Neidio i'r prif gynnwy

Lansiwyd cronfa newydd gwerth £5m gan yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford i helpu i ddarparu gwell gwasanaethau a chynhyrchu arbedion yn y sector cyhoeddus.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r gronfa Arloesi i Arbed yn bartneriaeth unigryw rhwng Llywodraeth Cymru ac Y Lab - sydd ei hun yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a'r elusen arloesi Nesta - ac fe fydd yn cydweithio'n agos gyda Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.<?XML:NAMESPACE PREFIX = "O" />

Bydd y gronfa newydd yn darparu cymorth drwy gyllid ad-daladwy a chyllid nad oes angen ei ad-dalu i wasanaethau cyhoeddus Cymru a'r trydydd sector. Bydd y cyllid nad oes angen ei ad-dalu yn helpu sefydliadau i ddatblygu a phrofi newidiadau cymhleth ac arloesol i'r ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu. 

Bydd modd i bob rhan o sectorau cyhoeddus a thrydydd sector Cymru ymgeisio am gyllid Arloesi i Arbed. Gall sefydliadau sy'n cyflwyno cynigion hefyd ddefnyddio adnoddau a phrofiadau Nesta a Phrifysgol Caerdydd i ehangu cwmpas eu prosiectau.

Bydd y gronfa newydd yn gweithio ochr yn ochr â'r gronfa Buddsoddi i Arbed llwyddiannus, sydd wedi bod yn weithredol ers 2009 ac sydd wedi cefnogi 160 o brosiectau. Yn ogystal â chronfa £5m Arloesi i Arbed, bydd £15m ar gael drwy Buddsoddi i Arbed yn 2017-18.

Dywedodd yr Athro Drakeford:  

"Ar adeg pan fo cyllidebau'n crebachu, does dim dewis ond newid. Mae adnoddau'n fwy prin a mwy o alw amdanynt, ac mae hynny'n golygu bod rhaid i'r holl wasanaethau cyhoeddus feddwl a gweithio'n wahanol os am barhau i ddarparu'r lefel o wasanaethau sydd ei hangen ar bobl.

"Datblygwyd ein cronfa newydd gwerth £5m, Arloesi i Arbed, mewn partneriaeth gydag Y Lab, ac rydyn ni'n gobeithio gweld amrywiol brosiectau yn dod ymlaen o bob cwr o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru. Bydd unrhyw arbedion yn cael eu hail-fuddsoddi mewn gwasanaethau, gan wella canlyniadau i bobl, a bydd modd eu cyflwyno'n ehangach."

Dywedodd yr Athro Adam Fletcher, cyfarwyddwr academaidd Y Lab: 

"Staff gwasanaethau cyhoeddus Cymru sydd yn y lle gorau i ddatrys yr heriau mwyaf sy'n wynebu eu gwasanaethau eu hunain. Mae'r fenter newydd hon gan Lywodraeth Cymru'n golygu y bydd modd i Y Lab weithio gyda thimau o bob cwr o Gymru i'w helpu i ddod o hyd i atebion i broblemau parhaus, gwireddu'r syniadau hynny a'u profi.

"Mae Prifysgolion fel rheol yn dda iawn am ymchwilio i wasanaethau cyhoeddus ac argymell yr hyn y dylid ei wneud yn wahanol, ond ddim cystal am gydweithio gyda'r timau gwasanaethau cyhoeddus i'w helpu i arloesi.

"Drwy weithio mewn partneriaeth gyda Nesta, mae Prifysgol Caerdydd yn arwain y DU drwy lunio, darparu a gwerthuso cronfeydd arloesi sylweddol, newydd fel hyn."

Dywedodd Helen Goulden, cyfarwyddwr gweithredol, Innovation Lab, Nesta: 

"Ar hyn o bryd mae tipyn o ysgogiad i lywodraethau ailfeddwl ac ail-lunio'r ffordd y maen nhw'n trafod gyda dinasyddion neu ddarparu gwasanaethau, gyda thipyn o enghreifftiau o lywodraethau ar draws y byd yn helpu i ariannu arloesi yn y sector cyhoeddus.

“Mae'n partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru'n un uchelgeisiol, yn ceisio mynd i'r afael â rhai o'r materion mwyaf cymhleth sy'n wynebu'n gwasanaethau cyhoeddus ar hyn o bryd a chreu arbedion.  Mae'r model Arloesi i Arbed yn un newydd, yn cyfuno gwahanol fathau o gyllid a chymorth dwys i gyflawni'r nod.

“Dros y ddwy flynedd nesaf fe fydd, gobeithio, yn darparu'r dystiolaeth i gyfiawnhau ei ledaenu i nifer o ardaloedd eraill.”