Bydd cronfa i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn helpu sefydliadau llawr gwlad i ddod â chymunedau ynghyd ar draws Cymru.
Bydd y Gronfa Unigrwydd ac Ynysigrwydd Cymdeithasol tair blynedd yn cefnogi sefydliadau rheng flaen, lleol, llawr gwlad, sy’n dod â phobl o bob oed ynghyd, gan eu helpu i greu cysylltiadau cymdeithasol mewn cymunedau ac ar draws cymunedau.
Mae £1.5 miliwn wedi’i rannu ar draws awdurdodau Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Chynghorau Gwirfoddol Sirol, dros y tair blynedd nesaf ac a bydd yn helpu sefydliadau i gynnal gweithgareddau wyneb yn wyneb yn ddiogel neu i barhau i gynnal gweithgareddau ar-lein os yw’n anodd cael mynediad i leoliadau neu er mwyn cyrraedd pobl nad ydynt yn barod i ddod i ddigwyddiadau wyneb yn wyneb.
Roedd rhaid i bob ymgeisydd ddangos sut yr oedd eu cynnig yn bodloni un neu fwy o feysydd blaenoriaeth strategol unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:
Grwpiau cymunedol sy’n deall orau beth y mae eu cymunedau eu hangen a pha gymorth sydd ei angen i helpu pobl i ailgysylltu ac ailadeiladu cysylltiadau cymdeithasol. Bydd y cyllid sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn helpu sefydliadau bychan i gefnogi eu cymunedau drwy ddatblygu gweithgareddau presennol, hyrwyddo eu hunain yn ehangach a helpu i ariannu’r defnydd o leoliadau addas.
Mae’r pandemig wedi achosi i lawer o bobl ar draws Cymru deimlo’n unig ac yn ynysig. Hyd yn oed ar ôl llacio cyfyngiadau, bydd rhai pobl yn bryderus neu’n betrusgar am adael eu cartrefi a dechrau ymwneud ag eraill unwaith eto. Rwy’n gobeithio y bydd y prosiectau a ariennir yn lliniaru rhai o’r pryderon hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Prif Aelod Llesiant ac Annibyniaeth Cyngor Sir Ddinbych:
Rydym wrth ein bodd bod Sir Ddinbych wedi llwyddo yn ei chais i Gronfa Unigrwydd ac Ynysigrwydd Cysylltu Cymunedau Llywodraeth Cymru. Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych a Gwasanaethau Cymorth Cymunedol y Cyngor, Datblygu Cymunedol, Llyfrgelloedd a’r Siop Un Alwad eisoes wedi cael ceisiadau am gymorth ar gyfer amryw o weithgareddau ac ymyriadau a fydd yn helpu trigolion i ailgysylltu â chyfeillion, teuluoedd a’r rheini sy’n rhannu’r un diddordebau â nhw.
Mae llawer o bobl wedi bod yn dioddef unigrwydd ac ynysigrwydd sylweddol yn enwedig ers dechrau’r pandemig, a bydd y gronfa hon yn helpu i gefnogi’r rheini mewn angen.
Dywedodd y Cynghorydd Lisa Dymock, aelod cabinet Cyngor Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am Gymunedau, Llesiant a Chyfiawnder Cymdeithasol:
Bydd y gronfa hon yn sbarduno prosiectau cymunedol ac yn cefnogi cymunedau i droi syniadau’n realiti. Gwyddom fod unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn broblemau difrifol yn ein sir ac y gallant effeithio ar unrhyw un waeth beth fo’u hoedran neu eu cefndir. Gwyddom mai’r ffordd orau o fynd i’r afael ag unigrwydd yw creu cymunedau cynhwysol sy’n ffynnu, a hynny o’r gwaelod i fyny; dyma ddiben craidd ein rhwydweithiau cymunedol lleol. Gan adeiladu ar y bartneriaeth gref rhwng GAVO, Cyngor Sir Fynwy a sefydliadau lleol pwysig eraill, mae rhwydweithiau cymunedol Sir Fynwy yn ffordd o helpu pobl sydd eisiau gweithredu a gwneud newidiadau cadarnhaol yn eu hardal i gysylltu ag eraill sydd â’r un dyhead.
Mae rhoi’r cyfle i gymunedau arwain prosiectau yn ganolog i bopeth a wnawn yn Sir Fynwy. Gwyddom fod grwpiau a thrigolion lleol yn llawn syniadau am sut i drawsnewid eu hardaloedd lleol a dod â phobl ynghyd. Bydd y gronfa hon yn gam pwysig arall ymlaen i’w cefnogi i wneud yn union hynny, a helpu ein trigolion i fod yn rhan lawn o’u cymunedau lleol.