Mae nodau wedi’u diweddaru ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes fferylliaeth wedi eu cyhoeddi heddiw, wrth i’r gwaith o drawsnewid gofal fferyllol yng Nghymru barhau.
Cyhoeddwyd gweledigaeth Pwyllgor Fferyllol Cymru ar gyfer fferylliaeth, sef Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach, am y tro cyntaf yn 2019. Mae’r cynllun deng mlynedd, a ddatblygwyd gan y proffesiwn fferylliaeth, yn anelu at ddarparu cyfeiriad clir i weithwyr proffesiynol ym maes fferylliaeth ym mhob rhan o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gan ganolbwyntio ar fodloni anghenion cleifion ac anghenion y GIG nawr ac yn y dyfodol.
Mae’r nodau newydd diweddaru disgwyliadau mewn perthynas â’r hyn y gall gweithwyr proffesiynol ym maes fferylliaeth ei gyflawni yn y tair blynedd hyd at fis Rhagfyr 2025, gan gynnwys:
- cynnal adolygiad cynhwysfawr o sut y gellid defnyddio sgiliau ac arbenigedd fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol yn fwy effeithiol i gefnogi cleifion mewn ysbytai;
- adolygu sut y gall gwasanaethau awtomataidd, presgripsiynu electronig a ffarmacogenomeg helpu i drawsnewid y ffordd y mae gweithwyr proffesiynol ym maes fferylliaeth yn cyflwyno gofal;
- edrych ar sut y gall cefnogi ymchwil a datblygu mewn fferylliaeth roi llwyfan i waith arloesi pellach o ran cyflwyno gofal fferyllol.
Wrth groesawu’r nodau newydd, dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Yn gynharach eleni, cyflwynwyd y newidiadau mwyaf sylweddol yn y ffordd y mae fferyllfeydd cymunedol yn darparu gwasanaethau ers creu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol dros 70 mlynedd yn ôl.
“Mae cryn dipyn o waith wedi ei wneud eisoes er mwyn cyfrannu at ein gweledigaeth, ac mae timau mewn fferyllfeydd cymunedol bellach yn defnyddio’u harbenigedd yn gyson i gefnogi iechyd cleifion a’n gwasanaethau iechyd a gofal.
“Wrth i’r proffesiwn fferylliaeth gychwyn ar y cymal nesaf o’r daith, rwy’n edrych ymlaen at weld sut y gellid trawsnewid rôl gweithwyr proffesiynol ym maes fferylliaeth o fewn sectorau eraill er mwyn cyflawni mwy yn y blynyddoedd i ddod.”
Dywedodd Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol Cymru:
“Roedd Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach yn rhoi cyfeiriad clir ar gyfer y gwaith o ddatblygu gofal fferyllol yng Nghymru. Mae trawsnewid rôl fferyllfeydd cymunedol yn ein helpu i oresgyn yr heriau nas gwelwyd eu tebyg o’r blaen sy’n codi o ganlyniad i ddigwyddiadau’r ddwy flynedd diwethaf.
“Mae gwaith da wedi ei wneud mewn perthynas â chyflawni ein dyheadau o ran arfer fferyllol ym mhob sector. Mae’r nodau diwygiedig hyn yn darparu sail ar gyfer cefnogi a datblygu rôl gweithwyr proffesiynol mewn fferylliaeth sy’n gweithio yn ein ysbytai ac ym maes gofal yn y gymuned, er mwyn sicrhau y gallant barhau i fodloni anghenion cleifion, sy’n newid o hyd, a’u bod wedi’u grymuso i ymateb i’r heriau sy’n wynebu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Mae ein nodau newydd uchelgeisiol yn adeiladu ar y gwaith yr ydym eisoes yn ei wneud i weithredu e-Bresgrepsiynu mewn gofal eilaidd a gofal sylfaenol, gan gynyddu'r defnydd o dechnoleg ddigidol a ffarmacogenomeg. Rydym hefyd am sicrhau bod y proffesiwn yn cyflawni ei rwymedigaethau i fod yn fwy cymdeithasol gyfrifol, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ym maes iechyd, cefnogi cynaliadwyedd amgylcheddol a hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg."
Dywedodd Elen Jones, Cyfarwyddwr Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru:
“Mae nodau 2025 yn parhau i sbarduno ein dyheadau ar gyfer fferylliaeth yng Nghymru, gan chwalu ffiniau rhwng lleoliadau gofal a datblygu'r gweithlu i sicrhau bod cleifion yn elwa o arbenigedd y tîm fferylliaeth lle bynnag a phryd bynnag y bydd ei angen arnynt.
“Mae’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol wedi bod yn falch o fod yn rhan o’r datblygiadau hyn. Rhoi cynlluniau ar waith ar waith ledled Cymru yw'r cam pwysig nesaf ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chydweithwyr i gefnogi'r agenda bwysig hon dros y tair blynedd nesaf a thu hwnt."
Dywedodd Jonathan Simms, Cadeirydd Pwyllgor Fferyllol Cymru:
“Mae heddiw yn garreg filltir bwysig ar y daith tuag at wireddu ein gweledigaeth ar gyfer fferylliaeth yng Nghymru erbyn 2030. Mae'r nodau'n pennu uchelgais ar sut y bydd fferyllwyr, technegwyr fferyllfeydd a’n staff cymorth, ar draws pob lleoliad gofal, yn gwella gofal cleifion ac optimeiddio meddyginiaethau ar gyfer dinasyddion Cymru.
“Rydym wedi cyflawni llawer ers cyhoeddi Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach yn 2019, yn arbennig drwy'r pandemig lle'r oedd angen i dimau addasu er mwyn cynnal gwasanaethau hanfodol i gleifion. Mae'r nodau newydd yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r gweithlu ar hyn o bryd wrth i ni adfer o'r pandemig. Gyda hyn daw cyfleoedd i gyflawni rolau newydd, ymgorffori sgiliau newydd a sbarduno'r defnydd o dechnoleg i wneud Cymru'n lle bywiog i weithio wrth ddarparu gofal fferyllol rhagorol.”