau i gyrff priodol i sicrhau bod tenantiaid preifat yn cael eu cyfeirio at y cymorth sydd ei angen arnynt.

Yn ôl Rebecca Woolley, Cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru:

Gwyddom fod argyfwng y coronafeirws wedi achosi anawsterau ariannol i deuluoedd ledled Cymru, ac rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd darparu pecyn cymorth yn benodol i rentwyr yn y sector preifat er mwyn sicrhau nad yw'r pandemig yn gorfodi teuluoedd i gael eu troi allan o'u cartrefi.

Gall unrhyw denant o'r sector preifat sy'n poeni am dalu ei rent gysylltu â llinell gymorth Sector Tai Rhent Preifat Cyngor ar Bopeth Cymru am gyngor diduedd a chyfrinachol ar 0300 330 2177.

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Ben Beadle, prif weithredwr NRLA:

Rydym wedi galw am gynllun benthyciadau i denantiaid drwy gydol y pandemig. Ac rydym wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu cynllun i helpu landlordiaid a thenantiaid.

Bydd y benthyciadau hyn yn helpu i gadw tenantiaid, sydd wedi’u heffeithio gan y coronafeirws, yn eu cartrefi. A byddant hefyd yn cefnogi landlordiaid sy'n dibynnu ar incwm rhent i dalu eu biliau eu hunain.

Byddem yn cynghori pob landlord sydd â thenant ag ôl-ddyledion rhent i sicrhau ei fod yn ymwybodol o'r cynllun newydd, ac yn cynghori unrhyw landlord sy'n derbyn y taliadau hyn i ymrwymo i weithio gyda'i denant i gynnal y denantiaeth yn y tymor hir.

Prif Swyddog Gweithredol Shelter Cymru, Ruth Power Dywedodd:

Mae argyfwng Covid-19 wedi creu straen a chaledi digynsail i bobl sy'n rhentu ledled Cymru. Rydym yn croesawu unrhyw gamau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i leihau’r risg o denantiaid preifat yn dod yn ddigartref. Er na fydd yn addas i bawb, i rai pobl sy'n wynebu cyfnod o anhawster ariannol, mae gan y cynllun y potensial i gynnig seibiant ariannol y mae mawr ei angen, a allai atal digartrefedd. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid i leihau effaith Covid ar fywydau tenantiaid. Beth bynnag fo’r amgylchiadau, gall unrhyw denant mewn bygythiad o golli eu cartref gysylltu â Shelter Cymru yn rhad ac am ddim, ac yn gyfrinachol, ar 08000 495 495.