Neidio i'r prif gynnwy

Mae’n nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau anadlol ac yn nodi’r camau y bydd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn eu cymryd mewn ymateb.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau anadlol ac yn nodi’r camau y bydd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn eu cymryd mewn ymateb. Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar ddarparu gofal sy’n cael yr effaith orau ar brofiadau a chanlyniadau i gleifion, ac ar fynd i’r afael ag amrywiadau yn ansawdd y gofal. 

Mae’r cynllun yn amlinellu’r gwaith sydd ar y gweill i wella gwasanaethau rhoi’r gorau i smygu, gwneud diagnosis gwell yn achos clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) a lleihau amrywiadau o ran presgripsiynau.

Mae pob un o’r byrddau iechyd wedi ymrwymo:

  • I benodi eiriolwr ar gyfer y brechiad ffliw 
  • I sicrhau bod monitro ac atgyfeirio o ran carbon monocsid yn rhan o’r drefn pan fydd smygwyr yn mynychu apwyntiad anadlol fel claf allanol 
  • I gynnig cynlluniau gweithredu i gleifion a rhieni ar gyfer gwell hunanofal 
  • I wella mynediad at raglenni sy’n seiliedig ar ymarfer corff i bobl â chyflyrau anadlol cronig. 
Yn 2015, roedd rhyw 15% o oedolion yng Nghymru yn cael eu trin am glefyd anadlol ac roedd y clefydau hyn yn achosi mwy na 16% o’r holl farwolaethau yng Nghymru. Mae Asthma UK yn amcangyfrif bod 59,000 o blant ag asthma yng Nghymru, sef 9.5% o’r cyfanswm. 

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd y cynllun ar ôl ymweld ag Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful i gwrdd ag enillydd gwobr Nyrs y Flwyddyn y Coleg Nyrsio Brenhinol yn 2017, Louise Walby. 

Mae Louise yn gweithio fel Hwylusydd Nyrsio Anadlol mewn ardal o’r Cymoedd sydd ag un o’r cyfraddau marwolaeth uchaf ym Mhrydain ar gyfer clefyd cronig yr ysgyfaint. Cafodd ei chydnabod am ei gwaith yn gwella profiad y claf a’r ffordd y rheolir COPD, a chaiff ei gwaith ei ddefnyddio nawr fel enghraifft o arfer da ar draws Cymru. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething; 

“Roedd yn bleser cael siarad â Louise eto, yn dilyn ei llwyddiant mawr yng Ngwobrau’r RCN y llynedd.  Rwy’n siŵr y bydd pobl Merthyr yn elwa o gael gweithiwr iechyd proffesiynol mor ymroddedig am flynyddoedd i ddod. 

“Mae gwella Iechyd anadlol pobl Cymru yn her o bwys ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd. Gyda’r cynllun hwn, rydyn ni’n gobeithio gwella ansawdd bywyd llawer o gleifion sydd â chlefydau anadlol acíwt neu gronig. 

“Bydd y cynllun hwn yn helpu byrddau iechyd i ddarparu gwasanaethau mwy cyson ledled Cymru ac i ddarparu gwasanaethau sy’n cyrraedd safonau gofal cenedlaethol ar gyfer clefyd anadlol.” 

Dywedodd Pennaeth Cymru y British Lung Foundation Joseph Carter; 
“Rydyn ni wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru’n parhau i roi arweiniad gyda Chynllun Cyflawni estynedig newydd ar gyfer Iechyd Anadlol. “Mae’r cynllun yn cydnabod yr angen i fuddsoddi mewn gwasanaethau adsefydlu’r ysgyfaint, cynllun cenedlaethol i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff a hunan-reoli er mwyn cadw pobl â chyflyrau’r ysgyfaint yn egnïol, rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt a’u cadw allan o’r ysbyty. “Nawr mae angen i’r byrddau iechyd ymateb yn gadarnhaol a rhoi’r cynllun ar waith yn lleol i wella bywydau eu dinasyddion.”