Neidio i'r prif gynnwy

Mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau ymhlith pobl ddigartref a charcharorion, a delio â’r problemau iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â bod yn gaeth i sylweddau. Dyna rai o nodau cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru sy’n cael ei gyhoeddi heddiw ar gyfer ymgynghori.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, bod y Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019-22 yn nodi hefyd y bydd mwy o gymorth ar gael i deuluoedd a gofalwyr pobl sy’n camddefnyddio sylweddau.  

Mae camddefnyddio sylweddau yn broblem iechyd fawr sy’n gallu achosi niwed difrifol i unigolion, teuluoedd a chymunedau.

Er mwyn mynd i'r afael ag achosion ac effeithiau camddefnyddio sylweddau, mae angen ymrwymiad ar draws y llywodraeth a gan ein partneriaid sy'n darparu gwasanaethau rheng flaen, er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd ac yn cefnogi pawb sydd mewn angen. Mae’r cynllun hwn yn nodi sut y byddwn yn gweithio i gyflawni hynny.

Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar leihau’r niwed y mae camddefnyddio sylweddau yn ei achosi i’r unigolyn ac i’r gymdeithas yn gyffredinol. I wneud hyn, rydyn ni am sicrhau bod pobl Cymru yn ymwybodol o beryglon ac effaith camddefnyddio sylweddau ac yn gwybod ble i fynd i chwilio am wybodaeth, cymorth a chefnogaeth yn ôl y gofyn.

Mae ein hymrwymiad i fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yn glir. Eleni fe gyhoeddais £2.4m yn ychwanegol ar gyfer y saith Bwrdd Cynllunio Ardal sy’n gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau rheng flaen. Mae hynny’n gynnydd o 10% mewn cyfnod pan fo adnoddau’n prinhau o hyd.

Rydyn ni’n gwneud cynnydd da mewn sawl maes. Er enghraifft, yn 2017/18 cafodd 90.9% o’r bobl oedd yn dechrau ar driniaeth eu gweld o fewn 20 diwrnod gwaith, o’i gymharu â 75% yn 2011/12. Ond, fel mae’r cynllun hwn yn cydnabod, mae angen gwneud mwy i gryfhau partneriaethau a sefydliadau eraill er mwyn bodloni ein hamcanion o leihau’r niwed sy’n cael ei achosi gan gamddefnyddio sylweddau. Dim ond drwy gydweithio y gallwn ni gwrdd â’r her hon, felly rwy’n annog pawb sydd â diddordeb i gyfrannu at yr ymgynghoriad.”

Dyma rai o brif amcanion y cynllun:

  • Cryfhau’r partneriaethau â gwasanaethau digartrefedd er mwyn helpu’r bobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau ac sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref
  • Sicrhau bod gan bob carchar yng Nghymru wasanaeth cydlynol, tryloyw a chyson ar gyfer pobl a phroblemau camddefnyddio sylweddau
  • Ymateb i broblemau iechyd meddwl sy'n cyd-ddigwydd, sy'n gyffredin mewn achosion o gamddefnyddio sylweddau
  • Gwella’r cymorth sydd ar gael i deuluoedd a gofalwyr pobl sy’n camddefnyddio sylweddau
  • Gwella gwasanaethau i ymdrin â dibyniaeth ar feddyginiaethau sydd ar gael drwy bresgripsiwn yn unig a meddyginiaethau a brynir dros y cownter
  • Sicrhau bod gwasanaethau camddefnyddio sylweddau priodol ar waith cyn i’r isafbris am uned o alcohol gael ei gyflwyno yng Nghymru.

Dywedodd Andrew Misell, Cyfarwyddwr Cymru, Alcohol Change UK:

Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf rydyn ni wedi gweld cynnydd da yn cael ei wneud yng Nghymru i leihau’r niwed sy’n cael ei achosi gan alcohol a chyffuriau eraill. Mae gweithio ar y cyd wedi bod yn allweddol i’r llwyddiant hwnnw, ac mae’r cynllun cyflawni hwn yn parhau â’r thema honno o gydweithio.

Drwy roi’r pwyslais ar anghenion pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a phroblemau camddefnyddio sylweddau sy’n cyd-ddigwydd, ac ar anghenion pobl eraill sy’n agored i niwed, fel y digartref, mae’r cynllun newydd yn ei gwneud yn glir bod angen i’r holl asiantaethau weithio gyda’i gilydd i leihau niwed a hybu iechyd yng Nghymru.

Dywedodd Caroline Phipps, Prif Weithredwyr Barod:

Rydym yn croesawu'r cynllun newydd ac yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi dull o leihau niwed yng Nghymru. Mae gan bobl sy'n defnyddio cyffuriau a/neu alcohol hawl i gael mynediad at wasanaethau sy'n ymateb i'w hanghenion heb gywilydd na stigma. Rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod hyn yn digwydd.

Mae’r cynllun ar gael yma.

Mae’r ymgynghoriad yn agored tan 9 Awst 2019.