Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi newydd ar gyfer sector cyhoeddus Cymru wedi cael ei lansio yng nghyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gweithlu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Diben y Cod yw sicrhau arferion cyflogaeth da ar gyfer y miliynau o weithwyr sy'n rhan o gadwyni cyflenwi'r sector cyhoeddus.

  

Bydd disgwyl i holl sefydliadau sector cyhoeddus Cymru, busnesau a sefydliadau'r trydydd sector sy'n cael arian gan y sector cyhoeddus ymrwymo i'r Cod hwn. Mae sefydliadau a busnesau eraill yng Nghymru yn cael eu hannog i ymrwymo iddo hefyd.


Mae'r cod newydd yn cynnwys chwe pwnc allweddol a deuddeg ymrwymiad, sy'n amrywio o arferion anghyfreithlon ac anfoesol i arferion da a'r arferion gorau. Cafodd ei ddatblygu gyda chefnogaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a phartneriaid cymdeithasol fel Undebau.


Y pwnc cyntaf yw Caethwasiaeth Fodern, sydd, yn ôl amcangyfrifon, yn effeithio ar hanner can miliwn o bobl ar draws y byd gan gynnwys unigolion yn y DU a Chymru. Bydd y Cod Ymarfer a'r canllawiau sy’n cyd-fynd ag ef yn helpu staff i sylwi ar achosion ac ymdrin â honiadau. Bydd hefyd yn eu helpu i nodi'r meysydd gwariant hynny lle mae risg uwch o gaethwasiaeth fodern ac o dorri hawliau dynol, a'u hasesu.  


Yr ail faes dan sylw yn y Cod yw Cosbrestru, lle mae gweithwyr yn cael eu trin yn anffafriol oherwydd eu bod yn ymuno ag Undeb neu'n lleisio pryder ynghylch Iechyd a Diogelwch. Mae'r Cod Ymarfer a'r canllawiau yn cynnwys ymrwymiad i sicrhau nad yw cyflenwyr yn defnyddio cosbrestri ac yn egluro sut i osgoi cwmnïau sydd ddim yn cymryd y mater o ddifri.


Mae'r tri maes nesaf yn ymwneud â thelerau ac amodau cyflogaeth, gan gynnwys Contractau dim oriau, Cynlluniau Mantell a Hunangyflogaeth Ffug. Bydd y Cod Ymarfer a'r canllawiau yn helpu staff i wahaniaethu rhwng arferion teg ac annheg. Mae'r canllaw hefyd yn cynnwys cwestiwn tendro ar Arferion Gweithio Teg er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn drwy'r broses gaffael.


Y maes olaf dan sylw yw'r Cyflog Byw ac mae'n cynnwys ymrwymiad i ystyried talu Cyflog Byw fan leiaf i'r holl staff.


Wrth ymrwymo i'r Cod, bydd y sefydliadau'n cytuno i gydymffurfio â'r 12 ymrwymiad sydd â’r nod o ddileu caethwasiaeth fodern ac o gefnogi arferion cyflogaeth moesegol. 


Dywedodd Mark Drakeford: 

"Rwyf yn falch iawn o gael lansio ein Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi yng Nghyngor Partneriaeth y Gweithlu heddiw. Dyma ddarn o waith arloesol, ac mae'n enghraifft wych o'r hyn y gallwn ni ei gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol drwy Gymru gyfan. 

"Mae sector cyhoeddus Cymru’n gwario tua £6 biliwn bob blwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith sy'n dibynnu ar gadwyni cyflenwi rhyngwladol. Yr hyn sy'n gyffredin i bob un o'r cadwyni cyflenwi hyn yw'r bobl sy'n rhan o bob cam.


"Mae'n hanfodol felly fod arferion cyflogaeth da yn rhan annatod o holl brosiectau'r sector cyhoeddus yma yng Nghymru. Bydd y cod newydd hwn yn chwarae rhan bwysig wrth helpu i gyflawni hyn. Yn ei dro, bydd hefyd yn mynd i'r afael ag arferion cyflogaeth annheg ac yn cyfrannu at gael amodau gwell i'r gweithwyr.  


"Rwy'n disgwyl i bob corff cyhoeddus, pob busnes a phob cyflenwr y sector cyhoeddus yng Nghymru ymrwymo i'r cod hwn. Dim ond drwy gydweithio y gallwn ni helpu i sicrhau gwell amodau, ac yn bwysicach na hynny amodau tecach, i weithwyr y gadwyn gyflenwi yng Nghymru ac ar draws y byd."


Dywedodd Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru: 

"Rydyn ni'n croesawu'r cod ymarfer newydd hwn sy'n gam ymlaen i sicrhau bod Cymru'n dod yn genedl lle  mae tegwch yn y gweithle.

"Mae Llywodraeth Cymru'n arddel ymrwymiad cadarn i fynd i'r afael ag arferion cyflogaeth sy’n ecsploetio ac sy’n anfoesol ac mae'n cymryd camau i newid hynnny. Mae TUC Cymru eisiau gweld y Llywodraeth yn defnyddio'i holl bwerau a'i dylanwad i sicrhau bod pobl yn cael eu trin yn deg yn y gwaith.


"Mae gan Gymru lawer o gyflogwyr arbennig o dda sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa a datblygu i staff ac yn cydweithio gydag undebau. Ond, mae gormod o reolwyr gwael yn parhau i fodoli sy'n ecsploetio gweithwyr ac yn tanseilio safonau er eu lles a’u cyfoeth eu hunain.


Mae'r cod hwn yn dangos na fydd Cymru'n goddef unrhyw fath o ecsploetio. Mae angen gweithredu nawr i sicrhau mai gwaith safonol a thriniaeth deg yw'r unig ffordd ymlaen yng Nghymru."


Dywedodd Alison Ward, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen: 

“Mae cyflogwyr sector cyhoeddus Cymru yn ymrwymo’n gadarn i warchod lles pawb sy’n cyflenwi gwasanaethau i’r cyhoedd, p’un a ydyn nhw’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol neu drwy drefniadau contract. Rydyn ni’n croesawu’r egwyddorion sy’n cael eu cynnwys yn y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Gobeithio y bydd yn sicrhau bod pawb sy’n rhan o’r gwaith diflino o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o safon mewn cyfnod o gyni yn cael eu trin yn deg.”