Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Cronfa Twf a Ffyniant, sef cronfa newydd gwerth £5 miliwn gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei lansio’n swyddogol yr wythnos hon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Gronfa, sy’n rhan o Gynllun 10 pwynt i godi hyder busnesau a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog Carwyn Jones, wedi’i rhannu’n ddwy ran. Caiff £2m ei neilltuo i brosiectau llai a fydd yn derbyn grantiau o rhwng £5,000 a £25,000 a chaiff £3 miliwn ei neilltuo i brosiectau buddsoddi cyfalaf mawr a fydd yn derbyn grantiau o rhwng £50,000 a £500,000.

Caiff dwy ran y Gronfa eu lansio’n ffurfiol heddiw, a bydd modd cyflwyno cais am grant gan y gronfa lai hyd fis Ionawr 2017. Bydd datganiadau o ddiddordeb ar gyfer y gronfa fwy yn cael eu derbyn hyd 17 Hydref 2016. Bydd y prosiectau sy’n cynrychioli’r gwerth gorau am arian yn derbyn gwahoddiad i gyflwyno cais am gyllid.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates: 

“Ein blaenoriaeth ni yw creu a diogelu swyddi a chefnogi twf busnesau. Rydym yn gwneud popeth posibl i gynnal hyder economaidd – sy’n golygu creu amgylchedd cadarn a chystadleuol ar gyfer busnesau yng Nghymru a all gefnogi twf yn y dyfodol.  

“Mae’r Gronfa hon yn un o nifer o fesurau blaengar yr ydym wedi’u lansio er mwyn ennyn hyder a helpu busnesau ar draws Cymru i fuddsoddi mewn prosiectau. Y nod yw creu a diogelu swyddi a hefyd hybu twf yr economi.

“Mae’r Gronfa ar gael i holl fusnesau bach a chanolig Cymru a’r prif nod yw creu a diogelu swyddi. Caiff blaenoriaeth ei rhoi i fusnesau sy’n awyddus i allforio ac i gwmnïau sy’n creu swyddi uchel eu gwerth a all gynnig cyflog uwchlaw’r cyflog cyfartalog cenedlaethol.”

Mae’r gronfa lai’n derbyn ceisiadau ar hyn o bryd a rhagwelir y bydd yn cefnogi oddeutu 200 o fusnesau. Mae disgwyl iddi hefyd greu a diogelu rhwng 800 a 1200 o swyddi yn ystod blwyddyn ariannol 2016-17.

Bydd angen i’r busnesau sy’n cyflwyno cais am grant o’r gronfa ddisgresiynol fwy ddangos y bydd modd iddynt godi’r rhan fwyaf o’r cyllid o’r sector preifat. Bydd angen i’r holl brosiectau fod ar ben erbyn mis Mawrth 2018.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â thîm Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu ewch i www.busnescymru.llyw.cymru